Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Roedd hen Raglen Cefnogi Pobl (“y Rhaglen”) Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth mewn cysylltiad â thai. Nod y Rhaglen oedd helpu pobl agored i niwed i osgoi digartrefedd ac roedd yn darparu cymorth tymor hir a thymor byr (fel yr amlinellir ymhellach isod). Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r dadansoddiad o ddata diweddaraf y Rhaglen hyd at fis Ionawr 2020 o bum awdurdod lleol yng Nghymru (Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr) sydd wedi parhau i ddarparu data, ac mae’n adeiladu ar ganfyddiadau astudiaethau blaenorol o ddata cysylltiol y Rhaglen. Mae’n cynnwys demograffeg o gleientiaid y Rhaglen a dadansoddiad o’u defnydd o ofal iechyd.

Prif bwyntiau

  • Roedd mwy o bobl ifanc na phobl hŷn wedi cael cymorth gan y Rhaglen.
  • Yn y categorïau oedran 15 i 29 a 30 i 44, roedd mwy o ferched na dynion wedi defnyddio gwasanaethau'r Rhaglen.
  • Yn bennaf, roedd cleientiaid y Rhaglen yn dod o ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd incwm.
  • Roedd ymweliadau â’r meddyg teulu, ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, a derbyniadau brys i’r ysbyty i gyd yn sylweddol uwch ymysg cleientiaid y Rhaglen o’u cymharu ag unigolion yn y grŵp rheoli cyfatebol.

Cefndir

Roedd y Rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu pobl agored i niwed yng Nghymru i fyw mor annibynnol â phosibl, ar sail dull o ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn fuan. Ei nod oedd rhoi cymorth i bobl a oedd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn ogystal â phobl ag anghenion cymhleth eraill, fel pobl a oedd yn dioddef trais domestig, pobl ag anghenion iechyd meddwl, a phobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau.

Darparodd gymorth tymor hir i helpu pobl i ennill annibyniaeth neu i gadw eu hannibyniaeth (ac osgoi’r angen am ymyriadau mwy costus, fel ymuno â’r system ofal). Roedd hefyd yn darparu gwasanaethau ataliol tymor byr i bobl mewn perygl o fod yn ddigartref drwy gyflenwi pobl â’r cymorth a’r sgiliau a oedd eu hangen arnynt i fyw yn eu cartrefi eu hunain, mewn hostelau, mewn tai gwarchod neu mewn tai arbenigol eraill.

Ym mis Ebrill 2019, cafodd y Rhaglen Cefnogi Pobl ei disodli gan y Grant Cymorth Tai, sy’n uno tri grant, gan gynnwys y Rhaglen Cefnogi Pobl. Pwrpas cyffredinol y Grant Cymorth Tai yw atal digartrefedd a helpu pobl i feddu ar y gallu, yr annibyniaeth, y sgiliau a'r hyder i gael a/neu gynnal cartref sefydlog ac addas. Fel y nodir yn y Canllawiau ar y Grant Cymorth Tai (2023 t3):

Rhaglen grant ymyrraeth gynnar yw'r Grant Cymorth Tai, a sefydlwyd i gefnogi gweithgarwch sy'n atal pobl rhag mynd yn ddigartref, yn sefydlogi eu sefyllfa o ran tai, neu'n helpu pobl a allai fynd yn ddigartref i ddod o hyd i lety a'i gadw’. Yn ogystal â hynny, ‘mae'n helpu pobl sy'n agored i niwed i fynd i'r afael â'r problemau y maent yn eu hwynebu, a all fod yn niferus, fel dyledion, cyflogaeth, rheoli tenantiaeth, camddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a phroblemau iechyd meddwl...

Yn 2018, nod Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl: Adroddiad ar Ganfyddiadau sy’n Dod i’r Amlwg oedd nodi unrhyw leihad yn y defnydd o'r GIG ymysg pobl sydd wedi cael cymorth gan y Rhaglen Cefnogi Pobl. Roedd yn amlinellu canfyddiadau cychwynnol ac amodol gan ddefnyddio dadansoddiad o ddata gweinyddol cysylltiol y Rhaglen a data iechyd yn y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, ac yn cymharu patrymau o ddefnydd o’r GIG cyn ac ar ôl cael cymorth y Rhaglen ar draws 19 o awdurdodau lleol yng Nghymru gyda gwahanol grwpiau cymharu.  Mae’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw ym Mhrifysgol Abertawe yn amgylchedd ymchwil dibynadwy lle gall ymchwilwyr cymeradwy gael gafael ar ddata gweinyddol heb fanylion adnabod at ddibenion ymchwil cymeradwy.

