Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data yn y datganiad yma yn wybodaeth reoli sy’n cael eu casglu fel rhan o'r broses olrhain cysylltiadau. Nid yw'r data wedi'u casglu at ddibenion ystadegau swyddogol, ac felly nid oes gan y data yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a bydd yn destun i ddiwygiadau yn y dyfodol. Rydym yn cyhoeddi hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Prif ganlyniadau

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (23 i 29 Ionawr 2022):

  • o blith y 34,985 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 30,217 (86.4%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 49,032 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain:
    • cysylltwyd a chynghorwyd â 41,697 (85.0%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth
    • 38,890 (79.3%) yn gysylltiadau o aelwyd, y mae 33,080 (85.1%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth

Yn gyfan gwbl, ers 21 Mehefin 2020:

  • o blith y 789,297 o achosion positif a oedd yn gymwys i'w holrhain, cyrhaeddwyd 731,606 (92.7%) a gofyn iddynt ddarparu manylion y bobl y maent wedi dod i gysylltiad â nhw yn ddiweddar
  • o blith y 1,293,362 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i'w holrhain, cysylltwyd a chynghorwyd â 1,165,806 (90.1%) yn llwyddiannus, neu chafwyd eu hachos ei ddatrys yn syth
Tabl 1: Achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau, hyd at 29 Ionawr 2022
  Wythnos ddiweddaraf 23 i 29 Ionawr 2022 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin 2020 i 29 Ionawr 2022
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 34,985 789,297
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 2,576 98,073
Cyfanswm 37,561 887,370

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Darperir gwybodaeth am y math o achosion nad ydynt yn gymwys ar gyfer camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, y cyrhaeddwyd 86.4% o'r rhai a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol ac ni chyrhaeddwyd 13.6% ohonynt.
Tabl 2: Pobl a gadarnhawyd yn gysylltiadau agos, hyd at 29 Ionawr 2022
  Wythnos ddiweddaraf 23 i 29 Ionawr 2022 Cyfanswm cronnus 21 Mehefin 2020 i 29 Ionawr 2022
Achosion cymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 49,032 1,293,362
Achosion anghymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol 5,705                                                141,689
Cyfanswm 54,737 1,435,051

Ffynhonnell: Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae'r ffigurau hyn yn ymwneud â'r holl gysylltiadau agos a nodwyd yn y cyfnod adrodd dan sylw. Mae'n bosibl y bydd rhai wedi'u nodi drwy achosion positif a atgyfeiriwyd at y system olrhain cysylltiadau cyn y cyfnod adrodd. Gall y ffigurau hefyd gynnwys rhai cysylltiadau agos sy'n gymwys i'w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a nodwyd gan achosion cadarnhaol a gafodd eu trosglwyddo i dimau rhanbarthol i’w rheoli ymlaen.

Image
Dangosai’r siart, dros yr wythnos ddiweddaraf, cafodd 85.0% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys i gael gweithgarwch dilynol eu cysylltu a chynghori yn llwyddiannus, ac nid oedd 15.0%.
Image
Yn nhrefn maint, mae uchafbwyntiau’n digwydd y Rhagfyr 2021, Ionawr 2022, Medi/Hydref 2021 a Rhagfyr 2020/Ionawr 2021.

Nifer yr achosion positif a chysylltiadau agos sy'n gymwys i gael eu dilyn gan dimau olrhain cysylltiadau lleol ar StatsCymru

Image
Yn nhrefn maint, mae uchafbwyntiau’n digwydd y Rhagfyr 2021, Ionawr 2022, Medi/Hydref 2021, Rhagfyr 2020/Ionawr 2021 a Gorffennaf 2021.

