Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Caiff y rhan fwyaf o'r eitemau eu rhagnodir drwy bractisau meddygon teulu (gan feddygon teulu gan amlaf, ond nid ganddyn nhw yn unig) ac mae'r ystadegau'n canolbwyntio'n bennaf ar yr eitemau hyn.

Mae hefyd adran newydd ar eitemau a ragnodwyd gan ymarferwyr deintyddol, fferyllwyr ac optometryddion yng Nghymru, sy'n gweithio y tu allan i bractisau meddygon teulu.

I gael cymhariaeth gyson rhwng gwahanol wledydd y DU, dylid defnyddio mesur ychydig yn wahanol er mwyn dadansoddi, sef 'presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned'. Mae'r mesur hwn yn cyfrif yr holl bresgripsiynau a ddosbarthwyd mewn fferyllfeydd cymunedol, yn seiliedig ar leoliad y fferyllfa yn hytrach na'r rhagnodwr. Mae Tabl 1 yn dangos cymhariaeth rhwng presgripsiynau gan bractisau meddygon teulu a phresgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned, ac mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran Pa ddata y dylwn eu defnyddio?

Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un wahanol feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn ni waeth beth yw swm neu gyfaint y feddyginiaeth neu'r cyfarpar. Dim ond eitemau sy'n cael eu dosbarthu sy'n cael eu cyfrif.

Ni chaiff eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd mewn ysbytai eu cyfrif yn y naill set ddata na’r llall, ond os oedd presgripsiwn wedi’i roi gan feddyg ysbyty ac yna wedi'i ddosbarthu mewn fferyllfa gymunedol, byddai’n cael ei gyfrif yn y ffynhonnell eilaidd o bresgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned.

Prif bwyntiau

  • Cafodd ychydig llai nag 84.5 miliwn o eitemau eu rhagnodi gan bob ymarferydd gofal sylfaenol yng Nghymru a'u dosbarthu yn y gymuned yn 2022-23.
  • O'r rhain, cafodd 84.2 miliwn o eitemau eu rhagnodi drwy bractisau meddygon teulu, sef cynnydd o 1.3 miliwn (1.6%) o eitemau ers 2021-22 a'r nifer uchaf a gofnodwyd.
  • Cafodd 256,000 o eitemau eu rhagnodi gan ymarferwyr deintyddol, 42,000 o eitemau gan fferyllwyr sy'n gweithio mewn fferyllfeydd cymunedol, a 16,000 o eitemau gan optometryddion.
  • Mae nifer yr eitemau a ragnodir ac a ddosberthir drwy bractisau meddygon teulu wedi cynyddu'n gyson dros y tymor hwy; mae nifer yr eitemau a ragnodir wedi cynyddu 5.0% yn ystod y pum mlynedd diwethaf a 10.4% yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
  • Nifer yr eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yn 2022-23 oedd 25.7 fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu, sef 0.9 eitem yn fwy na'r nifer a welwyd bum mlynedd yn ôl ac 1.9 eitem yn fwy na deng mlynedd yn ôl.
  • Roedd bron i 60% o'r eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru i drin cyflyrau a oedd yn effeithio ar naill ai'r system gardiofasgwlaidd, y brif system nerfol, neu'r system endocrin. 
  • Cafwyd cynnydd 7.4% yng nghyfanswm cost net cynhwysion yr eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sef y cynnydd blynyddol mwyaf ers 2003-04. Cafwyd cynnydd o £13.75 yn y gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.
  • Mae nifer yr eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd ar lefel bwrdd iechyd yn amrywio. Roedd nifer yr eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd fesul uned ragnodi yng Nghaerdydd a'r Fro 25.9% yn llai nag yng Nghwm Taf Morgannwg.
  • Cafodd mwy o eitemau eu rhagnodi a'u dosbarthu i gleifion sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd mwy nag mewn ardaloedd o amddifadedd llai; cafodd 1.8 (neu 6.6%) yn fwy o eitemau eu rhagnodi fesul pen o'r boblogaeth yn y ddau gwintel o amddifadedd mwyaf o gymharu â'r ddau gwintel o amddifadedd lleiaf.
  • Roedd costau net y cynhwysion fesul eitem a ragnodwyd yn amrywio ychydig yn ôl y cwintel amddifadedd. Roedd y gost fesul eitem 20c yn is yn y cwintel o amddifadedd mwyaf nag yn y cwintel o amddifadedd mwyaf ond un, sef y gwahaniaeth mwyaf a welwyd rhwng yr holl gwintelau.
  • Cafodd mwy o eitemau presgripsiwn fesul pen o'r boblogaeth eu dosbarthu yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. Fodd bynnag, roedd cyfran uwch o'r eitemau a ddosbarthwyd yng Nghymru o gost gymharol isel, am fod costau net y cynhwysion fesul eitem bresgripsiwn yn is yng Nghymru nag yn y tair gwlad arall.

Presgripsiynau Practisau Meddygon Teulu

Mae ystadegau yn yr adran hon yn seiliedig ar eitemau a ragnodwyd gan ymarferwyr sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr holl eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu yn ogystal â nyrsys, fferyllwyr a rhagnodwyr awdurdodedig eraill sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol mewn practisau meddygon teulu. Nid yw'n cynnwys eitemau a ragnodwyd gan unrhyw ymarferwyr sy'n gweithio y tu allan i bractisau meddygon teulu.

