Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ystyr plentyn yw unigolyn o dan 18 oed. Mae adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (Deddfwriaeth y DU) yn datgan mai plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yw plentyn sydd dan ei ofal; neu yn cael llety, am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr, gan yr awdurdod wrth iddo arfer unrhyw swyddogaethau ym maes gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan Adran 15, Rhan 4, neu Adran 109, 114 neu 115.

Mae data newydd yn seiliedig ar y flwyddyn 1 Ebrill 2022 hyd at 31 Mawrth 2023, neu'r sefyllfa ar 31 Mawrth 2023.

Yn 2019-20 cyflwynwyd newidiadau polisi a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar leihau nifer y plant sydd angen gofal ledled Cymru. Fe wnaeth awdurdodau lleol roi cynlluniau ar waith mewn modd diogel i leihau nifer y plant sydd angen gofal, gan gynnwys targedau ar gyfer 2019-20, 2020-21 a 2021-22, a gafodd eu monitro gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir y data sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn a gwybodaeth bellach ar gyfer awdurdodau lleol unigol ar StatsCymru (Plant sy'n derbyn gofal).

Prif bwyntiau

Ar 31 Mawrth 2023

  • Roedd 7,208 o blant yn derbyn gofal, sy'n gynnydd o 155 (2%) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn gyfradd o 116.3 am bob 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed, o'i gymharu â chyfradd o 114.4(r) yn 2021-22. 
  • Statws cyfreithiol 82% o blant sy'n derbyn gofal oedd eu bod o dan orchymyn gofal.
  • Lleoliad 69% o blant sy'n derbyn gofal oedd lleoliad gofal maeth.
  • Cafodd 34% o blant mewn gofal maeth eu lleoli gyda pherthnasau neu ffrindiau. 
  • Cafodd 66% o blant eu lleoli o fewn eu hawdurdod lleol eu hunain.
  • Roedd cyfran uwch o'r plant sy'n derbyn gofal yn y grwpiau oedran hŷn o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o blant. 
  • Roedd cyfran is o'r plant sy'n derbyn gofal yn Wyn neu Asiaidd/Asiaidd Prydeinig o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o blant, fodd bynnag, roedd cyfran uwch o blant sy'n derbyn gofal yn dod o grŵp ethnig Arall o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o blant.
  • Roedd mwy o blant gwrywaidd na benywaidd yn derbyn gofal.
  • Roedd 7% o'r plant sy'n derbyn gofal yn anabl o'i gymharu â 4% o'r boblogaeth gyffredinol o blant.

Yn ystod 2022-23

  • Dechreuodd 1,903 o blant dderbyn gofal, sy’n gynnydd o 211 (12%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r cynnydd blynyddol cyntaf yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal ers 2016-17.
  • Roedd y rhan fwyaf o blant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod y flwyddyn (58%) yn derbyn gofal a chymorth yn y lle cyntaf oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod.
  • Fe wnaeth 1,758 o blant adael gofal, sy’n lleihad o 107 (6%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r gostyngiad blynyddol cyntaf yn nifer y plant sy'n gadael gofal ers 2019-20.
  • Aeth hanner y plant a adawodd ofal yn ystod y flwyddyn adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu bersonau eraill â chyfrifoldeb rhiant.
  • Yn ystod y flwyddyn bu i 708 o blant 16 oed a throsodd adael gofal a rhoi'r gorau i dderbyn gofal.
  • Cafodd 243 o blant eu mabwysiadu o ofal, sy'n lleihad o 43 (15%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r nifer flynyddol isaf ers 2009-10.

Nifer y plant sy'n derbyn gofal

Ffigur 1: Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth, 2003 i 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod y duedd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi bod yn cynyddu ers dechrau casglu data yn 2003 er ei fod wedi sefydlogi yn y blynyddoedd diwethaf, ers 2020.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhywedd ac oedran ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y blynyddoedd 2022, 2021, 2020, 2016 a 2010 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gyrraedd uchafbwynt o 7,241(r) yn 2021. Yn dilyn lleihad yn 2022, cynyddodd y nifer i 7,208 (2%) yn 2023.

