Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol blynyddol hwn yn cyflwyno ffigyrau am blant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru.

Ystyr plentyn yw person dan 18 oed. Mae adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn datgan mai plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yw plentyn sydd dan ei ofal; neu yn cael llety, am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr, gan yr awdurdod wrth iddo arfer unrhyw swyddogaethau ym maes gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan adran 15, Rhan 4, neu adran 109, 114 neu 115.

Mae data newydd yn seiliedig ar y flwyddyn 1 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022, neu'r sefyllfa ar 31 Mawrth 2022.

Yn 2019-20, cyflwynwyd newidiadau polisi yn canolbwyntio’n bennaf ar leihau nifer y plant sydd angen gofal ar draws Cymru. Fe wnaeth awdurdodau lleol roi cynlluniau ar waith i leihau nifer y plant sydd angen gofal mewn modd diogel, gan gynnwys targedau ar gyfer 2019-20, 2020-21 a 2021-22, a gafodd eu monitro gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

Mae'r data sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn a gwybodaeth bellach ar gyfer awdurdodau lleol unigol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Ar 31 Mawrth 2022

  • Roedd 7,080 o blant yn derbyn gofal, sy'n ostyngiad o 167 (2%) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn gyfradd o 112.4 am bob 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed, o'i gymharu â chyfradd o 115.1 yn 2020-21. Dyma'r lleihad cyntaf yn nifer a chyfradd y plant sy'n derbyn gofal a adroddwyd yn flynyddol ers 2015.
  • Roedd 85% o'r plant sy’n derbyn gofal gyda statws cyfreithiol o dan orchmynion gofal.
  • Roedd 69% o'r plant sy’n derbyn gofal wedi’u lleoli mewn lleoliadau gofal maeth. Bu gostyngiad graddol yng nghanran y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliadau gofal maeth wedi brig o 79% ar 31 Mawrth 2011.
  • Cafodd bron i draean o'r plant mewn gofal maeth eu lleoli gyda pherthnasau neu ffrindiau.
  • Roedd mwy o blant gwrywaidd na menywaidd yn derbyn gofal.
  • Roedd bron i 2 o bob 5 plentyn a oedd yn derbyn gofal yn 10 i 15 oed.
  • Roedd cyfran y plant sy’n derbyn gofal a oedd yn Wyn neu’n Asiaidd/Asiaidd Prydeinig yn is o’i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol, tra bod cyfran uwch o blant sy’n derbyn gofal ag ethnigrwydd cymysg neu’n Ddu/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.
  • Roedd 7% o'r plant a oedd yn derbyn gofal yn anabl o’i gymharu â 4% o'r boblogaeth gyffredinol.

Yn ystod 2021-22

  • Dechreuodd 1,691 o blant dderbyn gofal, sy’n lleihad o 71 (4%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae llai o blant wedi dechrau derbyn gofal bob blwyddyn ers 2016-17.
  • Roedd 62% o blant a ddechreuodd dderbyn gofal yn derbyn gofal a chymorth yn y lle cyntaf oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod.
  • Fe wnaeth 1,839 o blant adael gofal, sy’n gynnydd o 157 (9%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r nifer uchaf o blant sy'n gadael gofal ers 2016-17.
  • Dychwelodd 49% o blant a adawodd gofal adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu bobl eraill â chyfrifoldeb rhiant.
  • Roedd mwy o blant wedi gadael gofal nag a oedd wedi dechrau derbyn gofal yn ystod y flwyddyn am y tro cyntaf ers 2014-15.
  • Cafodd 283 o blant eu mabwysiadu o ofal, sy’n gynnydd o 12 (4%) ar y flwyddyn flaenorol. Mae nifer y plant a fabwysiadwyd wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi brig o 385 o blant a fabwysiadwyd yn ystod 2014-15.

Nifer y plant sy’n derbyn gofal

Image
Siart yn dangos bod nifer y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth wedi bod cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond gwelwyd lleihad o 2021 i 2022.

Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi bod cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gyrraedd uchafbwynt o 7,247 yn 2021. Fodd bynnag, gwelwyd lleihad bychan yn 2022 pan roedd 7,080 o blant yn derbyn gofal. Roedd hyn yn lleihad o 2% ers y flwyddyn flaenorol.