Ffigur 1: Eitemau presgripsiwn a roddwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart sy'n dangos bod nifer yr eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd wedi cynyddu'n gyson dros y deng mlynedd diwethaf. Mae nifer yr eitemau a ragnodwyd fesul pen hefyd wedi cynyddu.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Crynodeb o ddata presgripsiynau yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Yn 2022-23 cafodd 84.2 miliwn o eitemau eu rhagnodi drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru a’u dosbarthu mewn fferyllfeydd cymunedol, sef y nifer uchaf ond un a gofnodwyd erioed. Mae hyn yn cyfateb i 25.9 o eitemau fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Cafodd ychydig dros 1.3 miliwn yn fwy o eitemau eu rhagnodi a'u dosbarthu yn y gymuned yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, sef cynnydd 1.6%. Mae hyn 0.3 eitem yn fwy fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Mae'r duedd tymor hwy yn dangos cynnydd sy'n gyson yn fras yn nifer yr eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd; cynyddodd nifer yr eitemau 5.0% yn ystod y pum mlynedd diwethaf a 10.4% yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Yn yr un modd, cafodd 0.9 eitem yn fwy eu rhagnodi a'u dosbarthu fesul pen yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac 1.9 eitem yn fwy yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Ffigur 2: Cost net cynhwysion eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart sy'n dangos bod cost net cynhwysion yr holl eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu ac a ddosbarthwyd yn y gymuned wedi dangos tuedd ar i fyny dros y pum mlynedd diwethaf. Mae cost net y cynhwysion fesul pen wedi cynyddu ar raddfa debyg.

[Nodyn 1] Nid yw costau net cynhwysion ar gyfer pob blwyddyn wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant. Ni ystyrir bod addasiadau safonol ar gyfer chwyddiant yn briodol gan fod prisiau cyffuriau’n amodol ar reolaethau dan y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol a rheolaethau canolog eraill.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Crynodeb o ddata presgripsiynau yn ôl blwyddyn ar StatsCymru

Yn 2022-23, cyfanswm cost net cynhwysion yr holl eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned oedd bron £673 miliwn, sy’n cyfateb i £207.39 fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Cafwyd cynnydd o ychydig dros £46 miliwn, neu 7.4%, yng nghyfanswm cost net cynhwysion o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cafwyd cynnydd o £13.75 yn y gost fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Yn y tair blynedd cyn 2018-19, roedd cyfanswm cost net cynhwysion wedi dangos tuedd fach i lawr, ond mae wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny. Mae cost net cynhwysion wedi cynyddu 19.5% yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ond mae wedi cynyddu 18.2% yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Cafwyd cynnydd o £31.70 yng nghost fesul pen yr eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf ond cafwyd cynnydd o £27.93 yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Ffigur 3: Costau net cyfartalog cynhwysion fesul eitem a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart sy'n dangos bod y gost gymedrig fesul eitem a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned wedi amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond mae wedi aros yn agos at £7.40 yn y rhan fwyaf o flynyddoedd ers 2013-14. Yn yr un modd, mae'r gost ganolrifol fesul eitem wedi amrywio bob blwyddyn ond mae wedi aros yn agos at £1.90.

[Nodyn 1] Mae cost gymedrig fesul eitem yn cyfeirio at eitemau a ragnodwyd yn y flwyddyn ariannol lawn.

[Nodyn 2] Mae cost ganolrifol fesul eitem yn cyfeirio at eitemau a ragnodwyd ym mis Mawrth bob blwyddyn yn unig. Defnyddir data ar gyfer mis unigol am resymau ymarferol o gofio’r nifer uchel o eitemau presgripsiwn a roddir. Gall y canolrif amrywio ar gyfer misoedd eraill yn ystod y flwyddyn.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Yn 2022-23, cost net gymedrig y cynhwysion fesul eitem oedd £8.00. Mae hyn £0.43 yn uwch nag yn 2021-22 a £0.53 yn uwch na 10 mlynedd yn ôl.

Y gost ganolrifol fesul eitem ym mis Mawrth 2023 oedd £2.17. Mae hyn £0.53 yn uwch nag ym mis Mawrth 2022 a £0.21 yn uwch na deng mlynedd yn ôl.

Mae'r gost ganolrifol fesul eitem yn llawer llai na'r gost gymedrig fesul eitem gan fod nifer gymharol isel o eitemau y mae cost net eu cynhwysion yn uchel iawn. Bydd yr eitemau cost uchel hyn yn cael mwy o effaith ar y cymedr na'r canolrif. Mae'r canolrif yn fwy priodol i'w ddefnyddio ar gyfer cost eitemau presgripsiwn mwy 'cyffredin'.

Penodau Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF)

Mae Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) (Pharmaceutical Press) yn gyfeirlyfr fferyllol sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth am ragnodi. Mae’n rhoi’r holl feddyginiaethau mewn categorïau, ac mae ‘penodau’ y llyfr hwn yn ffurfio’r categorïau lefel uchaf.

Ffigur 4: Nifer yr eitemau a chanran cyfanswm yr eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, yn ôl pennod Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy'n dangos amrywiaeth eang yn nifer a chanran yr eitemau a ragnodwyd rhwng yr 20 o benodau yn Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain. Roedd tri chwarter o'r holl eitemau a ragnodwyd wedi eu cynnwys mewn pum pennod: y system gardiofasgwlaidd; y brif system nerfol; y system endocrin; y system gastroberfeddol; a'r system anadlol.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Eitemau a chost presgripsiynau yn ôl ardal a phennod BNF - cyfres amser ar StatsCymru

Roedd bron i hanner (48.8%) o'r holl eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd i drin y system gardiofasgwlaidd neu'r brif system nerfol.

Y bennod o'r Llyfr Fformiwlâu â'r nifer mwyaf o eitemau a ragnodwyd oedd y system gardiofasgwlaidd. Yn 2022-23, cafodd 23.6 miliwn o eitemau (sef 28.1% o'r holl eitemau) eu rhagnodi a'u dosbarthu i drin y system gardiofasgwlaidd, sy’n cyfateb i 7.3 eitem fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Cafodd 17.4 miliwn o eitemau (sef 20.7% o'r holl eitemau) eu rhagnodi a'u dosbarthu i drin y brif system nerfol, sy’n cyfateb i 5.4 eitem fesul pen o’r boblogaeth sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Ymhlith y penodau eraill o'r Llyfr Fformiwlâu a oedd â mwy na 5% o'r holl eitemau a ragnodwyd roedd penodau'r system endocrin (10.5%), y system gastroberfeddol (9.2%), y system anadlol (7.3%) a maeth a gwaed (5.6%).