Y gyfradd am bob 10,000 o blant o dan 18 oed oedd 116.3 yn 2023, sy'n uwch na'r gyfradd yn 2022 (114.4 (r)) a'r ail gyfradd uchaf erioed. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data poblogaeth.

Priodoleddau plant sy'n derbyn gofal

Rhywedd

Ffigur 2: Plant sy'n derbyn gofal yn ôl rhywedd, 31 Mawrth 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart gylch yn dangos bod mwy o blant gwrywaidd na phlant benywaidd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhywedd ac oedran ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig.

[Nodyn 2] Nid yw plant y mae eu rhywedd wedi'i gofnodi fel anneuaidd neu anhysbys wedi'u cynnwys. Roedd y rhain yn cyfrif am lai nag 1% o'r plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023.

Roedd 54% o'r plant oedd yn derbyn gofal yn wrywaidd a 46% yn fenywaidd ar 31 Mawrth 2023. Mae'r cyfrannau hyn wedi bod yn sefydlog ers dechrau casglu data yn 2003.

Oedran

Ffigur 3: Plant sy'n derbyn gofal yn ôl oedran ar 31 Mawrth, 2014 i 2023 [Nodyn 1][Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod proffil oedran y plant sy'n derbyn gofal wedi newid rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf, gyda lleihad yng nghyfran y plant sy'n derbyn gofal dan 5 oed a chynnydd yng nghyfran y plant sy'n derbyn gofal dros 10 oed.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhywedd ac oedran ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y blynyddoedd 2022, 2021, 2020 a 2016 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 4% o'r holl blant sy'n derbyn gofal o dan 1 oed, 15% rhwng 1 a 4 oed, 22% rhwng 5 a 9 oed, 40% rhwng 10 a 15 oed a 19% yn 16 oed a hŷn.

O'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o blant mae cyfran uwch o blant sy'n derbyn gofal yn y grwpiau oedran hŷn yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2022 (SYG).

Roedd cyfran uwch o blant 10 oed a hŷn yn derbyn gofal na phlant 9 oed ac iau. Gan ddefnyddio amcangyfrifon canol blwyddyn 2022 roedd 144.2 o bob 10,000 o blant 10 oed neu hŷn yn derbyn gofal o'i gymharu â 91.3 o bob 10,000 o blant 9 oed ac iau. Gweler yr wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data oedran.

Ethnigrwydd

Ffigur 4: Plant sy'n derbyn gofal yn ôl ethnigrwydd, 31 Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos bod 88% o'r plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023 yn Wyn.

Ffynhonnell: Cyfrifiad plant sy'n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol ac ethnigrwydd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig.

Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal ac sy'n Wyn wedi gostwng ers 2014 ac wedi gostwng yn gyflymach ers 2021. Mae cyfrannau'r plant sy'n derbyn gofal o grwpiau ethnig ac eithrio Gwyn wedi cynyddu yn gyffredinol dros y cyfnod hwn. Y grŵp ethnig Arall yw'r gyfran leiaf ond y grŵp hwn sydd wedi cynyddu fwyaf fel cyfran dros y degawd diwethaf.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 88% o'r plant sy'n derbyn gofal yn Wyn, i lawr o 90% yn y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd y cyfrannau ar gyfer pob grŵp ethnig arall ychydig o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd cyfran is o'r plant sy'n derbyn gofal yn dod o grwpiau ethnig Gwyn neu Asiaidd/Asiaidd Prydeinig o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o blant o dan 18 oed yn ôl Cyfrifiad 2021 (SYG). Roedd cyfran uwch o blant sy'n derbyn gofal yn dod o grŵp ethnig Arall o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o blant.