Yn 2022, y gyfradd am bob 10,000 o blant o dan 18 oed oedd 112.4. Roedd hyn ychydig yn is na'r gyfradd yn 2021 (115.1). Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data poblogaeth. 

Sylwer nad yw plant sy'n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig, sydd fel arfer yn byw gartref ond sy'n cael eu lletya gan awdurdod lleol mewn cyfres o gyfnodau byr o ofal, yn cael eu cynnwys yn y niferoedd hyn.

Priodoleddau plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022

Rhywedd

Image
Siart yn dangos bod 54% o blant sy'n derbyn gofal yn wrywaidd a bod 46% yn fenywaidd ar 31 Mawrth 2022.

Roedd 54% o'r plant a oedd yn derbyn gofal yn wrywaidd, a 46% yn fenywaidd. Mae'r cyfrannau hyn wedi bod yn sefydlog ers i ddata gael eu casglu am y tro cyntaf yn 2002-03. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data rhywedd.

Oedran

Image
Siart yn dangos bod bron i 2 o bob 5 plentyn a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022 yn 10-15 oed ac roedd llai na 1 o bob 20 o dan 1 oed.

Mae proffil oedran y plant sy'n derbyn gofal wedi newid rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd bach yng nghyfran y plant sy'n derbyn gofal rhwng 10 i 15 oed a lleihad bychan yng nghyfran y plant sy'n derbyn gofal dan 5 oed.

Ar 31 Mawrth 2022, roedd bron i 2 o bob 5 plentyn a oedd yn derbyn gofal yn 10 i 15 oed ac roedd llai na 1 o bob 20 o dan 1 oed. 

Roedd cyfran uwch o blant 10 oed a hŷn yn derbyn gofal na phlant 9 oed ac iau. Gan ddefnyddio amcangyfrifon canol blwyddyn 2020 roedd 139.4 o bob 10,000 o blant 10 oed neu hŷn yn derbyn gofal o'i gymharu â 89.9 o bob 10,000 o blant 9 oed ac iau. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data oedran.

Ethnigrwydd

Image
Siart yn dangos lle cofnodwyd ethnigrwydd, roedd 90% o blant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022 yn Wyn.

Lle cofnodwyd ethnigrwydd, roedd 90% o blant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022 yn Wyn, i lawr o 92% yn y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd y cyfrannau ar gyfer pob grŵp ethnig arall ychydig o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd canran y plant sy’n derbyn gofal a oedd yn Wyn neu’n Asiaidd/Asiaidd Prydeinig yn is na'r ganran o blant Gwyn neu’n Asiaidd/Asiaidd Prydeinig yn y boblogaeth gyffredinol yn ôl Cyfrifiad 2011. Roedd 90% o'r plant a oedd yn derbyn gofal yn Wyn, o'i gymharu â 93% o'r boblogaeth gyffredinol; ac roedd 2% o'r plant a oedd yn derbyn gofal yn Asiaidd/Asiaidd Prydeinig o'i gymharu â 3% o'r boblogaeth gyffredinol.

Ar y llaw arall roedd 4% o blant sy’n derbyn gofal ag ethnigrwydd cymysg o'i gymharu â 2% o'r boblogaeth gyffredinol; ac roedd 2% o blant sy’n derbyn gofal yn Ddu/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig o'i gymharu â 1% o'r boblogaeth gyffredinol. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data ethnigrwydd.

Anabledd

Lle darparwyd data, roedd 7% o'r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022 yn anabl; lle roedd gan y plentyn nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae'r gyfran hon wedi bod yn gymharol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd canran y plant sy’n derbyn gofal a oedd yn anabl yn uwch na'r ganran ar gyfer plant yn y boblogaeth gyffredinol, lle roedd 4% o'r boblogaeth gyffredinol o dan 16 oed yn dweud bod ganddynt broblem iechyd neu anabledd hirdymor sy'n cyfyngu ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yng Nghyfrifiad 2011. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data anabledd.

Plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches

Roedd 2% o'r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022 yn blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches. Mae plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches (UASC) yn unigolyn o dan 18 oed, sydd wedi gwneud cais am loches drwy ei hawl ei hun, sydd wedi ei wahanu oddi wrth y ddau riant ac nad yw'n cael gofal gan oedolyn sydd â chyfrifoldeb i wneud hynny yn ôl y gyfraith neu arferiad. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu ychydig o 1% yn y flwyddyn flaenorol.

Statws cyfreithiol plant sy'n derbyn gofal

Mae'r statws cyfreithiol yn nodi'r rheswm cyfreithiol sylfaenol sy'n disgrifio pam bod plentyn yn derbyn gofal.

Image
Siart yn dangos bod 85% o blant yn derbyn gofal dan orchymyn gofal ar 31 Mawrth 2022.

Roedd mwyafrif y plant (85%) yn derbyn gofal dan orchymyn gofal, gyda'r gyfran wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd 87% o'r plant a oedd yn derbyn gofal dan orchmynion gofal yn derbyn gofal o dan orchmynion gofal llawn o'i gymharu â 13% a oedd yn derbyn gofal dan orchmynion gofal interim.

Er bod y duedd ar gyfer nifer a chyfran y plant a oedd yn derbyn gofal dan lety gwirfoddol mewn un cyfnod o letya (o dan adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd cynnydd blynyddol o 32% ar 31 Mawrth 2022.

Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal o dan statws cyfreithiol arall wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf.

Lleoliad plant sy'n derbyn gofal

Lleoliad plentyn sy'n derbyn gofal yw lle maen nhw'n byw pan fyddant dan ofal yr awdurdod lleol.

Image
Siart yn dangos bod 69% o blant mewn lleoliadau gofal maeth ar 31 Mawrth 2022.

Math o leoliad

Bu gostyngiad graddol yng nghanran y plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliadau gofal maeth. Roedd ar ei uchaf, sef 79%, ar 31 Mawrth 2011 gan leihau i 69% ar 31 Mawrth 2022. Roedd bron i draean (32%) o blant mewn gofal maeth mewn lleoliadau gyda pherthynas neu ffrind ar 31 Mawrth 2022. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu'n raddol o 21% ar 31 Mawrth 2016.

Roedd 16% o'r holl blant a oedd yn derbyn gofal yn cael eu lleoli gyda'u rhieni eu hunain neu eraill a oedd â chyfrifoldeb rhiant; plant a oedd yn destun gorchmynion gofal oedd y rhain gan amlaf. Yn dilyn cynnydd o 31 Mawrth 2014, mae'r gyfran hon wedi bod yn sefydlog ers 31 Mawrth 2019. Mae cyfrannau’r plant yn y mathau eraill o leoliadau wedi aros yn weddol debyg gan gyfrif am tua 14% o’r lleoliadau.

Lleoliad y lleoliad

Roedd dau draean (67%) o'r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022 mewn lleoliadau yn yr awdurdod lleol ble roedden nhw'n byw ar yr adeg pan wnaethant ddechrau derbyn gofal. Roedd 27% o'r plant mewn lleoliadau y tu allan i'w hawdurdod lleol eu hunain ond yng Nghymru, ac roedd 6% arall wedi eu lleoli y tu allan i Gymru. Mae'r cyfrannau hyn wedi aros yn gymharol gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Nifer y lleoliadau

Roedd 604 o’r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022 wedi cael tri neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn, sy’n gynnydd o 75 plentyn (14%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Er i nifer y plant a oedd wedi cael tri lleoliad neu fwy gynyddu, roedd cyfran y plant a oedd wedi cael tri lleoliad neu fwy wedi aros yn gymharol debyg i’r blynyddoedd cyn y pandemig, sef 9%. Roedd llai o symudiadau rhwng lleoliadau yn 2020-21, ar frig pandemig COVID-19.

Plant sy’n dechrau derbyn gofal

Mae plant sy'n derbyn gofal am y tro cyntaf, a phlant yr oedd eu gofal wedi dod i ben yn flaenorol ond wedi ailddechrau yn ystod y flwyddyn adrodd yn cael eu cyfrif yn yr adran hon. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod cyntaf sy'n cael ei gyfrif.

Image
Siart yn dangos bod 1,691 o blant wedi dechrau derbyn gofal yn ystod 2021-22. Mae llai o blant wedi dechrau derbyn gofal bob blwyddyn ers 2016-17.

