Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac anabledd ar gyfer Hydref 2022 i Fedi 2023.

Prif bwyntiau

Pobl ifanc 16 i 18 oed

Roedd gostyngiad bach graddol yng nghyfran y rhai 16 i 18 oed a oedd yn NEET rhwng 2011 a 2017. Yn ôl y Datganiad Ystadegol Cyntaf, mae'r gyfran hon wedi cynyddu. Yn ôl yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, mae'r gyfran hefyd yn uwch yn 2022 nag yr oedd yn 2017, ond mae wedi amrywio dros y cyfnod hwnnw. Mae gwahaniaethau cynyddol rhwng amcangyfrifon NEET y Datganiad Ystadegol Cyntaf a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Gweler yr wybodaeth ansawdd yn y bwletin ystadegol blynyddol - Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Gorffennaf 2022 i Fehefin 2023 am ragor o fanylion.

Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf, mae'r ffigurau dros dro yn dangos bod 13.3% (14,400) o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET yn 2022 o gymharu ag 14.2% (14,900) yn 2021. Cwymp yn nifer y bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n ddi-waith sydd y tu ôl i’r gostyngiad hwn.

Mae data mwy amserol o gyfres yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn dangos bod cyfraddau NEET wedi gostwng dros y flwyddyn diwethaf. Ar sail yr Arolwg, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, amcangyfrifwyd bod 8.2% o bobl ifanc 16 i 18 oed yn NEET, o gymharu â 9.3% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022. Dylid nodi bod y ffigur ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 yn seiliedig ar tua 25 i 40 o ymatebion, ac mae wedi cael ei gategoreiddio fel ffigur o ansawdd cyfyngedig.

Pobl ifanc 19 i 24 oed

Ar sail y Datganiad Ystadegol Cyntaf, mae'r ffigurau dros dro yn dangos bod 14.6% (34,500) o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET yn 2022, gostyngiad o gymharu ag 17.3% (39,600) yn 2021.

Ar ddechrau dirwasgiad 2008 gwelodd cyfran y bobl ifanc 19 i 24 oed a oedd yn NEET gynnydd mawr o 17.4% yn 2008 i tua 22% i 23% o 2009 i 2012, gan ostwng ym mhob blwyddyn ddilynol hyd at 2017. Roedd y gostyngiad hwn yn deillio o gynnydd yng ngweithgarwch y farchnad lafur, gyda chyfranogiad mewn addysg a hyfforddiant yn aros yn gymharol sefydlog.

Ar sail yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, amcangyfrifwyd bod 16.4% o bobl ifanc 19 i 24 oed yn NEET, o gymharu ag 14.0% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022.

Ffynonellau ystadegol

Datganiad Ystadegol Cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur’ yn defnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Hydref 2022 i Fedi 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 21 KB

ODS
21 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joe Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.