Astudiaethau achos ymyrraeth PDG-CLA a thystiolaeth o ddulliau effeithiol ar gyfer dysgwyr gofal profiadol
Detholiad o astudiaethau achos sy'n dangos ymyriadau ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o ofal a ariennir drwy'r PDG-CLA a thystiolaeth o ddulliau effeithiol o gefnogi dysgwyr sydd â phrofiad o ofal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Astudiaethau achos yn ymwneud ag ymyriadau ar gyfer dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal, a ariannwyd trwy gyfrwng y PDG-CLA
Cyngor Sir y Fflint: Plas Derwen, Uned Cyfeirio Disgyblion
Math o ymyriad
Pecyn o gymorth ar gyfer dysgwr unigol.
Braslun o’r dull
Trefnodd yr ysgol a’r awdurdod lleol i ddysgwr â phrofiad o fod mewn gofal fynychu cwrs gwallt a harddwch mewn salon leol.
Sut y cafodd anghenion y bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu pennu
Trwy gyfrwng proses y CAP a chyfarfodydd cynllunio addysg, gwelwyd bod dysgwr Blwyddyn 10 yn cael anhawster gyda’r canlynol:
- amgylchiadau teuluol
- datblygu cydberthnasau gyda chyfoedion ac oedolion
- rheoleiddio emosiynau
Oherwydd yr ymddygiad camreolus hwn, nid oedd y dysgwr y llwyddo i ymgysylltu ag ysgol prif ffrwd. Roedd hi wedi cael ei gwahardd yn y gorffennol ac roedd hi’n gyndyn o fynychu’r ysgol.
Pennodd y broses ADY y byddai’r dysgwr yn elwa ar becyn o gymorth a oedd yn canolbwyntio ar feithrin hunan-barch ac ymgysylltu ag addysg. Roedd gan y dysgwr ddiddordeb mewn dilyn gyrfa mewn gwallt a harddwch, felly rhoddwyd pecyn ar y cyd ar waith rhwng:
- yr ysgol
- yr Uned Cyfeirio Disgyblion
- salon a oedd yn cynnig cymwysterau a phrofiad
Sut y gwnaeth yr awdurdod lleol benderfynu ar yr ymyriad neu’r dull seiliedig ar dystiolaeth mwyaf priodol?
Yn sgil y broses asesu ADY a chyfarfodydd cynllunio a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, llwyddwyd i bennu DDY briodol trwy gyfrwng cynllun datblygu unigol (CDU).
Sut y cafodd yr ymyriad neu’r dull ei roi ar waith
Cynorthwywyd y dysgwr gan swyddogion yr ysgol a’r awdurdod lleol i gael mynediad at yr ymyriad.
Sut y cafodd effaith yr ymyriad neu’r dull gweithredu ei mesur
Yn achos y dysgwr:
- mae wedi cyflawni cymhwyster ASDAN Lefel 1 mewn Gwallt a Harddwch ac mae ar y trywydd iawn ar gyfer cyflawni cymwysterau TGAU
- mae presenoldeb y dysgwr yn rhagorol
- mae wedi creu cydberthnasau gydag oedolion dibynadwy ac wedi creu cyfeillgarwch cadarnhaol o fewn y grŵp
- mae wedi meithrin a chynorthwyo dysgwr arall agored i niwed
- mae wedi mynegi diddordeb mewn parhau yn y sector hwn ar gyfer cynlluniau ôl-16
- mae gan y dysgwr ddyheadau ac mae’n sôn am ddyfodol cadarnhaol i’w hun
Dyfyniadau gan y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r cyllid neu’r rhai sydd wedi elwa arno
Dyfyniadau gan yr athro gwallt a harddwch a pherchennog busnes:
“Pleser pur fu gweithio gyda hi. Profiad gwerth chweil fu dod i’w hadnabod, ennill ei hymddiriedaeth a’i gwylio’n agor allan. Mae hi wedi rhagori ar y cwrs hwn, mae ei hymddygiad wastad wedi bod yn berffaith, heb ddim problemau ymddygiadol. Dros y flwyddyn, rydw i wedi dod i’w hadnabod, rydw i wedi helpu i’w thywys yn rhai o’i phrosesau meddwl ac rydw i wedi dysgu gwersi bywyd gwerthfawr iddi.”
Dyfyniad gan y person ifanc.
“Roeddwn i’n credu na fyddwn i’n ei fwynhau e, ond mewn gwirionedd roedd e wir yn dda.”
Sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu adeiladu ar y gwaith mae wedi’i wneud
Cysylltiadau gyda Gyrfa Cymru i sicrhau cynlluniau ôl-16 clir ar gyfer cwrs Gwallt a Harddwch yn y coleg.
Parhau i weithio ar y cyd â phob asiantaeth i sicrhau deilliannau llwyddiannus ym Mlwyddyn 11 a thu hwnt.
Gwersi a ddysgwyd
Mae’n bwysig pennu anghenion yn gynnar, a hefyd mae llais y dysgwyr yn bwysig o ran sicrhau ymyriadau cadarnhaol a llwyddiant. Mae’n hanfodol cael disgwyliadau uchel o’r dysgwyr, ni waeth be fo’u hanes blaenorol o ran cael eu gwahardd.
Byddai’n ddefnyddiol cael mynediad at ragor o gyfleoedd yn ymwneud ag addysg amgen ym Mlynyddoedd 3 i 9.
Cyngor Sir y Fflint: Ysgol Gynradd Sandycroft
Math o ymyriad
Ymyriad ar lefel yr ysgol ar gyfer grŵp o ddysgwyr agored i niwed a dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal.
Braslun o’r dull
Sefydlodd yr ysgol ystafell o’r enw ‘Barod’ sy’n cynnig rhywle rhwng y cartref a’r ysgol i ddysgwyr â gorbryder. Roedd yr ystafell hon yn rhoi cyfle iddynt dawelu ac ymlacio cyn mynd i wersi.
Mewn grŵp bach, mae’r dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a gaiff eu llunio gan yr athro ac a gaiff eu cynnal o dan ddylanwad y dysgwyr. Mae’r grŵp yn elwa ar gael cwmni oedolyn cyson sy’n eu meithrin ac sy’n creu ymdeimlad o deulu a chefnogaeth yn y grŵp.
Sut y cafodd anghenion y bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu pennu
Trafododd yr ysgol y mater gyda’r dysgwyr. Gwelodd yr ysgol fod nifer cynyddol o ddysgwyr â gorbryder, yn enwedig dysgwyr hŷn yn y boreau. Roedd hyn yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal a dysgwyr sydd wedi cael eu mabwysiadu.
Sut y gwnaeth yr awdurdod lleol benderfynu ar yr ymyriad neu’r dull seiliedig ar dystiolaeth mwyaf priodol?
Trafododd yr ysgol y mater gyda’r dysgwyr, rhieni, gofalwyr a staff. Edrychwyd ar strategaethau gwahanol:
- defnyddio’r EEF
- defnyddio astudiaethau achos ymarfer effeithiol Estyn
- trwy ymweld ag ysgolion eraill
Daeth yr ysgol o hyd i grŵp meithrin o’r enw ‘Barod’ mewn ysgol yn Ne Cymru a defnyddiwyd y grŵp hwnnw fel ysbrydoliaeth.
Sut y cafodd yr ymyriad neu’r dull ei roi ar waith
Trafododd yr ysgol y dull gyda’r tîm ADY, yr athrawon dosbarth a’r dysgwyr. Modelwyd yr ymyriad ar sail yr hyn a welwyd mewn ysgol yn Ne Cymru.
