Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gennym drydan glân, diogel a fforddiadwy i bweru ein cartrefi, ein busnesau a’n trafnidiaeth nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae angen i ni gynyddu faint o ynni carbon isel sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, gan ddisodli tanwydd ffosil â system drydan sy’n wydn ac sy’n cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio, ffyniant economaidd, diogelu ffynonellau ynni, a llesiant cymunedol. Mae angen i ni wneud hyn gan gydbwyso buddiannau amgylcheddol, cymunedol ac economaidd yn briodol.

Mae’r grid trydan yn hollbwysig i alluogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. Wrth i Gymru newid i ddyfodol carbon isel, bydd buddsoddi mewn seilwaith rhwydweithiau trydan yn hanfodol i ateb y galw cynyddol am drydan, i gysylltu ffynonellau newydd o gynhyrchu ynni adnewyddadwy, i gryfhau gwydnwch y grid ar gyfer yr hinsawdd sy’n newid, ac i gefnogi twf cynaliadwy ar draws pob rhan o Gymru. 

Er mwyn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddull o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf yn achos cylchedau trydan newydd, gan roi terfyn ar y defnydd o beilonau delltog dur mawr ar gyfer cylchedau o’r fath, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dull polisi cynllunio newydd ar gyfer cylchedau trydan datganoledig yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am fanylion y polisi hwnnw o ran sut y bydd yn cael ei gynllunio, ei gyflawni a’i roi ar waith, ac mae’n ymwneud â chylchedau trydan (llinellau a cheblau) sy’n gweithredu ar folteddau rhwng 11 cilofolt (kV) a 132kV sy’n gysylltiedig â phrosiectau cynhyrchu trydan datganoledig ar y tir. 

Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn ystyried datblygu na chaniatáu prosiectau cynhyrchu trydan, cyfleusterau storio ynni, seilwaith trawsyrru dros 132kV, na seilwaith ynni cysylltiedig arall. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar y rhain. 

Cefndir

Y thwydwaith trydan

Mae’r rhwydwaith trydan ym Mhrydain yn system gyd-gysylltiedig sy’n symud trydan o amgylch y wlad. Mae’r rhwydwaith wedi’i rannu fel a ganlyn: 

  • Y rhwydwaith trawsyrru, sydd fel arfer yn symud trydan foltedd uchel (400kV fel arfer) dros bellteroedd hir ym Mhrydain i is-orsafoedd foltedd uchel sy’n nes at ddefnyddwyr. Cyfeirir at y rhwydwaith hwn weithiau fel ‘priffordd’ ein system grid. 
  • Y rhwydwaith dosbarthu sydd, yng Nghymru, yn symud trydan ar 132kV ac is o is-orsafoedd foltedd uchel i rwydweithiau ac is-orsafoedd foltedd is, ac yna i gartrefi a busnesau. Mae’r rhwydwaith hwn yn debyg i ffyrdd ‘A a B’ system y grid.

Mae cylchedau rhwydweithiau trydan yn cynnwys llinellau uwchben wedi’u gosod ar bolion pren neu beilonau, ceblau o dan y ddaear, ceblau o dan y môr, ac is-orsafoedd sy’n galluogi cysylltiadau ac sy’n cynnwys cyfarpar rheoli, cydbwyso a monitro.

Ar y gwefannau canlynol mae rhai adnoddau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth am gydrannau seilwaith y rhwydwaith grid:

Datblygwyd y rhwydwaith trydan i gysylltu nifer cymharol fach o orsafoedd pŵer mawr â chartrefi a busnesau. Wrth i’r system ynni newid, mae angen seilwaith rhwydwaith newydd wedi’i atgyfnerthu i gysylltu’r gwaith o gynhyrchu ynni mewn gwahanol leoliadau, yn aml mewn ardaloedd mwy gwledig ac arfordirol lle mae adnoddau ynni adnewyddadwy ar eu mwyaf. Mae angen buddsoddi yn y rhwydwaith i wella’r gallu i wrthsefyll effeithiau hinsawdd sy’n newid, gan gynnwys tywydd eithafol sy’n digwydd yn amlach, ac i sicrhau cyflenwad diogel a dibynadwy o drydan. 