Nifer yr achosion positif a chysylltiadau agos sy'n gymwys i gael eu dilyn gan dimau olrhain cysylltiadau lleol ar StatsCymru

Mae Siartiau 3 a 4 yn cynrychioli’r nifer ddyddiol o achosion positif a’r cysylltiadau agos sy’n gymwys i gael cyswllt dilynol. Gall nifer yr achosion sy’n gymwys am gyswllt dilynol ar gyfer yr wythnosau diwethaf fod ychydig yn wahanol i’r cyhoeddiadau blaenorol oherwydd bod achosion wedi’u nodi fel rhai anghymwys yn dilyn ymchwiliad pellach gan dimau olrhain cysylltiadau. Gallwch weld rhagor o fanylion am y broses hon yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Mae amrywiad rhwng diwrnodau yn adlewyrchu gwahaniaeth yn y galw ar y system (e.e. nifer y profion a gyflawnwyd) gyda rhai dyddiau yn gweld mwy o achosion yn bwydo drwodd i gysylltu â thimau olrhain. Gall brig mewn achosion positif neu gysylltiadau agos ddigwydd o ganlyniad i:

  • ôl-groniad o achosion o ddyddiau blaenorol
  • swp mawr o ganlyniadau profion yn cael eu cyflwyno
  • safle profi newydd yn agor
  • fwy o gapasiti profi ar gael

Roedd nifer cyfun yr achosion positif a chysylltiadau agos a oedd yn gymwys i’w olrhain mewn un wythnos uchaf yn yr wythnos 26 Rhagfyr 2021 i 1 Ionawr 2022 lle'r oedd 71,195 o achosion positif a 53,061 o gysylltiadau agos yn gymwys i'w olrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol.

Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (23 i 29 Ionawr 2022)

Achosion positif

  • O'r 34,985 o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 41.2% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu hatgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau. Mae hyn gyfystyr â 47.7% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 72.1% o achosion positif a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn gyfystyr â 83.4% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.

Cyosylltiadau agos

  • O'r 49,032 o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol, cyrhaeddwyd 54.3% ohonynt o fewn 24 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 63.9% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 24 awr.
  • Cyrhaeddwyd 79.2% o gysylltiadau agos a oedd yn gymwys ar gyfer camau dilynol o fewn 48 awr o gael eu nodi gan achos positif. Mae hyn gyfystyr â 93.1% o'r rheini y llwyddwyd i'w cyrraedd yn cael eu cyrraedd o fewn 48 awr.
  • O’r amser y cyfeiriwyd achosion positif i’r system olrhain cysylltiadau, cysylltwyd â 24.9% o’r holl gysylltiadau agos a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol o fewn 24 awr. Mae hyn yn golygu y cysylltwyd â 29.3% o’r rhai y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus o fewn 24 awr.
  • O’r amser y cyfeiriwyd achosion positif i’r system olrhain cysylltiadau, cysylltwyd â 56.9% o’r holl gysylltiadau agos a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol o fewn 48 awr. Mae hyn yn golygu y cysylltwyd â 66.9% o’r rhai y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus o fewn 48 awr.

O'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau, mae canran y cysylltiadau agos a gyrhaeddwyd o fewn 24 neu 48 awr yn eithrio nifer fach o gysylltiadau agos ni ellid eu cysylltu'n ôl â'r achos positif a’u nododd. Gweler yr adran adran am ansawdd a methodoleg.

Data ar gyfer 1 i 21 Mehefin 2020

Roedd yr adroddiadau cynnar, ar gyfer tair wythnos gyntaf olrhain cysylltiadau yng Nghymru, wedi'u seilio ar ddata gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol cyn cyflwyno'r system ddigidol genedlaethol.

Yng Nghymru, yn ystod y cyfnod rhwng 1 a 21 Mehefin 2020, cyfeiriwyd 1,905 o achosion positif at dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. Arweiniodd hyn at adnabod 2,616 o gysylltiadau i'w holrhain. Cysylltwyd â 2,117 o'r rhain yn llwyddiannus a'u cynghori.

Bydd rhywfaint o orgyffwrdd yn y ffigurau a nodir o'r system ddigidol genedlaethol a'r adroddiadau cynnar a ddarparwyd gan dimau olrhain cysylltiadau lleol a rhanbarthol. O ganlyniad, ni fyddem yn argymell cyfuno ffigurau o'r ddwy ffrwd adrodd wahanol. 

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Beth yw olrhain cysylltiadau?

Mae olrhain cysylltiadau yn rhan bwysig o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu y Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth yn cael ei gweithredu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.

