Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Is-adran Newid Hinsawdd a Thlodi Tanwydd yn Llywodraeth Cymru yn dymuno sefydlu cronfa ddata o unigolion a sefydliadau sydd am gael yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ymchwil, ymgysylltu a datblygu polisi sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio, ymaddasu i newid hinsawdd, datblygu'r drydedd Gyllideb Garbon, a sicrhau Trosglwyddiad Cyfiawn i Sero Net.

Er mwyn i chi dderbyn gwybodaeth ac ymgysylltu â'r Is-adran Newid Hinsawdd a Thlodi Tanwydd bydd angen i ni gasglu rhywfaint o wybodaeth bersonol gennych chi. Bydd hyn yn ein galluogi i gysylltu â chi a rhoi'r cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu, ymchwil a datblygu polisi.

Mae eich cynnwys ar y gronfa ddata yn wirfoddol ac os byddwch, ar unrhyw adeg, yn penderfynu nad ydych eisiau i'ch manylion gael eu cadw ar y gronfa ddata mwyach neu nad ydych am gael eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu, polisi neu ymchwil yn y dyfodol, yna gallwch ofyn i'ch manylion gael eu dileu. Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg i wneud hyn (gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd yr hysbysiad preifatrwydd hwn).

Llywodraeth Cymru yw rheolwr y data ar gyfer yr ymchwil. Ni fydd cydweithwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi yn rhoi data personol i eraill yn Llywodraeth Cymru os nad ydych yn gofyn inni wneud hynny.

Hysbysiad preifatrwydd

Pa ddata personol y byddwn yn ei gadw ac o ble byddwn yn cael yr wybodaeth?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y  person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Er mwyn eich cofrestru ar y gronfa ddata, byddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol a ddarparwyd gennych fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad ar Fframwaith Pontio Teg:

  • Eich enw;
  • Cyfeiriad e-bost:

Mae eich cynnwys ar y gronfa ddata yn wirfoddol ac os byddwch, ar unrhyw adeg, yn penderfynu nad ydych eisiau i'ch manylion gael eu cadw ar y gronfa ddata mwyach neu nad ydych am gael eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu, polisi neu ymchwil yn y dyfodol, yna gallwch ofyn i'ch manylion gael eu dileu. Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru ar unrhyw adeg i wneud hyn. 

Y Ni fydd yr Is-adran Newid Hinsawdd a Thlodi Tanwydd ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i:

  • anfon diweddariadau atoch sy'n ymwneud â datgarboneiddio Llywodraeth Cymru, addasu hinsawdd, cyllidebau carbon a datblygu polisi Pontio Teg (e.e. canlyniadau ymgyngoriadau, adroddiadau ymchwil); 
  • rhoi gwybod i chi am gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithdai, ymchwil a gweithgareddau ymgysylltu eraill sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio, addasu hinsawdd, datblygu'r drydedd gyllideb garbon a Phontio Teg; 
  • anfon manylion unrhyw ddigwyddiad atoch y gallech fynd iddo fel rhan o'r rhaglen;
  • anfon deunydd atoch ar ôl i chi gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau, lle bo hynny'n briodol;
  • cofnodi presenoldeb yn y gweithgareddau y gallech fod yn eu mynychu.

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr Is-adran Newid Hinsawdd a Thlodi Tanwydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac ni fydd yn cael ei gynnwys yn y gronfa ddata.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Mae eich cynnwys ar y gronfa ddata yn gwbl wirfoddol. Bydd y gronfa ddata yn helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid mewn datblygu polisi ac ymchwil ynghylch datgarboneiddio, ymaddasu i newid hinsawdd, datblygu'r drydedd Gyllideb Garbon, a'r Trawsnewid Cyfiawn. Mae arolygon fel hyn yn bwysig, er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. 

Gellid defnyddio'r wybodaeth a gynhwysir ar y gronfa ddata, er enghraifft, i wahodd cyfraniadau i ddatblygu polisi sy'n gysylltiedig ag ymdrechion datgarboneiddio ac ymaddasu yng Nghymru, datblygu'r drydedd Gyllideb Garbon, a sicrhau Trosglwyddiad Cyfiawn i Sero-Net.

Pa mor ddiogel yw’ch data personol?

Bydd data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi cael ei chreu ar gyfer y prosiect hwn a dim ond y tîm ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect hwn sydd â mynediad ati. Caiff eich manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch wedi dewis ei rhoi i ni eu storio ar y ffolder hon. 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau ar gyfer ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data. Os amheuir bod rheolau diogelwch data wedi cael eu torri, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol pan fydd gofyniad cyfreithiol arnom i wneud hynny. 

Am faint y byddwn yn cadw eich data personol? 

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw ar y gronfa ddata hyd nes y cyhoeddir trydedd Gyllideb Garbon Llywodraeth Cymru yn 2026. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei thynnu o'r gronfa ddata a bydd cronfa ddata newydd yn cael ei sefydlu, a rhoddir cyfle i chi optio i mewn iddi.

Hawliau Unigolion

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r adolygiad hwn: Yn benodol, mae gennych yr hawl i:

  • Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun; 
  • Gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu data (o dan amgylchiadau penodol);
  • Gofyn i'ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan amgylchiadau penodol);
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF.

Ffôn: 0303 123 1113.

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir fel rhan o’r adolygiad hwn, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Enw: Newid Hinsawdd ac Is-adran Tlodi Tanwydd

Cyfeiriad e-bost: ClimateChange@gov.wales 

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: 

Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ,

e-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru