Neidio i'r prif gynnwy

Ar ddydd Mercher 10 Mehefin 2020 cyhoeddwyd fod ysgolion ar agor ar gyfer mwy o ddisgyblion o 29 Mehefin ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda DataCymru i ddatblygu casgliad data wythnosol gan awdurdodau lleol. Mae hyn yn casglu nifer yr:

  • ysgolion a oedd ar agor
  • plant a wahoddwyd i fynychu'r ysgol
  • plant a fynychodd yr ysgol am o leiaf un sesiwn yn ystod yr wythnos

1. Ffigurau cenedlaethol rhagarweiniol

Erbyn 6 Mehefin 2020, darparwyd data llawn gan 12 awdurdod lleol. Yr awdurdodau hyn yw Sir Ddinbych, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chaerdydd. Mae plant yn Ynys Môn yn parhau i fynychu eu hybiau ac mae ysgolion yn parhau ar gau o ganlyniad i'r achosion o coronafeirws yn Llangefni. Roedd materion cyflenwad dŵr mewn rhai ysgolion yn Blaenau Gwent yn golygu nad oedd pob un o’u hysgolion ar agor.

Y prif ffigurau ar gyfer Cymru yn ystod yr wythnos 29 Mehefin i 3 Gorffennaf  yn y 12 awdurdod a darparodd data llawn yw:

  • 865 allan o 873 schools ar agor (99%)
  • o gwmpas 180,000 o ddisgyblion wedi’u gwahodd i fynychu o leiaf un sesiwn wythnos diwethaf
  • 115,000 disgyblion wedi mynychu o leiaf un sesiwn wythnos diwethaf
  • o’r disgyblion gyda gwahoddiad, 64% o ddisgyblion wedi mynychu.
  • 46% o’r holl ddisgyblion wedi mynycho o leiaf un sesiwn (wedi’i selio ar nifer y disgyblion fesul awdurdod heblaw’r rhai ym mlynyddoedd 11 a 13).

2. Gwybodaeth ansawdd

Dylai'r data gael ei ystyried yn rhagarweiniol. Cymerwyd ffigurau o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Nid ydynt eto wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol.

3. Diweddariad nesaf

Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol eraill ddarparu data'r wythnos hon a byddwn yn diweddaru'r wybodaeth hon cyn gynted ag y gallwn.

Cyhoeddir data ar gyfer yr wythnos rhwng 6 Gorffennaf a 10 Gorffennaf ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf ganol dydd.

4. Gwybodaeth cefndir

Mae ysgolion yng Nghymru wedi bod ar gau i ran fwyaf o ddisgyblion ers 20 Mawrth .

Hyd at 26 Mehefin roeddwn yn casglu a chyhoeddi data dyddiol ar bresenoldeb mewn lleoliadau awdurdod lleol. Nid yw hwn yn gymharol i’r data yn y pennawd hwn.

Ar gyfer rhagor o wybodaeth am y broses o ail agor Ysgolion, gwelwch ein canllawiau ar cynyddu gweithrediadau mewn ysgolion o 29 Mehefin.

Ar gyfer gwybodaeth gyffredinol, gwelwch ein canllawiau a'r Addysg a gofal plant: coronafeirws.

 

5. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 77/2020