Anabledd

Lle darparwyd data, roedd 7% o'r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023 yn anabl; lle roedd gan y plentyn nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar ei allu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae'r gyfran hon wedi bod yn gymharol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd canran y plant sy’n derbyn gofal a oedd yn anabl yn uwch na'r gyfran ar gyfer plant anabl yn y boblogaeth gyffredinol, lle roedd 3% o'r boblogaeth gyffredinol o dan 18 oed yn dweud bod ganddynt broblem iechyd neu anabledd hirdymor sy'n cyfyngu ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd yn ôl Cyfrifiad 2021 (SYG). Gweler yr wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg i gael y datganiad ansawdd data ar gyfer data anabledd.

Plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches

Roedd 4% o'r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023 yn blant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches. Mae plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches yn unigolyn o dan 18 oed, sydd wedi gwneud cais am loches drwy ei hawl ei hun, sydd wedi ei wahanu oddi wrth y ddau riant ac nad yw'n cael gofal gan oedolyn sydd â chyfrifoldeb i wneud hynny yn ôl y gyfraith neu arferiad. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu ychydig o 2% yn y flwyddyn flaenorol a dyma’r nifer a’r gyfran uchaf sydd wedi’i gofnodi.

Statws cyfreithiol plant sy'n derbyn gofal

Mae'r statws cyfreithiol yn nodi'r rheswm cyfreithiol sylfaenol sy'n disgrifio pam bod plentyn yn derbyn gofal.

Ffigur 5: Plant sy'n derbyn gofal yn ôl statws cyfreithiol ar 31 Mawrth, 2014 i 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell sy'n dangos, er bod y rhan fwyaf o blant yn derbyn gofal o dan orchmynion gofal, bod y nifer a chyfran wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a statws cyfreithiol ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y blynyddoedd 2022, 2021, 2020 a 2016 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

[Nodyn 3] Yn cynnwys gorchymyn lleoli wedi'i ganiatáu; gwardiaeth wedi'i chaniatáu yn yr Uchel Lys a'r plentyn mewn llety awdurdod lleol; o dan ddiogelwch yr heddlu ac mewn llety awdurdod lleol; gorchymyn amddiffyn brys; o dan orchymyn asesu plentyn ac mewn llety awdurdod lleol; remandio i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid; a chadw mewn llety awdurdod lleol o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE).

Ar 31 Mawrth 2023, roedd y mwyafrif o blant (82%) yn derbyn gofal o dan orchymyn gofal, i lawr o tua 85% yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd 87% o'r plant a oedd yn derbyn gofal dan orchmynion gofal yn derbyn gofal o dan orchmynion gofal llawn o'i gymharu â 13% a oedd yn derbyn gofal dan orchmynion gofal interim. 

Roedd nifer a chyfran y plant a oedd yn derbyn gofal mewn llety gwirfoddol mewn un cyfnod o letya (o dan Adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn dilyn cynnydd yn 2022 bu cynnydd blynyddol pellach ar 31 Mawrth 2023 gyda 12% o blant a oedd yn derbyn gofal wedi'u lleoli mewn llety gwirfoddol.

Mae cyfran y plant sy'n derbyn gofal o dan statws cyfreithiol arall wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf ac roedd yn 6% ar 31 Mawrth 2023.

Lleoliad plant sy'n derbyn gofal

Y lleoliad yw lle mae plant sy'n derbyn gofal yn byw tra byddant yng ngofal yr awdurdod lleol.

Ffigur 6: Plant sy'n derbyn gofal yn ôl lleoliad ar 31 Mawrth, 2014 i 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos bod y rhan fwyaf o blant yn derbyn gofal mewn lleoliadau gofal maeth.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a math o leoliad ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y blynyddoedd 2022, 2021, 2020 a 2016 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

[Nodyn 3] Mae mathau eraill o leoliadau, na ddangosir yn y siart, yn cynnwys y GIG/Ymddiriedolaeth Iechyd neu sefydliad arall sy'n darparu gofal meddygol neu nyrsio; canolfan deulu breswyl neu uned mamau a babanod; sefydliad troseddwyr ifanc neu garchar; ysgol breswyl; cyflogaeth breswyl a lleoliad arall nad yw wedi'i restru. Roedd 88 o blant mewn lleoliadau eraill ar 31 Mawrth 2023.