Er mwyn cynorthwyo’r dysgwyr yn y grŵp meithrin ‘Barod’, defnyddiwyd y PDG-CLA ar gyfer cynnal hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma. Yn ogystal, cwblhaodd staff unigol ddiploma yn ymwneud ag ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
Sut y cafodd effaith yr ymyriad ei mesur
Mae’r ysgol wedi gweld lleihad nodedig yn nifer y dysgwyr sy’n arddangos gorbryder, yn enwedig yn y boreau. Mae dysgwyr a arferai gyrraedd yr ysgol yn ofidus ac a gâi anhawster i ymgysylltu â gwersi bellach yn cyrraedd yr ysgol yn hapus ac maent yn mynd i’r gwersi yn barod i ddysgu.
Dyfyniadau gan y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r cyllid neu’r rhai sydd wedi elwa arno
Dyma a ddywed athrawon: “Ers mynychu’r sesiynau meithrin yn y boreau, mae’r dysgwyr yn fwy hyderus ac maen nhw’n gwneud cynnydd da ar ôl cyrraedd y dosbarth. Hefyd, mae’r sesiynau’n sicrhau nad yw dysgu’r dysgwyr eraill yn cael ei ddrysu.”
Dyma a ddywed rhieni: “Mae fy mhlentyn yn mwynhau mynd i’r ysgol a gweithio gyda Mrs P. Mae’r pysgod yn rhoi rhywbeth cadarnhaol iddi ganolbwyntio arno yn y boreau. Mae hyn wedi helpu fy mhlentyn a’r teulu cyfan i gael dechrau cadarnhaol i’r diwrnod gartref.”
Ar ôl gofyn i blentyn camreolus a oedd yn iawn, dyma a ddywedodd: “Dwi jest angen mynd i ‘Barod’ am 5 munud, a dwi’n iawn wedyn.”
Sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu adeiladu ar y gwaith mae wedi’i wneud
Mae’r ysgol yn bwriadu dadansoddi beth sydd wedi bod yn llwyddiannus, a pham, ac ar gyfer sut fath o anghenion. Yna, bydd yn ystyried a oes modd rhoi’r arfer hwn ar waith ar lefel y dosbarth a’r adran. Mae’r ddarpariaeth hon wedi bod yn gweithio’n bennaf gyda dysgwyr cynradd iau. Bydd yr ysgol yn ystyried sut y gellir defnyddio dull ar gyfer babanod. Fodd bynnag, ceir gorgyffwrdd eisoes â darpariaeth dysgu sylfaen effeithiol.
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Math o ymyriad
Ymyriad ar lefel yr ysgol ar gyfer grŵp o ddysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal.
Braslun o’r dull
Sefydlodd un o ysgolion Castell-nedd Port Talbot glwb ar ôl ysgol, sef y ‘Clwb Dydd Iau’. Roedd y clwb yn galluogi dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal i elwa ar gyfleoedd y gall clybiau ar ôl ysgol eu darparu.
Diben y clwb oedd helpu pobl ifanc trwy ddarparu rhywle anfeirniadol a chroesawgar iddynt a oedd yn:
- cynnig ymdeimlad o berthyn iddynt
- eu helpu i ddatblygu hunan-barch, sgiliau cymdeithasol a chydberthnasau diogel
Sut y cafodd anghenion y bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu pennu
Gweithiodd therapydd chwarae a gweithiwr cymdeithasol yr ysgol gyda nifer o blant a oedd yn derbyn gofal. Ar y cyd â Swyddog Cyfranogi Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot, darganfu’r therapydd na châi plant sy’n derbyn gofal eu cynrychioli’n ddigonol mewn clybiau ieuenctid lleol.
Trwy gyfrwng llais y dysgwyr, gwelwyd bod pobl ifanc yn dymuno datblygu sgiliau newydd ac eithrio mewn clybiau chwaraeon traddodiadol. Roeddynt yn dymuno cael rhywle diogel i fwynhau diwylliant a’r celfyddydau mewn byd ehangach.
Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, cynigwyd y cyfleoedd hyn mewn clwb ieuenctid ar ôl ysgol (‘Clwb Dydd Iau’).
Sut y gwnaeth yr awdurdod lleol benderfynu ar yr ymyriad neu’r dull seiliedig ar dystiolaeth mwyaf priodol
Yn dilyn y pandemig, pennodd yr ysgol fod llesiant ac iechyd meddwl y dysgwyr yn flaenoriaeth glir ar gyfer y PDG-CLA.
Trwy weithio ar y cyd â’r gwasanaethau plant a thrwy wrando ar lais y dysgwyr, pennwyd bod angen gwella ymgysylltiad plant sy’n derbyn gofal trwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd cymdeithasol. Yn achos plant sy’n derbyn gofal ac sy’n ymuno â chlybiau ieuenctid, yn aml roeddent yn rhoi’r gorau i fynychu’r clybiau hynny oherwydd diffyg ymdeimlad o berthyn.
Sut y cafodd yr ymyriad neu’r dull ei roi ar waith
Cydweithiodd yr ysgol gyda Circus Eruption (elusen nid-er-elw) a ymwelodd â’r clwb yn aml. Roedd hyn yn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr fwynhau’r celfyddydau mynegiannol mewn sesiynau sgiliau syrcas.
Cymerodd y dysgwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys:
- parêd y Nadolig a sioe’r haf yn y gymuned leol
- gwersi hunanamddiffyn jw-jitsw a gyflwynwyd gan aelod o staff yr ysgol
- taith i Ganolfan Mileniwm Caerdydd
- gweithgareddau ysgol y goedwig, a oedd yn cynnwys creu llochesau, adeiladu tân a choginio yn yr awyr agored
Sut y cafodd effaith yr ymyriad ei mesur
Mae hunan-barch a hyder y dysgwyr wedi cynyddu. Er enghraifft:
- gwnaeth dysgwr A, a oedd â hunan-barch isel a phrinder hyder, gymryd rhan fel cyflwynydd yn sioe’r haf eleni
- erbyn hyn mae dysgwr B, sydd â mudandod dethol, yn arwain gemau ac yn perfformio’n gyhoeddus
- mae dysgwr C, sy’n byw gyda’i Fam-gu (sydd â chyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd), bellach yn mynychu gweithgareddau’r clwb ac mae’n mwynhau bod yn rhan o gymuned o gyfeillion
Mae’r holl ddysgwyr yn mwynhau’r ‘Clwb Dydd Iau’, ac mae’r naill yn annog y llall i roi cynnig ar bethau a phrofiadau newydd.
Oherwydd y cydweithredu rhwng y clwb, y gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau allanol eraill, erbyn hyn mae gan y dysgwyr fynediad at amrywiaeth ehangach o weithgareddau.
Dyma’r cryfderau:
- ymdeimlad o gymuned ar gyfer ymron yr holl ddysgwyr
- perchnogaeth ar yr hyn a wnânt yn eu clwb
- cydberthnasau cadarnhaol gyda chriw ehangach o gyfeillion mewn man diogel, anfeirniadol
- profiadau sydd wedi eu hannog i ymgysylltu mwy â’r gymuned leol ac ehangach
- profiadau i hybu eu llesiant meddyliol a chorfforol
Sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu adeiladu ar y gwaith mae wedi’i wneud
Bydd gwaith y ‘Clwb Dydd Iau’ yn parhau i wrando ar ddymuniadau a theimladau’r bobl ifanc sy’n ei fynychu. Bydd y clwb yn parhau i roi dull hyblyg ar waith a bydd yn parhau i addasu i anghenion y grŵp sy’n ei fynychu, gan ddarparu amrediad priodol o weithgareddau.
Gwersi a ddysgwyd
Mae’r rhain yn cynnwys pwysigrwydd y canlynol:
- ymgysylltu â’r holl ddysgwyr, yn cynnwys denu’r bechgyn mwy corfforol at weithgareddau ehangach yn hytrach na phêl-droed
- datblygu cyfleoedd i wella ymwybyddiaeth o ddewisiadau ‘ffordd o fyw’ iach
- trefnu dysgwyr o amgylch gweithgareddau ac yn ystod cyfnodau pontio
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Math o ymyriad
Ymyriad ar lefel yr ysgol ar gyfer unigolyn a grŵp o blant â phrofiad o fod mewn gofal.
