Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r dadansoddiad hwn yn archwilio'r cysylltiad rhwng presenoldeb yn yr ysgol ym mlwyddyn 11 a deilliannau dilyniant mewn addysg ôl-16.

Mae'r deilliannau’n cynnwys:

  • dilyniant cyffredinol
  • cwblhau cyrsiau
  • dewisiadau lefel rhaglen

Mae'r dadansoddiad yn asesu cryfder rhagfynegol presenoldeb, sut mae hyn yn cael ei liniaru gan ffactorau drysu perthnasol, ac yn archwilio sut mae wedi esblygu dros amser (cyn ac ar ôl pandemig COVID-19). Y nod yw gwella dealltwriaeth o'r prif ysgogwyr y tu ôl i ddeilliannau cyfranogiad ôl-16.

Mae'r erthygl hon yn disgrifio'r cysylltiad rhwng presenoldeb a dilyniant ôl-16. Nid yw'n gwneud unrhyw honiadau am achosiaeth na'r mecanweithiau sylfaenol y tu ôl i'r cysylltiad hwn. Mae'n debygol y bydd sawl ffactor perthnasol wrth ystyried newidiadau yng nghryfder rhagfynegol presenoldeb ar ddilyniant. Mae hyn yn cynnwys newidiadau sy'n gysylltiedig â'r pandemig o ran arferion archwilio ac asesu yn ystod ac ar ôl pandemig COVID-19 (datganiad ystadegol Medr: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025) oherwydd y cydberthyniad rhwng cyrhaeddiad a phresenoldeb.

Cynyddodd lefelau absenoldeb mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru ar draws pob grŵp blwyddyn yn dilyn pandemig COVID-19, gyda gostyngiad bach yn y flwyddyn academaidd bresennol 2024 i 2025 (heb ei gynnwys yn y dadansoddiad hwn). Canfu datganiad ystadegol Llywodraeth CymruPresenoldeb ac absenoldeb o ysgolion uwchradd: Rhwng Medi 2024 ac Awst 2025 mai dysgwyr blwyddyn 11 oedd â’r lefel o absenoldeb cyffredinol uchaf o unrhyw grŵp blwyddyn yn 2018 i 2019, y flwyddyn yn union cyn pandemig COVID-19, a'r cynnydd uchaf rhwng 2018 a 2019 a 2022 i 2023, y flwyddyn yn union ar ôl y pandemig. Y duedd o absenoldeb cynyddol ym mlwyddyn 11, blwyddyn ysgol bwysig o ran pontio o addysg orfodol i addysg ôl-16, ysgogodd y dadansoddiad hwn i archwilio effaith absenoldeb ym mlwyddyn 11 ar ddilyniant a deilliannau cysylltiedig.

Mae nifer y ddysgwyr sy’n symud ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol wedi cynyddu rhwng y flynyddoedd academaidd 2020 i 2021 a 2024 i 2025. Fodd bynnag, mae cyfran y ddysgwyr sy’n symud ymlaen o Flwyddyn 11 wedi aros yn gyffredinol sefydlog dros yr un gyfnod (Sta/Medr/04/2025 Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025). Mae Medr wedi cyhoeddi y bydd ystadegau ar nifer y ddysgwyr sy’n symud ymlaen ar gyfer y flwyddyn academaidd diweddaraf 2025 i 2026 yn cael eu gyhoeddi ym mis Mawrth 2026 yn y datganiad ystadegol Medr sydd ar ddod: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol: Awst 2023 i Tachwedd 2025.

Nid yw’r dadansoddiad hwn yn archwilio gyfraddau dilyniant na nifer y ddysgwyr sy’n symud ymlaen. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â ddilyniant i addysg ôl-16.

Gwnaed y gwaith hwn gan y tîm Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil (DALfR), sef elfen Llywodraeth Cymru o bartneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru.

Cwmpas

Mae ein carfan sylfaenol yn cynnwys holl ddisgyblion blwyddyn 11 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru rhwng blynyddoedd academaidd 2016 i 2017 a 2023 i 2024, ac eithrio 2019 i 2020 a 2021 i 2022. Yn ystod y blynyddoedd hyn, cafodd y gwaith blynyddol o gasglu data ar bresenoldeb yn yr ysgol ei atal oherwydd amhariadau COVID-19 a'i ddisodli dros dro gan gasgliad dyddiol o systemau rheoli ysgolion. Er cysondeb a chymhariaeth, dim ond data presenoldeb blynyddol a ddefnyddiwyd fel mesurydd deilliannau ar gyfer y dadansoddiad hwn.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn cyfeirio at flynyddoedd academaidd. Er enghraifft, mae 2023 i 2024 yn golygu blwyddyn academaidd Medi 2023 i Awst 2024.

Prif bwyntiau

Mae presenoldeb yn rhagfynegydd cryf o ddeilliannau dilyniant ôl-16.

  • Mae gan bresenoldeb is gysylltiad cryf â llai o debygolrwydd y bydd disgyblion yn parhau i addysg ôl-16.
  • Ymhlith dysgwyr a aeth ymlaen i addysg ôl-16, roedd presenoldeb is ym Mlwyddyn 11 yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o beidio â chwblhau'r cwrs y flwyddyn ganlynol.
  • Roedd dysgwyr â phresenoldeb is a oedd yn symud ymlaen yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol yn hytrach na Safon UG.

Er bod cryfder y cysylltiad rhwng presenoldeb a deilliannau dilyniant wedi gwanhau yn dilyn pandemig COVID-19, mae presenoldeb yn parhau i fod y ffactor dylanwadol cryfaf ymhlith y rhai a ystyrir. Mae hyn yn tynnu sylw at rôl ganolog presenoldeb wrth lunio llwybrau dysgwyr.

O ffactorau dylanwadol eraill a ystyriwyd, roedd y grwpiau canlynol yn fwy tebygol o symud ymlaen o gymharu â'u categorïau cyfeirio.

  • Dysgwyr benywaidd.
  • Dysgwyr Asiaidd / Asiaidd Prydeinig.
  • Dysgwyr sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.
  • Dysgwyr a oedd yn gymwys neu'n rhugl yn Saesneg.

Roedd y grwpiau hyn yn llai tebygol hefyd o beidio â chwblhau cwrs neu ddewis cwrs galwedigaethol.

Mewn cyferbyniad, roedd dysgwyr â hunaniaeth genedlaethol nad ydyw’n Cymro/Cymraes yn llai tebygol o symud ymlaen yn gyffredinol. Roedd dysgwyr â hunaniaeth genedlaethol 'Seisnig, Gwyddelig neu Albanaidd', yn ogystal â dysgwyr sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim (FSM), yn llai tebygol o gwblhau eu rhaglen astudio ac yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol.

Atchweliad logistaidd

Ddefnyddiwyd atchweliad logistaidd i archwilio rhagfynegwyr deilliannau sy'n gysylltiedig â dilyniant ôl-16, gan gynnal y modelau mewn 3 cham.

  1. Model heb ei addasu sy'n amcangyfrif y cysylltiad cyffredinol rhwng presenoldeb blwyddyn 11 a phob deilliant.
  2. Model wedi'i addasu sy'n asesu presenoldeb gyda rheolaethau ar gyfer rhyw, grŵp ethnig, cymhwystra prydau ysgol am ddim, Saesneg fel iaith ychwanegol (EAL), hunaniaeth genedlaethol, a chyfrwng iaith yr ysgol.
  3. Model rhyngweithio sy'n archwilio presenoldeb a deilliannau yn ôl cyfnodau cyn ac ar ôl y pandemig i archwilio newidiadau dros amser.

Cyfrifwyd cymarebau ods (ORs) ar gyfer pob categori mewn perthynas â grŵp cyfeirio dynodedig. Mae OR o fwy nag 1 yn nodi bod y deilliant yn fwy tebygol ar gyfer y categori hwnnw o gymharu â'r grŵp cyfeirio, tra bod OR llai nag 1 yn nodi bod y deilliant yn llai tebygol.

Adroddir ar gymarebau ods ochr yn ochr â chyfyngau hyder (CI) i ddangos lefel yr ansicrwydd o amgylch y cysylltiad amcangyfrifedig oherwydd amrywioldeb samplu. Mae'r gymhareb ods yn rhoi amcangyfrif pwynt unigol. Mae'r cyfwng hyder yn nodi ystod y gwerthoedd y mae'r gwir effaith ar y boblogaeth yn debygol o ddisgyn ac yn helpu i asesu manwl gywirdeb ac arwyddocâd ystadegol yr amcangyfrif.

Oni nodir fel arall, mae cymarebau ods a gyflwynir yn arwyddocaol yn ystadegol i o leiaf y lefel 5%, gan nodi bod y cysylltiadau yn annhebygol o fod ar sail hap yn unig. [Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am atchweliad logistaidd a chymarebau ods yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Dilyniant cyffredinol

Y deilliant cyntaf a archwiliwyd oedd dilyniant cyffredinol o flwyddyn 11 i addysg ôl-16 yng Nghymru. Nid yw dysgwyr sy'n symud ymlaen y tu allan i Gymru wedi'u cynnwys yn y set ddata, a all ddylanwadu ar amcangyfrifon dilyniant cyffredinol (mae dysgwyr mewn awdurdodau lleol ar y ffin yn fwy tebygol o fynychu addysg ôl-16 yn Lloegr na dysgwyr ymhellach o'r ffin).

Cyfrifwyd cymarebau ods i gymharu tebygolrwydd dilyniant ar draws categorïau presenoldeb blwyddyn 11, gan ddefnyddio dysgwyr â phresenoldeb o '97% i 100%' fel y grŵp cyfeirio.

Ffigur 1: cymarebau ods heb eu haddasu ac wedi'u haddasu ar gyfer dilyniant i addysg ôl-16 yn ôl categori presenoldeb blwyddyn 11, 2016/17 i 2018/19 a 2022/23 i 2023/24

Image

Disgrifiad o ffigur 1: plot coedwig sy'n cymharu cymarebau ods ar draws categorïau presenoldeb. Dangosir pob categori ar gyfer modelau wedi'u haddasu a heb eu haddasu. Wrth i bresenoldeb leihau, mae'r tebygolrwydd o ddilyniant i addysg ôl-16 yn gostwng hefyd o'i gymharu â'r grŵp cyfeirio.

Ffynhonnell: Data Addysg Cysylltiedig, Llywodraeth Cymru

Mae'r cymarebau ods fel y dangosir yn ffigur 1 yn dangos bod dysgwyr mewn categorïau presenoldeb is yn llai tebygol o symud ymlaen o’u cymharu â'r grŵp cyfeirio (dysgwyr sydd â phresenoldeb o 97% i 100).

Yn y model heb ei addasu, o'u cymharu â'r rhai yn y categori cyfeirio '97% i 100%': 

  • roedd dysgwyr yn y categori '91% i 96%' 15% yn llai tebygol o symud ymlaen (OR = 0.85, CI: 0.81-0.90)
  • roedd dysgwyr yn y categori presenoldeb '81% i 90%' 38% yn llai tebygol o symud ymlaen (OR = 0.62, CI: 0.59-0.66)
  • roedd dysgwyr â phresenoldeb '80% ac is' 75% yn llai tebygol o symud ymlaen (OR = 0.25, CI: 0.23-0.26)

Dim ond gostyngiad bach a welwyd yng nghymarebau ods y model wedi'i addasu, sy’n dangos nad yw'r cysylltiad rhwng presenoldeb a dilyniant wedi'i effeithio rhyw lawer gan y ffactorau ychwanegol a ystyriwyd.