Ers hynny, mae rhagor o ddata'r Rhaglen wedi cael ei ychwanegu at y banc data ar gyfer rhai awdurdodau lleol. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y data rhwng mis Ionawr 2003 a mis Ionawr 2020. Mae mwyafrif helaeth y data yn hen ddata’r Rhaglen Cefnogi Pobl. Mae’r 10 mis olaf o ddata yn cynnwys dyddiau cynnar cyfnod y Grant Cymorth Tai, pan oedd awdurdodau lleol yn dal i gasglu data o dan hen fframwaith y Rhaglen a’i ychwanegu at y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw.

Canfyddiadau

Demograffeg

O ran y pum awdurdod lleol yng Nghymru a oedd wedi parhau i ychwanegu data at y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, dadansoddwyd demograffeg y bobl a oedd yn cael cymorth gan y Rhaglen Cefnogi Pobl ar y pwynt cyswllt cyntaf. Mae Ffigur 1 yn amlinellu bod mwy o bobl ifanc na phobl hŷn wedi cael cymorth gan y Rhaglen. Yn y categorïau oedran 15 i 29 a 30 i 44, roedd mwy o ferched na dynion wedi defnyddio gwasanaethau'r Rhaglen. Mae hyn yn dangos bod y Rhaglen yn ymateb yn bennaf i anghenion penodol sylfaen cleient benywaidd, iau. Byddai modd ymchwilio ymhellach i’r rhesymau am hyn mewn ymchwil yn y dyfodol. Mae Ffigur 2 yn amlinellu bod sylfaen cleientiaid y Rhaglen yn perthyn yn bennaf i gwintelau incwm cyntaf ac ail Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) (2019), gan gynrychioli’r unigolion â’r amddifadedd incwm mwyaf rhwng 2003 a 2020. Mae’r Mynegai’n mesur crynoadau o amddifadedd ar lefel ardal fach yng Nghymru.

Ffigur 1: Cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl yn ôl rhyw a grŵp oedran (rhwng mis Ionawr 2003 a mis Ionawr 2020)

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart far hon yn dangos categorïau rhyw ac oedran cleientiaid y Rhaglen mewn pum awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd cyfran uwch o gleientiaid iau (o dan 45 oed) na rhai hŷn (dros 45 oed). Roedd mwy o ferched na dynion yn gleientiaid yn y grwpiau oedran 15 i 29, 30 i 44 a dros 75.

Ffynhonnell: Awdurdodau lleol Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (cyfun).

Ffigur 2: Cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl yn ôl rhyw a chwintel incwm MALlC 2019 (rhwng mis Ionawr 2003 a mis Ionawr 2020)

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart far hon yn dangos rhyw a lefel amddifadedd incwm cleientiaid y Rhaglen mewn pum awdurdod lleol yng Nghymru. Roedd mwy o gleientiaid y Rhaglen yn y cwintel â’r amddifadedd incwm uchaf nag unrhyw gwintel arall. Roedd mwy o ferched na dynion yn cael cymorth gan y Rhaglen ym mhob cwintel incwm.

Ffynhonnell: Awdurdodau lleol Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (cyfun).

Defnyddio gwasanaethau meddyg teulu

I asesu’r defnydd o wasanaethau gofal iechyd, gellir defnyddio nifer yr ymweliadau â meddyg teulu fel prif ddangosydd. Ar gyfer pob ymweliad â meddyg teulu, gellir cofnodi nifer o ‘ddigwyddiadau’, er enghraifft gweithgareddau fel mesur pwysedd gwaed neu ragnodi meddyginiaeth. Caiff y rhain eu galw’n ‘ddigwyddiadau meddyg teulu’.  Gall mwy nag un digwyddiad meddyg teulu ddigwydd yn ystod un ymweliad.

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cafodd nifer y diwrnodau lle roedd digwyddiadau meddyg teulu eu cyfuno a’u rhannu â nifer posibl y defnyddwyr gwasanaethau meddyg teulu i roi nifer y diwrnodau pan fydd digwyddiadau meddyg teulu yn digwydd fesul defnyddiwr (fel dangosydd o’r defnydd o ofal iechyd). Cafodd hyn ei gyfrifo ar gyfer cleientiaid y Rhaglen a grŵp cymharu nad oedd wedi defnyddio gwasanaethau’r Rhaglen (gweler yr adran Methodoleg isod am ragor o fanylion am sut cafodd y grŵp hwn ei ddiffinio).