Braslun o’r dull
Cafodd un aelod o’r tîm maethu therapiwtig ei ariannu i ddilyn hyfforddiant ar gyfer cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA) er mwyn cynnig cymorth un i un i ddysgwr â phrofiad o fod mewn gofal.
Hefyd, datblygodd yr ysgol ystafell ‘feithrin a synhwyraidd’.
Sut y cafodd anghenion y bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu pennu
- Arsylwi gan Wasanaeth Cynhwysiant yr Awdurdod Lleol.
- Adroddiadau seicoleg addysg.
- Adborth gan y Panel Cynhwysiant Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
- Cymorth a chyngor gan dîm therapiwtig mewnol y Gwasanaeth Maethu.
Sut y gwnaeth yr awdurdod lleol benderfynu ar yr ymyriad neu’r dull seiliedig ar dystiolaeth mwyaf priodol
Cynhaliwyd ymgynghoriad â’r tîm ADY, y gweithiwr cymdeithasol a’r tîm maethu therapiwtig.
Defnyddiwyd y PDG-CLA i ariannu’r canlynol:
- aelod staff i ymgymryd â hyfforddiant ELSA
- prynu adnoddau priodol i ddatblygu ystafell feithrin a synhwyraidd yn yr ysgol
Sut y cafodd yr ymyriad neu’r dull ei roi ar waith
Arweiniodd gwaith cynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion ar gyfer:
- cydweithio amlasiantaethol angenrheidiol
- atgyfeiriadau perthnasol at wasanaethau cymorth yr awdurdod lleol
- datblygu targedau a deilliannau priodol ar gyfer CAP a CDU y plentyn
Sut y cafodd effaith yr ymyriad ei mesur
Roedd dull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi hwyluso cydweithio amlasiantaethol gwell, wedi gwella atgyfeiriadau perthnasol at wasanaethau cymorth awdurdodau lleol ac wedi helpu i ddatblygu targedau a deilliannau priodol ar gyfer CAP a CDU y plentyn.
Sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu adeiladu ar y gwaith mae wedi’i wneud
Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i werthuso CAP, CDU a chynlluniau cymorth bugeiliol, gan ategu mwy o ymgysylltu mewn dysgu, presenoldeb a chynhwysiant.
Gwersi a ddysgwyd
Mae’n hanfodol bwysig cydnabod pa mor bwysig yw adnoddau penodol ar gyfer yr ystafell feithrin a synhwyraidd er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn briodol.
Cyngor Sir Powys
Math o ymyriad
Ymyriad ar lefel yr awdurdod lleol ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal ledled yr awdurdod lleol.
Braslun o’r dull
Sefydlodd yr awdurdod lleol Ysgol Rithwir i gynorthwyo dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal ledled yr awdurdod lleol.
Sut y cafodd anghenion y bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu pennu
- Arsylwi ar gyn cydgysylltydd plant sy’n derbyn gofal yn yr awdurdod lleol.
- Cwblhau CAP ac adolygiadau o blant sy’n derbyn gofal.
- Casglu data am bresenoldeb a gwaharddiadau.
Sut y gwnaeth yr awdurdod lleol benderfynu ar yr ymyriad neu’r dull seiliedig ar dystiolaeth mwyaf priodol
Ymchwil i fodelau Ysgolion Rhithwir yng Nghymru a Lloegr a chyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer treialu model Ysgol Rithwir dros gyfnod o 2 flynedd.
Sut y cafodd yr ymyriad neu’r dull ei roi ar waith
Defnyddiwyd y peilot 2 flynedd i bennu datblygiadau er mwyn gwella’r model.
Sut y cafodd effaith yr ymyriad ei mesur
Mae’r deilliannau a gyflawnwyd dros flwyddyn academaidd 2023 i 2024 wedi bod yn ystyrlon ac yn fesuradwy. Mae hyn yn adlewyrchu effeithiolrwydd cymorth wedi’i dargedu a’r arferion cydweithredol. Mae’r deilliannau yn cynnwys:
- cwblhawyd 100% o’r CAP, gan sicrhau cymorth addysgol cyson i bob plentyn sy’n derbyn gofal
- gwelliant yn ansawdd y CAP, wedi’i ddangos gan fonitro sicrwydd ansawdd:
- cynyddodd y sgoriau gwyrdd o 88% i 92% dros 3 thymor
- gostyngodd y sgoriau ambr o 11% i 7%, gan ddangos cynlluniau mwy pwrpasol ac ymgysylltiad ysgol gwell
- dim achosion o waharddiadau parhaol wedi’u cofnodi, a chafodd gwaharddiadau tymor penodol eu cadw’n isel, gan adlewyrchu dulliau cynhwysol ac ymyrraeth gynnar
- mae olrhain ar sail llesiant, presenoldeb a chyrhaeddiad yn dangos cynnydd sylweddol:
- gwnaeth 88% o blant sy’n derbyn gofal wella neu gynnal eu sgoriau cynnydd
- roedd lefelau presenoldeb y CLA ar y lefelau un â’u cyfoedion neu’n uwch, gan ddangos gwell ymgysylltiad
- mae integreiddio’r system CAP ar-lein gyda’r platfform ADY wedi gwella effeithlonrwydd a chydweithio rhwng gwasanaethau
- mae 87% o weithwyr cymdeithasol yn adrodd gwell deilliannau i blant sy’n derbyn gofal o ganlyniad i gymorth y Gwasanaeth Rhithwir
- mae 100% o athrawon dynodedig yn cadarnhau bod y Gwasanaeth Rhithwir wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddeilliannau plant sy’n derbyn gofal
- mae 94% o athrawon dynodedig yn teimlo bod cydweithio gyda’r Gwasanaeth Rhithwir wedi dwysáu eu dealltwriaeth o ddulliau sy’n ystyriol o drawma
Dyfyniadau gan y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r cyllid neu’r rhai sydd wedi elwa arno
Adborth gan ofalwr maeth:
“Yn achos y mwyafrif o’r ysgolion rhithwir rhagweithiol rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda nhw, maent yn ystyried anghenion penodol y plentyn ac yn addasu eu disgwyliadau fel bo’r angen. Mae cyfarfodydd rheolaidd yn fuddiol o ran monitro cynnydd, ymdrin â phroblemau’n ddi-oed, a thrafod a gweithredu ymyriadau i gynorthwyo’r person ifanc. Mae pob rhan yn gadarnhaol.”
Adborth gan weithiwr cymdeithasol:
“Roeddwn i eisiau anfon e-bost atoch i ddweud cymaint rydw i’n gwerthfawrogi gwaith caled pennaeth yr ysgol rithwir a’r cymorth proffesiynol a gefais i a’r bobl ifanc rydw i’n eu cynorthwyo. Mae’r gwasanaeth yn ased gwirioneddol ac mae’n enghraifft wych o ysgol rithwir angerddol, ymroddedig sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae’r staff yn ddibynadwy, maent yn broffesiynol, maent wastad yn fodlon helpu ac maent yn danbaid dros eu rôl.”
Adborth gan athro dynodedig:
“Mae’r cyswllt rhwng yr Ysgol Rithwir yn hanfodol o ran cynorthwyo’r plant i ymgysylltu â’r ysgol. Gall hyn gynnwys pethau fel gweithredu fel cyswllt â’r gweithiwr cymdeithasol, cynorthwyo gyda phroblemau ymddygiadol neu emosiynol, cynorthwyo staff gyda strategaethau yn yr ystafell ddosbarth gyda dull sy’n ystyriol o drawma, cynnal cyfarfodydd gyda staff i rannu arferion da, cynorthwyo’r dysgwyr i gyfranogi a chynorthwyo gyda HMS ar gyfer y staff.”
Sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu adeiladu ar y gwaith y mae wedi’i wneud
Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gasglu llais y dysgwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd a byddwn yn parhau i gynorthwyo staff mewn ysgolion.
Ffilm animeiddiedig yw ei brosiect diweddaraf, er mwyn i blant sy’n derbyn gofal allu mynegi eu safbwyntiau ynglŷn â sut fath o gymorth maent ei eisiau a’i angen.
Gwersi a ddysgwyd
Mae’n hanfodol bwysig cydnabod pa mor bwysig yw adnoddau penodol ar gyfer yr ystafell feithrin a synhwyraidd er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant yn briodol.
Awdurdod Lleol Ynys Môn
Math o ymyriad
Ymyriad ar lefel yr awdurdod lleol ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal ledled yr awdurdod lleol.
Braslun o’r dull
Defnyddiwyd adnodd asesu llesiant Motional i ategu datblygiad emosiynol.
Sut y cafodd anghenion y bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal eu pennu
Roedd yr awdurdod lleol eisiau tystiolaeth ychwanegol ar gyfer mesur anghenion plant a’u llwyddiant mewn addysg. Yn awr, cynhelir asesiad Motional ar gyfer pob plentyn a ddaw o dan ofal, a hynny yn ystod y 6 wythnos gyntaf. Gellir bwydo canlyniadau’r asesiad i CDU a CAP y plentyn. Mae hyn oll yn pennu darpariaeth benodol, megis dysgu, addysgu ac ymwreiddio sgiliau i reoli a rheoleiddio emosiynau anodd. Mae hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth ohonynt eu hunain ac o anghenion a safbwyntiau pobl eraill.
Sut y gwnaeth yr awdurdod lleol benderfynu ar yr ymyriad neu’r dull seiliedig ar dystiolaeth mwyaf priodol
Oherwydd y cynnydd yn anghenion ymddygiad cymhleth a heriol rhai pobl ifanc, fel rhan o’i strategaeth ‘Ynys sy’n ystyriol o drawma’ penderfynodd yr awdurdod lleol ddefnyddio Motional fel asesiad seiliedig ar dystiolaeth i bennu anghenion llesiant.
Defnyddiwyd y PDG-CLA i brynu trwydded ar gyfer yr Ysgol Rithwir ar gyfer hyd at 250 o ddysgwyr.
Sut y cafodd yr ymyriad neu’r dull ei roi ar waith
Targedodd yr athro cynghori ar blant sy’n derbyn gofal blant:
- yr oedd eu lleoliad cartref mewn perygl o chwalu
- a oedd mewn perygl o gael eu gwahardd o’u lleoliad addysg
Aeth yr athro cynghori ar blant sy’n derbyn gofal ati wedyn i gwblhau’r asesiadau.
Erbyn hyn, mae swyddog llesiant yn cynnal asesiad llesiant emosiynol ac iechyd meddwl ar gyfer pobl plentyn sy’n dechrau derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ar y cyd â’r ysgol a’r athro cynghori ar blant sy’n derbyn gofal.
Mae’r gwybodaeth yn cael ei rhannu yn y CDU a’r CAP ac yn cael ei hasesu eto ar ôl 6 mis.
Beth oedd effaith yr ymyriad neu’r dull ar y person ifanc neu’r bobl ifanc, a sut y cafodd yr effaith ei mesur
Yn dilyn yr asesiad, rhoddir ymyriadau ar waith gan yr ysgol ac yn y cartref er mwyn creu pecyn cymorth mwy cydgysylltiedig er mwyn i’r plentyn ymgysylltu’n llwyddiannus yn yr ysgol.
Mae ysgolion wedi cynnwys mwy o feithrin yn eu hamserlenni, ac maent wedi addasu’r amgylchedd dysgu ac addysgu.
Ar ôl yr asesiad cychwynnol, bydd yr awdurdod lleol yn cynnal ail asesiad ymhen 6 mis a hyd at 12 mis er mwyn mesur yr effaith.
Dyfyniadau gan y rhai a oedd yn gysylltiedig â’r cyllid neu’r rhai sydd wedi elwa arno
Mae gofalwyr maeth ac athrawon wedi bod mewn dagrau ar ôl i’r awdurdod lleol gynnal yr asesiad hwn, ar ôl iddynt sylweddoli beth mae’r plentyn sydd yn eu gofal yn gorfod byw gydag ef o ddydd i ddydd yn yr ysgol neu’r cartref. Ar ôl sylweddoli hyn, mae rhieni, gofalwyr ac ysgolion wedi rhoi dull mwy empathig a pherthynol ar waith gyda’r plentyn neu person ifanc.
Mewn un enghraifft, llwyddwyd i atal lleoliad maeth rhag chwalu. Mewn enghraifft arall mewn ysgol, gwelwyd llai o ‘ddigwyddiadau negyddol’ rhwng aelod staff a dysgwr, ac ni chafwyd rhagor o waharddiadau cyfnod penodol.
Sut y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu adeiladu ar y gwaith y mae wedi’i wneud
Y cam nesaf mewn perthynas â’r PDG-CLA yw prynu Trwydded Asesu Motional y gall yr holl ysgolion ei defnyddio, fel dull cyffredinol a dull penodol.
Ar ôl i’r asesiad hwn o iechyd emosiynol a llesiant gael ei ymwreiddio ym mhob ysgol, mae’r awdurdod lleol yn disgwyl gweld rhagor o staff yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gael systemau ‘GOFAL, CHWILIO a CHWARAE’ gwell, ac i ddysgu, ffynnu a llwyddo.
Gwersi a ddysgwyd
Sicrhau bod digon o adnoddau staffio ar gael i gynnal yr asesiadau Motional.
Hyfforddi ac uwchsgilio rhagor o staff er mwyn diwallu’r galw.
Cyfathrebu clir: sicrhau bod yr holl oedolion sy’n gysylltiedig â’r plentyn wedi cyfrannu at yr asesiad a’u bod yn deall y camau’n glir.
Tystiolaeth o ddulliau effeithiol o gynorthwyo dysgwyr â phrofiad o fod mewn gofal
Ffynonellau
Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad terfynol
Roedd ‘Gwerthusiad o weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal: Adroddiad terfynol’ Llywodraeth Cymru wedi edrych ar draws astudiaethau. Aseswyd effeithiolrwydd ymyriadau o ran yr effaith gadarnhaol a gawsant ar unrhyw un o’r canlynol:
- cyrhaeddiad o ran gwybodaeth a sgiliau
- cyrhaeddiad addysgol
- ymddygiad a phresenoldeb
- llesiant
- ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned
- dyheadau a chynnydd tuag at addysg uwch
- hyfforddiant galwedigaethol neu gyflogaeth
Roedd y dystiolaeth a adolygwyd yn ymwneud â phlant sydd mewn gofal ar hyn o bryd. Fodd bynnag, disgwylir y byddai’r dulliau hyn hefyd o fudd i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
Cyhoeddodd NICE ganllaw ar sut y dylai sefydliadau, ymarferwyr a gofalwyr gydweithio i ddarparu gofal o ansawdd uchel, lleoliadau sefydlog a chydberthnasau meithringar ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Mae’n cynnwys adolygiadau o’r dystiolaeth ar ymyriadau i gefnogi anghenion dysgu a pharatoi ar gyfer yr ysgol yn ogystal â rhwystrau a hwyluswyr yn ymwneud ag addysg plant sy’n derbyn gofal.
Er bod y gwerthusiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar weithredu’r PDG-CLA a’r adolygiad a gynhaliwyd gan NICE wedi pennu corff cymharol fach o dystiolaeth, roedd yn ymwneud yn benodol ag addysg plant sy’n derbyn gofal.
Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu y Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF)
Mae Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu EEF yn cynnig crynodeb o’r dystiolaeth ynglŷn ag amrywiol dulliau a strategaethau addysgol i wella dysgu ac addysgu. Roedd y dystiolaeth a adolygwyd gan y Sefydliad Gwaddol Addysg yn ymwneud â phlant o aelwydydd incwm isel. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gallai rhai o’r dulliau hyn fod o fudd i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal hefyd. Caiff y pecyn cymorth ei ategu gan adolygiad o’r astudiaethau gorau’n rhyngwladol. Mae’n crynhoi’r dystiolaeth ar gyfer pob pwnc o ran yr effaith gyfartalog ar gyrhaeddiad, cryfder y dystiolaeth, a’r gost. Nid yw’r pecyn cymorth yn gwneud unrhyw honiadau pendant ynglŷn â’r hyn a fydd yn gweithio i wella deilliannau mewn ysgolion. Yn hytrach, mae’n cyflwyno gwybodaeth o’r radd flaenaf am yr hyn sy’n debygol o fod yn fuddiol, ar sail tystiolaeth sy’n bodoli eisoes.
Thema: cydgynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc
Math o ddull
Ymgysylltu â phlant sy’n derbyn gofal.
Diben
Mae sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cymryd rhan mewn trafodaethau am eu profiadau a’u safbwyntiau yn helpu i wneud y canlynol:
- annog plant eraill i fyfyrio ar eu dysgu
- datblygu cydberthnasau effeithiol rhwng dysgwyr a staff
- profi effaith dulliau sy’n anelu at ategu addysg plant sy’n derbyn gofal
Tystiolaeth o’r effaith
Dangosodd rhai enghreifftiau o’r llenyddiaeth pa mor bwysig yw ymgysylltu â phlant sy’n derbyn gofal wrth lunio a darparu cymorth, yn enwedig rhai â phrofiadau a safbwyntiau amrywiol.
Hefyd, dangosodd rhai enghreifftiau o’r llenyddiaeth fod angen coleddu safbwynt ehangach wrth ystyried cymorth addysgol i blant sy’n derbyn gofal. Mae gwella cyrhaeddiad addysgol plant mewn gofal yn fater cymhleth. Mae’n gysylltiedig â nifer o agweddau eraill yn ymwneud â’r system ofal ac addysgol.
Mae’n bosibl y bydd y canlynol yn cyfyngu ar y sylfaen dystiolaeth bresennol:
- diffyg dulliau a ysgogir gan ddamcaniaethau
- y modd annigonol y cynhwysir plant sy’n derbyn gofal yn y gwaith o ddatblygu mecanweithiau darparu
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Thema: systemau ac offer strategol
Math o ddull
Rheolaeth strategol trwy gyfrwng penaethiaid ysgolion rhithwir.
Diben
Mae gan y penaethiaid ysgolion rhithwir rôl hollbwysig o ran sicrhau bod trefniadau ar waith i wella profiadau a deilliannau addysgol plant sy’n derbyn gofal yn eu hawdurdod lleol. Mae’n cynnwys plant a leolir y tu allan i’r sir hefyd.
Tystiolaeth o’r effaith
Ar sail dadansoddiad o ddata ac adroddiadau arolygu awdurdodau lleol yn Lloegr, darganfu Ofsted (2016) pan fo’r ymarfer yn gryf a phan fo modd ei gysylltu â gwella deilliannau i blant sy’n derbyn gofal, mae’r penaethiaid ysgolion rhithwir yn chwarae rôl bwysig wrth:
- gwella presenoldeb
- atal gwaharddiadau
- monitro CAP
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Math o ddull
Systemau monitro a gwerthuso.
Diben
Mae mynd ati i olrhain cynnydd addysgol plant sy’n derbyn gofal yn arwain at ymyriadau a chymorth priodol a phwrpasol pan reolir hyn yn dda oddi mewn i awdurdodau lleol.
Tystiolaeth o’r effaith
Mae systemau monitro a gwerthuso ar lefel awdurdodau lleol yn hollbwysig o ran gwella deilliannau addysgol i blant sy’n derbyn gofal.
Darganfu Ofsted (2016) ac Estyn (2016) y gellid gwella cynnydd, cyrhaeddiad a dyhead addysgol plant sy’n derbyn gofal trwy:
- mynd ati’n fanwl i olrhain eu cynnydd addysgol i greu ymyriadau a chymorth priodol a phwrpasol
- systemau olrhain cadarn a gwaith gwerthuso rheolaidd sy’n ymgorffori adborth gan blant sy’n derbyn gofal, gofalwyr ac ysgolion
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Thema: hyfforddiant
Math o ddull
Hyfforddiant i ymarferwyr yn ymwneud ag anawsterau ymlyniad ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.
Diben
Bwriad yr hyfforddiant ymwybyddiaeth o ymlyniad yw sicrhau bod athrawon a staff eraill yn deall yr effaith a gaiff trawma a cholled ar ddysgwyr a’r modd y gallai hyn effeithio ar addasu a dysgu ymddwyn yn yr ysgol.
Tystiolaeth o’r effaith
Mewn gwerthusiad bach o’r prosiect ‘Ysgolion sy’n Ymwybodol o Ymlyniad’ yn Lloegr, yn achos 46 o blant ‘agored i niwed’ a dargedwyd mewn 6 ysgol gynradd darganfuwyd bod y niferoedd a lwyddodd i fodloni’r disgwyliadau mewn darllen, ysgrifennu a mathemateg wedi cynyddu’n fawr rhwng y cyfnod cyn yr ymyriad a’r cyfnod ar ôl yr ymyriad. Nid oedd data ar gael am y dysgwyr ‘agored i niwed’ yn y 10 ysgol arall a gymerodd ran yn y rhaglen.
Cynhaliwyd dadansoddiad o ddyddiaduron a chyfweliadau lled-strwythuredig gyda 6 phlentyn sy’n derbyn gofal yn y DU. Er mwyn codi lefelau cyrhaeddiad, nodwyd y gallai fod yn bwysig gwneud y canlynol:
- rhoi hyfforddiant i ysgolion yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o anghenion dysgwyr
- cynnig esboniad o rai damcaniaethau seicolegol perthnasol, megis damcaniaeth ymlyniad
Gan mai astudiaeth fach oedd hon, dylid trin y canfyddiadau hyn gyda gofal.
Darganfu Estyn (2016) y canlynol:
- mae awdurdodau lleol a aiff ati’n effeithiol i wella cyflawniad a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yn rhoi hyfforddiant cynhwysfawr i staff yr ysgol er mwyn eu helpu i ddeall a chefnogi anghenion emosiynol a chymdeithasol plant sy’n derbyn gofal
- caiff ysgolion llwyddiannus eu nodweddu gan staff sy’n gwybod pa blant sy’n derbyn gofal, staff sy’n deall anghenion cymdeithasol ac emosiynol y plant hyn a staff sy’n gwybod pa strategaethau sydd ar gael i’w cynorthwyo
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Thema: meithrin gallu yn y system
Math o ddull
Cydweithredu a chydgysylltu rhyngasiantaethol.
Diben
Mae cael darlun cyfannol o’r plentyn a’r teulu yn creu system gymorth well sy’n canfod problemau ac yn arwain plant at wasanaethau neu ymyriadau priodol.
Tystiolaeth o’r effaith
Darganfu astudiaethau bach y canlynol.
- Efallai fod gweithio amlasiantaethol yn un ffactor sy’n ategu pontio i ysgolion uwchradd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.
- Gwelwyd bod rhannu gwybodaeth, ynghyd â chydweithredu a chydgysylltu rhyngasiantaethol, yn helpu i wella cyrhaeddiad yn yr ysgol i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
- Darganfu Ofsted (2012) fod ysgolion rhithwir effeithiol yn parhau i ganolbwyntio ar feithrin gallu ar draws y system ehangach.