Ffigur 2: cymarebau ods cyn ac ar ôl y pandemig ar gyfer dilyniant i addysg ôl-16 yn ôl categori presenoldeb blwyddyn 11, 2016/17 i 2018/19 a 2022/23 i 2023/24

Image

Disgrifiad o ffigur 2: plot coedwig o gymarebau ods ar gyfer dilyniant yn ôl categori presenoldeb, gan gymharu cyfnodau cyn y pandemig ac ar ôl y pandemig. Ar ôl y pandemig, mae'r bylchau yn y tebygolrwydd o ddilyniant rhwng y grŵp cyfeirio a chategorïau presenoldeb eraill yn llai, gan ddangos cysylltiad gwannach rhwng presenoldeb a dilyniant ar ôl y pandemig.

Ffynhonnell: Data Addysg Cysylltiedig, Llywodraeth Cymru

Ar gyfer y cymariaethau cyn ac ar ôl y pandemig a ddangosir yn ffigur 2, amcangyfrifwyd y cymarebau ods yn ôl cyfnod amser gan ddefnyddio model rhyngweithio a oedd yn cynnwys presenoldeb, amser, a'u tymor rhyngweithio. Nid oedd elfennau cymysg ychwanegol wedi'u cynnwys yn y model, ac nid yw'r cymarebau ods sy'n deillio ohonynt wedi'u haddasu.

Mae Ffigur 2 yn dangos cymarebau ods ar gyfer dilyniant i addysg ôl-16 yn ôl categori presenoldeb. Roedd dysgwyr a oedd ym mlwyddyn 11 yn ystod blynyddoedd academaidd 2016 i 2017 i 2018 i 2019 yn cael eu hystyried fel y garfan cyn y pandemig a'r rhai a oedd ym mlwyddyn 11 ym mlynyddoedd academaidd 2022 i 2023 i 2023 i 2024 yn cael eu hystyried fel y garfan ar ôl y pandemig.

Mae'r gwahaniaeth yn nhebygolrwydd dilyniant dysgwyr sydd â phresenoldeb '97% i 100%' (y grŵp cyfeirio) o gymharu â chategorïau presenoldeb eraill yn llai ar ôl y pandemig, gan nodi bod cryfder rhagfynegol presenoldeb wedi gostwng yn gyffredinol. O gymharu â'r rhai yn y categori cyfeirio '97% i 100%’:

  • roedd y tebygolrwydd o symud ymlaen i addysg ôl-16 yn uwch ar gyfer dysgwyr gyda phresenoldeb o 91% i 96% ar ôl y pandemig (OR = 1.00, CI: 0.91 - 1.10, ddim yn berthnasol) na chyn y pandemig (OR = 0.79, CI: 0.74 - 0.84)
  • roedd y newid yn y gymhareb ods ar ôl y pandemig ar gyfer y grŵp presenoldeb '91% i 96%' yn dangos newid i ddim gwahaniaeth ystyrlon o ran y tebygolrwydd o symud ymlaen o'i gymharu â'r categori cyfeirio. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn arwyddocaol yn ystadegol a dylid dehongli'r ffigurau yn ofalus
  • roedd gan ddysgwyr yn y categori presenoldeb '81% i 90%' fwy o debygolrwydd o symud ymlaen o OR = 0.50 (CI: 0.47- 0.54), i OR = 0.79 (CI: 0.72 - 0.87)
  • cynyddodd y tebygolrwydd o symud ymlaen i ddysgwyr sydd â phresenoldeb '80% ac is' o OR = 0.20 (CI: 0.18-0.21), i OR = 0.29 (CI: 0.26 - 0.31)

Cynyddodd y cymarebau ods ar gyfer dysgwyr â phresenoldeb is ar ôl y pandemig, gan gynnwys y rhai sydd â phresenoldeb o 80% ac is. Mae hyn yn dangos bod y cysylltiad rhwng presenoldeb a dilyniant yn gwanhau yn gyffredinol. Mae'n adlewyrchu cynnydd yn nifer y dysgwyr mewn categorïau presenoldeb is tra bod dilyniant cyffredinol yn parhau i fod yn sefydlog ar y cyfan. Er gwaethaf y gostyngiad hwn mewn cryfder, roedd dysgwyr mewn categorïau presenoldeb is yn dal i fod yn sylweddol llai tebygol o symud ymlaen na'r rhai â phresenoldeb uwch.

Cwrs heb ei gwblhau

Yr ail ddeilliant a ystyriwyd gennym oedd peidio â chwblhau cwrs ôl-16. Roedd hyn yn canolbwyntio ar ddysgwyr a aeth ymlaen i addysg ôl-16 ac a adawodd heb gwblhau eu rhaglen ddiweddaraf. Mae'r dadansoddiad yn archwilio effaith presenoldeb ym mlwyddyn 11 ar y risg o beidio â chwblhau cwrs y flwyddyn ganlynol.

Cyfrifwyd cymarebau ods i gymharu'r tebygolrwydd o beidio â chwblhau ar draws categorïau presenoldeb blwyddyn 11, gan ddefnyddio dysgwyr â phresenoldeb o '97% i 100%' fel y grŵp cyfeirio.

Ffigur 3: cymarebau ods heb eu haddasu ac wedi'u haddasu ar gyfer peidio â chwblhau cwrs yn ôl categori presenoldeb blwyddyn 11, 2016/17 i 2018/19 a 2022/23 i 2023/24

Image

Disgrifiad o ffigur 3: plot coedwig sy'n cymharu'r cymarebau ods ar draws categorïau presenoldeb. Dangosir pob categori ar gyfer modelau wedi'u haddasu a heb eu haddasu. I'r rhai a wnaeth symud ymlaen, wrth i bresenoldeb leihau, mae'r tebygolrwydd o adael heb gwblhau eu rhaglen astudio yn cynyddu (o gymharu â'r grŵp cyfeirio).

Ffynhonnell: Data Addysg Cysylltiedig, Llywodraeth Cymru

Mae'r cymarebau ods fel y dangosir yn ffigur 3 yn dangos bod dysgwyr mewn categorïau presenoldeb is yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu cwrs, o’u cymharu â'r dysgwyr yn y grŵp cyfeirio. 