Math o leoliad

Roedd 69% o'r plant sy'n derbyn gofal mewn lleoliadau gofal maeth ar 31 Mawrth 2023. Mae'r gyfran hon wedi bod yn debyg ers 2020 ac yn ostyngiad graddol o uchafbwynt o 79% yn 2011. Roedd traean (34%) o'r plant mewn lleoliadau gofal maeth wedi'u lleoli gyda pherthynas neu ffrind ar 31 Mawrth 2023. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2015 pan oedd yn 20%.

Cafodd 14% o'r holl blant sy'n derbyn gofal eu lleoli gyda'u rhieni eu hunain neu eraill â chyfrifoldeb rhiant; plant a oedd yn destun gorchmynion gofal oedd y rhain yn bennaf. Mae'r gyfran hon wedi gostwng ychydig o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf ac roedd wedi bod tua 16% ers 2019. 

Roedd 10% o'r plant sy'n derbyn gofal wedi'u lleoli mewn unedau diogel, cartrefi plant neu hostelau; i fyny o 8% yn y flwyddyn flaenorol. Mae'r mathau eraill o leoliadau eraill wedi aros yn eithaf tebyg a tua 7% o'r lleoliadau i gyd.

Ble mae'r lleoliad?

Lle darparwyd gwybodaeth, roedd dwy ran o dair (66%) o'r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023 mewn lleoliadau o fewn yr awdurdod lleol ble roedden nhw'n byw ar yr adeg pan wnaethant ddechrau derbyn gofal. Roedd 27% o blant mewn lleoliadau y tu allan i'w hawdurdod lleol eu hunain ond yng Nghymru, ac roedd 7% arall wedi'u lleoli y tu allan i Gymru. Mae'r cyfrannau hyn wedi aros yn gymharol gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Nifer y lleoliadau

Roedd 669 o’r plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023 wedi cael tri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn, cynnydd o 52 o blant (8%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Er i nifer y plant a oedd wedi cael tri lleoliad neu fwy gynyddu, roedd cyfran y plant a oedd wedi cael tri lleoliad neu fwy wedi aros yn gymharol debyg i’r blynyddoedd diwethaf, sef 9%, ac eithrio 2021 pan oedd yn 7% (roedd llai o symudiadau rhwng lleoliadau yn 2020-21, ar frig pandemig COVID-19).

Plant sy’n dechrau derbyn gofal

Mae’r plant sy'n derbyn gofal am y tro cyntaf, a’r plant yr oedd eu gofal wedi dod i ben yn flaenorol ond wedi ailddechrau yn ystod y flwyddyn adrodd yn cael eu cyfrif yn yr adran hon. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn, dim ond y cyfnod cyntaf sy'n cael ei gyfrif.

Ffigur 7: Plant sy'n dechrau derbyn gofal yn ôl blwyddyn, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart llinell yn dangos bod nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal wedi bod ar duedd ar i lawr ond wedi cynyddu yn 2022-23.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n dechrau derbyn gofal yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a'r angen am ofal ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn, dim ond y cyfnod cyntaf sy'n cael ei gyfrif.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y flwyddyn 2021-22 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

Dechreuodd 1,903 o blant dderbyn gofal rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, sydd 211 o blant (12%) yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r cynnydd cyntaf yn nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal ers 2016-17 a'r newid blynyddol mwyaf ers 2009-10.

Yn gyffredinol, roedd plant a oedd yn dechrau derbyn gofal yn ystod y flwyddyn yn iau na'r rhai mewn gofal ar 31 Mawrth 2023 a'r boblogaeth gyffredinol o blant. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg oedd y gwahaniaeth yng nghyfran y plant o dan 1 oed, sef 21% o'r rhai sy'n dechrau derbyn gofal o'i gymharu â 4% o blant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023 a 5% o'r boblogaeth gyffredinol o blant yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2022 (SYG).

