Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cafcass Cymru yn anelu'n barhaus at ddeall profiadau'r plant a'r bobl ifanc y mae'n gweithio â nhw yn well fel rhan o achosion teuluol.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn lansio'r Peilot Braenaru yng Ngogledd Cymru ym mis Chwefror 2022, sy'n anelu at gryfhau llais plant mewn achosion, roedd yn gyfle amserol i gomisiynu astudiaeth yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phlant a gwrando ar eu profiadau o gael eu cynnwys mewn achosion cyfraith breifat.

Llwyddodd Cafcass Cymru, ar y cyd â Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru, i recriwtio intern PhD drwy gynllun interniaeth PhD y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Diben yr interniaeth oedd archwilio profiadau plant a phobl ifanc sy'n destun achos llys teulu yng Ngogledd Cymru lle mae'r prosiect Braenaru peilot yn cael ei gynnal.

Mae'r ymchwil wedi cael ei chyhoeddi a chafodd y canfyddiadau groeso cynnes gan Nigel Brown, Prif Weithredwr Cafcass Cymru.

"Mae'r astudiaeth yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni o sut brofiad ydyw i blant a phobl ifanc siarad â Cafcass Cymru fel rhan o achosion llys o dan y gyfraith breifat. Mae'n galonogol iawn bod y plant yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan pan oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn eu cylch, gyda'r mwyafrif yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda a bod eu gweithiwr Cafcass Cymru wir yn gwrando arnynt. Mae Cafcass Cymru yn ymrwymedig i fod yn sefydliad sy'n dysgu ac yn croesawu'r adborth yn yr astudiaeth a fydd yn ei helpu i wella'r gwasanaeth a ddarperir gennym ymhellach."