Dadansoddiad o ddata wedi eu cysylltu yn ymchwilio i gryfder presenoldeb disgyblion Blwyddyn 11 mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru fel rhagfynegydd o ddilyniant i addysg ôl-16.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r dadansoddiad hwn yn archwilio'r cysylltiad rhwng presenoldeb yn yr ysgol ym mlwyddyn 11 a deilliannau dilyniant mewn addysg ôl-16.
Mae presenoldeb yn rhagfynegydd cryf o ddeilliannau dilyniant ôl-16.
- Mae gan bresenoldeb is gysylltiad cryf â llai o debygolrwydd y bydd disgyblion yn parhau i addysg ôl-16.
- Ymhlith dysgwyr a aeth ymlaen i addysg ôl-16, roedd presenoldeb is ym Mlwyddyn 11 yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o beidio â chwblhau'r cwrs y flwyddyn ganlynol.
- Roedd dysgwyr â phresenoldeb is a oedd yn symud ymlaen yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol yn hytrach na Safon UG.
Er bod cryfder y cysylltiad rhwng presenoldeb a deilliannau dilyniant wedi gwanhau yn dilyn pandemig COVID-19, mae presenoldeb yn parhau i fod y ffactor dylanwadol cryfaf ymhlith y rhai a ystyrir. Mae hyn yn tynnu sylw at rôl ganolog presenoldeb wrth lunio llwybrau dysgwyr.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Presenoldeb Blwyddyn 11 a dilyniant i addysg ôl-16: Medi 2016 i Awst 2024 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 40 KB
Cyswllt
Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil (ADR Cymru)
E-bost: YDG.Cymru@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