Ar yr un pryd, wrth newid i economi carbon isel, disgwylir i hyn gynyddu’r galw am drydan yn sylweddol drwy drydaneiddio trafnidiaeth, gwres, a diwydiant. Felly, mae ehangu a chryfhau’r rhwydwaith trydan yn hanfodol er mwyn galluogi datgarboneiddio, cefnogi twf economaidd, a chynnal system ynni gadarn i Gymru.

Mae costau ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu ac uwchraddio’r rhwydwaith trydan. Yn y pen draw, biliau’r cyfleustodau sy’n talu’r costau hyn. Mae proses codi tâl rhwydweithiau trydan yn cael ei rheoleiddio gan y Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan (Ofgem), sydd â rôl o dan Ddeddf Trydan 1989i sicrhau bod y rhwydweithiau a ddatblygir yn darparu’r gwerth gorau i’r rheini sy’n talu biliau (drwy adolygu cynlluniau busnes gweithredwyr rhwydwaith a chymeradwyo taliadau iddynt am waith a wneir), ac i ddiogelu defnyddwyr rhag biliau sy’n uchel heb fod angen (drwy ddulliau rheoli prisiau a’r cap ar brisiau ynni). Mae talu am atgyweirio, atgyfnerthu ac ehangu’r rhwydwaith yn gymhleth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn fan hyn:

Fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cylchedau trydan gyda foltedd nominal hyd at 132kV 

Er mwyn gweithredu a gosod cylchedau trydan datganoledig ar y tir yng Nghymru, mae angen y canlynol ar Weithredwyr Rhwydweithiau:

  • Trwydded i gyflenwi trydan, a gyhoeddwyd gan Ofgem, sy’n gweithredu ar ran Awdurdod y Farchnad Nwy a Thrydan fel “yr Awdurdod” o dan adran 6 o Ddeddf Trydan 1989, a naill ai
  • Caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu 
  • Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024.

Wrth benderfynu ar gais i osod cylched trydan datganoledig ar y tir yng Nghymru, rhaid i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ystyried Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol a dogfen Polisi Cynllunio Cymru, ac mewn perthynas â Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith, rhaid gwneud penderfyniadau yn unol ag unrhyw Ddatganiad Polisi Seilwaith a gyhoeddir o dan adran 127 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024. 

Datblygu polisi newydd ar gyfer cylchedau trydan 11-132kV

Roedd adroddiad gan y Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru yn pwysleisio y gall seilwaith rhwydwaith trydan gael effeithiau sylweddol ar dirweddau, bioamrywiaeth, treftadaeth ddiwylliannol a chymunedau, ac y dylid ystyried yr effeithiau hyn yn ofalus drwy bolisi cynllunio a phenderfyniadau tryloyw. 

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod seilwaith trydan yn cael ei ddarparu mewn ffordd sy’n lleihau effeithiau niweidiol ac yn sicrhau’r canlyniadau hirdymor gorau i bobl Cymru. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno polisi newydd sy’n ymwneud â chylchedau trydan sy’n rhan o’r rhwydwaith dosbarthu (132kV ac is) yng Nghymru, ac mae’n gofyn am dystiolaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu’r polisi.

Mae’r polisi presennol ar gyfer cylchedau trydan datganoledig wedi’i nodi yn nogfen Polisi Cynllunio Cymru. Mae Adran 5.7.9 yn datgan y byddai’n well petai llinellau trydan newydd yn mynd o dan y ddaear lle bo hynny’n bosibl, a bod yn rhaid pwyso a mesur y sefyllfa yn erbyn costau a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall yn anymarferol.

Pam gosod ceblau o dan y ddaear?

Mae gosod cylchedau trydan o dan y ddaear yn gallu lleihau effaith weledol seilwaith trydan, gan helpu i ddiogelu tirweddau ac amwynderau lleol. Mae gosod ceblau o dan y ddaear yn golygu y bydd y seilwaith yn llai agored i rai mathau o dywydd difrifol, a gall hyn leihau’r effeithiau ar adar a mathau eraill o fywyd gwyllt. Fodd bynnag, yn gyffredinol ystyrir bod gosod a chynnal a chadw ceblau o dan y ddaear yn ddrutach, a gall hyn effeithio ar y gwaith adeiladu wrth eu gosod. Felly, wrth ddatblygu polisi ynghylch a ddylai cylchedau trydan fod o dan y ddaear neu uwchben, mae angen cydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, technegol, ac economaidd.