Mae Ffigur 3 yn amlinellu patrymau’r defnydd o wasanaethau iechyd ymysg cleientiaid y Rhaglen mewn perthynas â nifer y diwrnodau digwyddiad meddyg teulu fesul defnyddiwr ar gyfer pob cyfnod 30 diwrnod dan sylw cyn ac ar ôl cael cymorth gan y Rhaglen (a fyddai wedi digwydd rhwng mis Ionawr 2003 a mis Ionawr 2020). Gellir gweld cynnydd cyson mewn diwrnodau digwyddiad meddyg teulu fesul defnyddiwr cyn dechrau'r cymorth gan y Rhaglen, wedi’i ddilyn gan gynnydd sylweddol ychydig wedi hynny. Mae’r defnydd o wasanaethau meddyg teulu yn dal yn gymharol uchel am hyd at chwe mis wedyn. Nid yw hynny’n syndod oherwydd bwriad y Rhaglen a'r Grant Cymorth Tai yn y dyfodol yw rhoi cymorth i bobl agored i niwed gyda’r problemau cymhleth, niferus weithiau, maen nhw’n eu hwynebu.

Ffigur 3: Nifer y diwrnodau pan ddigwyddodd digwyddiadau meddyg teulu fesul cleient Cefnogi Pobl yn ôl cyfnod (cyn ac ar ôl cael cymorth)

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart far hon yn dangos nifer y diwrnodau digwyddiad meddyg teulu fesul cleient y Rhaglen mewn pum awdurdod lleol yng Nghymru, cyn ac ar ôl cael cymorth gan y Rhaglen, o’i gymharu â’r grŵp rheoli cyfatebol. Roedd nifer uchaf y diwrnodau digwyddiad meddyg teulu fis ar ôl dechrau darparu cymorth.

Ffynhonnell: Awdurdodau lleol Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (cyfun).

Ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys

Mae Ffigur 4 yn dangos yr ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys gan gleientiaid y Rhaglen ar gyfer pob cyfnod 30 diwrnod dan sylw cyn ac ar ôl dechrau’r cymorth gan y Rhaglen, o’i gymharu â’r grŵp rheoli cyfatebol. Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos cynnydd (o’i gymharu â’r grŵp rheoli) yn yr ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys gan gleientiaid y Rhaglen yn ystod y tri mis cyn dechrau’r cymorth, wedi’i ddilyn gan ostyngiad amlwg ychydig wedyn. Mae’r ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn dal yn gymharol uchel un a dau fis ar ôl dechrau darparu cymorth y Rhaglen, o’i gymharu â’r grŵp rheoli cyfatebol.

Ffigur 4: Nifer yr ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys fesul 100 o gleientiaid Cefnogi Pobl yn ôl cyfnod (cyn ac ar ôl cael cymorth)

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart far hon yn dangos nifer yr ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys gan gleientiaid y Rhaglen mewn pum awdurdod lleol yng Nghymru, cyn ac ar ôl cael cymorth gan y Rhaglen, o’i gymharu â’r grŵp rheoli cyfatebol. Roedd nifer uchaf yr ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys fis cyn dechrau cael cymorth gan y Rhaglen.

Ffynhonnell: Awdurdodau lleol Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (cyfun).

Derbyniadau brys i’r ysbyty

Gall derbyniadau i'r ysbyty ddigwydd am bob math o resymau a gallant fod wedi’u cynllunio, neu heb eu cynllunio. Caiff derbyniadau brys i’r ysbyty eu diffinio yma fel derbyniadau brys, annisgwyl, heb eu cynllunio i’r ysbyty.

Mae Ffigur 5 yn dangos nifer y derbyniadau brys i’r ysbyty ymysg cleientiaid y Rhaglen ar gyfer pob cyfnod 30 diwrnod dan sylw, cyn ac ar ôl cael cymorth gan y Rhaglen (a fyddai wedi digwydd rhwng mis Ionawr 2003 a mis Ionawr 2020), o’i gymharu â’r grŵp rheoli cyfatebol.

