Mae'r bont grog eiconig, Pont Menai, yn nodi ei phen-blwydd yn 200 mlwydd oed wythnos yma.
Cyn y dathliadau a seremoni dadorchuddio plac, talodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, deyrnged i'r peiriannydd arloesol Thomas Telford a ddyluniodd y bont a ail-luniodd dirwedd economaidd a chymdeithasol Gogledd Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Ers dwy ganrif, mae Pont Menai wedi bod yn achubiaeth i drigolion, yn borth strategol i'n heconomi, ac yn garreg filltir enwog i'r proffesiwn peirianneg yng Nghymru ac yn ehangach.
"Mae'r deucanmlwyddiant hwn yn ddathliad nid yn unig o'r bont ei hun ond hefyd o'r cenedlaethau o beirianwyr, crefftwyr, arolygwyr, a gweithwyr sydd wedi gofalu amdani.
"Mae'r plac deucanmlwyddiant sy'n cael ei ddadorchuddio heddiw yn anrhydeddu athrylith Telford a'r ymdrech beirianneg barhaus sydd ei hangen i ddiogelu'r ased hanesyddol hwn.
"Ein cyfrifoldeb ni yw cynnal y bont heddiw a'i diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ein blaenoriaeth bob amser fu diogelu'r bont eiconig hon ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny’n parhau.
"Rydym yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o gynnal a chadw Pont Menai. Mae gwaith cam dau yn parhau, gyda UK Highways A55 Ltd a'u contractwyr yn cynnal gweithgarwch arolygu, cryfhau ac adnewyddu helaeth i sicrhau diogelwch a pherfformiad hirdymor y strwythur."
Agrowyd Pont Menai ar y 30 o Ionawr 1826 a Thomas Telford oedd llywydd cyntaf Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
