Profiadau o ofal plant ar gyfer teuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol: crynodeb
Ymchwil ansoddol sy'n archwilio safbwyntiau a phrofiadau teuluoedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Mae'r astudiaeth hon yn archwilio sut mae profiadau bywyd, dylanwadau diwylliannol, a dewisiadau teuluol yn llunio'r defnydd o wasanaethau Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ChDGPC) ymhlith teuluoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru. Mae Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru (ArWAP) Llywodraeth Cymru yn nodi'r weledigaeth i Gymru fod yn wlad gwrth-hiliol. Ei nod yw hyrwyddo cydweithio i wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae'r ArWAP yn cynnwys pennod annibynnol a deg cam gweithredu sy'n tynnu sylw at ofal plant a chwarae fel meysydd hanfodol ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb, sicrhau mynediad, a gwreiddio arferion gwrth-hiliol ar draws darpariaeth blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Cydnabyddir bod ChDGPC yn hanfodol ar gyfer datblygiad plant, dysgu gydol oes, ac integreiddio cymdeithasol. Nododd Llywodraeth Cymru fod y nifer isel o deuluoedd lleiafrifoedd ethnig sy'n manteisio ar ofal plant yn flaenoriaeth.
Nod yr astudiaeth oedd:
- deall sut mae profiadau, diwylliant a dewisiadau teuluol yn llunio'r defnydd o ChDGPC
- nodi anghenion a rhwystrau allweddol y mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i ofal plant, gwneud cais amdano a'i ddefnyddio
- archwilio beth mae gwahanol deuluoedd eisiau gan ChDGPC a beth fyddai'n cefnogi gwell mynediad a defnydd
- archwilio sut mae'r ffactorau hyn yn dylanwadu ar ddefnydd ChDGPC ymhlith teuluoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol
Defnyddiwyd methodoleg ansoddol; cyfweliadau lled-strwythuredig oedd y dull ar gyfer casglu data. Cymerodd ugain o rieni o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghaerdydd, Gwynedd a Rhondda Cynon Taf ran yn yr ymchwil. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, mudwyr economaidd, teuluoedd ail a thrydydd genhedlaeth, a theuluoedd treftadaeth gymysg, pob un â phlant rhwng 0 ac 8 oed. Roedd y dulliau recriwtio yn cynnwys gosod posteri mewn lleoliadau cymunedol, cysylltu trwy gysylltiadau a rhwydweithiau cymunedol a lleoliadau gofal plant, a defnyddio dull samplu pelen eira.
Prif ganfyddiadau
Trefnwyd y dadansoddiad o amgylch pum thema sy'n tynnu sylw at y ffactorau amrywiol sy'n dylanwadu ar benderfyniadau, cyfleoedd a heriau teuluoedd wrth lywio darpariaeth blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Bywyd teuluol, cefndir, ac atgofion rhieni o ofal plant
Roedd bywydau teuluol, cefndiroedd a phrofiadau rhieni o fyw yng Nghymru yn llywio sut roeddent yn ymgysylltu â'u cymunedau a sut roeddent yn mynd ati i ymwneud â ChDGPC. Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr wedi symud i Gymru o rywle arall yn y DU neu o dramor, yn aml am resymau diogelwch, addysg, gwaith neu deuluol, a disgrifiodd llawer Gymru fel lle cyfeillgar, amlddiwylliannol a diogel. Fodd bynnag, profodd eraill unigedd, hiliaeth neu gymdogaethau anaddas, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu lety dros dro. Dylanwadodd teimlo'n rhan o'r gymuned ar ba mor dda yr oedd rhieni'n deall ac yn cael mynediad at adnoddau gofal plant lleol, gyda rhai yn elwa o gymdogion, ysgolion a lleoliadau gofal plant cefnogol, tra bod eraill—yn enwedig y rhai sy'n wynebu rhwystrau iaith, gwahaniaethu neu rwydweithiau cymdeithasol cyfyngedig—yn teimlo'n anghysylltiedig. Myfyriodd rhieni hefyd ar sut yr effeithiodd gofynion gofal plant ar eu gallu i ddilyn hobïau neu weithgareddau cymdeithasol, ac amser personol cyfyng weithiau'n arwain at unigedd a llai o ymwybyddiaeth o wasanaethau cymunedol a allai gefnogi dysgu cynnar.