Ffigur 5: Costau net cynhwysion a chanran cyfanswm cost eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, yn ôl Pennod Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart far sy'n dangos amrywiaeth eang yng nghostau net cynhwysion eitemau a ragnodwyd rhwng yr 20 o benodau yn Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain. Roedd tri chwarter o gyfanswm cost net y cynhwysion ar gyfer eitemau a ragnodwyd mewn chwe phennod: y system endocrin, y system gardiofasgwlaidd, y brif system nerfol, y system anadlol, maeth a gwaed a'r system gastroberfeddol.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Eitemau a chost presgripsiynau yn ôl ardal a phennod BNF - cyfres amser ar StatsCymru

Er bod bron i hanner yr holl eitemau a ragnodwyd ar gyfer triniaethau ar gyfer y system gardiofasgwlaidd a'r brif system nerfol, cost net eu cynhwysion gyda'i gilydd oedd ychydig llai na thraean (30.3%) cyfanswm y gost.

Roedd costau net cynhwysion yn uchaf (sef £116 miliwn) ar gyfer triniaethau ar gyfer y system endocrin, a oedd yn cyfrif am chweched (17.2%) cyfanswm cost yr holl eitemau a ragnodwyd.

Y penodau o'r Llawlyfr Fformiwlâu â'r gost uchaf fesul eitem oedd offer cyfarpar stoma (£77.17), clefydau malaen (£26.65) a chyfarpar anymataliaeth (£26.56). Y dosbarthiadau â'r gost isaf fesul eitem oedd y system gardiofasgwlaidd (£4.36), clefydau'r cymalau a chyhyrysgerbydol (£4.96) a'r system gastroberfeddol (£5.37).

Yr eitemau mwyaf cyffredin a ragnodwyd

Mae pob eitem a ragnodir yn cael ei chategoreiddio yn ôl pennod yn y Llyfr Fformiwlâu (er enghraifft, y brif system nerfol), adran (er enghraifft, poenliniaryddion), is-baragraff (er enghraifft, poenliniaryddion anopioid a pharatoadau compownd) ac enw cemegol (er enghraifft, paracetamol). Darperir data ar gyfer yr holl gategorïau hyn ar ddangosfwrdd y presgripsiynau.

Mae'r adran hon yn canolbwyntio ar yr eitemau mwyaf cyffredin (enwau cemegol) a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

Ffigur 6: Y 10 eitem a ragnodwyd amlaf drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far sy'n dangos bod y deg eitem fwyaf cyffredin yn amrywio o Atorvastatin (3.2 miliwn o eitemau) i Salbutamol (1.7 miliwn o eitemau).

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Presgripsiyanau: paratoadau unigol, 2001-02 i 2022-23 (MS Excel)

Rhagnodwyd Atorvastatin (meddyginiaeth rheoleiddio lipidau) fwy na 3.2 miliwn o weithiau a hon oedd yr eitem a ragnodwyd amlaf yn 2022-23. Mae hyn yn cyfateb i un o bob 25 o eitemau a ragnodwyd (4.1%).

Roedd y deg eitem fwyaf cyffredin yn cyfrif am 27.0% o'r holl eitemau a ragnodwyd yn 2022-23 a'r deg eitem hynny oedd y deg eitem a ragnodwyd amlaf yn 2021-22 hefyd.

Cafwyd cynnydd yn nifer y presgripsiynau ar gyfer saith o'r eitemau o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cafwyd y cynnydd mwyaf ar gyfer Atorvastatin (6.6%) a Salbutamol (4.0%). Cafwyd gostyngiad yn nifer y presgripsiynau ar gyfer tair eitem o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cafwyd y gostyngiadau mwyaf ar gyfer Levothyroxine sodium (1.7%) ac Omeprazole (0.4%).

Presgripsiynau gan staff mewn practisau meddygon teulu

Er mai meddygon teulu fydd yn rhoi'r rhan fwyaf o bresgripsiynau, mae rolau rhai aelodau eraill o staff sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu hefyd wedi'u trwyddedu i ragnodi eitemau.

Ffigur 7: Eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, 2019-20 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell sy'n dangos bod nifer yr eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu wedi cynyddu ychydig rhwng 2019-20 a 2022-23, a bod meddygon teulu wedi rhagnodi bron i 81.5 miliwn o eitemau yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Ffigur 8: Eitemau a ragnodwyd gan staff ehangach mewn practisau meddygon teulu ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, 2019-20 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy'n dangos bod nifer yr eitemau a ragnodwyd gan nyrsys a fferyllwyr sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu wedi cynyddu rhwng 2019-20 a 2022-23, a bod staff yn y ddwy rôl hyn wedi rhagnodi mwy na 2.5 miliwn o eitemau gyda'i gilydd yn ystod y flwyddyn ddiweddaraf.

[Nodyn 1] Yn 2020-21 rhagnodwyd 2,524 o eitemau lle nad oedd y math o ymarferwr yn hysbys. Nid yw'r rhain yn ymddangos mewn unrhyw gategori ar y siart hon.

[Nodyn 2] Mae hyn yn cynnwys parafeddygon, ffisiotherapyddion, a rhagnodwyr eraill sy'n darparu gofal uniongyrchol i gleifion.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Rhwng 2019-20 a 2022-23, meddygon teulu oedd yn rhagnodi'r rhan fwyaf o'r eitemau mewn practisau meddygon teulu, ac mae nifer yr eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu wedi cynyddu'n gyson dros y cyfnod amser. Fodd bynnag, mae cyfran yr holl eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu wedi gostwng ychydig o 97.4% yn 2019-20 i 96.8% yn 2022-23.