- Mewn ysgolion sy’n llwyddo’n effeithiol i gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal, darganfu Estyn (2016) y canlynol:
- mae ganddynt aelod o’r tîm uwch-reolwyr sy’n gyfrifol am ddarparu strategaeth yr ysgol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
- mae ganddynt lywodraethwr dynodedig ymroddedig sy’n meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion plant sy’n derbyn gofal.
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Thema: cymorth ac adnoddau penodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
Math o ddull
Adnoddau ffisegol.
Diben
Trwy roi llyfrau i blant sy’n derbyn gofal, y bwriad yw annog plant i fwynhau darllen ac ymhél â rhifedd.
Tystiolaeth o’r effaith
Mae 3 astudiaeth feintiol yn awgrymu nad yw’r arfer o ddim ond rhoi llyfrau darllen i blant sy’n derbyn gofal yn gwella deilliannau addysgol fel:
- sgiliau darllen
- cyrhaeddiad addysgol
- agweddau at ddarllen
Mae’n bosibl bod darparu cymorth ar gyfer defnyddio’r adnoddau hyn mewn modd adeiladol yn bwysig i sicrhau’r manteision sydd wedi deillio o astudiaethau eraill.
Defnyddiodd un adolygiad hap-astudiaeth dan reolaeth o’r ‘Clwb Blwch Llythyrau’. Fel rhan o’r ‘Clwb Blwch Llythyrau’, roedd plant yn derbyn 6 pharsel o lyfrau dros gyfnod o 6 mis. Canfu’r adolygiad nad oedd bod yn berchen ar lyfrau yn cael unrhyw effaith ar y deilliannau a fesurwyd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, gan gynnwys:
- sgiliau darllen
- agweddau at ddarllen
Awgryma tystiolaeth gan ofalwyr a phlant sy’n derbyn gofal mai diffyg cymorth ar gyfer y pecynnau a dderbyniwyd oedd wrth wraidd hyn. Er mwyn sicrhau bod rhaglenni ‘anrhegu llyfrau’ effeithiol yn cael eu rhoi ar waith, roedd yr astudiaeth yn argymell y dylid canolbwyntio ar annog gofalwyr maeth i gymryd rhan yn uniongyrchol mewn gweithgareddau llythrennedd gyda’r plant.
Ffynonellau: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
NICE Looked-After Children and Young People: Interventions to support learning needs for school-aged looked-after children and young people).
Math o ddull
Rhaglenni tiwtora.
Diben
Bwriad tiwtora yw:
- helpu i wella dealltwriaeth o’r pwnc
- rhoi hwb i hyder
- meithrin sgiliau dysgu pwysig
Ystyr tiwtora un-i-un yw bod athro, cynorthwyydd addysgu neu oedolyn arall yn rhoi cymorth unigol dwys i ddysgwr. Gall hyn ddigwydd:
- y tu allan i wersi arferol ar ffurf addysgu ychwanegol (er enghraifft, fel rhan o ymestyn oriau’r ysgol neu fel rhan o ysgol haf)
- yn lle gwersi eraill
Tystiolaeth o’r effaith
Darganfu adolygiad llenyddiaeth fod y sylfaen dystiolaeth bresennol yn dangos canlyniadau cymysg, ond cadarnhaol yn bennaf, yn ymwneud ag effeithiau tiwtora ychwanegol ar blant sy’n derbyn gofal.
Mewn hap-astudiaethau dan reolaeth a gynhaliwyd ar raddfa fach yng Nghanada, gwelwyd bod ymyriadau tiwtora mewn grŵp wedi arwain at ddeilliannau addysgol cadarnhaol ymhlith plant 6 i 13 oed mewn gofal maeth.
Mewn astudiaeth a gynhaliwyd yn Unol Daleithiau America lle astudiwyd ymyriad tiwtora yn y cartref ar gyfer pobl ifanc 14 i 15 oed, darganfuwyd na chafodd yr ymyriad unrhyw effaith arwyddocaol ar:
- allu academaidd
- deilliannau addysgol
Roedd aelodau’r grŵp yn hŷn nag yn yr hap-astudiaethau a nodir uchod. Cyflwynwyd yr ymyriad ei hun gan fyfyrwyr gradd ac ôl-radd a gafodd ddiwrnod o hyfforddiant.
Mewn astudiaeth fach o ymyriad ‘paru llythrennedd’ a gynhaliwyd yn Lloegr, darganfuwyd bod oedran darllen y plant, ar gyfartaledd, wedi gwella 12 mis dros oes y prosiect (sef 16 wythnos).
Cynhaliwyd astudiaeth o’r ymyriad ‘Reading Rich’, a oedd yn cynnwys rhoddion llyfrau a gwaith gyda chartrefi gofal preswyl. Canfu’r astudiaeth fod 17 o’r 22 o blant a oedd yn rhan o’r astudiaeth yn darllen yn amlach yn dilyn yr ymyriad.
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Er nad yw’r dystiolaeth yn ymwneud yn benodol â phlant sy’n derbyn gofal, mae’r dystiolaeth a grynhoir ym mhecyn cymorth y Sefydliad Gwaddol Addysg yn nodi bod tiwtora un-i-un, ar gyfartaledd, yn effeithiol iawn o ran gwella deilliannau dysgwyr. Efallai y gall tiwtora un-i-un fod yn strategaeth effeithiol ar gyfer darparu cymorth penodol i ddysgwyr:
- y pennir bod ganddynt gyrhaeddiad blaenorol isel
- sy’n cael anhawster mewn meysydd arbennig
Mae tiwtora’n fwy tebygol o gael effaith os caiff ei ddefnyddio’n ychwanegol at wersi arferol ac os caiff ei gysylltu’n benodol â’r gwersi hynny.
Gall tiwtora un-i-un fod yn effeithiol ond yn ddrud i’w gyflwyno, yn enwedig pan gaiff ei gyflwyno gan athrawon. Ar gyfartaledd, mae dulliau sy’n cyflwyno cyfarwyddyd trwy gyfrwng cynorthwywyr addysgu neu mewn grwpiau bach yn esgor ar effeithiau cadarnhaol llai. Fodd bynnag, gallant fod yn ateb mwy cost-effeithiol o ran darparu cymorth penodol.
Yn achos tiwtora un-i-un o dan arweiniad cynorthwywyr addysgu, mae’r ymyriadau’n debygol o fod yn arbennig o fuddiol os yw’r cynorthwywyr addysgu:
- yn brofiadol
- wedi cael hyfforddiant da
- wedi cael cymorth da
Er enghraifft, gall hyn ddigwydd wrth ddarparu ymyriad strwythuredig.
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth EEF.
Math o ddull
Cymorth pontio ysgolion.
Diben
Mae ‘Kids in Transition to School’ yn rhaglen a gyflwynir yn yr ystafell ddosbarth 2 fis cyn dechrau darpariaeth cyn ysgol ac yn ystod y 2 fis cyntaf o’r ysgol gynradd. Ei bwriad yw helpu plant i ymbaratoi ar gyfer dysgu.
Tystiolaeth o’r effaith
Cynhaliwyd hap-astudiaeth dan reolaeth yn ymwneud â ‘Kids in Transition to School’ yn Unol Daleithiau America. Mynychodd y plant 24 o sesiynau a oedd yn ymdrin â’r canlynol:
- sgiliau llythrennedd cynnar
- sgiliau rhag-gymdeithasol
- gweithgareddau hunanreoleiddio
Mynychodd gofalwyr 8 o gyfarfodydd cyfochrog a oedd yn anelu at feithrin eu gallu i gynorthwyo’r plant i ymarfer sgiliau, arferion ac ymddygiadau newydd. Ar gyfer yr astudiaeth, cafodd 192 o blant mewn gofal maeth eu neilltuo naill ai i ymyriad neu i wasanaeth at ddibenion cymharu. Darganfu’r awduron fod y rhaglen wedi cael effeithiau cadarnhaol mawr ar sgiliau hunanreoleiddio a llythrennedd cynnar.