Mae Llywodraeth newydd Cymru yn cyflawni’r ymrwymiad canlynol ym maniffesto Plaid Cymru:

“Mynd ati ar unwaith i wahardd peilonau delltog dur mawr ar gyfer llinellau 11-132 kV newydd yng Nghymru, gyda rhagdybiaeth glir o blaid gosod ceblau o dan y ddaear a chaniatáu dewisiadau uwchben dim ond pan fyddant yn cael eu gosod gyda pholion pren isel neu seilwaith cyfatebol, llai ymwthiol”

Drwy’r ymgynghoriad hwn, rydym yn ceisio barn am fanylion y polisi o ‘osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf’ o ran sut y bydd yn cael ei gynllunio, ei gyflawni a’i roi ar waith i wireddu’r ymrwymiad hwn, gan roi sylw i’r angen i gydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, technegol, ac economaidd. Ein bwriad yw i’r polisi newydd gael ei gefnogi gan brofion cynllunio clir sy’n nodi’r disgwyliad mai gosod ceblau o dan y ddaear fydd y dewis diofyn ac yn ystyried amgylchiadau lle gallai fod yn dderbyniol gosod llinellau uwchben yn nhermau polisi. 

Byddwn yn disgwyl i bob sefydliad sy’n datblygu cysylltiadau rhwydwaith o fewn cwmpas y polisi hwn ystyried pob prawf cynllunio yn drylwyr a darparu tystiolaeth i gefnogi ceisiadau i osod cylched trydan datganoledig newydd, i gyfiawnhau sefyllfaoedd lle byddai angen llinell uwchben. Bydd y polisi newydd yn disodli’r polisi presennol. 

Rydym yn cyflwyno’r polisi cynllunio arfaethedig yn yr adrannau thematig canlynol: 

  1. Dyhead i gael rhwydwaith trydan sydd wedi’i gynllunio’n strategol
  2. Profion cynllunio newydd
  3. Hierarchaeth polisi ar gyfer seilwaith cylchedau trydan datganoledig 
  4. Gweithredu’r polisi

Adran 1: Rhwydwaith trydan sydd wedi’i gynllunio’n strategol

Fel y nodwyd yn y cyflwyniad, mae’r grid trydan ym Mhrydain yn system gyd-gysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld mwy o dryloywder a dull strategol o ddatblygu cynigion ar gyfer y grid yn y dyfodol, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u cynllunio i gefnogi ein hanghenion ynni yng Nghymru. 

Roedd ymatebion i’r Grŵp Cynghori Annibynnol yn tynnu sylw at bryderon bod seilwaith ynni’n cael ei ddatblygu heb fframwaith strategol clir. Wrth i Brydain symud tuag at ddull mwy cyd-gysylltiedig o gynllunio systemau ynni, dylai polisi adlewyrchu’r newid hwn. Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddull gweithredu arfaethedig ar gyfer ynni sydd i’w weld yn Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol ac mae wedi datblygu strategaethau ynni rhanbarthol a Chynlluniau Ynni Ardal Leol. Mae’r Gweithredwr System Ynni Cenedlaethol (NESO) wrthi’n datblygu’r Cynllun Ynni Gofodol Strategol a’r Cynlluniau Strategol Ynni Rhanbarthol, a fydd yn arwain y gwaith o ddatblygu rhwydweithiau a datblygu ynni yn y dyfodol ledled Prydain.

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen rhwydwaith sydd wedi’i gynllunio’n strategol er mwyn i seilwaith newydd leihau costau cyffredinol y system ynni, a’r effeithiau negyddol ehangach ar Gymru. 