Dechreuodd 1,691 o blant dderbyn gofal rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, sydd 71 o blant (4%) yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Ers 2016-17, mae llai o blant wedi dechrau derbyn gofal bob blwyddyn; mae hyn yn fwy amlwg o 2019-20 ymlaen.

O'r plant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod 2021-22, roedd 58% yn derbyn gofal dan letya gwirfoddol i ddechrau mewn un cyfnod o letya (dan adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014). Cafodd y rhan fwyaf eu lleoli mewn gofal maeth (71%) i ddechrau ac fe gafodd cyfran is eu lleoli gyda'u rhieni eu hunain neu bobl eraill â chyfrifoldeb rhiant i ddechrau (10%) nag ar 31 Mawrth 2022.

Image
Siart yn dangos bod 62% o blant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod 2021-22 yn derbyn gofal a chymorth i ddechrau oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod.

Ar gyfer plant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod 2021-22, y rheswm mwyaf cyffredin pam yr oedd y plentyn yn cael gofal a chymorth i ddechrau oedd oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod (62%). Mae’r gyfran hon yn uwch na'r flwyddyn flaenorol (59%) ond yn debyg i'r duedd cyn y pandemig.

Gostyngodd cyfran y plant sy'n derbyn gofal a chymorth oherwydd teulu o dan straen difrifol neu gamweithrediad i 26% yn 2021-22 (i lawr o uchafbwynt o 29% yn 2020-21 oherwydd effaith pandemig COVID-19).

Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal a chymorth am resymau eraill wedi aros yn weddol debyg, sef 12% o'r cyfanswm.

Plant sy’n gadael gofal

Fel arfer, mae plant yn peidio â derbyn gofal ar y diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 18 oed. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod diweddaraf sy'n cael ei gyfrif yn yr adran hon.

Image
Siart yn dangos bod 1,839 o blant wedi gadael gofal yn ystod 2021-22 sef y cyfanswm blynyddol uchaf ers 2016-17.

Roedd 1,839 o blant wedi gadael gofal rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, sy’n gynnydd o 157 (9%) o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dyma'r nifer uchaf o blant sy'n gadael gofal ers 2016-17.

Image
Siart yn dangos bod 49% o blant a adawodd gofal yn ystod 2021-22 wedi dychwelyd adref i fyw gyda’u rhieni, perthnasau neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant.

Yn ystod 2021-22, gadawodd 903 (49%) o blant ofal i ddychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu bobl eraill â chyfrifoldeb rhiant. Gwnaed gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig ar gyfer 297 o'r plant hyn.

Roedd 192 (10%) o’r plant a oedd wedi gadael gofal ar ôl troi'n 18 oed yn parhau i fyw gyda chyn-rieni maeth o dan drefniadau 'Pan Fydda i’n Barod', a chafodd 283 (15%) o blant eu mabwysiadu o ofal; roedd y ddwy gyfran yn debyg i 2020-21.

Mae cyfran y plant sy'n gadael gofal ac yn byw yn annibynnol wedi lleihau o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol, tra bod cynnydd yn y gyfran sy'n gadael gofal am resymau eraill.

Pobl ifanc (16 oed a hŷn) sy’n gadael gofal

Efallai y bydd angen i rai pobl ifanc gael llety gan yr awdurdod lleol hyd at eu pen-blwydd yn 21 oed os ydyn nhw'n derbyn gofal mewn cartref cymunedol sy'n addas ar gyfer plant 16 oed a hŷn. Yn ymarferol, nifer fach iawn fydd yn y sefyllfa hon ac maent yn tueddu i fod yn bobl ifanc ag anableddau corfforol neu feddyliol difrifol.

Image
Siart yn dangos bod 27% o blant oed 16 neu hŷn a adawodd gofal yn ystod 2021-22 wedi troi 18 oed ac yn dal i fyw gyda rhiant/rhieni maeth blaenorol mewn trefniant Pan rwy’n Barod.

Roedd 700 o bobl ifanc 16 oed a hŷn wedi gadael gofal rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, sy’n gynnydd o 24 person ifanc (4%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd 275 (39%) o unigolion yn 18 oed neu'n hŷn pan adawon nhw ofal, cyfran is na'r flwyddyn flaenorol ond yn uwch na'r hyn a welwyd yn y blynyddoedd cyn 2020-21. Bu i 189 o bobl ifanc droi’n 18 oed a pharhau i fyw gyda chyn-rieni maeth o dan drefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’.

