Neidio i'r prif gynnwy

Nod y prosiect 4 blynedd hwn yw defnyddio data gweinyddol i archwilio effaith y Rhaglen Cefnogi Pobl ar y defnydd o wasanaethau cyhoeddus gan y rhai sy'n cael gafael ar gymorth.

Mae’r Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl yn dilyn ymlaen o Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl. Mae’r Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl yn astudio effaith y Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru gan ddefnyddio data sy'n gysylltiedig yn y gronfa ddata SAIL.  

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r cynnydd mewn yr Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl ym mlwyddyn 3 (2018-19).

Mae'r prosiect wedi'i rannu mewn i 9 amcan. Yn ystod blwyddyn 3, mae'r cynnydd yn canolbwyntio ar 3 o’r amcanion.

  • Amcan 3: Cymharu dulliau dadansoddi rhwng Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl a phrif gam Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl. Bydd hyn yn nodi unrhyw esboniadau ar gyfer gwahaniaethau a welwyd. (Mae hwn yn amcan newydd)
  • Amcan 5: Cytuno ar gwestiynau ymchwil
  • Amcan 6: Parhau i ehangu ar y gwaith dadansoddol blaenorol

Cyhoeddi fel HTML

Fel y disgrifiwyd yn ein blog yn gynharach yn y flwyddyn, rydym yn bwriadu cyhoeddi mwy o'r hyn rydym yn ei wneud fel HTML yn hytrach na fel dogfennau PDF. Mae'r adroddiad hwn wedi'i gyhoeddi fel HTML, byddem yn croesawu eich adborth ar fformat yr adroddiad yma.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.