Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o raglen cymorth mewn cysylltiad â thai, gan ddefnyddio data cysylltiol o bum awdurdod lleol yng Nghymru rhwng mis Ionawr 2003 a mis Ionawr 2020.

Mae’r prosiect hwn yn dilyn ac yn cael ei lywio gan astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl ac adroddiad y prosiect cysylltu data Cefnogi Pobl ar ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, gan ddefnyddio hen ddata Cefnogi Pobl gan bum awdurdod lleol yng Nghymru (rhwng 2003 a 2020). Cafodd y rhaglen Cefnogi Pobl ei disodli gan y Grant Cymorth Tai yn 2019.

Mae’r adroddiad hwn yn dadansoddi demograffeg Cefnogi Pobl i ddeall pwy gafodd gymorth gan y rhaglen. Yn ogystal â hynny, mae’n amlinellu canfyddiadau o ddadansoddiad a oedd wedi cysylltu’r data Cefnogi Pobl â data gofal iechyd yn y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw i ddeall defnydd cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl o ofal iechyd cyn ac ar ôl cael cymorth.

Cyswllt

Tony Whiffen

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.