Mae’r derbyniadau brys i’r ysbyty ymysg cleientiaid y Rhaglen ar eu huchaf fis cyn dechrau’r cymorth, cyn gostwng yn sydyn fis ar ôl dechrau cael y cymorth, gan barhau i ostwng hyd at 12 mis ar ôl dechrau’r cymorth. Roedd cleientiaid y Rhaglen ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty mewn brys nac unigolion yn y grŵp rheoli cyfatebol yn ystod y cyfnodau dan sylw. Mae hyn yn dangos bod cleientiaid y Rhaglen yn fwy tebygol o fynd i’r ysbyty ac yn awgrymu bod eu hanghenion iechyd yn fwy cymhleth na rhai grwpiau eraill ym mhoblogaeth Cymru.

Wrth ystyried derbyniadau brys i’r ysbyty ynghyd ag ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ymysg cleientiaid y Rhaglen, mae’r tueddiadau cyffredinol yn ymddangos yn debyg, ond roedd derbyniadau brys i’r ysbyty yn llai tebygol nag ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn ystod y cyfnodau dan sylw.

Ffigur 5: Nifer y derbyniadau brys i’r ysbyty fesul 100 o gleientiaid Cefnogi Pobl yn ôl cyfnod (cyn ac ar ôl cael cymorth)

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart far hon yn dangos nifer y derbyniadau brys i’r ysbyty ymysg cleientiaid y Rhaglen mewn pum awdurdod lleol yng Nghymru, cyn ac ar ôl cael cymorth gan y Rhaglen, o’i gymharu â’r grŵp rheoli cyfatebol. Roedd y nifer uchaf o dderbyniadau un i ddau fis cyn dechrau cael cymorth gan y Rhaglen.

Ffynhonnell: Awdurdodau lleol Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr (cyfun).

Trafodaeth

Roedd digwyddiadau meddyg teulu, ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, a derbyniadau brys i’r ysbyty i gyd yn sylweddol uwch ymysg cleientiaid y Rhaglen o’u cymharu ag unigolion yn y grŵp rheoli cyfatebol. Mae hyn yn awgrymu bod gan y bobl sy’n cael cymorth gan y Rhaglen set benodol iawn o anghenion iechyd o’u cymharu â phoblogaeth oedolion Cymru, a bod eu defnydd o ofal iechyd yn sylweddol wahanol. Mae hyn yn wir hyd yn oed ar ôl ystyried oedran, rhyw a mesur o amddifadedd ar sail ardal. Fel y nodwyd uchod, mae cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl a’r Grant Cymorth Tai yn grŵp agored i niwed gyda phroblemau cymhleth, niferus weithiau, ac nid yw’n syndod bod eu hanghenion iechyd yn sylweddol wahanol i’r rhai â nodweddion cymdeithasol-ddemograffig tebyg fel arall. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod y Rhaglen yn blaenoriaethu poblogaeth agored i niwed yng Nghymru sydd ag anghenion uwch o ran gofal iechyd.

Mae’r dadansoddiad o’r ddemograffeg yn dangos bod y rhan fwyaf o gleientiaid y Rhaglen yn dod o ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd incwm (cwintelau incwm 1 a 2 MALlC), yn perthyn i’r grwpiau oedran iau (o dan 45 oed), a bod cyfran uwch o ferched yn y categorïau oedran ieuaf a hynaf. Mae hyn yn dangos bod anghydraddoldebau ehangach yn bodoli sy’n effeithio ar gleientiaid y Rhaglen ac o bosibl ar y rhai sy’n cael y Grant Cymorth Tai cyfredol.

Mae’r dadansoddiad hwn yn tynnu sylw at feysydd ar gyfer ymchwil pellach posibl. Er enghraifft, gellid archwilio’r dimensiwn o ran rhyw, oedran a’r dimensiwn economaidd-gymdeithasol yn fanylach i ddeall yr anghydraddoldebau. Ar ben hynny, gellid ystyried digartrefedd mynych a hirdymor y rhai sy’n cael y cymorth er mwyn ymchwilio i effaith lawn y Rhaglen a’r Grant yn y dyfodol. Gellid hefyd dadansoddi’r gwahanol ddulliau gweithredu o ran economeg iechyd fel ffordd o werthuso’r rhaglen.