Cyn gynted ag y bydd pobl yn dechrau dangos symptomau o coronafeirws (COVID-19), dylent drefnu prawf mor gyflym â phosibl wrth iddyn nhw, a'r bobl dros 5 oed sy'n byw yn yr un tŷ â nhw, hunanynysu. Ar ôl cael canlyniad positif, gofynnir i bobl gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru drwy roi gwybod i'r swyddog olrhain cysylltiadau lleol am eu cysylltiadau diweddar fel y gellir cysylltu â nhw a gofyn iddynt hunanynysu (a chymryd prawf os ydynt hefyd yn dangos symptomau), er mwyn helpu i atal lledaeniad y feirws.

Efallai na fydd yn bosibl olrhain pob unigolyn sy'n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth olrhain cysylltiadau. Am amryw o resymau, ni fydd manylion cysylltu wedi'u darparu ar gyfer rhai unigolion ac mae'n bosibl nad yw eraill wedi ymateb i alwadau, negeseuon testun neu e-byst gan dimau olrhain. Mae cyfran yr achosion positif a oedd yn gymwys am gysylltiad dilynol, ac y cysylltwyd â nhw, yn cynnwys yr achosion y cysylltwyd â nhw’n llwyddiannus yn unig. Nid yw’n cynnwys achosion lle ceisiodd y swyddogion olrhain cysylltiadau i gysylltu â nhw, ond heb lwyddiant.

Yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion positif a chysylltiadau sy’n destun camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, o’r wythnos a ddechreuodd 6 Medi 2021, cyflwynodd Lywodraeth Cymru fframwaith cenedlaethol i flaenoriaethu achosion sydd â risg uwch o drosglwyddo’r feirws neu sy’n cynnwys unigolion agored i niwed. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol mai’r rheini a gaiff eu hystyried yn bobl â’r flaenoriaeth uchaf o safbwynt diogelu iechyd y cyhoedd yw’r achosion positif hynny.

Ffynhonnell data

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o weithgarwch olrhain cysylltiadau yng Nghymru yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Cafodd y data yn y datganiad hwn eu tynnu o'r system olrhain cysylltiadau am 12:12 ar 1 Chwefror 2022. Tynnwyd y data hyn 3 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod adrodd er mwyn cynnwys gweithgarwch olrhain a oedd yn ymwneud ag achosion a atgyfeiriwyd tua diwedd y cyfnod adrodd.

Achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn gymwys i gael camau dilynol

Mae'r mwyafrif o achosion anghymwys i'w holrhain gan swyddogion olrhain cysylltiadau lleol yn digwydd mewn lleoliadau caeedig megis ysbytai, cartrefi gofal a charchardai. Caiff yr achosion hyn eu huwchgyfeirio at dimau rhanbarthol i'w rheoli ymhellach.

Nid yw achosion positif a chysylltiadau agos nad ydynt yn preswylio yng Nghymru yn gymwys i gael camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgyfeirio’r achosion hynny i’r asiantaeth iechyd y cyhoedd perthnasol er mwyn iddynt gael eu holrhain ymhellach. Byddai’r achosion hyn wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd sy’n gymwys i gael camau dilynol yn y datganiadau ystadegol cyn 10 Medi 2020.

Pan fydd achos mynegai yn cael ei gysylltu a gofyn i roi manylion o’i gysylltiadau agos, gofynnir iddynt hefyd ddiffinio'r math o gyswllt. Cysylltiadau aelwyd yw cysylltiadau sy'n byw neu'n treulio amser sylweddol ar yr un aelwyd e.e. y rhai sy'n byw ac yn cysgu yn yr un cartref, tŷ amlfeddiannaeth lle rhennir cegin a/neu ystafell ymolchi, myfyrwyr mewn llety prifysgol sy'n rhannu cegin, partneriaid rhywiol, a phobl sydd wedi glanhau cartref lle mae achos yn byw heb offer amddiffynnol personol.