Yn y model heb ei addasu, o gymharu â'r rhai yn y categori cyfeirio '97% i 100%': 

  • roedd dysgwyr yn y categori '91% i 96%' 1.67 gwaith yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu rhaglen astudio (OR = 1.67, CI: 1.57 - 1.77)
  • roedd dysgwyr yn y categori presenoldeb '81% i 90%' bron i dair gwaith yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu rhaglen astudio (OR = 2.96, CI: 2.79 - 3.14)
  • roedd dysgwyr â phresenoldeb '80% ac is' dros chwe gwaith yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu rhaglen astudio (OR = 6.57, CI: 6.18 - 6.98)

Dangosodd y model wedi'i addasu nad oedd rheolaethau ar gyfer cyd-newidynnau yn cael fawr o effaith ar y cymarebau ods ar gyfer y categori '91% i 96%' a'r categori '81% i 90%', a oedd yn debyg i'w gwerthoedd heb eu haddasu. Fodd bynnag, yn y categori '80% ac is', gostyngodd y gymhareb ods o 6.57 i 5.94 (CI: 5.58 - 6.33) ar ôl addasu, sy'n awgrymu bod rhywfaint o'r cysylltiad rhwng presenoldeb a pheidio â chwblhau yn y model heb ei addasu yn deillio o ffactorau drysu eraill.

Ffigur 4: cymarebau ods cyn ac ar ôl y pandemig ar gyfer peidio â chwblhau cwrs yn ôl categori presenoldeb blwyddyn 11, 2016/17 i 2018/19 a 2022/23 i 2023/24

Image

Disgrifiad o ffigur 4: plot coedwig sy'n cymharu cymarebau ods ar gyfer categorïau presenoldeb, a ddangosir ar gyfer cyfnodau cyn y pandemig ac ar ôl y pandemig. Mae'r plot yn dangos bod y gwahaniaeth o ran tebygolrwydd deilliannau rhwng y grŵp cyfeirio a chategorïau presenoldeb eraill yn llai ar ôl y pandemig, sy’n dangos cysylltiad gwannach rhwng presenoldeb a pheidio â chwblhau cwrs o gymharu â'r garfan cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Data Addysg Cysylltiedig, Llywodraeth Cymru

Mae'r gwahaniaeth yn y tebygolrwydd o beidio â chwblhau rhwng dysgwyr sydd â phresenoldeb '97% i 100%' a chategorïau presenoldeb eraill yn is ar ôl y pandemig o gymharu â chyn y pandemig. Mae hyn yn dangos bod cryfder rhagfynegol presenoldeb wedi gostwng yn gyffredinol ar gyfer y deilliant hwn. 

I'r rhai a aeth ymlaen i addysg ôl-16:

  • roedd dysgwyr yn y categori presenoldeb '91% i 96%' dros ddwywaith yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu rhaglen astudio o’u cymharu â’r dysgwyr yn y categori cyfeirio cyn y pandemig (OR = 2.07, CI: 1.94 - 2.21), a gostyngodd hyn i 1.2 gwaith ar ôl y pandemig (OR = 1.20, CI: 1.04 - 1.39)
  • roedd dysgwyr yn y categori presenoldeb '81% i 90%' 4.7 gwaith yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu rhaglen astudio o’u cymharu â’r dysgwyr yn y categori cyfeirio cyn y pandemig (OR = 4.70, CI: 4.39 - 5.04), a gostyngodd hyn i 2.3 gwaith yn fwy tebygol ar ôl y pandemig (OR = 2.33, CI: 2.04 - 2.68)
  • roedd dysgwyr â phresenoldeb '80% o bresenoldeb ac is' 10.7 gwaith yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu rhaglen astudio o’u cymharu â dysgwyr yn y categori cyfeirio cyn y pandemig (OR = 10.70, CI: 9.84 - 11.63), gan ostwng i 7.5 gwaith yn fwy tebygol ar ôl y pandemig (OR = 7.50, CI: 6.60 - 8.55)

Yn y cyfnodau cyn ac ar ôl y pandemig, roedd dysgwyr mewn categorïau presenoldeb is yn fwy tebygol o adael heb gwblhau eu cwrs o’u cymharu â'r dysgwyr yn y grŵp cyfeirio. Er bod cryfder y cysylltiad hwn wedi gwanhau ar ôl y pandemig, roedd dysgwyr â phresenoldeb is yn dal i wynebu risg sylweddol uwch o beidio â chwblhau na'r rhai mewn bandiau presenoldeb uwch.

Dewisiadau Cwrs (Lefel Uwch Gyfrannol (UG) neu Alwedigaethol)

Y trydydd deilliant a archwiliwyd oedd dewisiadau cwrs. Mae'r ods a adroddwyd yn cynrychioli dysgwyr a aeth ymlaen i addysg ôl-16 a'r tebygolrwydd o ddewis llwybr galwedigaethol yn hytrach na llwybr Safon UG. Er bod llwybrau amrywiol eraill ar gael i ddysgwyr ar ôl blwyddyn 11, nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn yr adran hon o'r dadansoddiad. Roedd y model atchweliad yn gofyn am ddeilliant dau gategori, ac mae'r ddau lwybr a archwiliwyd yn cynrychioli'r llwybrau ôl-16 mwyaf cyffredin.

Ffigur 5: cymarebau ods heb eu haddasu ac wedi'u haddasu ar gyfer dewisiadau cyrsiau galwedigaethol yn ôl categori presenoldeb blwyddyn 11, 2016/17 i 2018/19 a 2022/23 i 2023/24

Image

Disgrifiad o ffigur 5: plot coedwig sy'n cymharu cymarebau ods ar draws categorïau presenoldeb. Dangosir pob categori ar gyfer modelau wedi'u haddasu a heb eu haddasu. Wrth i bresenoldeb leihau, mae'r tebygolrwydd o ddewis cwrs galwedigaethol yn cynyddu o gymharu â'r grŵp cyfeirio.

Ffynhonnell: Data Addysg Cysylltiedig, Llywodraeth Cymru

Mae'r cymarebau ods a ddangosir yn ffigur 5 yn dangos bod dysgwyr mewn categorïau presenoldeb is yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol o gymharu â'r grŵp cyfeirio. 