Wrth gyflwyno ceisiadau, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i weithredwyr rhwydweithiau ddangos sut mae eu cynigion ar gyfer cylchedau trydan yn cyd-fynd â gwaith cynllunio strategol y rhwydwaith trydan ledled Prydain, gan gynnwys Cymru. Rydym yn bwriadu nodi ein disgwyliadau mewn canllawiau i gefnogi’r polisi arfaethedig newydd. Drwy’r canllawiau, byddwn hefyd yn nodi ein bod yn disgwyl i geisiadau ddangos sut mae proses dewis llwybrau wedi ystyried cyfleoedd i gyd-fynd â’r seilwaith presennol neu’r seilwaith arfaethedig lle bo hynny’n briodol, gan helpu i leihau effeithiau amgylcheddol a chymunedol ychwanegol yn ogystal â chefnogi’r gwaith o ddarparu system ynni Cymru yn y dyfodol. Bydd yr wybodaeth hon yn galluogi’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall sut mae cynigion yn cyfrannu at rwydwaith cyd-gysylltiedig ac effeithlon i Gymru yn y dyfodol. 

Cwestiynau

Cwestiwn 1: 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sefydlu’r broses o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf fel y sefyllfa ddiofyn yn achos llinellau trydan 11-132 kV newydd yng Nghymru. A fydd y dull polisi a gynigir yn briodol i gyflawni’r amcan hwn? Esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 2: 

Mae gwydnwch y rhwydwaith trydan yn bwysig er mwyn sicrhau cyflenwad trydan diogel a dibynadwy i gymdeithas ac er mwyn cefnogi’r gwaith o addasu i newid yn yr hinsawdd. Beth yw eich barn am effeithiau posibl cylchedau trydan o dan y ddaear ar wydnwch y rhwydwaith yng Nghymru? Ystyriwch y manteision a’r heriau wrth roi eich ateb.

Cwestiwn 3: 

Ydych chi’n cefnogi’r dyhead am ddull gweithredu wedi’i gydlynu’n strategol ar gyfer datblygu rhwydweithiau, a sicrhau bod cynigion newydd yn sicrhau’r gwerth gorau posibl i gymunedau ac i system ynni Cymru?

  • Beth yw’r manteision yn eich barn chi?
  • Beth yw’r anfanteision yn eich barn chi?

Cwestiwn 4: 

Ydych chi’n cytuno bod integreiddio’r seilwaith a gynigir â chynigion neu gynlluniau presennol yn flaenoriaeth? Ym mha ffordd y gallai hyn effeithio?

Cwestiwn 5: 

Yn eich barn chi, pa gorff fyddai’n gallu rhoi cyngor i weithredwyr rhwydweithiau a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch a yw cynigion cylchedau trydan unigol yn cyd-fynd â chynlluniau strategol? 

Adran 2: Profion cynllunio newydd

Ym maes polisi cynllunio, gall profion cynllunio ddarparu fframwaith tryloyw ar gyfer asesu cynigion yn erbyn meini prawf sydd wedi’u diffinio’n glir. Maent yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch cynllunio a chydsynio yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gyson ac yn gymesur, ac yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos sut mae cynigion yn cyd-fynd ag amcanion polisi yn ogystal â chydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol, ac ystyriaethau eraill. 

Tynnodd y Grŵp Cynghori Annibynnol sylw at bryderon nad yw cymunedau na’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau bob amser yn gallu gweld sut mae polisi grid presennol yn cael ei roi ar waith yn ymarferol. Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, argymhellodd y Grŵp Cynghori Annibynnol fesurau i wella tryloywder o ran sut mae cynigion yn cael eu hasesu, gyda thystiolaeth a chyfiawnhad cliriach yn helpu i ddangos sut mae ystyriaethau amgylcheddol, technegol, economaidd, a strategol wedi cael eu cydbwyso mewn penderfyniadau.

Mae profion cynllunio yn gallu gwneud i’r cyhoedd fod â mwy o hyder yn y broses gwneud penderfyniadau wrth ddangos yn glir sut mae effeithiau, a dewisiadau eraill, wedi cael eu hasesu.