Ar gyfer achosion mewn neuaddau preswyl, mae'n bosibl derbyniwyd myfyrwyr tecst neu gysylltiad gan eu prifysgol i'w chynghori i ynysu, ac nid gan y tîm olrhain cysylltiadau lleol. Nid yw'r math yma o weithgaredd wedi'i gynnwys yn y data olrhain cysylltiadau. Hefyd, nid yw cysylltiadau "swigod" ysgolion yn rhan o’r broses olrhain cysylltiadau ffurfiol gan fod yr ysgol yn cysylltu â hwy'n uniongyrchol ac yn darparu'r canllawiau iechyd cyhoeddus ac ynysu angenrheidiol. Am y rheswm hwn, rydym wedi eithrio'r cysylltiadau hyn o'r ystadegau cysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Yr amser a gymerir i gyrraedd achosion positif a chysylltiadau agos

Ar gyfer achosion positif, mae'r amser a gymerir i'w cyrraedd yn mesur yr amser rhwng atgyfeirio'r achos i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddir i gysylltu â hwy. Ar gyfer cysylltiadau agos, roedd dau fesurydd. Mae'r cyntaf yn edrych ar yr amser rhwng pan caiff y cysylltiad agos ei nodi gan achos positif, a phan y llwyddir i gysylltu ag ef. Mae'r ail fesurydd yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng pan y cafodd yr achos positif a nododd y cyswllt ei atgyfeirio i'r system olrhain cysylltiadau, a phan y llwyddwyd i gysylltu â’r cyswllt agos. Mae’r mesur olaf yn eithrio nifer fach o gysylltiadau agos ni ellid eu cysylltu'n ôl â'r achos cadarnhaol a'u nododd neu lle nodir cysylltiadau drwy achos positif tu allan i Gymru neu drwy ap y GIG.

Caiff y dyddiad a’r amser pan lwyddwyd i gysylltu ag achos positif neu gyswllt agos eu hystyried fel y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau a gofnodir yn y system. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pan ceir cofnod o alwad ffôn lwyddiannus (gan gynnwys galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i wahodd achosion a chysylltiadau i lenwi’r e-ffurflen)
  • pan cynhelir cyfweliad gyda'r cyswllt
  • pan ceir y gwiriad dyddiol cyntaf
  • pan fydd cysylltiadau agos neu gysylltiadau eraill yn dod yn rhan o'r system olrhain cysylltiadau (ar gyfer achosion positif yn unig)
  • pan nodir bod yr achos 'wedi'i ddatrys'

Dewiswyd y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod oll yn dangos bod aelod o’r tîm olrhain cysylltiadau wedi cysylltu’n llwyddiannus â’r unigolyn. Mae’r ystod o ddigwyddiadau yn angenrheidiol oherwydd na cheir cofnod o alwadau ffôn ar gyfer pob achos positif a chysylltiad agos. Gallai hyn godi, er enghraifft, lle mae amryw o achosion ymhlith unigolion sy’n byw ar yr un aelwyd a lle caiff yr wybodaeth ei chofnodi drwy un alwad ffôn yn unig, yn hytrach na galwad ffôn yr un ar gyfer pob unigolyn.

Pan fydd cysylltiadau agos yn cael eu nodi gan achos positif y tu allan i Gymru neu drwy ap y GIG, caiff y rhain eu mewnbynnu i'r system â llaw gan nad yw’r achos positif y cawsant eu nodi ganddo yn bodoli yn system olrhain cysylltiadau Cymru. Gan nad yw'r achos positif yn system olrhain cysylltiadau Cymru, ni ddylai'r cysylltiadau agos hyn gael eu cynnwys yn y mesur amseroldeb o'r adeg y caiff achosion positif eu cyfeirio at y system olrhain cysylltiadau. Dim ond yn ddiweddar y cawsom wybod am y prosesau sy'n gysylltiedig â'r cysylltiadau agos hyn, ac o’r wythnos yn dechrau ar 16 Mai 2021, rydym wedi dileu'r cysylltiadau agos hyn o'r mesur hwn a'r data hanesyddol i adlewyrchu'n fwy cywir yr wybodaeth yn y system olrhain cysylltiadau. Gan fod y cysylltiadau agos hyn yn gymwys i gael eu holrhain o dan system olrhain cysylltiadau Cymru, maent yn dal i ymddangos ym mhob ffigur arall sy'n ymwneud â chysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn.

