Nod y tri phrosiect oedd dangos y gwerth y gallai cysylltu data ei ychwanegu o ran datblygu sail tystiolaeth llawer mwy cyfoethog i gefnogi datblygu a gwerthuso polisi. Hefyd i ddarparu cyfres o adroddiadau yn archwilio pa mor uchelgeisiol y gallem fod wrth geisio gwneud y defnydd gorau o'r data presennol ar gyfer Cymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Prosiect arddangos cysylltu data
Cysylltwyd y prosiect yma Data Effeithlonrwydd Ynni Cartref gyda sawl set data iechyd er mwyn adnabod gwahaniaethau mewn deilliannau iechyd preswylwyr cyn ac ar ôl i ymyriadau effeithlonrwydd ynni cartref ddechrau.