Yn y model heb ei addasu, o gymharu â'r rhai yn y categori cyfeirio '97% i 100%': 

  • roedd dysgwyr yn y categori '91% i 96%' 1.5 gwaith yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol (OR = 1.50, CI: 1.46 - 1.54)
  • roedd dysgwyr yn y categori presenoldeb '81% i 90%' 2.5 gwaith yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol (OR = 2.50, CI: 2.42 - 2.58)
  • roedd dysgwyr â phresenoldeb '80% ac is' 6.1 gwaith yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol (OR = 6.06, CI: 5.80 - 6.34)

Dangosodd y model wedi'i addasu nad oedd rheolaethau ar gyfer cyd-newidynnau'n cael fawr o effaith ar y cymarebau ods ar gyfer y categori '91% i 96%' a'r categori '81% i 90%', a oedd yn parhau i fod yn debyg i'w gwerthoedd heb eu haddasu. Ar gyfer y categori '80% ac is', gostyngodd y gymhareb ods o OR = 6.06 (CI: 5.80 - 6.34), i OR = 5.43 (CI: 5.19 - 5.69) ar ôl addasu, gan awgrymu, er bod y cysylltiad yn parhau i fod yn gryf, roedd rhan o’r cysylltiad rhwng presenoldeb a'r dewis cwrs a welwyd yn y model heb ei addasu yn deillio o ffactorau drysu eraill.

Ffigur 6: cymarebau ods cyn ac ar ôl y pandemig ar gyfer dewisiadau cyrsiau galwedigaethol yn ôl categori presenoldeb blwyddyn 11, 2016/17 i 2018/19 a 2022/23 i 2023/24

Image

Disgrifiad o ffigur 6: plot coedwig sy'n cymharu cymarebau ods ar gyfer categorïau presenoldeb, a ddangosir ar gyfer cyfnodau cyn y pandemig ac ar ôl y pandemig. Ar ôl y pandemig, mae'r gwahaniaethau yn nhebygolrwydd y deilliannau rhwng y grŵp cyfeirio a chategorïau presenoldeb eraill yn llai, sy'n dangos cysylltiad gwannach rhwng presenoldeb a dewisiadau cwrs o gymharu â'r garfan cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Data Addysg Cysylltiedig, Llywodraeth Cymru

Mae'r gwahaniaeth yn y tebygolrwydd o ddewis cwrs galwedigaethol rhwng dysgwyr sydd â phresenoldeb o '97% i 100%' (y grŵp cyfeirio) a chategorïau presenoldeb eraill yn llai ar ôl y pandemig, sy'n dangos bod cryfder rhagfynegol presenoldeb wedi gostwng yn gyffredinol ar gyfer y deilliant hwn.

I'r rhai a aeth ymlaen i ddarpariaeth ôl-16 ac a ddewisodd naill ai gyrsiau Safon UG neu gyrsiau galwedigaethol:

  • roedd dysgwyr yn y categori presenoldeb '91% i 96%' 1.7 gwaith yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol na'r categori cyfeirio cyn y pandemig (OR = 1.67, CI: 1.62 -1.73), ac roedd hyn yn gostwng i 1.3 gwaith ar ôl y pandemig (NEU = 1.32 CI: 1.25 - 1.39)
  • roedd dysgwyr yn y categori presenoldeb '81% i 90%' 3.4 gwaith yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol na'r categori cyfeirio cyn y pandemig (OR = 3.45, CI: 3.29 - 3.61), ac roedd hyn yn gostwng i 2.1 gwaith ar ôl y pandemig (OR = 2.13, CI: 2.02 - 2.25)
  • roedd dysgwyr â phresenoldeb o '80% o bresenoldeb ac is' 8.3 gwaith yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol o gymharu â'r categori cyfeirio cyn y pandemig (OR = 8.29, CI: 7.57 - 9.09), ac roedd hyn yn gostwng i 5.9 gwaith ar ôl y pandemig (OR = 5.87, CI: 5.52 - 6.25)

Yn y cyfnodau cyn ac ar ôl y pandemig, roedd dysgwyr mewn bandiau presenoldeb is yn fwy tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol mewn perthynas â'r grŵp cyfeirio. Er bod cryfder y cysylltiad rhwng presenoldeb a deilliant yn llai ar ôl y pandemig, roedd dysgwyr yn y bandiau presenoldeb is yn dal yn fwy tebygol o ddewis cyrsiau galwedigaethol dros gyrsiau lefel Safon UG yn gyffredinol.

Ffactorau ychwanegol

Er mwyn archwilio sut mae ffactorau drysu yn dylanwadu ar ddilyniant (yn gyffredinol, peidio â chwblhau cwrs a'r dewis pwnc) rydym wedi amcangyfrif cymarebau ods wedi'u haddasu ar gyfer pob categori demograffig sydd wedi'u cynnwys yn y model wedi'i addasu fel y dangosir yn ffigur 7.

Ffigur 7: cymarebau ods wedi'u haddasu ar gyfer deilliannau sy'n gysylltiedig â dilyniant yn ôl nodweddion demograffig blwyddyn 11, 2016/17 i 2018/19 a 2022/23 i 2023/24

Image

Disgrifiad o ffigur 7: plot coedwig sy'n cymharu cymarebau ods ar gyfer pob categori demograffig sydd wedi'u cynnwys yn y model wedi'i addasu ar draws pob deilliant. O gymharu â'r grwpiau cyfeirio, roedd bod yn fenyw, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, disgybl sy’n mynychu ysgol gyfrwng Gymraeg, a bod yn gymwys/rhugl yn Saesneg yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o ddilyniant, tebygolrwydd is o beidio â chwblhau, a thebygolrwydd is o ddewis cwrs galwedigaethol. 

Ffynhonnell: Data Addysg Cysylltiedig, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Ar gyfer deilliant 1 (dilyniant cyffredinol) nid yw'r categorïau canlynol o unrhyw arwyddocâd ar y lefel 5%: Grŵp ethnig: Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig; Grŵp ethnig arall. Hyfedredd EAL: Datblygu; Prydau ysgol am ddim: Yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim. 