Bydd canran y cysylltiadau agos y cysylltwyd â hwy o fewn 24 awr a 48 awr o'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau yn ymddangos yn uwch nag mewn cyhoeddiadau blaenorol o ganlyniad i'r newid hwn. Ers mis Medi 2020, pan roddwyd y broses ar gyfer y cysylltiadau agos hyn ar waith, mae 60 o gysylltiadau agos bob wythnos ar gyfartaledd wedi’u nodi gan achos positif y tu allan i Gymru neu drwy ap y GIG. Ar gyfer yr wythnos 16 i 22 Mai 2021 pan roddwyd y newid hwn mewn methodoleg ar waith am y tro cyntaf, arweiniodd y newid at gynnydd o 6 phwynt canran yn y mesur prydlondeb o fewn 24 awr a 7 pwynt canran yn y mesur prydlondeb o fewn 48 awr o'r adeg y cyfeiriwyd achosion positif at y system olrhain cysylltiadau.

Data swigod ysgolion

Nid yw cysylltiadau 'swigod' ysgolion yn rhan o’r broses olrhain cysylltiadau ffurfiol, gan fod yr ysgol yn cysylltu â hwy'n uniongyrchol ac yn darparu'r canllawiau angenrheidiol ar iechyd y cyhoedd ac ynysu. Am y rheswm hwn, gan ddechrau â’r datganiad a gyhoeddwyd ar 25 Mawrth 2021 rydym wedi eithrio'r cysylltiadau hyn o'r ystadegau cysylltiadau agos a gyflwynir yn y datganiad hwn. Mae'r holl ddata hanesyddol wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r newid hwn.

Mae’n debygol y bydd gan achosion positif gysylltiadau agos ychwanegol o’r ysgol a fydd yn cael eu cyfathrebu i dimau olrhain cysylltiadau lleol a bydd y rhain yn gymwys am gysylltiad dilynol. Mae’r cysylltiadau hyn yn rhan o’r ystadegau yn y datganiad hwn.

Mae modd cymharu’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn fras â chyhoeddiadau cyn 25 Mawrth 2021, er ein bod yn cynghori yn erbyn defnyddio'r cyhoeddiadau ar 11 Chwefror a 18 Chwefror 2021 i wneud cymariaethau, lle mae'r materion yn y data 'swigod' ysgolion wedi cael yr effaith fwyaf, a'r cyhoeddiad ar 23 Mawrth 2021 lle cafodd pob cyswllt ysgol ei ddileu wrth i ni ymchwilio i fater ansawdd data. Gellir gwneud cymariaethau o fewn data'r gyfres amser yn y datganiad hwn lle mae data 'swigod' ysgolion wedi'u dileu drwyddi draw.

Amlinellir gwybodaeth ac arweiniad ar sut y gall ysgolion a lleoliadau barhau i wneud eu safleoedd mor ddiogel â phosibl ar gyfer staff a dysgwyr, gan gynnwys "swigod" ysgolion, mewn Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae achosion cysylltiadau agos a gafodd eu datrys ryw ffordd arall yn cynnwys nifer bach o achosion pan gafodd yr un cysylltiad ei nodi gan fwy nag un achos positif ar yr un pryd. Bryd hynny, bydd timau olrhain cysylltiadau yn gweithio o un cofnod ar gyfer y cyswllt hwnnw ac yn nodi ar y cofnodion ychwanegol fod yr achos wedi'i ddatrys.

Mae nifer yr achosion a gyfeiriwyd ar gyfer olrhain cysylltiadau yn wahanol i nifer yr achosion newydd a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni ellir cymharu'r ffynonellau data yma gyda’i gilydd yn uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau o ran amseru a lefel y dilysu a wneir, gan fod angen i achosion a gyflwynir i'r system olrhain cysylltiadau gael eu trin â llaw gan dimau olrhain cysylltiadau.

Mae cysylltiadau a gynhyrchir o achosion positif y tu allan i Gymru sy'n gymwys i gael eu dilyn gan dimau olrhain cysylltiadau lleol yng Nghymru wedi'u cynnwys fel cysylltiadau agos yn yr ystadegau hyn. Gall y cysylltiadau hyn effeithio ar y mesurau prydlondeb o greu achosion positif ac rydym yn cynnal ymchwiliad pellach gyda chydweithiwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i'r sefyllfaoedd penodol hyn.

Ar 17 Rhagfyr 2020, cyflwynodd gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru system newydd i roi’r cyfle i bobl ddarparu manylion eu cysylltiadau agos drwy e-ffurflen newydd. Bydd pobl yn cael galwad ffôn gychwynnol gan swyddogion olrhain cysylltiadau i’w gwahodd i lenwi’r e-ffurflen ac mae’r alwad hon yn cael ei diffinio fel cysylltiad llwyddiannus. Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn y data a ddangosir yn y datganiad hwn a bydd yn cael effaith ar ganran cyffredinol yr achosion positif a’r cysylltiadau y daethpwyd i gysylltiad â nhw yn llwyddiannus, a chanran yr achosion positif a chysylltiadau y cysylltwyd â nhw o fewn 24 a 48 awr. Oherwydd y gostyngiad mewn achosion positif yng Nghymru ac felly llai o achosion a chysylltiadau i’w holrhain, mae’r rhan fwyaf o dimau olrhain cysylltiadau lleol yn blaenoriaethu galwadau ffôn dros ddefnyddio’r e-ffurflen. Mae hyn yn golygu y bydd e-ffurflenni yn cyfrif am nifer eithriadol o fach o fewn y data a gyflwynir yn y datganiad hwn. Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr i fonitro’r defnydd o’r e-ffurflen o fewn y system olrhain cysylltiadau, a byddwn yn cynnwys gwybodaeth bellach ar hyn os bydd y defnydd a wneir o’r e-ffurflen yn dechrau cynyddu’n sylweddol.

Ar gyfer yr wythnos 21 i 27 Mawrth 2021, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y cysylltiadau a oedd yn gymwys ar gyfer apwyntiad dilynol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a gellir gweld hyn yn y tablau cysylltiedig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r datganiad hwn. Credwn mai’r rheswm am hyn yw bod rhai cysylltiadau ysgolion wedi cael eu huwchlwytho’n anghywir ar gyfer y rhanbarth hwn. Cafodd y cynnydd hwn effaith fach ar y ffigurau cenedlaethol a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gyfer canran y cysylltiadau a nodwyd, ond effaith fwy ar yr amser a dreuliwyd i gysylltu â’r cysylltiadau agos. Mae rhanbarthau wedi cael eu hatgoffa o’r canllawiau ar uwchlwytho “swigod” ysgolion i’r system er mwyn osgoi rhagor o broblemau gyda’r data.

O rifyn 4 Mawrth 2021 ymlaen, ni chaiff y data ar gyfer teithwyr sy’n cyrraedd o’r tu allan i Ardal Deithio Gyffredin y DU bellach eu cynnwys yn y ffigurau a gyflwynir yn y datganiad hwn, ac maent wedi cael eu tynnu o ddata hanesyddol. O'i gymharu â'r data fel y'i cyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2021, mae hyn wedi arwain at ostyngiad bach yn nifer yr achosion cyfeirio a’r cysylltiadau agos yn y data a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth 2021 gan fod y teithwyr rhyngwladol hyn yn cynrychioli llai na 3% o'r achosion wythnosol. Mae’r dinasyddion hyn yn ynysu oherwydd eu bod wedi teithio, ac er mwyn osgoi lledaenu unrhyw amrywiolion sy’n peri pryder o bosibl. Felly rhaid iddynt ddilyn proses cwaratîn a reolir wahanol. Os bydd teithiwr sy’n cyrraedd o leoliad rhyngwladol wedyn yn cael canlyniad positif i brawf, bydd wedyn yn dod yn achos cyfeirio, ac felly’n destun proses olrhain cysylltiadau lawn, a bydd yn rhan o’r ystadegau a gyflwynir.

Yn y datganiad ar 17 Mai 2021, newidiodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru y data olrhain cysylltiadau i ddileu cofnodion dyblyg. Cafodd y newid hwn ei wneud i ddata hanesyddol o ddechrau’r set ddata hon (21 Mehefin 2020) ymlaen. Mae cofnodion dyblyg yn digwydd pan fo mwy nag un achos positif yn nodi’r un cyswllt agos. Yn dilyn y newid hwn, dim ond un waith caiff cysylltiadau agos eu cyfrif yn y ffigurau sy’n gymwys i’w holrhain. Yn flaenorol, cawsant eu cyfrif pob tro y cawsant eu nodi gan achos positif. Mae achosion dyblyg yn cyfrif am hyd at 5% o’r cysylltiadau agos cymwys ym mhob wythnos.