O'r plant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod 2022-23, roedd 62% yn derbyn gofal mewn llety gwirfoddol i ddechrau mewn un cyfnod o letya (o dan Adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014). Cafodd y mwyafrif eu rhoi mewn lleoliadau gofal maeth i ddechrau (69%); yr un gyfran ag ar 31 Mawrth 2023.

Ffigur 8: Plant sy'n dechrau derbyn gofal yn ôl yr angen am ofal a chymorth, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart llinell yn dangos bod y rhan fwyaf o blant sy’n dechrau derbyn gofal wedi cael gofal a chymorth i ddechrau oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Plant sy'n dechrau derbyn gofal yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a'r angen am ofal ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy’n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn, dim ond y cyfnod cyntaf sy'n cael ei gyfrif.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y flwyddyn 2021-22 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

[Nodyn 3] Yn cynnwys anabledd neu salwch plentyn, ymddygiad cymdeithasol annerbyniol a tharfu ar drefniadau mabwysiadu.

Ar gyfer plant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod 2022-23, y rheswm mwyaf cyffredin pam y dechreuodd y plentyn dderbyn gofal oedd oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod (58%), neu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod. Mae'r gyfran hon yn is o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf.

Cynyddodd cyfran y plant sy'n dechrau derbyn gofal oherwydd salwch, anabledd neu absenoldeb rhieni i 10% (o'i gymharu â 7% yn y flwyddyn flaenorol).

Plant sy'n gadael gofal

Mae plant sy'n derbyn gofal sy'n gadael gofal yn ystod y flwyddyn adrodd yn cael eu cyfrif yn yr adran hon; efallai y bydd rhai plant sy'n gadael gofal yn dychwelyd i ofal yn ystod y flwyddyn. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn, dim ond y cyfnod diweddaraf sy'n cael ei gyfrif.

Ffigur 9: Plant sy'n gadael gofal yn ôl blwyddyn, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart llinell yn dangos bod nifer y plant a adawodd ofal wedi bod ar duedd ar i lawr er ei fod wedi sefydlogi ers 2017-18.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Cyfnodau gofal yn dod i ben ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a'r rheswm dros orffen ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy'n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig, plant a fu farw neu lle trosglwyddwyd y cyfrifoldeb gofalu i awdurdod lleol arall yn y DU. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod diweddaraf sy'n cael ei gyfrif.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y blynyddoedd 2021-22, 2020-21, 2019-20 a 2015-16 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

Roedd 1,758 o blant wedi gadael gofal rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, sydd 107 (6%) yn llai na'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r lleihad blynyddol cyntaf yn nifer y plant sy'n gadael gofal ers 2019-20.

Roedd plant a adawodd ofal yn ystod y flwyddyn yn gyffredinol yn hŷn na'r rhai mewn gofal ar 31 Mawrth 2023 a'r boblogaeth gyffredinol o blant. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg oedd y gwahaniaeth yng nghyfran y plant 16 oed a hŷn, sef 40% o'r rhai sy'n gadael gofal o'i gymharu â 19% o blant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023 ac 11% o'r boblogaeth gyffredinol yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn 2022 (SYG).

Ffigur 10: Plant sy'n gadael gofal yn ôl rheswm, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart llinell yn dangos mai prif reswm bod plant yn gadael gofal yw dychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Cyfnodau gofal yn dod i ben ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a'r rheswm dros orffen ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy'n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig, plant a fu farw neu lle trosglwyddwyd y cyfrifoldeb gofalu i awdurdod lleol arall yn y DU. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod diweddaraf sy'n cael ei gyfrif.

[Nodyn 2] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y blynyddoedd 2021-22, 2020-21, 2019-20 a 2015-16 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

[Nodyn 3] Wedi dychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant. Yn cynnwys gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a wnaed i ofalwyr neu gyn-ofalwyr maeth.

[Nodyn 4] Yn cynnwys trosglwyddo i wasanaethau cymdeithasol i oedolion, dedfrydu i’r ddalfa ac unrhyw reswm arall nad yw wedi'i restru.

