Neidio i'r prif gynnwy

Llywiwch y dyfodol gyda’r Fframwaith Prentisiaethau Caffael a Chyflenwi Masnachol newydd!

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Grŵp Llywio Masnachol a Chaffael yn falch iawn o gyhoeddi datblygiad ein Fframwaith Prentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol cyntaf ar gyfer ein sector. Mae’r fframwaith hwn y mae mawr ei angen yn cynnig dau lwybr ar lefel 3 a 4, wedi’u cynllunio i arfogi’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr caffael â’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol.

Cyn cwblhau'r fframwaith, rydyn ni’n gofyn am eich adborth. Bydd eich sylwadau’n ddefnyddiol i sicrhau bod y llwybrau'n mynd i'r afael yn effeithiol ag anghenion esblygol y dirwedd gaffael.

Rydyn ni’n eich gwahodd i adolygu'r fframwaith drafft a'r set o gwestiynau ymgynghori isod.

Rhannwch eich sylwadau gyda gallumasnachol@llyw.cymru