Mae cynlluniau i adeiladu Pont newydd dros yr Afon Dyfrdwy ar yr A494 wedi cyrraedd y garreg filltir nesaf gyda chyhoeddi'r Gorchmynion drafft.
Mae'r Gorchmynion yn ddogfen gyfreithiol allweddol sy'n nodi'n fanwl y cynigion ar gyfer y bont, gan gynnwys y llwybr y bydd yn ei ddilyn, y tir y bydd angen ei brynu a newidiadau i'r ffyrdd presennol.
Bydd y cyhoedd yn cael eu gwahodd i roi eu barn ar y Gorchmynion ac mae ganddynt yr opsiwn i gefnogi'r cynlluniau neu wrthwynebu'r cynlluniau yn ffurfiol neu awgrymu dewis arall.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau heddiw (dydd Mawrth 30 Medi) ac ar agor tan ddydd Mawrth 11 Tachwedd 2025.
Os cefnogir y Gorchmynion drafft, gallai gwaith adeiladu ar bont newydd ddechrau mor gynnar â Hydref 2026, gyda'r bont yn agor i'r cyhoedd ar ôl Hydref 2029.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon ac rydym yn symud ymlaen gyda'r cynlluniau ar gyfer adeiladu pont newydd dros yr Afon Dyfrdwy ar yr A494.
Rwy'n annog pobl leol a phobl sy'n defnyddio'r bont yn rheolaidd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a dweud eu dweud - byddwn yn gwrando'n ofalus ar farn pobl.
Ymysg yr opsiynau a ddewiswyd o ran y bont dros yr Afon Dyfrdwy ar yr A494 roedd:
- adeiladu pont newydd sbon i'r de-ddwyrain o'r bont bresennol
- gwaith gwella ar y mynedfeydd i'r bont a'r ardaloedd cyfagos
- llwybrau cerdded a beicio newydd a gwell, nodweddion tirlunio a bioamrywiaeth gwell, a gwell seilwaith priffyrdd
Pwysig yw nodi y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith adeiladu yn digwydd i ffwrdd o'r ffordd bresennol, felly gall yr A494 aros ar agor yn ystod y rhan fwyaf o'r gwaith - gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu.
Mae mwy o wybodaeth am y Gorchmynion drafft ar gael ar-lein at A494 pont Afon Dyfrdwy | LLYW.CYMRU. Bydd y Gorchmynion hefyd ar gael i’w gweld gan y cyhoedd gydol cyfnod yr ymgynghoriad yn Llyfrgell Glannau Dyfrdwy a Swyddfa Cyffordd Llandudno Llywodraeth Cymru.