Cynigion ar gyfer profion cynllunio

Nod y profion cynllunio a gynigir yw cefnogi’r broses o weithredu’r polisi newydd o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf drwy nodi a dangos tystiolaeth o’r amgylchiadau eithriadol lle gellid cyfiawnhau rhoi caniatâd i linellau uwchben. Dyma’r profion:

  • Prawf amgylcheddol: angen tystiolaeth y byddai gosod llinellau o dan y ddaear yn cael mwy o effaith ar yr amgylchedd na llinellau uwchben.
  • Prawf technegol: angen tystiolaeth nad yw gosod ceblau o dan y ddaear yn ymarferol bosibl, er enghraifft, am resymau daeareg neu ddaearyddiaeth, neu risg peirianneg annerbyniol.
  • Prawf economaidd: angen tystiolaeth y byddai gosod ceblau o dan y ddaear yn gwneud y prosiect a gynigir yn anymarferol yn ariannol. 

Cwestiynau

Cwestiwn 6: 

Ydych chi’n cytuno bod y profion cynllunio a gynigir yn fecanweithiau priodol, cymesur ac ymarferol ar gyfer gweithredu’r polisi o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf, ac i sicrhau tryloywder yn y broses o wneud penderfyniadau? 

Cwestiwn 7: 

Pa brofion ymarferol eraill, y gellir eu cefnogi â thystiolaeth, y byddai modd eu hystyried wrth benderfynu a oes digon o gyfiawnhad dros ganiatáu cylched trydan uwchben newydd fel eithriad? Rhowch resymau, tystiolaeth, neu enghreifftiau i ategu eich ymateb.

Cwestiwn 8: 

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi cynllunio mewn perthynas â llinellau trydan 132kV sydd wedi’u cysylltu â gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru, ond nid yw’n gyfrifol am osod prisiau trydan. Sut ydych chi’n meddwl y gallai mwy o ddefnydd o gylchedau trydan o dan y ddaear, yn hytrach na chylchedau uwchben, effeithio ar gostau trydan i gartrefi a busnesau yng Nghymru? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

Adran 3: Hierarchaeth polisi ar gyfer seilwaith cylchedau trydan datganoledig

Bydd y newid polisi a gynigir yn ei gwneud yn glir y dylid ystyried gosod ceblau o dan y ddaear fel y dewis dylunio cyntaf ar gyfer cylchedau trydan newydd hyd at foltedd nominal o 132kV. 

I gefnogi proses gwneud penderfyniadau sy’n gyson a thryloyw, rydym yn bwriadu cyflwyno hierarchaeth polisi o opsiynau seilwaith i gefnogi’r polisi, gyda’r opsiwn gosod cylchedau o dan y ddaear yn cael ei ystyried yn gyntaf, yna polion pren ac yna atebion seilwaith eraill lle dangosir mai’r rhain yw’r opsiwn mwyaf priodol ac yn llai ymwthiol. Bwriad yr hierarchaeth polisi hon yw arwain y gwaith o ddylunio prosiectau o’r camau cynharaf, gan helpu i leihau effeithiau yn ogystal â chydnabod y gallai ffactorau amgylcheddol, technegol ac economaidd sy’n benodol i’r safle ddylanwadu ar y datrysiad seilwaith terfynol.

Cwestiynau

Cwestiwn 9: 

Beth yw eich barn am hierarchaeth a gynigir ar gyfer opsiynau cylched trydan, gyda gosod o dan y ddaear yn opsiwn cyntaf ac yna opsiynau eraill i’w caniatáu fel eithriadau yn unig, ar ôl edrych ar yr opsiwn/opsiynau blaenorol yn yr hierarchaeth?

Cwestiwn 10: 

Ydych chi’n cytuno, pan fo cylchedau trydan uwchben yn cael eu caniatáu, mai dim ond polion pren neu seilwaith cyfatebol sy’n lleihau effeithiau gweledol (ac eithrio peilonau delltog dur) y dylai eu cynnal? Os nad ydych yn cytuno, esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 11: 

Mae modd defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cloddio ffosydd, aredig ceblau, a drilio cyfeiriol llorweddol, i osod cylchedau trydan o dan y ddaear. Yn eich barn chi, beth yw prif fanteision, cyfyngiadau, a chostau’r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i osod cylchedau trydan o dan y ddaear? Rhowch unrhyw dystiolaeth, enghreifftiau, neu brofiad sy’n ategu eich ateb.

Cwestiwn 12: 

Mae gosod cylchedau trydan o dan y ddaear yn gallu cael effaith gadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd. Yn eich barn chi, beth yw prif fanteision ac anfanteision amgylcheddol gosod cylchedau trydan o dan y ddaear? Esboniwch eich ateb a rhowch unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau lle bo modd.