Ansawdd a methodoleg

Mae’r fethodoleg sylfaenol a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad hwn yr un fath yn ei hanfod â’r un a ddefnyddiwyd ar gyfer Astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru (2016) (yr ‘astudiaeth ddichonoldeb’). Nod yr astudiaeth ddichonoldeb oedd asesu dichonoldeb cysylltu data i helpu i werthuso’r Rhaglen Cefnogi Pobl ac i ddeall effaith y rhaglen ar y defnydd o wasanaethau iechyd.  Mae cysylltu data yn sefydlu cysylltiadau rhwng ffynonellau data gweinyddol er mwyn gallu cyfateb gwybodaeth heb fanylion adnabod sy’n ymwneud â’r un person, teulu, lleoliad neu ddigwyddiad, a hynny at ddibenion ymchwil. Nododd yr astudiaeth ddichonoldeb fod heriau o ran ansawdd, rheoli a chaffael data, yn ogystal ag amrywiad sylweddol mewn data ar draws gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru. Dangosodd y byddai creu grŵp rheoli ar gyfer y dadansoddiad yn ei gwneud hi’n bosibl asesu effaith y Rhaglen yn y ffordd fwyaf hygred, ac argymhellodd cynnal astudiaeth cysylltu data lawn o’r Rhaglen ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Casglwyd cofnodion gweinyddol dros 88,000 o ddefnyddwyr gwasanaethau’r Rhaglen ar draws Cymru, cyn eu gwneud yn ddienw a’u hychwanegu at y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Ar gyfer y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, roedd data cleientiaid yn ymwneud â’r blynyddoedd o 2015 ymlaen ond mewn rhai achosion, darparwyd data ar lefel cofnodion mor bell yn ôl â 2003, a hyd at 2021 mewn achosion eraill. Ar ôl amgryptio, dewiswyd data’r Rhaglen ar gyfer y rhai a ddaeth i gysylltiad â’r Rhaglen hyd at 1 Ionawr 2020. Cafodd y data dan sylw ei gysylltu â setiau data gofal iechyd (data meddygon teulu, data Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, a data derbyniadau i’r ysbyty) gan ddefnyddio Maes Cysylltu Dienw. Cafodd nifer yr ymweliadau â’r meddyg teulu, nifer yr ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys a nifer y derbyniadau brys i’r ysbyty fesul cleient y Rhaglen eu hechdynnu ar sail amseriad y digwyddiadau gofal iechyd mewn perthynas â’r cymorth a ddarparwyd gan y Rhaglen.  Cafodd cyfnodau 30 diwrnod penodol (deuddeg, chwe, tri ac un mis cyn ac ar ôl dechrau ymyriad y Rhaglen) eu defnyddio i ddeall effaith bosibl y Rhaglen fel ymyriad polisi, a’i heffaith ar y defnydd o wasanaethau iechyd.

I werthuso effaith ymyriad polisi, rhaid amcangyfrif y sefyllfa wrthffeithiol i ddeall beth fyddai wedi digwydd heb yr ymyriad (drwy arsylwi ar yr hyn sy’n digwydd i bobl na chawsant yr ymyriad). Felly, dewiswyd grŵp cymaradwy o bobl yng Nghymru nad oeddent wedi dod i gysylltiad â gwasanaethau’r Rhaglen er mwyn cymharu â’r rhai a oedd wedi dod i gysylltiad. Ar gyfer pob un o gleientiaid y Rhaglen â data gellir ei gysylltu, cafodd o leiaf ddau unigolyn arall eu dewis ar sail nodweddion tebyg fel y diffinnir gan oedran, rhyw ac amddifadedd incwm ar sail ardal (cwintel incwm MALlC).  

Cafodd cofnodion y grŵp rheoli cyfatebol eu hechdynnu a’u cyfuno mewn un set ddata â chofnodion cleientiaid y Rhaglen, a’u prosesu ar yr un pryd. Cafodd y ddwy set eu cysylltu â’r un setiau data gofal iechyd ar gyfer meddyg teulu a’r ysbyty drwy ddefnyddio’r un dull a ddefnyddiwyd yn yr adroddiadau blaenorol. Mae’r dadansoddiad hwn, sydd wedi’i ddiweddaru, yn darparu dealltwriaeth newydd gan ei fod yn cyflwyno ffigurau ar gyfer y grŵp rheoli cyfatebol o’i gymharu â’r pum awdurdod a barhaodd i ddarparu data’r Rhaglen i'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw.

Amseroldeb a phrydlondeb

Nod y briff tystiolaeth hwn yw cyhoeddi dadansoddiad cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r data sydd ar gael. Mae pandemig COVID-19 wedi oedi’r ymchwil hwn. Ond yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol wedi parhau i ddarparu data’r Rhaglen i’r Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Mae wedi bod yn bosibl ymgorffori’r data diweddaraf hwn yng nghanfyddiadau’r adroddiad hwn, sy’n seiliedig ar ddata’r awdurdodau lleol hynny a ddarparodd ddata’r Rhaglen i’r Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw hyd at fis Ionawr 2020.