[Nodyn 5] Gall person ifanc sy'n cyrraedd 18 oed barhau i fyw gyda'i gyn riant/rhieni) maeth mewn trefniant 'Pan Fydda i'n Barod'. Mae trefniadau o'r fath wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2016.

Yn ystod 2022-23, fe wnaeth 873 (50%) o blant adael gofal i ddychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant. Gwnaethpwyd gorchmynion gwarchodaeth arbennig ar gyfer 226 o'r plant hyn. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu'n dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd 244 (14%) o blant eu mabwysiadu o ofal, roedd 236 (13%) o blant yn byw'n annibynnol a gadawodd 178 (10%) o blant ofal ar ôl cyrraedd 18 oed a pharhau i fyw gyda chyn rieni maeth o dan drefniant 'Pan Fydda i'n Barod'.

Mae cyfran y plant sy'n gadael gofal ac yn dychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu bersonau eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gostyngiad wedi bod yn y gyfran sy'n gadael gofal ar ôl cael eu mabwysiadu.

Pobl ifanc (16 oed a hŷn) sy'n peidio â derbyn gofal

Mae plant sy'n derbyn gofal sy'n 16 oed a hŷn ac sy'n gadael gofal yn ystod y flwyddyn adrodd ac nad ydynt yn dychwelyd i ofal yn cael eu cyfrif yn yr adran hon. Fel arfer, bydd plant yn peidio â derbyn gofal y diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 18 oed. Efallai y bydd angen i rai pobl ifanc gael llety gan yr awdurdod lleol hyd at eu pen-blwydd yn 21 oed os ydynt yn derbyn gofal mewn cartref cymunedol sy'n addas ar gyfer plant 16 oed a hŷn. Yn ymarferol, nifer fach iawn yw'r rhain ac maent yn tueddu i fod yn bobl ifanc ag anableddau corfforol neu feddyliol difrifol.

Ffigur 11: Pobl ifanc 16 oed yn peidio â derbyn gofal yn ôl rheswm, 2016-17 i 22-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siartiau llinell yn dangos bod nifer y bobl ifanc sy’n peidio â derbyn gofal yn symud i drefniant ‘Pan fydda i’n Barod’ wedi cynyddu ers 2016-17 a’r nifer a ddedfrydwyd i’r ddalfa wedi lleihau. Mae nifer y bobl ifanc sy’n trosglwyddo i ofal gwasanaethau cymdeithasol i oedolion wedi parhau’n weddol sefydlog ac mae nifer y bobl ifanc sy’n peidio â derbyn gofal am bob rheswm arall wedi amrywio.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Cyfnodau gofal sy'n dod i ben ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (16 oed a hŷn) yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhywedd a rheswm dros orffen ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy'n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig, plant a fu farw neu lle trosglwyddwyd y cyfrifoldeb gofalu i awdurdod lleol arall yn y DU. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod diweddaraf sy'n cael ei gyfrif.

[Nodyn 2] Gall person ifanc sy'n cyrraedd 18 oed barhau i fyw gyda'i gyn riant/rhieni maeth mewn trefniant 'Pan Fydda i'n Barod'. 

[Nodyn 3] Wedi dychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant. Yn cynnwys gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a wnaed i ofalwyr neu gyn-ofalwyr maeth.

[Nodyn 4] Yn cynnwys mabwysiadu ac unrhyw reswm arall nad yw wedi'i restru.

Gadawodd 708 o bobl ifanc 16 oed a hŷn ofal yn ystod 2022-23 ac ni wnaethant ddychwelyd i ofal cyn 31 Mawrth 2023, sy'n gynnydd o 2 berson ifanc o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Roed traean o bobl ifanc (235) a beidiodd â derbyn gofal wedi symud i drefniadau byw'n annibynnol. Mae'r gyfran hon wedi cynyddu o'i chymharu â 2021-22 (21%) ond mae'n fwy cydnaws â’r blynyddoedd blaenorol.

Cafodd 178 o bobl ifanc eu pen-blwydd yn 18 oed a pharhau i fyw gyda'u cyn riant/rhieni maeth mewn trefniant 'Pan Fydda i'n Barod'.