Cwestiwn 13: 

Pa mor bwysig yw cyflymder gosod cylchedau trydan i chi? Eglurwch pam.

Cwestiwn 14: 

Oes gennych chi unrhyw dystiolaeth, ymchwil, data, neu astudiaethau achos am ddefnyddio polion pren, neu fathau eraill o seilwaith llinellau uwchben sy’n llai amlwg yn weledol? Yn benodol, byddem yn croesawu gwybodaeth am y canlynol:

  • pa mor addas ydynt ar gyfer gwahanol leoliadau a dibenion;
  • eu heffaith ar yr amgylchedd a’r dirwedd;
  • effaith ar gymunedau lleol;
  • gofynion gweithredol a chynnal a chadw;
  • dibynadwyedd a gwydnwch; a
  • costau.

Rhowch unrhyw dystiolaeth, enghreifftiau, neu ddolenni perthnasol i adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi.

Adran 4: Gweithredu’r polisi

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Datganiad Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog yn y lle cyntaf er mwyn rhoi’r newid yn y polisi ar waith. Byddai’r Datganiad hwn yn cael ei gynnwys mewn diweddariad i ddogfen Polisi Cynllunio Cymru pan fydd yn cael ei ddiwygio nesaf. Byddai pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 127 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) (2024) hefyd yn cael eu defnyddio i gyflwyno Datganiad Polisi Seilwaith sy’n nodi’r polisi mewn perthynas â Phrosiectau Seilwaith Arwyddocaol. Byddai defnyddio’r dull hwn yn sicrhau bod y polisi’n cael effaith yn y penderfyniadau hynny a wneir gan Weinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol.  Fel y nodwyd yn yr adran trosolwg uchod, ni fyddai’r polisi’n berthnasol i gylchedau trydan sy’n dod o dan hawliau datblygu a ganiateir na’r rheini sydd wedi cael cydsyniad gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i Lywodraeth y DU ystyried polisïau Cymru mewn perthynas â phenderfyniadau y mae’n eu gwneud ar brosiectau yng Nghymru.

Bydd tystiolaeth a gaiff ei chasglu drwy’r ymgynghoriad hwn yn sail i’r fframwaith polisi terfynol ac asesiad o unrhyw effeithiau posibl y gallai’r polisi eu cael, er enghraifft, ar yr amgylchedd neu ar bobl Cymru, gan gynnwys effeithiau ar y Gymraeg. O asesiad cychwynnol o’r effaith y gallai’r polisi ei chael ar boblogaethau Cymraeg dwysedd uwch, disgwylir y bydd unrhyw effaith yn gyfyngedig, gan mai dim ond i’r rheini sy’n datblygu ac yn penderfynu ar gylchedau trydan 132kV newydd yng Nghymru y mae’r polisi’n berthnasol. Fodd bynnag, rydym yn croesawu eich barn am hyn ac am ein dull o weithredu’r polisi i sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau.  

Cwestiynau

Cwestiwn 15: 

Er mwyn gweithredu’r polisi a sicrhau ei fod yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 i gyflwyno Datganiad Polisi Seilwaith. Bydd Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn cael ei ddiweddaru pan gaiff ei adolygu nesaf. Ydych chi’n cytuno â’r dull a gynigir o ddefnyddio Datganiad Polisi Seilwaith a diweddariad i ddogfen Polisi Cynllunio Cymru i roi’r polisi newydd ar waith? Os nad ydych yn cytuno, esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 16: 

Ydych chi’n meddwl y gallai’r polisi a gynigir ar gyfer cylchedau trydan o dan y ddaear gael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig neu ar grwpiau penodol o bobl? Esboniwch eich safbwyntiau a rhowch unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau lle bo modd.

Gallai hyn gynnwys effeithiau ar bobl o wahanol oedrannau, anableddau, rhywedd, hunaniaethau rhywedd, ethnigrwydd, crefyddau neu gredoau, cyfeiriadedd rhywiol, pobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth, neu bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Cwestiwn 17: 

Yn eich barn chi, beth fyddai effaith y polisi newydd ar y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â phoblogaethau uchel o siaradwyr Cymraeg? 