[Nodyn 2] Ar gyfer deilliant 2 (peidio â chwblhau cwrs) nid yw'r categorïau canlynol o unrhyw arwyddocâd ar y lefel 5: Hunaniaeth genedlaethol: Hunaniaeth genedlaethol Brydeinig; Hunaniaeth genedlaethol arall. Hyfedredd EAL: Newydd/cynnar; Datblygu. Ar gyfer Grŵp Ethnig: mae'r categori Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig wedi'i atal oherwydd maint isel y sampl, a arweiniodd at amcangyfrif nad oedd yn bodloni trothwyon dibynadwyedd.

[Nodyn 3] Ar gyfer deilliant 3 (dewisiadau cwrs) nid yw'r categori canlynol o unrhyw arwyddocâd ar lefel 5: Hunaniaeth genedlaethol: Hunaniaeth genedlaethol arall. 

Yn y model wedi'i addasu, o gymharu â dynion, roedd dysgwyr benywaidd yn fwy tebygol o symud ymlaen. Ymhlith y rhai a symudodd ymlaen, roedd menywod yn llai tebygol o adael cyn cwblhau eu rhaglen astudio ac yn llai tebygol o ddewis cwrs galwedigaethol. Gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer dysgwyr Asiaidd/Asiaidd Prydeinig a'r rhai mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Roedd dysgwyr yn y categorïau EAL cymwys neu rugl hefyd yn fwy tebygol o symud ymlaen ac, os oeddent yn symud ymlaen, roeddent yn llai tebygol o adael cyn cwblhau eu cwrs, ac yn llai tebygol o ddewis llwybrau galwedigaethol. I'r gwrthwyneb, o gymharu â'r categori cyfeirio, roedd dysgwyr â hunaniaeth genedlaethol heblaw Cymro/Cymraes yn llai tebygol o symud ymlaen. Roedd dysgwyr â'r hunaniaeth genedlaethol 'Seisnig, Gwyddelig neu Albanaidd' yn fwy tebygol o beidio â chwblhau eu rhaglen astudio, ac yn fwy tebygol o ddewis cyrsiau galwedigaethol.

Ar gyfer dilyniant yn gyffredinol, roedd gan gymhwystra am brydau ysgol am ddim gymhareb ods o 1 ac nid oedd yn arwyddocaol yn y model wedi'i addasu, er ei fod yn ymddangos yn ddylanwadol o'i brofi ar ei ben ei hun. Mae hyn yn awgrymu bod y cysylltiad wedi'i esbonio gan ffactorau eraill, yn enwedig presenoldeb. Ar ôl i bresenoldeb gael ei gynnwys yn y model, diflannodd effaith annibynnol prydau ysgol am ddim, gan nodi bod cynnwys presenoldeb naill ai'n cyfryngu neu'n cymysgu’r cysylltiad rhwng prydau ysgol am ddim a dilyniant.

Ar gyfer y deilliannau eraill, ymhlith y rhai a symudodd ymlaen, roedd cymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o beidio â chwblhau cwrs a dewis cwrs galwedigaethol.

Yn ein modelau wedi'u haddasu, y categori presenoldeb oedd yn dangos y cysylltiad cryfaf â phob deilliant yn gyson, ac mae hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd presenoldeb o ran dylanwadu ar lwybrau dysgwyr.

Gwybodaeth am setiau data

Er mwyn sicrhau cysondeb o fewn carfannau ac osgoi dyblygu ymdrechion, darparwyd set ddata gysylltiedig gan Medr, Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru.

Lluniwyd y set ddata hon yn wreiddiol ar gyfer eu cyhoeddiad ym mis Chwefror 2025: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025 (Medr)

Cyfunodd set ddata gysylltiedig Medr ffynonellau data lluosog i roi darlun cynhwysfawr o ddilyniant dysgwyr:.

  • Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD): casgliad electronig o ddata ar lefel disgyblion ac ysgol o'r holl ysgolion cynradd, canol, uwchradd, meithrin ac arbennig a gynhelir, a gesglir ym mis Ionawr bob blwyddyn.
  • Casglu data ôl-16: data ar lefel disgyblion ac ysgolion a ddychwelir i Lywodraeth Cymru, gan awdurdodau lleol a phob ysgol uwchradd a chanol a gynhelir sydd â dysgwyr ym mlwyddyn 12 y Cwricwlwm Cenedlaethol ac uwch, a gesglir yn yr hydref bob blwyddyn.
  • Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR): data manwl am ddysgwyr gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 a gynhelir yng Nghymru. Mae cyflwyniadau data yn cael eu rhewi'n gyfnodol trwy gydol y flwyddyn academaidd, ac ar ôl hynny mae'r data a gyflwynir yn cael ei gloi i'w ddilysu a'i ddefnyddio'n swyddogol.
  • Casglu data am wybodaeth reoli wythnosol yn ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol: ffigurau presenoldeb wythnosol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru i fonitro presenoldeb disgyblion. Mae ffurflenni'n cael eu rhewi'n wythnosol, ac ar ôl hynny caiff y data a gyflwynir ei gloi i'w ddilysu.

Yna, cysylltwyd data presenoldeb blynyddol Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio rhif unigryw'r disgybl (UPN) fel ein prif faes cysylltu. Mae'r casgliad blynyddol o ddata presenoldeb yn ffurflen statudol Llywodraeth Cymru ar ddata presenoldeb ar lefel disgyblion o bob ysgol a gynhelir yng Nghymru ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.

Mae ein set ddata gysylltiedig yn cwmpasu blynyddoedd academaidd 2016 i 2017 a 2023 i 2024. Fodd bynnag, nid oedd data presenoldeb blynyddol ar gael ar gyfer cyfnod y pandemig; felly, mae'r dadansoddiad yn eithrio blynyddoedd academaidd 2019 i 2020, 2020 i 2021, a 2021 i 2022.