Fel y nodwyd uchod, mae’r 10 mis olaf o ddata yn cynnwys dyddiau cynnar cyfnod y Grant Cymorth Tai, pan oedd awdurdodau lleol yn dal i gasglu data o dan hen fframwaith y Rhaglen a’i ychwanegu at y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw.

Yn 2021, cytunodd Llywodraeth Cymru y dylid datblygu fframwaith canlyniadau newydd ar gyfer y Grant Cymorth Tai i gofnodi pwrpas craidd y grant, a’i fuddion ehangach, yn gywir. Bydd y fframwaith newydd hwn yn olynu hen fframwaith canlyniadau'r Rhaglen Cefnogi Pobl ac yn cofnodi pwrpas craidd y Grant Cymorth Tai, a’i holl wasanaethau cymorth.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn cynnwys cofnodion o ymweliadau â’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys a derbyniadau i'r ysbyty dim ond ar gyfer yr unigolion hynny sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw pob practis meddygon teulu yng Nghymru yn darparu data i’r banc data. Er bod y canlyniadau ar gyfer ymweliadau â'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys a derbyniadau i'r ysbyty yn ymwneud â phawb sydd wedi cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru, mae’r canlyniadau ar gyfer digwyddiadau meddyg teulu yn ymwneud dim ond â’r rhai sydd wedi cofrestru mewn practis meddygon teulu sy’n darparu data i’r banc data.  Ym mis Mawrth 2023, roedd tua 80% o bractisau meddygon teulu wedi cytuno i ddarparu data i’r banc data.

Cyfyngiadau

Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio data a gofnodwyd ar gyfer pobl sydd wedi dod i gysylltiad â gwasanaethau’r Rhaglen Cefnogi Pobl ac y gellir cysylltu data â setiau data eraill (er enghraifft gofal iechyd) ar eu cyfer. Nid oedd hi’n bosibl cofnodi data digonol ar gyfer rhai o ddefnyddwyr gwasanaethau’r Rhaglen. Felly, mae’r patrymau o ddefnydd gofal iechyd a ddangosir uchod dim ond yn cynrychioli’r rhai yr oedd hi’n bosibl casglu’r wybodaeth angenrheidiol ar eu cyfer. Felly efallai nad yw'r patrymau’n cynrychioli holl gleientiaid y Rhaglen (oherwydd cofnodwyd gwybodaeth annigonol mewn rhai achosion).

Gan mai bwriad y Rhaglen yw rhoi cymorth i bobl sy’n wynebu heriau cymhleth, mae’n debygol y bydd y grŵp rheoli yn y dadansoddiad hwn yn wahanol i gleientiaid y Rhaglen mewn nifer o ffyrdd, felly efallai nad yw’n gymharydd delfrydol. Felly, wrth fynd ati i werthuso effaith y Rhaglen, mae’n fwy defnyddiol cymharu’r tueddiadau o ran y defnydd o ofal iechyd dros amser rhwng y grŵp cleientiaid a’r grŵp rheoli, yn hytrach na lefel y defnydd o ofal iechyd.

Cydnabyddiaeth

Mae awdurdodau lleol (nid dim ond y rhai sydd dan sylw yn yr adroddiad hwn) ar draws Cymru wedi casglu data cleientiaid y Rhaglen Cefnogi Pobl a’i lwytho i fyny i’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw. Rydym yn ddiolchgar am eu mewnbwn, yn ogystal â chyfraniad staff polisi tai sydd wedi helpu i ddatblygu’r adroddiad hwn.

Mae YDG Cymru’n casglu ynghyd arbenigwyr gwyddor data yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, staff Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a thimau arbenigol yn Llywodraeth Cymru i ddatblygu tystiolaeth newydd sy’n cefnogi’r Rhaglen Lywodraethu drwy ddefnyddio’r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae Rhaglen Waith YDG Cymru 2022-2026 yn amlinellu’r deg maes thematig lle bydd tîm YDG Cymru yn canolbwyntio eu hymchwil i helpu’r llywodraeth i fynd i’r afael â’r materion pwysicaf sy’n wynebu cymdeithas.

Mae YDG Cymru’n rhan o ADR UK ac mae’n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU).

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Tony Whiffen
Ebost: UYDG.Cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Adroddiad ymchwil rhif: 58/2023

GSR logo

ADR Wales logo