Yn 2022-23, cafodd ychydig dros 1.5 miliwn o eitemau eu rhagnodi gan nyrsys a chafodd ychydig dros 1.0 miliwn o eitemau eu rhagnodi gan fferyllwyr sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu.

Mae canran yr holl eitemau a ragnodir gan nyrsys wedi cynyddu ym mhob blwyddyn y mae data ar gael ar ei chyfer, ac yn 2022-23, nyrsys oedd yn rhagnodi 1.8% o'r holl eitemau a ragnodwyd rwy bractisau meddygon teulu.

Cafodd 1.3% o'r holl eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yn 2022-23 eu rhagnodi gan fferyllwyr. Mae'r ganran hon wedi aros yn sefydlog dros y 3 blynedd diwethaf.

Cafodd ychydig dros 83,000 o eitemau eu rhagnodi gan staff eraill mewn practisau meddygon teulu, sy'n cynnwys ymarferwyr gofal uniongyrchol i gleifion fel parafeddygon a ffisiotherapyddion.

Eitemau a ragnodwyd gan ymarferwyr gofal sylfaenol eraill

Mae ymarferwyr gofal sylfaenol eraill sy'n gweithio mewn practisau deintyddol y GIG, fferyllfeydd cymunedol a phractisau optometreg hefyd yn gallu rhoi presgripsiynau. Nid yw hyn yn cynnwys eitemau a ragnodwyd mewn ysbytai nac eitemau a ragnodwyd gan ddarparwyr nad ydynt yn ddarparwyr y GIG.

Ffigur 9: Eitemau a ragnodwyd gan ymarferwyr gofal sylfaenol eraill ac a ddosbarthwyd yn y gymuned, 2020-21 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy'n dangos mai ymarferwyr deintyddol y GIG fu'n gyfrifol am ragnodi'r rhan fwyaf o'r eitemau a ragnodwyd y tu allan i bractisau meddygon teulu. Fodd bynnag, cafwyd gostyngiad bach yn nifer yr eitemau a ragnodwyd gan ddeintyddion rhwng 2020-21 a 2022-23. Rhagnodwyd nifer llai ond cynyddol o eitemau gan fferyllwyr ac optometryddion.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Yn 2022-32, cafodd ychydig llai na 255,700 o eitemau eu rhagnodi drwy bractisau deintyddol y GIG, sef 3.7% yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol.

Rhagnodwyd ychydig dros 41,500 o eitemau drwy fferyllfeydd cymunedol, bron i dair gwaith (cynnydd 146.9%) swm yr eitemau a ragnodwyd yn y flwyddyn flaenorol.

Cafodd ychydig dros 15,500 o eitemau eu rhagnodi drwy optometryddion, sef 55.6% yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol.

At hynny, er nad oedd yw'n wasanaeth gofal sylfaenol, cafodd 173 o eitemau eu rhagnodi'n uniongyrchol drwy Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn 2022-23. Er mai nifer fach iawn o eitemau yw hyn o gymharu ag ymarferwyr eraill, roedd nifer yr eitemau a ragnodwyd 3.5 gwaith yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol.

Cyflenwi Meddyginiaethau Brys

Mewn rhai amgylchiadau brys, fel cleifion yn colli meddyginiaeth neu feddyginiaeth cleifion yn dod i ben yn annisgwyl, gall fferyllwyr cymunedol ddarparu swm cyfyngedig o feddyginiaethau heb bresgripsiwn. Caiff y rhain eu cyfrif ar wahân i eitemau a ragnodwyd yn uniongyrchol gan fferyllwyr cymunedol ac felly nid ydynt yn cael eu cyfrif yn Ffigur 9.

Ffigur 10: Y 10 meddyginiaeth fwyaf cyffredin a ddarparwyd drwy gyflenwi meddyginiaethau brys, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart far sy'n dangos y 10 eitem fwyaf cyffredin a ragnodwyd drwy'r cynllun cyflenwi meddyginiaethau brys yn 2022-23, yn amrywio o Ramipril (6,185 o eitemau) i Metformin Hydroclorid (3,169 o eitemau).

Ffynhonnell: System Dewis Fferylliaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cafodd cyfanswm o 131,337 o eitemau eu cyflenwi drwy'r trefniadau cyflenwi meddyginiaethau brys. Cafodd ychydig dros 650 o wahanol eitemau eu rhagnodi ac roedd y 10 eitem fwyaf cyffredin yn cyfrif am 38.0% o'r cyfanswm.

Yn 2022-23, y feddyginiaeth a ddosbarthwyd amlaf drwy gyflenwi meddyginiaethau brys oedd Ramipril, sef cyffur a ddefnyddir i drin pwysedd gwaed uchel. Dilynwyd hyn yn agos gan sodiwm Levothyroxine (thyroid tanweithredol), Sertraline hydroclorid (iselder / pryder) a Salbutamol (asthma).

Cyfeintiau presgripsiynau

Ym mis Hydref 2022, argymhellodd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y byddai cleifion, practisau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol i gyd yn elwa o gyfnodau rhagnodi hirach, pan fo hynny'n briodol yn glinigol. Yn ymarferol, drwy gyflenwi meddyginiaeth ar gyfer dau fis yn hytrach nag un mis, byddai cleifion yn cael yr un faint o feddyginiaeth o hyd ond bydda angen iddynt wneud llai o ymweliadau â meddygon teulu a fferyllfeydd.

O ran data, dros amser byddai'r newid polisi hwn yn golygu bod llai o eitemau'n cael eu rhagnodi i rai cleifion i drin cyflyrau penodol, ond byddai cyfaint yr eitem a ragnodir yn cynyddu.