Mae cyfran y bobl ifanc sydd wedi gadael gofal a symud i drefniadau byw'n annibynnol, ac felly nad ydynt bellach yn derbyn gofal, wedi gostwng i 21% yn 2021-22, o'i gymharu â 29% yn 2020-21. Roedd cyfran y bobl ifanc y daeth eu cyfnod o dderbyn gofal i ben am unrhyw reswm arall wedi cynyddu i 25% o'i gymharu â 16% yn y flwyddyn flaenorol.

Tabl 1: Pobl ifanc 16 oed a hŷn sy'n gadael gofal yn ôl oedran a llety ar ddyddiad rhoi'r gorau i dderbyn gofal, 2021-22 (a) (b) (c)
Llety16 oed17 oed18 oedCyfanswm
Llety addas61343266670
Gyda rhieni neu berthynas458457186
Llety cyffredin heb gymorth ffurfiol210469175
Llety lled-annibynnol, dros dro a  llety hunangynhaliol (d)67739122
Llety â chymorth (e)2294374
Byw'n annibynnol4273364
Gofal preswyl neu nyrsio fel sefydliad GIG2131328
Cynteddau a llety tebyg â chymorth sy’n cyfuno’r llety gyda chyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth0134
Llety addas arall08917
Llety anaddas219930
Cyfanswm63362275700

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

(a) Yn cynnwys pobl ifanc sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig.
(b) Pan gafodd berson ifanc sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod diweddaraf sy'n cael ei gyfrif.
(c) Ac eithrio plant sydd wedi marw neu lle mae gofal wedi’i gymryd drosodd gan awdurdod lleol arall yn y DU.
(d) Yn cynnwys llety hunangynhaliol gyda chymorth personol arbenigol a llety hunangynhaliol gyda chymorth fel y bo’r angen.
(e) Lle mae staff goruchwylio neu weithwyr cyngor ar gael i ddarparu cyngor neu gymorth ffurfiol.

O'r 700 person ifanc 16 oed a hŷn wnaeth adael gofal rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, roedd 670 (96%) mewn llety addas ar y dyddiad y daeth eu cyfnod mewn gofal i ben. Caiff llety ei ystyried yn addas os yw'n cynnig darpariaeth ddiogel a fforddiadwy i bobl ifanc. Mae cyfran y bobl ifanc mewn llety addas wedi cynyddu o 92% yn 2016-17 pan ddechreuwyd casglu data.

Roedd 28% o bobl ifanc wedi’u lleoli mewn llety addas gyda rhieni neu berthnasau, ac roedd 26% wedi’u lleoli mewn llety cyffredin heb gefnogaeth ffurfiol. Mae cyfran y bobl ifanc mewn llety cyffredin heb gefnogaeth ffurfiol wedi cynyddu yn gyffredinol ers 2018-19, yn ogystal â'r gyfran sydd mewn llety lled-annibynnol dros dro (tua 18%). Mae cyfran y bobl ifanc sy’n byw gyda rhieni neu berthnasau, mewn llety byw'n annibynnol neu mewn llety â chymorth addas wedi gostwng yn gyffredinol yn ystod y cyfnod hwn.

Ystyrir llety gwely a brecwast yn llety anaddas ac, yn ogystal, ystyrir bod mathau eraill o lety yn anaddas os ydynt yn amlwg yn gwneud y person ifanc yn agored i risg o niwed neu eithrio cymdeithasol. Mae'r nifer, a'r gyfran, o bobl ifanc sy'n gadael gofal ac yn symud i lety anaddas wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd 5 (14%) yn llai o bobl ifanc sy'n gadael gofal mewn llety anaddas, sef 30 o'i gymharu â 35 y flwyddyn flaenorol. Golyga hyn fod 4% o'r rhai sy'n gadael gofal mewn llety anaddas ar adeg gadael gofal yn ystod 2021-22. Dyma'r gyfran isaf ers dechrau casglu data yn 2016-17.