Roedd profiadau plentyndod rhieni eu hunain o ddefnydd meithrinfa neu ofal plant yn dylanwadu'n gryf ar eu credoau am addysg gynnar. Cafodd rhai brofiadau cadarnhaol, fel mynychu meithrinfa i gymdeithasu, dysgu ieithoedd lleol, neu elwa o ddarparwyr dibynadwy, a oedd yn eu hannog i ddefnyddio gofal plant ar gyfer eu plant eu hunain. Cafodd eraill brofiadau negyddol neu gyfyng, gan gynnwys cael trafferth yn y feithrinfa, teimlo'n ddi-gefnogaeth, neu dyfu i fyny mewn cyd-destunau lle nad oedd addysg gynnar yn gyffredin. Dylanwadodd y profiadau hyn ar a oedd rhieni'n ystyried y feithrinfa fel paratoad hanfodol ar gyfer yr ysgol, neu'n credu y dylai dysgu ddigwydd yn bennaf gartref. I rai, roedd mynd i'r ysgol heb brofiad blaenorol o feithrinfa wedi bod yn llethol, gan atgyfnerthu gwerth darpariaeth y blynyddoedd cynnar; i eraill, arweiniodd diffyg presenoldeb yn ystod plentyndod at amheuaeth neu ddewis gofal yn y cartref.
Mynediad: prosesau ymgeisio a rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau gofal plant a gwaith chwarae ffurfiol
Roedd mynediad at ofal plant yn amrywio. Roedd llawer o rieni'n gwybod sut i wneud cais trwy rwydweithiau cymunedol neu wefannau awdurdodau lleol, tra bod teuluoedd ffoaduriaid yn dibynnu mwy ar weithwyr cymorth ac ymwelwyr iechyd. Yn nodweddiadol, roedd rhieni â phlant 3 i 4 oed, neu'r rhai a oedd eisoes â brodyr a chwiorydd hŷn, yn gyfarwydd â'r broses o wneud cais am addysg feithrin yn eu hysgol neu feithrinfa leol. Roedd rhai wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn o'r blaen ac felly'n gwybod sut i wneud cais am y Cynnig Gofal Plant. yn gwybod gyda phwy i gysylltu ynghylch oriau addysgol a ariennir, a ble i geisio arweiniad. Roedd eraill yn dibynnu ar gyngor gan gymdogion a ffrindiau. Yn ogystal, roedd gweithwyr iechyd proffesiynol yn chwarae rhan allweddol wrth gyfeirio at wasanaethau, yn enwedig ar gyfer teuluoedd ffoaduriaid a theuluoedd sy'n ceisio lloches.
Roedd ffurflenni cais weithiau'n gymhleth, ac roedd ymwybyddiaeth o Cynnig Gofal Plant Cymru, a Dechrau'n Deg yn amrywio. Cost oedd y rhwystr mwyaf arwyddocaol, yn enwedig i deuluoedd nad oeddent yn gymwys i gael lleoedd a ariennir. Roedd rhwystrau eraill yn cynnwys oriau anhyblyg, pellter, darpariaeth gyfyngedig, gwahaniaethau diwylliannol a phryderon diogelwch.