Gan y gellir rhagnodi'r un eitemau ar wahanol ffurfiau (hylif/tabledi/powdr) ac mewn gwahanol gyfeintiau, nid yw'n bosibl mesur cyfaint yr eitemau a ragnodwyd mewn modd teg, ar gyfer yr holl o eitemau a ragnodwyd. Fodd bynnag, gellir defnyddio sampl o 44 o feddyginiaethau, a elwir yn feddyginiaethau 'basged 28 diwrnod', fel brasamcan ar gyfer cyfeintiau presgripsiynau. Mae'r 44 o feddyginiaethau hyn fel arfer yn cael eu cymryd mewn un dos y dydd, felly gall cyfanswm y tabledi neu'r capsiwlau wedi'u rhannu â'r nifer o weithiau y rhagnodir yr eitem roi arwydd o nifer cyfartalog y diwrnodau o driniaeth a ragnodwyd.

Ffigur 11: Cyfaint cyfartalog presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau ymhlith y meddyginiaethau 'basged 28 diwrnod'

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell sy'n dangos bod cyfeintiau presgripsiynau wedi aros yn agos at 28 dos fesul presgripsiwn rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2022. Fodd bynnag, mae'r duedd wedi bod yn cynyddu ychydig ym mron pob mis ers hynny ac mae wedi bod yn fwy na 29 ers mis Rhagfyr 2022.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Ym mis Mawrth 2023, roedd 29.3 o ddosau ar gyfartaledd fesul presgripsiwn yn y meddyginiaethau 'basged 28 diwrnod'. Mae hyn 1.1 dos fesul presgripsiwn (neu 3.9%) yn uwch nag ym mis Mawrth 2022.

Dadansoddiad yn ôl bwrdd iechyd lleol

Mae demograffeg ardaloedd byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn amrywio ac felly mae eu hanghenion clinigol yn wahanol. Er enghraifft, mae data cleifion sydd wedi cofrestru â phractisau meddygon teulu yng Nghymru (StatsCymru) ar gyfer mis Hydref 2022 yn dangos bod 21% o gleifion yng Nghymru yn 65 oed neu'n hŷn, ond roedd hyn yn amrywio rhwng 27% ym Mhowys i 16% yng Nghaerdydd a'r Fro.

I gyfrif am y wahanol broffiliau oedran a welir ym mhob bwrdd iechyd, dadansoddir data'r byrddau iechyd yn ôl yr uned ragnodi, yn hytrach nag yn ôl poblogaeth y bwrdd iechyd yn unig. Caiff unedau rhagnodi eu cyfrifo drwy roi mwy o bwysoliad (o ffactor o dri) i’r boblogaeth sy'n 65 oed neu'n hŷn. Gwneir yr addasiad hwn am fod angen mwy o feddyginiaethau ar gleifion hŷn fel arfer. Drwy wneud yr addasiad hwn ar gyfer proffiliau oedran, mae'r gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd, o'u dadansoddi ar sail unedau rhagnodi, yn debygol o adlewyrchu gwahaniaethau yn iechyd y poblogaethau a gwahaniaethau yn y diwylliant rhagnodi lleol.

Mae ffigurau 12 i 14 yn darparu dadansoddiad yn seiliedig ar eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu'n unig.

Ffigur 12: Nifer yr eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu, fesul uned ragnodi, 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart far sy'n dangos bod nifer yr eitemau a roddwyd fesul uned ragnodi yn amrywio o 15.1 yng Nghaerdydd a'r Fro i 20.4 yng Nghwm Taf Morgannwg, yn 2022-23.

[Nodyn 1] Defnyddir nifer y cleifion sydd wedi cofrestru â phractisau meddygon teulu hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol i gyfrifo unedau rhagnodi, ym mis Hydref 2022

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Ffigur 13: Cost net cynhwysion (£) eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu, fesul uned ragnodi, 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart far sy'n dangos bod cyfanswm cost net cynhwysion eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu fesul uned ragnodi yn amrywio o £133.68 yng Nghaerdydd a'r Fro i £161.43 yng Nghwm Taf Morgannwg.

[Nodyn 1] Defnyddir nifer y cleifion sydd wedi cofrestru â phractisau meddygon teulu hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol i gyfrifo unedau rhagnodi, ym mis Hydref 2022

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Ffigur 14: Cost net cynhwysion fesul eitem a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu, fesul uned ragnodi [Nodyn 1], 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart far sy'n dangos bod cost gyfartalog eitemau a roddwyd fesul uned ragnodi yn amrywio o £7.71 yn Aneurin Bevan i £8.83 yng Nghaerdydd a'r Fro.

‌[Nodyn 1] Defnyddir nifer y cleifion sydd wedi cofrestru â phractisau meddygon teulu hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol i gyfrifo unedau rhagnodi, ym mis Hydref 2022.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Yn 2022-23, roedd nifer yr eitemau a ragnodwyd ac a ddosbarthwyd yn amrywio'n fawr rhwng pob bwrdd iechyd. Cafodd 25.9% yn llai o eitemau eu rhagnodi fesul uned ragnodi yng Nghaerdydd a'r Fro nag yng Nghwm Taf Morgannwg.

Yn yr un modd, roedd costau net y cynhwysion ar gyfer eitemau a ragnodwyd ym mhob bwrdd iechyd hefyd yn amrywio. Roedd y gost fesul uned ragnodi £27.75 yn is yng Nghaerdydd a'r Fro nag yng Nghwm Taf Morgannwg.

Fodd bynnag, roedd llai o amrywiaeth yn y gost fesul eitem a ragnodwyd, fesul uned ragnodi, ac roedd chwech o'r saith bwrdd iechyd o fewn £0.30 i gyfartaledd Cymru. Roedd y gost uchaf fesul eitem, fesul uned rhagnodi i'w gweld yng Nghaerdydd a'r Fro, a oedd 14.6% yn uwch nag yn Aneurin Bevan.