Ffigur 12: Pobl ifanc 16 oed a hŷn sy'n peidio â derbyn gofal yn ôl math o lety addas ar ddyddiad gadael gofal, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siartiau llinell yn dangos bod nifer y bobl ifanc sy’n peidio â derbyn gofal mewn llety cyffredin addas heb gymorth a llety lled-annibynnol wedi cynyddu ers 2016-17. Mae nifer y bobl ifanc sy’n peidio â derbyn gofal mewn llety addas arall wedi amrywio ond wedi aros yn weddol sefydlog.

Ffynhonnell: Ffurflen SSDA903 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Llety ar ddyddiad dod i ben ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth (16 oed a hŷn), yn ôl awdurdod lleol a math o lety ar StatsCymru

[Nodyn 1] Ac eithrio plant sy'n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig, plant a fu farw neu lle trosglwyddwyd y cyfrifoldeb gofalu i awdurdod lleol arall yn y DU. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod diweddaraf sy'n cael ei gyfrif.

[Nodyn 2] Llety lled-annibynnol, trosiannol; llety hunangynhwysol gyda chymorth cymorth personol arbenigol a llety hunangynhwysol gyda chymorth fel y bo'r angen.

[Nodyn 3] Lle mae staff goruchwylio neu weithwyr cyngor ar gael i ddarparu cyngor neu gymorth ffurfiol.

[Nodyn 4] Yn cynnwys gofal preswyl neu nyrsio fel sefydliad GIG, llety tebyg â chymorth, a llety addas arall.

O'r 708 o bobl ifanc 16 oed a hŷn a adawodd ofal yn ystod 2022-23 ac na wnaethant ddod yn ôl i ofal cyn 31 Mawrth 2023, roedd 684 (97%) mewn llety addas ar y dyddiad y gwnaethant beidio â derbyn gofal. Ystyrir bod llety yn addas os yw'n darparu darpariaeth ddiogel a fforddiadwy i bobl ifanc. Mae cyfran y bobl ifanc mewn llety addas wedi cynyddu o 91%(r) yn 2016-17 pan ddechreuodd data gael ei gasglu.

Roedd 30% o bobl ifanc mewn llety addas wedi’u lleoli mewn llety cyffredin heb gymorth ffurfiol ar ddyddiad peidio â derbyn gofal; ar y cyfan, mae'r gyfran hon wedi cynyddu ers 2016-17. Roedd 25% o bobl ifanc yn byw gyda rhieni neu berthnasau, roedd 18% mewn llety trosiannol lled-annibynnol, roedd 10% mewn llety â chymorth a 10% arall mewn llety byw'n annibynnol. Mae cyfrannau'r bobl ifanc mewn gwahanol fathau o lety addas wedi bod yn weddol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ystyrir bod llety yn anaddas os yw'n gwneud y person ifanc yn agored i risg o niwed neu eithrio cymdeithasol. Mae'r nifer, a'r gyfran, mewn llety anaddas wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd nifer y bobl ifanc mewn llety anaddas i lawr 5 (17%) o 29(r) i 24 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sy'n cyfateb i 3% o'r rhai sy'n gadael gofal yn 16 oed a hŷn mewn llety anaddas ar adeg gadael gofal yn ystod 2022-23. Dyma'r gyfran isaf ers i ddata ddechrau cael ei gasglu yn 2016-17.

Mabwysiadu plant sy'n derbyn gofal

Mae mabwysiadu yn cyfeirio at pan fydd plentyn yn peidio â derbyn gofal ar ôl rhoi gorchymyn mabwysiadu.

Ffigur 13: Mabwysiadau plant sy'n derbyn gofal, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart bar yn dangos bod nifer y plant a fabwysiadwyd wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Ffurflen AD1 a Chyfrifiad plant sy’n derbyn gofal, Llywodraeth Cymru

Mabwysiadu plant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth yn ôl oedran a rhywedd ar StatsCymru

[Nodyn 1] Mae data wedi'u diwygio ar gyfer y blynyddoedd 2021-22, 2020-21 a 2019-20 ers eu cyhoeddi'n flaenorol.

