Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac anabledd ar gyfer Hydref 2021 i Fedi 2022.

Prif bwyntiau

Pobl ifanc 16 i 18 oed

Roedd gostyniad bach graddol yng nghyfran y rhai 16 i 18 oed a oedd yn NEET rhwng 2011 a 2017. Yn ôl y Datganiad Ystadegol Cyntaf (SFR), mae'r gyfran hon wedi cynyddu. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, mae'r gyfran hefyd yn uwch yn 2021 nag yr oedd yn 2017 ond mae wedi amrywio yn yr amser hwnnw. Mae gwahaniaethau cynyddol rhwng amcangyfrifon NEET y Datganiad Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Gweler yr wybodaeth ansawdd y bwletin ystadegol blynyddol am ragor o fanylion.

Ar sail y SFR, mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos y canlynol ar ddiwedd 2021 roedd 13.6% (14,200) o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET o gymharu â 11.7% (11,900) ar ddiwedd 2020. Mae'r cynnydd hwn yn ymwneud yn bennaf â chynnydd yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed, er bod cynnydd bach mewn diweithdra hefyd.

Mae data mwy amserol o'r gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod cyfraddau NEET wedi gostwng ers hynny. Ar sail yr APB, am y flwyddyn yn gorffen Medi 2022, amcangyfrifwyd bod 8.7% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 9.1% ar ddiwedd y flwyddyn a ddaeth i ben ym Medi 2021. Dylid nodi bod y ffigwr ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ym Medi 2022 yn seiliedig ar rhwng tua 25 a 40 o ymatebion ac mae'n cael ei gategoreiddio fel un o ansawdd cyfyngedig.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

Ar sail y SFR, mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn dangos roedd 16.3% (37,800) o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET ar ddiwedd 2021, cynnydd o gymharu ag 15.8% (37,700) yn 2020.

Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% - 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.

Ar sail yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, am y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022, amcangyfrifwyd bod 14.2% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 15.1% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021.

Ffynonellau ystadegol

Datganiad Ystadegol Cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur’ yn defnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Hydref 2021 i Fedi 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 21 KB

ODS
21 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catherine Singleton

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.