Mae'r ystadegau'n awgrymu bod y galw am eitemau fesul uned ragnodi yn llai ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ond bod angen cyfran uwch o eitemau mwy costus ar drigolion y bwrdd iechyd nag mewn byrddau iechyd eraill. I'r gwrthwyneb, roedd angen mwy o eitemau fesul uned ragnodi yng Nghwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan, ond roedd angen cyfran uwch o eitemau llai costus ar drigolion y byrddau iechyd hynny nag mewn byrddau iechyd eraill.

Rhagnodi yn ôl amddifadedd clystyrau

Gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a data poblogaeth practisau meddygon teulu (StatsCymru), mae'n bosibl cyfrifo mesur amddifadedd bras ar lefel y practis meddyg teulu a'r gydweithfa/clwstwr meddygon teulu.

Mae'r adran hon yn crynhoi eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yn ôl amddifadedd clwstwr, gan ddefnyddio'r mesur amddifadedd ar gyfer canran y cleifion sydd wedi cofrestru â phractisau sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd o amddifadedd mwyaf yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019. Mae'r 64 o glystyrau wedi'u rhestru o'r rhai o amddifadedd mwyaf i'r rhai o amddifadedd lleiaf, ac wedi'u rhannu'n gwintelau o faint cyfartal. Mae'r cwintel o amddifadedd mwyaf (cwintel 1) yn cynnwys y 13 o glystyrau sydd â'r ganran uchaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd. Mae'r cwintel o amddifadedd lleiaf yn cynnwys y 13 o glystyrau sydd â'r ganran isaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd.

Mae manylion llawn y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gael yn yr erthygl ystadegol Poblogaeth a gweithlu clwstwr practisau cyffredinol a gofal sylfaenol yn ôl amddifadedd: ar 31 Rhagfyr 2021.

Ffigur 15: Nifer yr eitemau a ragnodwyd fesul poblogaeth yn ôl cwintel amddifadedd clwstwr, 2023-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart far sy'n dangos amrywiadau yn nifer yr eitemau a ragnodwyd yn ôl y cwintel amddifadedd, yn amrywio o 28.0 o eitemau y person yn y cwintel o amddifadedd mwyaf ond un i 24.6 o eitemau y person yn y cwintel o amddifadedd lleiaf.

Ffynonellau: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru; Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Llywodraeth Cymru

Eitemau presgripsiwn a chostau yn ôl cwintel amddifadedd clystyrau ar StatsCymru

Ffigur 16: Siart 10: Cost net cynhwysion fesul eitem a ragnodwyd yn ôl cwintel amddifadedd clwstwr, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 16: Siart far sy'n dangos amrywiadau bach yng nghostau net y cynhwysion fesul eitem a ragnodwyd yn ôl cwintel amddifadedd, gan amrywio o £7.82 yr eitem yn y cwintel o amddifadedd mwyaf i £8.02 yr eitem yn y cwintel o amddifadedd lleiaf ond un.

Ffynonellau: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru; Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, Llywodraeth Cymru

Eitemau presgripsiwn a chostau yn ôl cwintel amddifadedd clystyrau ar StatsCymru

Yn 2022-23, cafwyd gwahaniaethau bach yn nifer yr eitemau a ragnodwyd a'u cost ar draws y rhan fwyaf o gwintelau amddifadedd clwstwr.

Er nad yw'r ystadegau'n dangos perthynas gwbl linol rhwng nifer yr eitemau a ragnodwyd ac amddifadedd, rhagnodwyd mwy o eitemau fesul person yn y ddau gwintel o amddifadedd mwyaf nag yn y ddau gwintel o amddifadedd lleiaf. 

Rhagnodwyd 0.7 (neu 2.9%) yn fwy o eitemau fesul pen o'r boblogaeth yn y cwintel o amddifadedd mwyaf nag yn y cwintel o amddifadedd lleiaf.

Rhagnodwyd y nifer mwyaf o eitemau fesul pen o'r boblogaeth yn y cwintel o amddifadedd mwyaf ond un, lle rhagnodwyd 3.3 (neu 11.8%) yn fwy o eitemau nag yn y cwintel o amddifadedd lleiaf. Mae dros 60% o boblogaeth y cwintel o amddifadedd mwyaf ond un yn byw yn ardaloedd byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg neu Aneurin Bevan, sef y ddau fwrdd iechyd sydd â'r cyfraddau rhagnodi uchaf fesul uned ragnodi.

Roedd cost net y cynhwysion fesul eitem a ragnodwyd yn amrywio ychydig rhwng cwintelau amddifadedd ac roedd y gost fesul eitem yn y cwintel o amddifadedd mwyaf 20c yn is nag yn y cwintel o amddifadedd mwyaf ond un, sef y gwahaniaeth mwyaf a welwyd rhwng yr holl gwintelau.

Mae hyn yn awgrymu er bod mwy o eitemau yn cael eu rhagnodi i bobl sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd mwy, mae costau'r eitemau'n eithaf tebyg i'r rhai a ragnodir i bobl mewn ardaloedd o amddifadedd llai.

Cymariaethau â'r DU

Mae'r adran hon yn cymharu nifer yr eitemau presgripsiwn a ddosbarthwyd fesul pen o’r boblogaeth, cost net y cynhwysion fesul pen o’r boblogaeth, a’r gost fesul eitem bresgripsiwn ym mhob un o bedair gwlad y DU.

Mae'r data am bresgripsiynau yn y siartiau hyn yn seiliedig ar leoliad y fferyllfa gymunedol lle cafodd eitemau eu dosbarthu, yn hytrach na lleoliad y practis meddyg teulu a roddodd y presgripsiwn. Felly, bydd ystadegau ar gyfer Cymru yn yr adran hon yn wahanol i'r ystadegau a gyflwynwyd yn yr adrannau eraill yn y datganiad. Mae presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned yn fesur cyson sydd ar gael ar gyfer pob un o'r pedair gwlad.