Defnydd: profiadau wrth ddefnyddio gofal plant
Yn gyffredinol, mynegodd rhieni o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig mewn ardaloedd gwledig a threfol farn gadarnhaol am wasanaethau gofal plant. Fe'u disgrifiwyd fel rhai cynhwysol, cefnogol, a chroesawgar. Roedd rhieni'n gwerthfawrogi staff cyfeillgar, amgylcheddau cynhwysol, a chyfleoedd i blant ddatblygu hyder, sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth. Roedd gofal plant anffurfiol gan berthnasau, rhieni-yng-nghyfraith neu ffrindiau agos yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu ymddiriedaeth, hyblygrwydd a sicrwydd emosiynol. Pwysleisiodd rhieni bwysigrwydd ymddiriedaeth wrth ddibynnu ar ofal plant anffurfiol yn gyson. Ceisiwyd cefnogaeth gan bobl yr oeddent yn eu hadnabod yn dda fel aelodau o'r teulu, rhieni-yng-nghyfraith, ffrindiau agos, neu gymdogion dibynadwy, gan fod cyfarwyddyd yn darparu sicrwydd a thawelwch meddwl. Creodd rhai teuluoedd eu gweithgareddau cymunedol eu hunain pan oedd diffyg darpariaeth ffurfiol.
Rhoddodd rhieni a ddewisodd beidio â defnyddio gofal plant neu wasanaethau chwarae dri phrif reswm dros hynny. Roedd yn well gan rai ofalu am eu plant gartref, wedi'u harwain gan werthoedd personol, diwylliannol, neu grefyddol, gan gynnwys y dymuniad i gadw iaith a hunaniaeth ddiwylliannol eu plentyn. Dylanwadwyd ar eraill gan brofiadau negyddol, naill ai eu profiadau eu hunain neu rai a rannwyd gan ffrindiau a theulu, a leihaodd eu hymddiriedaeth mewn gofal plant ffurfiol. I sawl teulu, roedd cost gofal plant yn gwbl anfforddiadwy, gan wneud gofal yn y cartref yn unig opsiwn realistig.
Iaith
Effeithiodd iaith ar sut roedd teuluoedd yn ymgysylltu â gofal plant i ddechrau, gan ddylanwadu ar a oeddent yn teimlo eu bod yn wybodus, yn cael eu croesawu, ac yn cael eu deall. Roedd llawer o rieni yn siarad sawl iaith yn y cartref ac yn rhoi gwerth mawr ar gynnal eu hieithoedd brodorol fel rhan o hunaniaeth eu plant, cysylltiadau teuluol a pharhad diwylliannol. Disgrifiodd rhieni ddefnyddio eu hieithoedd brodorol trwy drefn ddyddiol, y cyfryngau, arferion crefyddol ac addysgu bwriadol. I rai, roedd cynnal eu hiaith frodorol yn hanfodol ar gyfer cyfathrebu â pherthnasau dramor, tra bod Saesneg wedi'i chyflwyno'n bennaf ar gyfer addysg a chymdeithas ehangach.
Defnyddiodd y rhan fwyaf o deuluoedd yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf leoliadau cyfrwng Saesneg, tra bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn fwy cyffredin yng Ngwynedd, lle weithiau dyma oedd yr unig ddewis ar gael. Yn gyffredinol, roedd rhieni'n cefnogi eu plant i ddysgu'r Gymraeg, gan ei gweld fel rhan o ddiwylliant lleol, yn fuddiol ar gyfer parodrwydd ar gyfer yr ysgol, ac yn ddefnyddiol ar gyfer integreiddio cymunedol. Roedd rhieni nad oeddent yn siarad Cymraeg eu hunain yn gwerthfawrogi dysgu dwyieithog, er bod rhai'n teimlo'n gyfyngedig yn y ffordd y gallent ei gefnogi gartref. Ar y cyfan, roedd teuluoedd yn ystyried gofal plant nid yn unig fel cefnogaeth ymarferol ond fel lle a oedd yn cydnabod a meithrin hunaniaethau ieithyddol eu plant - yn ieithoedd brodorol, Saesneg a Chymraeg.