O 7 Awst 2021 ymlaen, nid yw oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn ac a gafodd y brechlyn yn y DU, na phobl ifanc o dan 18 oed, yn gorfod hunanynysu mwyach os ydynt yn cael eu nodi fel cyswllt agos i rywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19. Mae'r tîm olrhain cysylltiadau yn dal i gysylltu â chysylltiadau agos ac felly maent yn dal i gael eu cynnwys yn yr ystadegau a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn.

Ar 29 Hydref 2021, cafodd y meini prawf hunanynysu eu diweddaru ar gyfer cysylltiadau aelwyd sydd wedi'u brechu'n llawn neu rhwng 5 a 17 oed, mae’r gofynion diweddaraf i’w gweld ar Hunanynysu: oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phobl ifanc rhwng 5 a 17 oed.

Wrth i bolisi newid o ran gweithredu'r system olrhain cysylltiadau, rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru i bennu ansawdd data a dadansoddiadau pellach posibl o'r data.

Mae materion wedi’i nodi mewn labordy preifat wedi’i leoli yn Wolverhampton, Lloegr lle mae canlyniadau profion anghywir wedi cael ei gyhoeddi. O ganlyniad, mae nifer o bobl sydd wedi cael ei brofi rhwng 4 a 12 Hydref wedi cael eu cynghori i ail-brofi, a allai effeithio y nifer o achosion positif yn gymwys am gwaith dilynol am yr wythnosau yn dechrau 10 a 17 Hydref 2021. Amcangyfrifir bod tua 4,000 o brofion sydd wedi cael ei effeithio yng Nghymru, mae fwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rhwng y ddechrau o Fedi a’r ddiwedd o Hydref 2021, roedd y mesurau amseroldeb ‘canran yr achosion positif a gyrhaeddwyd o fewn 24 a 48 awr’ yn is yn gyffredinol i’w gymharu â’r hanner cyntaf o 2021. Mae’n debygol bod hyn oherwydd nifer uwch o achosion positif a chysylltiadau agos a oedd yn gymwys i’w holrhain gan dimau olrhain cysylltiadau lleol.

Mae’r data ar gyfer olrhain cysylltiadau drwy Ap COVID-19 y GIG yn cael eu cyhoeddi gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n cynnwys data ar ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio’r gwiriwr symptomau, canlyniadau profion a dderbyniwyd, defnyddwyr y dywedwyd wrthynt i hunanynysu a digwyddiadau ailgydio sydd wedi digwydd. Mae’r data cyhoeddedig diweddaraf a rhagor o wybodaeth i’w cael yn: Pa ddata sydd ar gael am y ffordd y mae ap COVID-19 y GIG yn cael ei ddefnyddio?

Yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion positif a chysylltiadau sy’n destun camau dilynol gan dimau olrhain cysylltiadau lleol, o’r wythnos a ddechreuodd 6 Medi 2021, cyflwynodd Lywodraeth Cymru fframwaith cenedlaethol i flaenoriaethu achosion sydd â risg uwch o drosglwyddo’r feirws neu sy’n cynnwys unigolion agored i niwed. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol mai’r rheini a gaiff eu hystyried yn bobl â’r flaenoriaeth uchaf o safbwynt diogelu iechyd y cyhoedd yw’r achosion positif hynny.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth a chyngor ar olrhain cysylltiadau, ewch i’n tudalennau canllawiau Profi, olrhain, diogelu: coronafeirws.

Diweddariad nesaf

Dydd Iau 10 Chwefror 2022.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn ystyried cyhoeddi datganiadau ystadegol COVID-19 yn llai aml, gan gynnwys y datganiad hwn. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu adborth ar sut rydych yn defnyddio’r datganiadau hyn, ac unrhyw newidiadau y gellir eu gwneud iddynt drwy kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Os oes gennych ymholiad am y data, cysylltwch â
Ystadegydd: Ryan Pike
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 37/2022