Er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y gwledydd, defnyddir amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (2021) y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr adran hon, yn hytrach na nifer y bobl sydd wedi cofrestru â phractis meddyg teulu. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg yn y nodyn ansawdd am amcangyfrifon canol blwyddyn.

Nodwch fod y data diweddaraf ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban yn cyfeirio at 2020-21, ar gyfer Gogledd Iwerddon mae’n cyfeirio at flwyddyn galendr 2022.

Ffigur 17: Eitemau presgripsiwn a ddosbarthwyd mewn fferyllfeydd cymunedol fesul pen o'r boblogaeth, gwledydd y DU, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 17: Siart far sy'n dangos bod nifer yr eitemau a ddosbarthwyd yn y gymuned, fesul pen o'r boblogaeth yn amrywio o 20.1 yn yr Alban i 27.3 yng Nghymru yn 2022-23.

Ffynonellau: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Cymru), Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (Lloegr); Public Health Scotland (Yr Alban) a'r Business Services Organisation (Gogledd Iwerddon).

Ffigur 18: Cost net cynhwysion fesul pen o’r boblogaeth, gwledydd y DU 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 18: Siart far sy'n dangos bod cost net cynhwysion eitemau a ddosbarthwyd fesul pen o'r boblogaeth yn amrywio o £184.41 yn Lloegr i £240.60 yng Ngogledd Iwerddon.

Ffynonellau: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Cymru), Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (Lloegr); Public Health Scotland (Yr Alban) a'r Business Services Organisation (Gogledd Iwerddon).

Ffigur 19: Cost net cynhwysion fesul eitem presgripsiwn, gwledydd y DU

Image

Disgrifiad o Ffigur 19: Siart far sy'n dangos bod cost net y cynhwysion fesul eitem bresgripsiwn yn amrywio o £7.86 yng Nghymru i £11.20 yn yr Alban.

Ffynonellau: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Cymru), Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (Lloegr); Public Health Scotland (Yr Alban) a'r Business Services Organisation (Gogledd Iwerddon).

Mae rhagnodi yn amrywio rhwng gwledydd. Roedd nifer yr eitemau a ddosbarthwyd fesul pen o'r boblogaeth 7.2 eitem yn uwch yng Nghymru nag yn yr Alban. Fodd bynnag, roedd cyfanswm costau net cynhwysion yr eitemau hynny y pen o'r boblogaeth £10.82 yn is yng Nghymru nag yn yr Alban.

Cost net y cynhwysion fesul eitem bresgripsiwn oedd £7.86 yng Nghymru, sef y gost isaf yn holl wledydd y DU, mwy na £3.30 yn rhatach nag yn yr Alban (y gost uchaf yng ngwledydd y DU) a £1.00 yn rhatach nag yn Lloegr (y gost isaf ond un).

Mae hyn yn golygu, er bod mwy o eitemau'n cael eu dosbarthu yng Nghymru, mae'r eitemau'n costio llai na'r eitemau a ddosberthir mewn gwledydd eraill. Gellir esbonio hyn drwy: cyfeintiau is o eitemau yn cael eu rhagnodi yng Nghymru o gymharu â gwledydd eraill; gwahaniaethau yn y mathau o eitemau a ragnodir ym mhob gwlad; ac argaeledd rhai eitemau ym mhob gwlad, fel rhai eitemau o gyfarpar stoma mwy costus sydd ond ar gael i'w dosbarthu yn Lloegr.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir gwybodaeth fanwl am ansawdd a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd ategol.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG yn cyhoeddi data ar bresgripsiynau meddygon teulu bob mis hefyd, yn seiliedig ar yr un data a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn.

Cyhoeddir adnodd data rhyngweithiol sy’n galluogi defnyddwyr i chwilio am ddata ar benodau, adrannau ac is-baragraffau’r Llyfr Fformiwlâu, yn seiliedig ar bresgripsiynau practisau meddygon teulu ochr yn ochr â’r datganiad hwn.

Cyhoeddir data ar gyfer Lloegr (Prescription Cost Analysis – England 2020-21 (NHS Business Services Authority)), yr Alban (Dispenser payments and prescription cost analysis, Financial year 2019/20) (Public Health Scotland)) a Gogledd Iwerddon (Prescription Cost Analysis (HSC Business Services Organisation)) ar wefan y wlad berthnasol.

Cyhoeddir data ategol ar y gweithlu practis cyffredinol, poblogaeth practisau cyffredinol (StatsCymru), amddifadedd ar lefel practisau cyffredinol a fferyllfeydd cymunedol hefyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyfrifo costau cyfartalog

Cyfrifir cost gymedrig net y cynhwysion drwy gymryd cyfanswm cost net y cynhwysion ar gyfer yr holl eitemau presgripsiwn a’i rannu â chyfanswm nifer yr eitemau a ragnodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol gyfan.

Cyfrifir cost net canolrifol y cynhwysion drwy gymryd y swm yn y canol pan fydd yr holl gostau fesul eitem wedi'u rhestru mewn trefn o'r rhataf i'r mwyaf drud; mae hanner yr holl gostau yn llai na'r swm hwn neu'n hafal iddo, ac mae'r hanner arall yn fwy na'r swm hwn neu'n hafal iddo. Cyfrifir costau yn y modd hwn ar gyfer eitemau a ddosberthir ym mis Mawrth bob blwyddyn yn unig, at ddibenion cyfrifo ymarferol o ystyried y nifer mawr o eitemau a ddosberthir mewn blwyddyn.

Pa ddata y dylwn eu defnyddio?