Yn ogystal, dim ond cofrestriad i'r flwyddyn academaidd yn syth ar ôl blwyddyn 11 sy'n cael ei ystyried. Nid yw dysgwyr a gymerodd seibiant ar ôl blwyddyn 11 ac a ddechreuodd addysg ôl-16 mewn blwyddyn academaidd ddiweddarach wedi'u cynnwys yn set ddata gysylltiedig Medr.

Yn y casgliad blynyddol o ddata presenoldeb, cesglir data ar gyfer ysgolion arbennig a gynhelir ar lefel ysgol gyfanredol ac nid yw'r rhan fwyaf o'r data ar bresenoldeb yn ôl nodweddion disgyblion ar gael ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion hyn. Felly, nid yw cofnodion o ysgolion arbennig yn cael eu cynrychioli yn y dadansoddiad hwn.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ar gyfer set ddata gysylltiedig Medr, gellir dod o hyd i fanylion llawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys diffiniadau, yn eu cyhoeddiad, Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025 (Medr).

Mae'r prif ystyriaethau ansawdd a allai effeithio ar y dadansoddiad yn yr erthygl hon yn cynnwys:

Data dros dro rhwng 2024 a 2025: mae'r ffigurau yn seiliedig ar ddata yn ystod y flwyddyn. Mae’r data am raglenni astudio ôl-16 wedi'i dynnu o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) pan gafodd ei rewi ym mis Ionawr 2025. Efallai na fydd y data yn cynnwys yn llawn yr holl ddysgu hyd at y dyddiad rhewi a bydd yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Nid yw data ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd wedi'i gynnwys, a gallai hyn effeithio ar ystadegau ar gyfer 2024 i 2025.

Data dros dro rhwng 2023 a 2024: mae ffigurau ar gyfer 2023 i 2024 yn rhai dros dro hefyd, gan fod data o'r Casgliad Data Ôl-16 yn disodli'r wybodaeth reoli wythnosol unwaith y bydd ar gael.

Ansawdd data presenoldeb wythnosol: nid yw gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb yn yr ysgol wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol achrededig a gall fod yn destun diwygiadau yn y dyfodol.

Ansawdd a chymharedd data

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cyfrifwyd presenoldeb fel cyfran y sesiynau a fynychwyd allan o gyfanswm y sesiynau posibl. Ni ystyriwyd y math o absenoldeb, gan gynnwys a oedd absenoldeb wedi'i awdurdodi neu heb ei awdurdodi.

Gall y cyfrannau ar gyfer categorïau nifer disgyblion ac absenoldeb a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn fod yn wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd yn y datganiad ystadegol blynyddol Presenoldeb ac absenoldeb o ysgolion uwchradd. Mae'r gwahaniaethau hyn yn codi oherwydd y fethodoleg cysylltu data a ddefnyddir i greu'r set ddata integredig. Yn ystod y broses gysylltu, mae’n anochel bod rhai cofnodion yn cael eu colli oherwydd dynodwyr nad ydynt yn cyfateb neu ddata anghyflawn ar draws ffynonellau. O ganlyniad, ni ddylid ystyried bod modd cymharu’r ffigurau yn y dadansoddiad hwn yn uniongyrchol ag ystadegau presenoldeb swyddogol.

Ar gyfer amcangyfrifon awdurdodol o dueddiadau absenoldeb a phresenoldeb cyffredinol, dylai defnyddwyr gyfeirio at y datganiad presenoldeb blynyddol, sy'n parhau i fod yn ffynhonnell swyddogol o ystadegau presenoldeb. Bwriad y ffigurau yn yr adroddiad hwn yw cefnogi mewnwelediadau dadansoddol i ddeilliannau dilyniant a deilliannau o beidio â chwblhau, yn hytrach na darparu mesurau presenoldeb diffiniol.

Mae'r datganiad hwn yn cyd-fynd â Thaenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni.

Atchweliad logistaidd

Mae atchweliad logistaidd yn modelu'r cysylltiad rhwng newidynnau esboniadol a deilliant deuaidd trwy amcangyfrif logarithm cymhareb ods y deilliant. Mae cynyddu cyfernodau model yn cynhyrchu cymarebau ods, sy'n disgrifio sut mae ods y deilliant yn wahanol ar gyfer grwpiau gwahanol.

Yn y dadansoddiad hwn, defnyddiwyd RStudio (fersiwn 4.2.2) i ffitio modelau atchweliad logistaidd, gan archwilio effaith presenoldeb blwyddyn 11 fel ffactor dylanwadol ar ddeilliannau sy'n gysylltiedig â dilyniant ôl-16.

Y 3 deilliant a ddadansoddwyd gennym oedd:

  • dilyniant (dilyniant cyffredinol o flwyddyn 11 i addysg ôl-16)
  • peidio â chwblhau (dysgwyr a adawodd addysg ôl-16 heb gwblhau eu rhaglen astudio ddiweddaraf)
  • dewisiadau cwrs (math o gwrs Lefel UG neu Alwedigaethol)

Ar gyfer pob deilliant, crëwyd modelau atchweliad deuaidd mewn 3 cham.

Cam 1: Ffitiwyd model heb ei addasu i amcangyfrif y cysylltiad cyffredinol rhwng presenoldeb ym mlwyddyn 11 a phob deilliant dilyniant. Roedd hyn yn darparu dealltwriaeth sylfaenol o'r cysylltiad, heb ystyried dylanwad ffactorau eraill. 

Cam 2: Yna, cynhyrchwyd model wedi'i addasu, gan ymgorffori nodweddion dysgwyr ychwanegol: rhywedd, grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, cymhwystra prydau ysgol am ddim, EAL a chyfrwng iaith yr ysgol. Roedd cynnwys y newidynnau hyn yn asesu dylanwad presenoldeb gan roi rheolaethau yn eu lle ar gyfer ffactorau drysu posibl yr un pryd.