Dim ond tystiolaeth yn ymwneud â’r ymyriad ‘Kids in Transition to School’ a gyflwynir gan yr adolygiad. Nid yw’n glir a fyddai cymorth o fath arall ar gyfer pontio i’r ysgol yn esgor ar yr un effeithiau cadarnhaol ag a welwyd yn yr achos hwn.
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Math o ddull
Cynllunio personoledig.
Diben
Diben cynllunio personoledig yw defnyddio asesiad o anghenion i bennu meysydd penodol lle bydd ymyriadau a chymorth yn gwella cynnydd addysgol plant sy’n derbyn gofal.
Tystiolaeth o’r effaith
Mewn astudiaeth a gynhaliwyd yn Sweden, lluniwyd cynlluniau datblygu personol ar gyfer 25 o blant 7 i 11 oed mewn gofal maeth. Cafodd y plant eu hasesu gan seicolegydd ac athro addysg arbennig er mwyn pennu eu gallu gwybyddol sylfaenol. Yn dilyn hynny, cafodd cyfres o brofion eu cynnal er mwyn asesu:
- darllen
- sillafu
- rhifedd
- ymddygiad a llesiant seicolegol
- y berthynas rhwng y plentyn a’r athro neu’r athrawes
Ar sail canlyniadau’r profion hyn, cafodd cynlluniau cymorth seicolegol ac addysgol personoledig eu llunio a’u gweithredu ar gyfer pob plentyn, dros gyfnod o 24 mis. Ar ddiwedd y 24 mis, cafodd y plant eu profi eto gan ddefnyddio’r un dulliau mesur. Ar ôl 2 flynedd, roedd sgôr gyfartalog y plant mewn profion IQ, darllen a phrofion sillafu wedi gwella’n fawr. Cafodd y canfyddiadau hyn eu hatgynhyrchu gyda 24 o blant eraill.
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Math o ddull
Cymorth a chyngor ychwanegol.
Diben
Cymorth gyrfaoedd ac addysg cydberthnasau iach
Tystiolaeth o’r effaith
Awgryma’r llenyddiaeth pa mor bwysig yw cymorth gyrfaoedd ac addysg cydberthnasau iach o ran cynorthwyo plant sy’n derbyn gofal mewn addysg. Fodd bynnag, ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth i ategu pa mor effeithiol yw ymyriadau cefnogol yn y meysydd hyn.
Ffynhonnell: Gwerthusiad o Weithredu’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal: Adroddiad Terfynol (llyw.cymru).
Mae gan CLASS Cymru adnoddau defnyddiol i ategu mynediad at addysg uwch.
Math o ddull
Adborth.
Diben
Rhoddir gwybodaeth i’r dysgwr am ei berfformiad mewn perthynas â’i nodau neu ei ddeiliannau dysgu. Dylid anelu at (a gallu cynhyrchu) gwelliant yn nysgu’r myfyriwr.
Tystiolaeth o’r effaith
Mae’r dystiolaeth a grynhoir ym Mhecyn Cymorth yr EEF yn dangos bod rhoi adborth yn cael effaith fawr ar ddeilliannau dysgu. Mae adborth effeithiol:
- yn tueddu i ganolbwyntio ar y dasg, y pwnc a strategaethau hunanreoleiddio
- yn cynnig gwybodaeth benodol am y modd y gellir gwella
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth yr EEF.
Math o ddull
Mentora.
Diben
Mae mentora mewn addysg yn golygu paru person ifanc ag oedolyn neu gymheiriad hŷn, a fydd yn gweithredu fel model rôl. Yn gyffredinol, yn hytrach na datblygu sgiliau neu wybodaeth academaidd penodol, mae mentora yn ceisio:
- meithrin hyder a chydberthnasau
- datblygu gwytnwch a chymeriad
- dyrchafu dyheadau
Caiff mentora ei gynnig yn fwyfwy i bobl ifanc yr ystyrir eu bod yn anodd eu cyrraedd, ynghyd â phobl ifanc sydd mewn perygl o fethu’n addysgol neu bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hallgáu’n addysgol.
Tystiolaeth o’r effaith
Mae’r dystiolaeth a grynhoir ym mhecyn cymorth yr EEF yn dangos bod effaith mentora’n amrywio ond, ar gyfartaledd, ei fod yn debygol o gael effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad.
Mae effeithiau rhaglenni unigol yn amrywio. Mae rhai astudiaethau wedi canfod effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfer:
- dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig
- deilliannau anacademaidd fel agweddau at yr ysgol, presenoldeb ac ymddygiad
Nid yw’r effeithiau cadarnhaol ar gyrhaeddiad yn tueddu i barhau ar ôl i’r mentora ddod i ben, felly rhaid sicrhau na chaiff y manteision eu colli. Mae’n bwysig ystyried sut y gallwch gynorthwyo dysgwyr sydd wedi elwa ar fentora i ddal gafael ar y newidiadau cadarnhaol yn eu hyder a’u hymddygiad.
Gall dulliau cymunedol a dulliau yn yr ysgol fod yn llwyddiannus.
Pan fydd mentoriaid yn rhoi’r gorau i’w rôl, gall hynny gael effaith niweidiol ar y rhai a gaiff eu mentora. Mae’n bwysig ystyried sut i gynorthwyo mentoriaid.
Ffynhonnell: Pecyn cymorth yr EEF.
Math o ddull
Metawybyddiaeth a dulliau hunanreoleiddio.
Diben
Mae metawybyddiaeth a dulliau hunanreoleiddio mewn perthynas ag addysgu yn gallu cynorthwyo dysgwyr i feddwl am eu dysgu eu hunain, er enghraifft trwy strategaethau ar gyfer:
- cynllunio eu dysgu
- monitro eu dysgu
- gwerthuso eu dysgu
Fel arfer, bwriad yr ymyriadau yw rhoi’r canlynol i ddysgwyr:
- repertoire o strategaethau y gall y dysgwyr ddewis o’u plith
- y sgiliau ar gyfer dewis y strategaeth fwyaf addas ar gyfer tasg ddysgu arbennig
Tystiolaeth o’r effaith
Mae’r dystiolaeth a grynhoir ym mhecyn cymorth yr EEF yn canfod y gall effaith bosibl metawybyddiaeth a dulliau hunanreoleiddio fod yn fawr (cynnydd ychwanegol o 7 mis). Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwireddu’r effaith hon yn ymarferol gan fod dulliau o’r fath yn mynnu bod yn rhaid i ddysgwyr:
- ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu
- meithrin eu dealltwriaeth o’r hyn sy’n angenrheidiol i lwyddo
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gellir esgor ar effaith effeithiol trwy addysgu strategaethau ar gyfer cynllunio, monitro a gwerthuso agweddau penodol ar y dysgu.
Mae’r dulliau hyn ar eu mwyaf effeithiol pan gânt eu defnyddio i fynd i’r afael â thasgau heriol sydd wedi’u hymwreiddio yng nghynnwys arferol y cwricwlwm.
Gall athrawon ddangos defnydd effeithiol o fetawybyddiaeth a strategaethau hunanreoleiddio trwy fodelu eu prosesau meddwl eu hunain.
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth yr EEF.
Math o ddull
Ymyriadau iaith lafar.
Diben
Mae ymyriadau iaith lafar (a elwir hefyd yn llafaredd neu’n ymyriadau siarad a gwrando) yn cyfeirio at ddulliau sy’n pwysleisio pwysigrwydd yr iaith lafar a rhyngweithio llafar yn yr ystafell ddosbarth.