Tabl 1: Cymharu eitemau a ragnodwyd drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru ac a ddosbarthwyd yn y gymuned; ac eitemau a ragnodwyd yn unrhyw le yn y DU ac a ddosbarthwyd yn y gymuned yng Nghymru, 2022-23
Enw'r Bennod BNF Eitemau a ragnodwyd gan feddygon teulu (miloedd) Eitemau a weinyddwyd yn y gymuned (miloedd) Gwahaniaeth (miloedd)
Y System Gastroberfeddol 7,771.1 7,813.5 -42.3
Y System Gardiofasgwlaidd 23,650.0 23,689.2 -39.2
Y System Anadlol 6,159.8 6,186.1 -26.3
Y System Nerfol Ganolog 17,426.1 17,715.0 -289.0
Heintiau 2,596.8 2,874.7 -277.9
Y System Endocrin 8,855.6 8,907.9 -52.4
Obstetreg, Gynaecoleg + Anhwylderau’r Llwybr Wrinol 2,170.6 2,187.5 -16.9
Clefydau Malaen a Gwrthimiwnedd 417.1 445.4 -28.3
Maeth a’r Gwaed 4,677.4 4,756.0 -78.5
Clefydau’r Cymalau a Chyhyrysgerbydol 2,331.9 2,361.8 -29.8
Y Llygad 1,051.7 1,101.5 -49.7
Y Clustiau, Y Trwyn a’r Oroffaryncs 1,003.5 1,046.9 -43.4
Y Croen 1,835.0 1,888.3 -53.3
Cynnyrch a Brechiadau Imiwnolegol 795.9 795.9 0.0
Anesthesia 103.1 105.5 -2.4
Cyffuriau a Pharatoadau Eraill 77.6 74.5 3.0
Gorchuddion 351.7 256.7 95.0
Cyfarpar  2,434.5 2,399.0 35.5
Cyfarpar anymataliaeth 100.7 52.4 48.3
Cyfarpar stoma 355.1 187.7 167.4
Cyfanswm 84,165.1 84,845.5 -680.3

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl sy'n dangos bod 84.2 miliwn o eitemau wedi'u rhagnodi drwy bractisau meddygon teulu yng Nghymru a'u dosbarthu yn y gymuned (yn y DU), o gymharu ag 84.8 miliwn o eitemau a ragnodwyd unrhyw le yn y DU ac a ddosbarthwyd mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.

Ffynhonnell: Systemau Fferylliaeth a Dosbarthu, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Yn gyffredinol, wrth ddadansoddi data presgripsiynau ar gyfer Cymru, dylid defnyddio eitemau a ragnodir drwy bractisau meddygon teulu (o dan y pennawd 'Presgripsiynau meddygon teulu' yn y tabl) fel y brif ffynhonnell. Mae hyn am fod y data’n dangos yr hyn sy’n cael ei ragnodi i bobl sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru, a bod byrddau iechyd yn monitro'r gweithgarwch hwn ac yn dylanwadu arno. Mae'r data hyn yn cynnwys eitemau a ragnodir gan feddygon teulu yn ogystal â rhagnodwyr trwyddedig eraill sy'n gweithio mewn practisau meddygon teulu (nyrsys a fferyllwyr yn bennaf). Gellir dosbarthu'r eitemau a ragnodir mewn practisau meddygon teulu yng Nghymru mewn unrhyw ddosbarthfa gymunedol yn y DU (fferyllfeydd cymunedol fel arfer).

Dylid defnyddio ‘Presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned’ at ddibenion mwy penodol pan fo diddordeb gan ddefnyddwyr yn yr eitemau a ddosbarthwyd yng Nghymru yn unig, ac wrth wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng gwahanol wledydd y DU. Er bod nifer yr eitemau a ragnodir gan feddygon teulu’n agos at nifer yr eitemau a ragnodir ac a ddosberthir yng Nghymru, nid yw’r niferoedd hyn yn cyfateb yn llwyr am nifer o resymau gan gynnwys:

  • mae eitemau a ragnodir yng Nghymru ond a ddosberthir mewn man arall yn y DU (gan gynnwys Ynys Manaw) yn cael eu cyfrif yn y categori presgripsiynau meddygon teulu ond nid yn y categori ‘Presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned’. Mae hyn yn gyffredin iawn ar gyfer eitemau arbenigol fel stomas a chyfarpar anymataliaeth a ddosberthir yn aml gan gontractwyr cyfarpar, ac mae llawer ohonynt y tu allan i Gymru.
  • Nid yw eitemau a ragnodir mewn gwlad arall yn y DU (gan gynnwys Ynys Manaw) ond a ddosberthir yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn y categori presgripsiynau meddygon teulu, ond maen nhw’n cael eu cynnwys yn y categori ‘Presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned’
  • Ni fydd eitemau a ragnodir gan ymarferwyr ysbyty, y mae'r claf wedyn yn eu cymryd i fferyllfa gymunedol i'w dosbarthu yn cael eu cynnwys yn y categori presgripsiynau practisau meddygon teulu, ond byddent yn cael eu cynnwys yn y categori 'presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned'

Nodwch fod y categorïau ‘Presgripsiynau meddygon teulu’ a ‘Presgripsiynau a ddosbarthwyd yn y gymuned’ yn cynnwys presgripsiynau a ddosberthir gan feddygon sy'n dosbarthu, contractwyr cyfarpar a fferyllfeydd cymunedol (ar y stryd fawr). Nid yw’r naill ffynhonnell na’r llall yn cynnwys data ar gyfer eitemau a ragnodir ac a ddosberthir mewn ysbytai.

Nodwch hefyd nad yw costau net cynhwysion yn cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant.

Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn

Caiff cymariaethau yn y DU eu cyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer canol 2021 gan mai dyma'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf sydd ar gael. Disgwylir na fyddai newidiadau rhwng yr amcangyfrifon ar gyfer canol 2021 a chanol 2022 yn cael fawr o effaith ar yr ystadegau yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, os yw'r effeithiau'n sylweddol, cyhoeddir nodyn diwygio ar gyfer yr ystadegau hyn.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Eu hamcan yw sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach ac yn gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant a (b) rhoi copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) cyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio yn eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 100/2023

Image
Ystadegau Gwladol