Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi y bydd teuluoedd yng Nghymru sydd wedi cofrestru marwolaeth plentyn dan 18 oed yn gallu derbyn cyfraniad o £500 tuag at gost yr angladd, o 1 Ebrill ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ni fydd yn rhaid i deuluoedd fynd ati i ofyn am y cyllid na gwneud cais. Yn hytrach, bydd y Cofrestrydd yn ei gynnig fel un taliad pan gaiff y farwolaeth ei chofrestru.

Dywedodd Julie James:

Rydyn ni am gynnig cymorth ymarferol, tosturiol i deuluoedd ar adeg aruthrol o anodd. Bydd llywodraeth leol yn cymryd yr awenau o ran darparu’r cymorth ychwanegol i deuluoedd, ac rydyn ni wedi gweithio’n agos mewn partneriaeth â nhw i ddatblygu ffordd hawdd o gael gafael ar y cyllid, bydd yn darparu cymorth iddynt pan fo’i angen.

Does dim un rhiant eisiau meddwl am orfod trefnu angladd ei blentyn. Rydyn ni wedi gweithio gydag awdurdodau lleol fel bod y broses hon mor syml â phosibl i deuluoedd.

Mae’r cymorth ariannol ychwanegol hwn ar gyfer angladdau yn rhan o becyn ehangach i deuluoedd sydd wedi colli plentyn, sy’n cynnwys datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer profedigaeth a grant newydd gwerth £1m i helpu i fynd i’r afael â’r bylchau mewn darpariaeth gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru.

Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda llywodraeth leol ac Un Llais Cymru, sy’n cynrychioli cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, i hepgor ffioedd claddu ac amlosgi plant.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

Mae colli plentyn yn brofiad ac yn drawma y tu hwnt i ddychymyg a fydd yn aros gyda theuluoedd sy’n galaru am byth. Rydyn ni wedi bod yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tegwch a chysondeb yn hyn o beth ym mhob ardal yng Nghymru. Drwy ymestyn y cymorth hwn, byddwn yn gallu parhau i roi cymorth i deuluoedd pan fo’i angen fwyaf arnynt.

Rhian Mannings MBE yw sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol 2 Wish Upon A Star, sef elusen sy’n cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan farwolaeth sydyn blentyn neu oedolyn.

Dywedodd:

Ni ddylai neb orfod claddu ei blentyn. Mae’n mynd yn groes i drefn bywyd, ac yn gadael poen a galar aruthrol. Ar ben y boen a’r tor-calon hwnnw, yn aml mae’r baich ariannol o dalu costau’r angladd, all fod yn filoedd o bunnoedd. Mae trefnu’r angladd yn broses anodd. Mae gwneud dewisiadau am eu ffarwel olaf yn rhan arall o broses alaru’r rhieni, ond byddai nifer yn gwerthfawrogi cael gwybod bod cyllid ar gael i helpu tuag at gostau angladdau.

Pan gollais fy mab a fy ngŵr yn 2012, roedden ni’n ffodus o gael teulu estynedig o’n hamgylch i helpu i dalu am yr angladd, ac roedd yr ymgymerwr yn hael dros ben, wrth iddo hepgor costau angladd Georgie.