Manteision gofal plant a gwaith chwarae
Roedd llawer o rieni yn gweld gofal plant fel pont bwysig i'r ysgol, gan helpu plant i feithrin gwydnwch emosiynol, ffurfio cyfeillgarwch, ac addasu i ddysgu strwythuredig. Roeddent yn gwerthfawrogi'r cyfleoedd gofal plant a ddarperir i blant gymysgu â chyfoedion, dod ar draws gwahanol ddiwylliannau, a datblygu sgiliau cymdeithasol a fyddai'n eu cefnogi yn y tymor hir.
Ystyriwyd gofal plant hefyd fel rhywbeth hanfodol ar gyfer lles teuluol. Roedd yn galluogi rhieni i weithio, yn lleihau'r straen o gydbwyso cyflogaeth a gofalu'n llawn amser, ac yn dod â strwythur a threfn i fywyd teuluol. I rai, yn enwedig y rhai oedd yn addasu i fywyd yn y DU, roedd gofal plant yn cynnig sefydlogrwydd ac ymdeimlad o berthyn. Disgrifiodd rhieni hyn fel rhan hanfodol o reoli bywyd bob dydd, gan gefnogi datblygiad eu plant a sefydlogrwydd a lles cyffredinol y teulu cyfan.
Casgliadau ac argymhellion
Mae'r astudiaeth yn dangos bod defnydd teuluoedd lleiafrifoedd ethnig o ChDGPC yn cael ei lunio gan gyfuniad o hunaniaeth ddiwylliannol, profiadau bywyd, perthyn i'r gymuned a hanesion gofal plant personol. Er bod llawer o deuluoedd yn llwyddo i lywio'r system gofal plant, mae rhwystrau ymarferol, ariannol ac emosiynol yn parhau.
Mae cost yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol, ochr yn ochr â darpariaeth gyfyngedig, amseroedd sesiynau anhyblyg, a phrosesau ymgeisio cymhleth. Gall teuluoedd sy'n ffoaduriaid ac yn ceisio lloches wynebu heriau ychwanegol yn ymwneud ag ymddiriedaeth, pryderon diogelwch, a rhwydweithiau cyfyngedig.
Roedd rhieni'n gwerthfawrogi gofal plant am ei rôl wrth cymdeithasoli plant, parodrwydd ar gyfer mynd i'r ysgol, a datblygiad emosiynol. Roedd gofal plant hefyd yn darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer lles rhieni, cyflogaeth, ac integreiddio cymunedol. Mae sicrhau darpariaeth gofal plant hygyrch, sy'n sensitif yn ddiwylliannol, ac yn fforddiadwy yn hanfodol ar gyfer gwella canlyniadau i deuluoedd ethnig ledled Cymru.
Yn seiliedig ar y canfyddiadau a amlinellir uchod, cynigir yr argymhellion canlynol.
Sicrhau gwybodaeth glir, hygyrch, a pherthnasol yn ddiwylliannol
Weithiau mae teuluoedd ethnig lleiafrifol yn dod ar draws systemau anghyfarwydd a rhwystrau iaith wrth ddeall sut i gael mynediad at wasanaethau pan nad yw gwybodaeth yn gyfarwydd neu nad yw ar gael mewn fformatau hygyrch. Byddai Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn sicrhau bod teuluoedd yn derbyn yr un negeseuon lle bynnag y maent yn byw. Gall rhannu gwybodaeth drwy fannau cymunedol dibynadwy hefyd wneud gwasanaethau'n fwy gweladwy a hygyrch i deuluoedd nad ydynt efallai'n defnyddio gwefannau awdurdodau lleol na llwyfannau swyddogol.