Mabwysiadu plant sy'n derbyn gofal

Mae mabwysiadu yn cyfeirio at pan fydd y plentyn yn peidio â derbyn gofal ar ôl cael gorchymyn mabwysiadu.

Image
Siart yn dangos cafodd 283 o blant eu mabwysiadu yn ystod 2021-22. Mae nifer y plant a fabwysiadwyd wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi brig o 385 o blant a fabwysiadwyd yn ystod 2014-15.

Mabwysiadwyd 283 o blant o ofal rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022; cynnydd o 12 o blant (4%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd nifer y plant a fabwysiadwyd wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi brig o 385 o blant a fabwysiadwyd yn ystod 2014-15.

Cafodd 10% o blant eu mabwysiadu gan eu cyn-ofalwr maeth yn ystod 2021-22, cyfran sydd wedi aros yn weddol sefydlog dros y degawd diwethaf.

Roedd y rhan fwyaf (86%) o'r plant a fabwysiadwyd yn ystod y flwyddyn yn y grŵp oedran 1 i 4 oed. 40 mis oedd cyfartaledd oedran plant a oedd yn derbyn gofal a fabwysiadwyd yn ystod y flwyddyn, ar adeg eu mabwysiadu. Mae hyn dri mis yn hŷn na'r 37 mis a gofnodwyd bob blwyddyn o 2018-19.

Mae rhagor o wybodaeth am fabwysiadu plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys proffil y mabwysiadwyr, ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

O 2016-17, casglwyd data lefel unigol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal trwy'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal. Casglwyd data ar blant sy'n derbyn gofal yn flaenorol trwy’r SSDA903 a ffurflenni cysylltiedig.

Mae'r casgliad yn cadw'n agos at y diffiniad o blant sy'n derbyn gofal a ddarperir yn y gyfraith fel y manylir arno yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU). Mewn nifer fach o achosion lle gellir peri dryswch, rhoddir arweiniad ar sut i ddehongli'r term ‘sy’n derbyn gofal’ at ddibenion ystadegol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau cysondeb yn y data fel y gellir cymharu rhwng ffigyrau awdurdodau lleol. Mae'r ddogfen canllawiau casglu data hefyd yn rhoi esboniadau manwl o'r categorïau cyfreithiol, lleoliad ac ymateb eraill wedi’u cynnwys o fewn y casgliad data.

Amcangyfrifon  poblogaeth

Mae cyfradd y plant sy'n derbyn gofal am bob 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed wedi'i chyfrifo yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn 2020 a ddarperir gan ONS. Nid yw amcangyfrifon 2021 ar gael eto. Bydd cyfraddau plant sy'n derbyn gofal yn cael eu diweddaru ar ôl cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn diwygiedig.

Rhywedd

I blant trawsryweddol, cofnodir eu hunaniaeth rhywedd fel y mae ar hyn o bryd. Bydd anneuaidd yn cael ei gynnwys fel categori ar gyfer casgliad data 2023-24.

Oedran

Roedd 17 o bobl ifanc 18 oed yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022.

Ethnigrwydd

Ni chofnodwyd ethnigrwydd ar gyfer 24 (0.3%) o blant oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2022.

Anabledd

Nid yw data am anabledd wedi cael ei ddarparu gan un awdurdod lleol. Doedd un awdurdod lleol arall ddim yn gallu darparu data anabledd ar gyfer tua 17% o blant a oedd yn derbyn gofal.

Diwygiadau

Mae mân ddiwygiadau wedi'u gwneud fel rhan o’r gwaith o brosesu data 2021-22 sydd wedi'u cytuno gan awdurdodau lleol. Mae diwygiadau a wnaed i ddata blynyddoedd blaenorol wedi'u labelu gydag 'r'.

Dynodiad ystadegol

Cyhoeddir yr ystadegau hyn fel ystadegau arbrofol. Mae rhagor o wybodaeth am ddynodiad yr ystadegau hyn i'w gweld yn yr ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Mae gofynion casglu data ar gyfer y Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal wedi cael eu hadolygu'n ddiweddar ac mae gofynion data newydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer blwyddyn adrodd 2022-23.

Bydd Adroddiad Ansawdd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd i’w gweld yn natganiad ystadegol 2020-21.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 233/2022