Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi rhoi contract tair blynedd i Goleg Sir Gar i weithio ar ddileu Clafr Defaid yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Clafr Defaid yn un o'r risgiau mwyaf o ran clefydau defaid a gellir ei ledaenu trwy fethiannau bioddiogelwch, patrymau symud cymhleth, a chymysgu defaid ar ffermydd ac oddi arnynt, megis trwy bori ar dir comin.

Nodau ac amcanion y prosiect a ddyfarnwyd i Goleg Sir Gâr yw gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid drwy gefnogi'r diwydiant i gael gwared ar Glafr Defaid o Gymru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Lleihau'n sylweddol nifer yr achosion o’r Clafr Defaid ar ffermydd yng Nghymru.
  • Dealltwriaeth gywir o achosion a pha mor gyffredin yw clafr defaid yng Nghymru, gan gynnwys patrymau yr achosion a'i ledaeniad, i dargedu mesurau rheoli yn y ffordd orau.
  • Hyrwyddo diagnosis cywir ac amserol y clefyd pan fydd yn digwydd, a’i drin yn briodol mewn ffordd lwyddiannus, amgylcheddol gynaliadwy, a diogel.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth yn y diwydiant defaid yng Nghymru o bwysigrwydd bioddiogelwch a chyrchu defaid yn ddiogel, i reoli clafr defaid, yng nghyd-destun afiechydon heintus eraill.
  • Gwella bioddiogelwch yn sylweddol yn y sector defaid yng Nghymru drwy ddylunio, cyflwyno, a mesur camau i atal y clafr defaid rhag lledaenu ar ffermydd ac oddi arnynt, mewn marchnadoedd a safleoedd eraill casglu defaid, trwy drafnidiaeth pellter byr a hir ac wrth bori ar dim comin.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae'r diwydiant defaid yng Nghymru yn eiconig a dyma ein sector da byw mwyaf.

"Mae Clafr Defaid yn un o'r clefydau mwyaf heintus i ddefaid ac yn her anodd i'r diwydiant.

"Mae rheoli clafr defaid yn effeithiol, ar raddfa leol a chenedlaethol yn hanfodol. Rhaid i ddefaid fod yn ddi-glafr i fod yn gynhyrchiol ac i gael ansawdd bywyd da. 

"Bydd Prosiect Dileu Clafr Defaid Cymru Gyfan yn gweld Coleg Sir Gâr yn cydweithio'n agos â'r diwydiant i reoli ac yn y pen draw ddileu Clafr Defaid o Gymru.

"Rwyf wedi dweud ers tro bod dull cydweithredol yn allweddol i lwyddiant a thrwy gydweithio gallwn gyflawni ein amcanion."

Meddai John Griffiths o Goleg Sir Gâr:

"Rydym yn falch iawn o dderbyn yr arian i gyflawni Prosiect Dileu Clafr Defaid Cymru Gyfan mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Milfeddygon.

"Mae tystiolaeth o Glafr Defaid yn cael ei gadarnhau'n aml ledled Cymru. Y gobaith yw y bydd yr ymdrech hon ar y cyd ar draws y diwydiant yn sicrhau enillion sylweddol i ddileu'r clefyd hwn.'

"Gan weithio gyda Dr Neil Paton o Goleg Brenhinol y Milfeddygon rydym yn bwriadu cyflwyno'r prosiect yn 2023."