Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 5 Medi 2022 i 17 Mawrth 2023.

Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd isod a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.

Prif bwyntiau

  • Mae cyfartaledd presenoldeb dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 89.5%.
  • Yr wythnos diweddaraf yw 13 i 17 Mawrth, a’r wythnos flaenorol yw 6 i 10 Mawrth 2023
  • Roedd cyfartaledd o 90.2% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i  fyny o 88.7% yr wythnos cynt.  Mae'r data dros dro ar gyfer yr wythnos diwethaf.
  • Roedd cyfartaledd o 6.4% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb awdurdodedig ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i lawr o 7.1% yr wythnos cynt.
  • Roedd cyfartaledd o 3.4% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb heb awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i lawr o 4.2% yr wythnos cynt.
  • Does dim gwahaniaeth hyd yma yn y gyfradd presenoldeb yn ôl rhyw ar gyfer y flwyddyn academaidd, gyda 89.6% ar gyfer bechgyn a 89.4% ar gyfer merched.
  • Mae’r gyfradd presenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod ar ei uchaf ym mlwyddyn  4 (91.7%) ac ar ei isaf ym mlwyddyn 11 (85.0%).
  • Mae’r gyfradd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod yn uwch ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys am PYD (91.4%) na disgyblion sydd yn gymwys am PYD (83.9%).
  • Y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma yw salwch, gyda  52.4% o sesiynau wedi'u methu oherwydd y rheswm hyn.

Ansawdd

Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.

Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22.

Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau

  • Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
  • Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
  • Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag "absennol".

Dylai disgyblion nad oedd yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd y gweithredu diwydiannol ar ddydd Mercher 1 Chwefror  2 Mawrth 2023 wedi’u cofnodi ar y gofrestr presenoldeb gan ddefnyddio codau “Y” (nid oes angen mynychu) neu “#” (ysgol ar gau i bob disgybl). Nid yw disgyblion a gofnodir gan ddefnyddio un o’r codau hyn wedi’u cynnwys wrth gyfrifo cyfraddau presenoldeb neu absenoldeb ac felly ni fyddent yn cael unrhyw effaith ar y ffigurau yn y datganiad hwn.

Cymharoldeb

Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi 2022 i 17 Mawrth 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 66 KB

ODS
66 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Steve Hughes

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.