Cafodd 243 o blant eu mabwysiadu o ofal rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023; gostyngiad o 43 (15%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol; dyma'r nifer isaf a fabwysiadwyd ers 2009-10. Mae nifer y plant a fabwysiadwyd wedi gostwng bob blwyddyn o uchafbwynt o 385 o blant a fabwysiadwyd yn ystod 2014-15, ac eithrio 2021-22.

Cafodd 10% o blant eu mabwysiadu gan eu cyn-ofalwr maeth yn ystod 2022-23, cyfran sydd wedi aros yn weddol sefydlog dros y degawd diwethaf.

Roedd y mwyafrif (80%) o blant a fabwysiadwyd yn ystod y flwyddyn yn y grŵp oedran 1-4 oed. Oedran cyfartalog y plant sy'n derbyn gofal a fabwysiadwyd yn ystod y flwyddyn oedd 41 mis ar adeg eu mabwysiadu. Mae hyn un mis yn hŷn na'r oedran cyfartalog ar gyfer 2021-22 a'r oedran cyfartalog uchaf a gofnodwyd ers 2012-13 (44 mis).

Mae rhagor o wybodaeth am fabwysiadu plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys proffil mabwysiadwyr, i'w gweld ar StatsCymru (Mabwysiadu).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

O 2016-17, casglwyd data lefel unigol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal trwy'r Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal. Casglwyd data ar blant sy'n derbyn gofal yn flaenorol trwy’r SSDA903 a ffurflenni cysylltiedig.

Mae'r casgliad yn cadw'n agos at y diffiniad o blant sy'n derbyn gofal a ddarperir yn y gyfraith fel y manylir arno yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddfwriaeth y DU). Mewn nifer fach o achosion lle gellir peri dryswch, rhoddir arweiniad ar sut i ddehongli'r term ‘sy’n derbyn gofal’ at ddibenion ystadegol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau cysondeb yn y data fel y gellir cymharu rhwng ffigyrau awdurdodau lleol. Mae'r ddogfen canllawiau casglu data hefyd yn rhoi esboniadau manwl o'r categorïau cyfreithiol, lleoliad ac ymateb eraill wedi’u cynnwys o fewn y casgliad data.

Cyhoeddwyd gofynion data diwygiedig ar gyfer blwyddyn adrodd 2022-23.

Amcangyfrifon o'r boblogaeth

Cyfrifwyd cyfradd y plant sy'n derbyn gofal am bob 10,000 o'r boblogaeth o dan 18 oed yn seiliedig ar amcangyfrifon canol blwyddyn 2022 a ddarparwyd gan y SYG. Mae cyfraddau plant sy'n derbyn gofal ar gyfer 2012-2022 wedi cael eu diwygio ar ôl cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn wedi'u hail-sylfaenu.

Oedran

Roedd 8 o bobl ifanc 18 oed neu hŷn yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2023.

Anabledd

Nid oedd un awdurdod lleol yn gallu darparu data anabledd ar gyfer tua 26% o'r plant sy'n derbyn gofal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod pobl sydd ag amhariadau yn cael eu hanablu gan rwystrau sy’n bodoli’n gyffredin mewn cymdeithas. Fodd bynnag, casglwyd data yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd.

Diwygiadau

Gwnaed mân ddiwygiadau fel rhan o brosesu data 2022-23 y cytunwyd arnynt gan awdurdodau lleol. Mae hyn wedi effeithio ar ddata ers sawl blwyddyn. Mae diwygiadau a wnaed i ddata'r blynyddoedd blaenorol wedi'u hamlygu mewn nodiadau.

Dynodiad ystadegol

Cyhoeddir yr ystadegau hyn fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu. Mae rhagor o wybodaeth am ddynodiad yr ystadegau hyn ar gael yn yr ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegol.

Bydd Adroddiad Ansawdd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd i’w gweld yn natganiad ystadegol 2020-21.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10 (1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 13/2024