Cwestiwn 18: 

Yn eich barn chi, sut byddai’r newidiadau polisi arfaethedig a’r profion cynllunio cysylltiedig yn debygol o effeithio ar y Gymraeg?  Mae gennym ddiddordeb arbennig yn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?  

Cwestiwn 19: 

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y newidiadau polisi arfaethedig a’r profion cynllunio cysylltiedig er mwyn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 20: 

Rydym wedi gofyn cwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw dystiolaeth berthnasol arall a fyddai, yn eich barn chi, yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi yn y dyfodol ar rwydweithiau trydan yng Nghymru, rhowch y dystiolaeth honno.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1: 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sefydlu’r broses o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf fel y sefyllfa ddiofyn yn achos llinellau trydan 11-132 kV newydd yng Nghymru. A fydd y dull polisi a gynigir yn briodol i gyflawni’r amcan hwn? Esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 2: 

Mae gwydnwch y rhwydwaith trydan yn bwysig er mwyn sicrhau cyflenwad trydan diogel a dibynadwy i gymdeithas ac er mwyn cefnogi’r gwaith o addasu i newid yn yr hinsawdd. Beth yw eich barn am effeithiau posibl cylchedau trydan o dan y ddaear ar wydnwch y rhwydwaith yng Nghymru? Ystyriwch y manteision a’r heriau wrth roi eich ateb.

Cwestiwn 3: 

Ydych chi’n cefnogi’r dyhead am ddull gweithredu wedi’i gydlynu’n strategol ar gyfer datblygu rhwydweithiau, a sicrhau bod cynigion newydd yn sicrhau’r gwerth gorau posibl i gymunedau ac i system ynni Cymru?

  • Beth yw’r manteision yn eich barn chi?
  • Beth yw’r anfanteision yn eich barn chi?

Cwestiwn 4: 

Ydych chi’n cytuno bod integreiddio’r seilwaith a gynigir â chynigion neu gynlluniau presennol yn flaenoriaeth? Ym mha ffordd y gallai hyn effeithio?

Cwestiwn 5: 

Yn eich barn chi, pa gorff fyddai’n gallu rhoi cyngor i weithredwyr rhwydweithiau a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch a yw cynigion cylchedau trydan unigol yn cyd-fynd â chynlluniau strategol? 

Cwestiwn 6: 

Ydych chi’n cytuno bod y profion cynllunio a gynigir yn fecanweithiau priodol, cymesur ac ymarferol ar gyfer gweithredu’r polisi o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf, ac i sicrhau tryloywder yn y broses o wneud penderfyniadau? 

Cwestiwn 7: 

Pa brofion ymarferol eraill, y gellir eu cefnogi â thystiolaeth, y byddai modd eu hystyried wrth benderfynu a oes digon o gyfiawnhad dros ganiatáu cylched trydan uwchben newydd fel eithriad? Rhowch resymau, tystiolaeth, neu enghreifftiau i ategu eich ymateb.

Cwestiwn 8: 

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am bolisi cynllunio mewn perthynas â llinellau trydan 132kV sydd wedi’u cysylltu â gorsaf gynhyrchu ddatganoledig yng Nghymru, ond nid yw’n gyfrifol am osod prisiau trydan. Sut ydych chi’n meddwl y gallai mwy o ddefnydd o gylchedau trydan o dan y ddaear, yn hytrach na chylchedau uwchben, effeithio ar gostau trydan i gartrefi a busnesau yng Nghymru? Esboniwch eich ateb a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

Cwestiwn 9: 

Beth yw eich barn am hierarchaeth a gynigir ar gyfer opsiynau cylched trydan, gyda gosod o dan y ddaear yn opsiwn cyntaf ac yna opsiynau eraill i’w caniatáu fel eithriadau yn unig, ar ôl edrych ar yr opsiwn/opsiynau blaenorol yn yr hierarchaeth?