Meithrin ymddiriedaeth drwy dryloywder diogelu a chyfathrebu cryf
Efallai bod rhai teuluoedd ethnig lleiafrifiol, gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid, wedi cael profiadau negyddol gyda sefydliadau neu efallai nad ydynt yn gyfarwydd â systemau diogelu'r DU. Gall Awdurdodau Lleol helpu i feithrin ymddiriedaeth drwy sicrhau bod darparwyr gofal plant yn rhannu polisïau diogelu clir. Gall sesiynau ymgartrefu, diwrnodau agored, a chyfleoedd i rieni arsylwi arfer dawelu meddwl teuluoedd ymhellach ynghylch diogelwch a dulliau staff. Mae diweddariadau rheolaidd ar lesiant a dysgu plant, drwy luniau, apiau, neu sgyrsiau byr, yn arbennig o werthfawr i rieni sydd â Saesneg neu Gymraeg cyfyngedig, gan eu helpu i deimlo'n gysylltiedig ac yn hyderus yn y gofal y mae eu plant yn ei dderbyn.
Ehangu gofal plant hyblyg, fforddiadwy sy'n diwallu anghenion gweithwyr amrywiol
Mae teuluoedd ethnig lleiafrifol yn fwy tebygol o weithio mewn swyddi sifftiau, â chyflog isel, neu swyddi anrhagweladwy, gan wneud hyblygrwydd gofal plant yn fater sylweddol. Gallai cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol helpu drwy gynyddu cyllid ar gyfer gofal plant y tu allan i oriau safonol, ehangu mynediad at glybiau ar ôl ysgol a gwasanaethau chwarae fforddiadwy neu am ddim, ac annog darparwyr i gynnig pecynnau gofal plant rhan-amser, estynedig, neu addasadwy sy'n cyd-fynd yn well ag amserlenni gwaith afreolaidd.
Hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cynhwysiant ac amlieithrwydd mewn lleoliadau gofal plant
Mae teuluoedd ethnig lleiafrifol yn elwa pan fydd lleoliadau gofal plant yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu hunaniaethau, eu hieithoedd a'u harferion diwylliannol. Gellid cryfhau hyn drwy hyfforddi staff sy'n ymwybodol o ddiwylliant, cyfathrebu cynhwysol ac amgylcheddau sy'n dathlu amrywiaeth drwy lyfrau, gweithgareddau, bwyd a digwyddiadau. Mae cymhorthion gweledol clir a deunyddiau wedi'u cyfieithu yn helpu teuluoedd â Saesneg neu Gymraeg cyfyngedig i deimlo'n fwy hyderus a gwybodus, tra bod hyrwyddo dysgu dwyieithog ac amlieithog yn atgyfnerthu pwysigrwydd ieithoedd brodorol. Mae teuluoedd sydd wedi cael profiadau negyddol yn y gorffennol neu sy'n wynebu gwendidau ychwanegol hefyd yn elwa o sicrwydd a chefnogaeth wedi'i theilwra sy'n helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth ac annog ymgysylltiad â gwasanaethau gofal plant.
Cryfhau Cysylltiadau Cymunedol a Rhwydweithiau Cymorth Dibynadwy
Mae teuluoedd ethnig lleiafrifol yn aml yn dibynnu ar rwydweithiau anffurfiol, perthnasau, grwpiau ffydd a sefydliadau cymunedol am gyngor gofal plant a chefnogaeth emosiynol. Mae dulliau posibl o ddatblygu hyn yn cynnwys Awdurdodau Lleol yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a ffydd i feithrin ymddiriedaeth, tra gall cynnig gweithgareddau hyblyg sydd ag ymrwymiad isel helpu i leihau unigedd i rieni sy'n aros gartref. Gall creu digwyddiadau croesawgar o fewn lleoliadau gofal plant hefyd annog teuluoedd o gefndiroedd amrywiol i deimlo'n fwy cyfforddus ac wedi'u cynnwys.
Manylion cyswllt
Awduron: Buddug Hughes, Gwennan Higham, Zaina Aljumma, Joseff Gnagbo, Jaqueline Hooban
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil Plant a Theuluoedd
Adran Tystiolaeth a Chymorth i Gydraddoldeb, Tlodi a Phlant Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: Ymchwil.PlantATheuluoedd@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 49/2026
ISBN digidol 978-1-83745-338-2