Cam 3: Archwiliwyd y rhyngweithio rhwng presenoldeb a'r cyfnodau amser cyn ac ar ôl y pandemig, er mwyn edrych a yw'r cysylltiad rhwng presenoldeb a deilliannau dilyniant wedi newid dros amser. Trwy gynnwys y rhyngweithio hwn, ymchwiliwyd i weld a yw effaith presenoldeb wedi aros yn gyson neu wedi'i ddylanwadu gan ffactorau allanol ehangach, yn benodol pandemig COVID-19.

Cyfyngiadau atchweliad

Er bod atchweliad logistaidd yn ddull a ddefnyddir yn eang, mae yna rai cyfyngiadau cydnabyddedig i'r dull hwn sydd wedi ffurfio dyluniad ein dadansoddiad.

Cyfyngiad deilliannau deuaidd: mae atchweliad logistaidd wedi'i gynllunio ar gyfer deilliannau deuaidd. Byddai deilliannau gyda chategorïau lluosog yn gofyn am ddull amgen (e.e. atchweliad logistaidd lluosnominal neu drefnol).

Pan fydd newidynnau rhagfynegydd yn gydberthynol iawn (lluosunllinedd), gall effeithio ar ddibynadwyedd y model trwy ystumio amcangyfrifon cyfernod a chynyddu ansicrwydd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd asesu effaith unigol pob newidyn a gall arwain at gymarebau ods ansefydlog neu gamarweiniol. Er mwyn lliniaru'r mater hwn, cyfunwyd neu eithriwyd newidynnau penodol wrth ddatblygu'r model. Er enghraifft, nid oedd cyrhaeddiad wedi'i gynnwys yn y model oherwydd bod ganddo gydberthynas agos â phresenoldeb.

Gofyniad sampl mawr: gydag atchweliad logistaidd, mae'n ofynnol cael maint sampl digon mawr i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy, yn enwedig pan fydd yn cynnwys mwy nag un rhagfynegydd. Roedd ein dadansoddiad yn cadw at y rheol Digwyddiadau fesul Newidyn (EVP), sy'n argymell o leiaf 10 digwyddiad deilliant fesul newidyn rhagfynegydd yn y model. Er enghraifft, os yw'r model yn cynnwys saith rhagfynegydd, dylai fod o leiaf 70 achos ar gyfer y deilliant o ddiddordeb. Fe wnaeth hyn helpu i sicrhau amcangyfrifon cyfernod sefydlog a lleihau'r risg o orffitio.

Mae atchweliad logistaidd yn ddull gwerthfawr ar gyfer archwilio cysylltiadau rhwng newidynnau a rhagfynegi deilliannau deuaidd. Mae cymarebau ods yn rhoi mewnwelediad i'r tebygolrwydd cymharol y bydd gwahanol grwpiau yn profi deilliant penodol. Fodd bynnag, nid yw'r model yn cyfrif am yr holl ffactorau dylanwadu posibl, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u heithrio oherwydd lluosunllinedd neu'r rhai nad ydynt wedi'u dal yn y data.

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir

Ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol Cymru. Mae'r awdurdodau yn talu eu gwariant yn rhannol o'r dreth gyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol a wneir gan Lywodraeth Cymru.

Llwybr galwedigaethol

Wedi'i ddiffinio yn y dadansoddiad hwn fel rhaglen astudio alwedigaethol o fewn sefydliad addysg bellach neu chweched dosbarth ysgol. Mae rhaglenni galwedigaethol yn gyfres o weithgareddau dysgu y mae dysgwr yn eu gwneud gyda'r nod o baratoi ar gyfer maes gwaith penodol. Mae BTEC yn fath nodweddiadol o gymhwyster galwedigaethol a ddilynir fel rhan o raglen alwedigaethol. Nid yw mathau eraill o ddarpariaeth alwedigaethol, fel prentisiaethau, wedi'u cynnwys.

Nodiadau

Mae erthyglau ystadegol yn ymwneud yn gyffredinol â dadansoddiadau untro ac nid oes unrhyw ddiweddariadau wedi'u cynllunio ar eu cyfer, o leiaf yn y tymor byr, ac maen nhw'n sicrhau bod dadansoddiadau o'r fath ar gael i gynulleidfa ehangach na fyddai'n bodoli fel arall. Fe'u defnyddir gan fwyaf i gyhoeddi dadansoddiadau sy'n archwiliadol mewn rhai ffyrdd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres newydd arbrofol o ddata
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol ar gyfer rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol ynddo'i hun
  • tynnu sylw at ymchwil a gynhaliwyd gan sefydliadau eraill, naill ai wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol amlygu'r casgliadau, neu ddatblygu'r ymchwil ymhellach
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o bosibl o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau a'n bwletinau ystadegol arferol, ond y gellir dod i gasgliadau ystyrlon o'r canlyniadau yr un fath

Pan fo ansawdd yn peri pryder, gall hyn ddod i'r wyneb yn un neu ragor o'r ffyrdd canlynol.

  • Methu â nodi'n gywir yr amserlen a ddefnyddiwyd (fel sy'n gallu digwydd wrth ddefnyddio ffynhonnell weinyddol).
  • Ansawdd ffynhonnell y data neu'r data a ddefnyddiwyd.
  • Rhesymau penodol eraill.

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn ddigonol er mwyn peidio cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union amserlen yn ganolog i'r casgliadau posibl a wneir, neu efallai mai maint y canlyniadau sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa yn hytrach na'r union ganlyniadau.

Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn ystadegyn swyddogol, ond gall fod yn seiliedig ar allbynnau ystadegau swyddogol, ac rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd wrth ddatblygu'r gwaith. Bydd asesiad o'r cryfderau a'r gwendidau yn y dadansoddiad yn cael ei gynnwys yn yr erthygl hon, er enghraifft cymariaethau â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellid defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Mae erthyglau'n amodol ar arferion cyhoeddi fel y’u diffinnir yn y protocol ar drefniadau cyhoeddi ac felly, er enghraifft, yn cael eu cyhoeddi ar ddyddiad a gyhoeddir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Caffael a Chysylltu Data ar gyfer Ymchwil (ADR Cymru)
E-bost: YDG.Cymru@llyw.cymru

Cyfryngau 0300 025 8099

Image
Logo YDG Cymru