Cwestiwn 10: 

Ydych chi’n cytuno, pan fo cylchedau trydan uwchben yn cael eu caniatáu, mai dim ond polion pren neu seilwaith cyfatebol sy’n lleihau effeithiau gweledol (ac eithrio peilonau delltog dur) y dylai eu cynnal? Os nad ydych yn cytuno, esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 11: 

Mae modd defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cloddio ffosydd, aredig ceblau, a drilio cyfeiriol llorweddol, i osod cylchedau trydan o dan y ddaear. Yn eich barn chi, beth yw prif fanteision, cyfyngiadau, a chostau’r gwahanol ddulliau a ddefnyddir i osod cylchedau trydan o dan y ddaear? Rhowch unrhyw dystiolaeth, enghreifftiau, neu brofiad sy’n ategu eich ateb.

Cwestiwn 12: 

Mae gosod cylchedau trydan o dan y ddaear yn gallu cael effaith gadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd. Yn eich barn chi, beth yw prif fanteision ac anfanteision amgylcheddol gosod cylchedau trydan o dan y ddaear? Esboniwch eich ateb a rhowch unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau lle bo modd.

Cwestiwn 13: 

Pa mor bwysig yw cyflymder gosod cylchedau trydan i chi? Eglurwch pam.

Cwestiwn 14: 

Oes gennych chi unrhyw dystiolaeth, ymchwil, data, neu astudiaethau achos am ddefnyddio polion pren, monopolau (pren neu ddur) neu fathau eraill o seilwaith llinellau uwchben sy’n llai amlwg yn weledol? Yn benodol, byddem yn croesawu gwybodaeth am y canlynol:

  • pa mor addas ydynt ar gyfer gwahanol leoliadau a dibenion;
  • eu heffaith ar yr amgylchedd a’r dirwedd;
  • effaith ar gymunedau lleol;
  • gofynion gweithredol a chynnal a chadw;
  • dibynadwyedd a gwydnwch; a
  • costau.

Rhowch unrhyw dystiolaeth, enghreifftiau, neu ddolenni perthnasol i adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi.

Cwestiwn 15: 

Er mwyn gweithredu’r polisi a sicrhau ei fod yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 i gyflwyno Datganiad Polisi Seilwaith. Bydd Polisi Cynllunio Cymru hefyd yn cael ei ddiweddaru pan gaiff ei adolygu nesaf. Ydych chi’n cytuno â’r dull a gynigir o ddefnyddio Datganiad Polisi Seilwaith a diweddariad i ddogfen Polisi Cynllunio Cymru i roi’r polisi newydd ar waith? Os nad ydych yn cytuno, esboniwch eich ateb.

Cwestiwn 16: 

Ydych chi’n meddwl y gallai’r polisi a gynigir ar gyfer cylchedau trydan o dan y ddaear gael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig neu ar grwpiau penodol o bobl? Esboniwch eich safbwyntiau a rhowch unrhyw dystiolaeth neu enghreifftiau lle bo modd.

Gallai hyn gynnwys effeithiau ar bobl o wahanol oedrannau, anableddau, rhywedd, hunaniaethau rhywedd, ethnigrwydd, crefyddau neu gredoau, cyfeiriadedd rhywiol, pobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth, neu bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Cwestiwn 17: 

Yn eich barn chi, beth fyddai effaith y polisi newydd ar y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â phoblogaethau uchel o siaradwyr Cymraeg? 

Cwestiwn 18: 

Yn eich barn chi, sut byddai’r newidiadau polisi arfaethedig a’r profion cynllunio cysylltiedig yn debygol o effeithio ar y Gymraeg?  Mae gennym ddiddordeb arbennig yn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi'n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?  

Cwestiwn 19: 

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y newidiadau polisi arfaethedig a’r profion cynllunio cysylltiedig er mwyn:

  • sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu 
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 20: 

Rydym wedi gofyn cwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw dystiolaeth berthnasol arall a fyddai, yn eich barn chi, yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi yn y dyfodol ar rwydweithiau trydan yng Nghymru, rhowch y dystiolaeth honno.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich ymatebion erbyn 15 Ionawr 2027, drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Ymgynghoriad ar bolisi newydd o osod ceblau o dan y ddaear yn gyntaf yn achos Cylchedau (llinellau) Trydan 11-132kV yng Nghymru
Yr Is-adran Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e) GDPR). 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. 

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd. 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost:  swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/