Gall dulliau iaith lafar gynnwys:
- darllen yn uchel a thrafod llyfrau gyda phlant ifanc
- mynd ati’n benodol i ymestyn geirfa lafar y dysgwyr
- defnyddio cwestiynau strwythuredig i ddatblygu dealltwriaeth o ddarllen
- defnyddio deialog a rhyngweithio llawn pwrpas, sy’n canolbwyntio ar y cwricwlwm
Tystiolaeth o’r effaith
Mae’r dystiolaeth a grynhoir ym mhecyn cymorth yr EEF yn dangos bod dulliau iaith lafar, ar gyfartaledd, yn cael effaith fawr ar ddeilliannau dysgwyr sef 6 mis o gynnydd ychwanegol.
Mae’n bwysig sicrhau bod gweithgareddau iaith lafar yn cael eu paru â cham datblygu cyfredol y dysgwyr, ac felly ymestyn eu dysgu a chysylltu â’r cwricwlwm.
Gall hyfforddiant gynorthwyo oedolion i sicrhau eu bod yn modelu ac yn datblygu sgiliau iaith lafar a geirfa’r dysgwyr.
Efallai y bydd rhai dysgwyr yn cael anhawster penodol gydag iaith lafar. Dylai ysgolion ystyried sut y byddant yn canfod dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol gydag iaith lafar a mynegiad. Efallai y byddai’n fuddiol canolbwyntio ar weithgareddau siarad a gwrando ar wahân pan fo angen diwallu anghenion arbennig.
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth yr EEF.
Math o ddull
Ymgysylltu â rhieni.
Diben
Mae ymgysylltu â rhieni yn cyfeirio at athrawon ac ysgolion yn cynnwys rhieni a gofalwyr yn y dasg o ategu dysgu academaidd eu plant.
Mae’n cynnwys:
- dulliau a rhaglenni sy’n anelu at feithrin sgiliau rhieni, megis sgiliau llythrennedd neu TG
- dulliau cyffredinol sy’n annog rhieni a gofalwyr i gynorthwyo’u plant i ddarllen neu i wneud gwaith cartref, er enghraifft
- cynnwys rhieni a gofalwyr yng ngweithgareddau dysgu eu plant
- rhaglenni mwy dwys ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng
Tystiolaeth o’r effaith
Mae’r dystiolaeth a grynhoir ym mhecyn cymorth yr EEF yn dangos bod ymgysylltu â rhieni yn cael effaith gadarnhaol gyda chyfartaledd o 4 mis o gynnydd ychwanegol. Dangosodd ei bod yn hanfodol ystyried sut i ymgysylltu gyda'r holl rieni a gofalwyr er mwyn osgoi ehangu'r bylchau cyrhaeddiad.
Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysg yn cynghori y dylid ystyried sut i deilwra dulliau cyfathrebu’r ysgol er mwyn annog deialog gadarnhaol ynghylch dysgu. Ceir peth tystiolaeth sy’n dangos y gall negeseuon personoledig yn ymwneud â dysgu hyrwyddo rhyngweithio cadarnhaol.
Fel arfer, mae strategaethau ar gyfer ymgysylltu â rhieni yn gweithio’n fwy effeithiol gyda rhieni plant ifanc iawn. Mae’n bwysig ystyried sut y byddwch yn parhau i ymgysylltu â’r rhieni wrth i’r plant fynd yn hŷn.
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth yr EEF.
Math o ddull
Gweithgarwch corfforol.
Diben
Mae gweithgarwch corfforol yn cyfeirio at ddulliau sy’n annog y dysgwyr i ymhél â chwaraeon, dawns neu weithgarwch corfforol o unrhyw fath.
Tystiolaeth o’r effaith
Mae’r dystiolaeth a grynhoir ym mhecyn cymorth yr EEF yn dangos bod gweithgarwch corfforol yn cael effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad academaidd (1 mis o gynnydd ychwanegol). Er bod y crynodeb hwn o’r dystiolaeth yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a pherfformiad academaidd, mae’n hanfodol sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad at weithgarwch corfforol o'r radd flaenaf er mwyn iddynt allu elwa ar y manteision a’r cyfleoedd eraill sy’n gysylltiedig ag ef.
Mae’r effaith ar gyrhaeddiad yn amrywio’n fawr o ymyriad i ymyriad. Ni fydd cymryd rhan mewn chwaraeon yn trosglwyddo’n syml i ddysgu academaidd. Yn ôl pob tebyg, bydd ansawdd y rhaglen, y pwyslais ar ddysgu academaidd neu’r cysylltiad â dysgu academaidd yn gwneud mwy o wahaniaeth na’r mathau penodol o ddulliau neu weithgareddau.
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth yr EEF.
I gael cyngor ac adnoddau defnyddiol, cyfeiriwch hefyd at Rwydwaith Ysgolion Hybu Iechyd Cymru (WNHPS).
Math o ddull
Strategaethau darllen a deall.
Diben
Mae strategaethau darllen a deall yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth dysgwyr o destun ysgrifenedig. Byddant yn dysgu gwahanol dechnegau a fydd yn eu galluogi i ddeall ystyr yr hyn a ddarllenant. Yn aml, caiff y strategaethau eu dysgu i’r dosbarth ac yna cânt eu hymarfer mewn parau neu grwpiau bach.
Tystiolaeth o’r effaith
Daeth yr EEF i’r casgliad bod strategaethau darllen a deall yn esgor ar effaith fawr ar gyfartaledd (6 mis o gynnydd ychwanegol). Ochr yn ochr â ffoneg, mae’n elfen hanfodol o gyfarwyddyd darllen cynnar.
Mae’n bwysig pennu lefel briodol o ran anhawster y testun er mwyn:
- darparu cyd-destun priodol ar gyfer ymarfer y sgiliau
- hyrwyddo ymgysylltiad â’r testun
- darparu digon o her i wella sgiliau darllen a deall
Mae’n bwysig diagnosio anawsterau darllen yn effeithiol fel y gellir canfod atebion posibl. Mae hyn yn berthnasol iawn i ddysgwyr hŷn sy’n cael anawsterau i ddarllen. Gall dysgwyr gael anawsterau i wneud y canlynol:
- dadgodio geiriau
- deall strwythur yr iaith a ddefnyddir
- deall geirfa arbennig, a allai ymwneud â phwnc penodol
Gall amrywiaeth eang o strategaethau a dulliau fod yn llwyddiannus yn hyn o beth, ond bydd nifer o ddygwyr angen cael eu haddysgu’n benodol ac yn gyson.
Mae hi’n hanfodol cynorthwyo dysgwyr i weithredu strategaethau deall yn annibynnol ar:
- dasgau darllen
- cyd-destunau
- pynciau eraill
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth yr EEF.
Math o ddull
Tiwtora grwpiau bach.
Diben
Caiff ‘tiwtora grwpiau bach’ ei ddiffinio fel athro, cynorthwyydd addysgu hyfforddedig neu diwtor yn gweithio gyda rhwng 2 a 5 o ddysgwyr gyda’i gilydd mewn grŵp. Mae’r trefniant hwn yn galluogi’r addysgu i ganolbwyntio ar nifer fechan o ddysgwyr, fel arfer mewn ystafell ddosbarth neu ardal waith ar wahân.
Tystiolaeth o’r effaith
Mae’r dystiolaeth a grynhoir ym mhecyn cymorth yr EEF yn dangos bod tiwtora grwpiau bach yn esgor ar 4 mis o gynnydd ychwanegol, ar gyfartaledd, dros y flwyddyn.
Mae tiwtora grwpiau bach yn fwyaf tebygol o fod yn effeithiol os caiff ei dargedu at anghenion penodol dysgwyr. Gellir defnyddio asesiadau diagnostig i asesu’r ffordd orau o dargedu cymorth.
Mae tiwtora un-i-un a thiwtora grwpiau bach ill dau yn ymyriadau effeithiol. Fodd bynnag, gallai’r arfer o addysgu mewn grwpiau bach fod yn fwy gwerth chweil gan ei bod yn fwy cost-effeithiol.
Ffynhonnell: Pecyn Cymorth yr EEF.
