Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae lefelau gordewdra yng Nghymru wedi bod yn cynyddu'n raddol dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn bennaf oherwydd y ffordd y mae ein hamgylchedd bwyd wedi datblygu i flaenoriaethu cyfleustra ar draul iechyd gyda bwydydd sy'n llawn egni sy’n cynnwys llawer iawn o fraster dirlawn neu siwgr. Rydym yn tyfu ac yn paratoi llawer llai o'n prydau gartref ac oherwydd bywydau prysur rydym yn aml yn dewis prydau cyflym parod neu sydd wedi'u coginio gan eraill.

Mae'r "Canllaw bwyta'n dda" yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer bwyta deiet iach a chefnogi pwysau iach. Fodd bynnag, mae'r Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol wedi canfod nad yw poblogaeth y DU yn bodloni argymhellion y llywodraeth ar gyfer deiet cytbwys ac iach. Rydym yn mynd yn llai a llai egnïol fel cenedl hefyd oherwydd ein patrymau gweithio a theithio o ddydd i ddydd, a ni yw'r genhedlaeth gyntaf sydd angen gwneud penderfyniad bwriadol i ymgorffori gweithgarwch corfforol i'n bywydau bob dydd.

Mae'r tueddiadau hyn wedi cyfrannu at y ffaith bod 60% a mwy o oedolion yng Nghymru a bron i chwarter o blant oedran derbyn yn byw gyda gorbwysedd neu ordewdra. Mae cyfraddau gorbwysedd a gordewdra yn tueddu i fod yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig, sydd â lefelau is o ddangosyddion ymddygiad iach mewn perthynas â gweithgarwch corfforol a bwyta'n iach hefyd.

Ffocws ar blant a phobl ifanc

Pwysau Iach: Cymru Iach yw ein strategaeth 10 mlynedd i gefnogi pwysau iach ac fe'i cefnogir gan gyfres o gynlluniau cyflawni. Mae’r trydydd cynllun cyflawni hwn yn adeiladu ar gamau a gymerwyd hyd yma ac yn nodi cyfres o themâu, nodau a chamau gweithredu i helpu i ganolbwyntio ar yr elfennau lle gallwn sicrhau'r newid mwyaf gyda’n gilydd. Yr hyn sydd wrth wraidd y cynllun yw cefnogi plant a phobl.

Gwyddom o'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r byd bod troi'r gromlin gordewdra ar lefel poblogaeth yn dasg enfawr. Mae angen newid ar raddfa eang ar draws cymdeithas a bydd yn cymryd amser hir i'w ymgorffori. Fodd bynnag, rydym yn gwybod hefyd y gall targedu camau gweithredu ac adnoddau ar ddechrau bywyd, tuag at blant a phobl ifanc, trwy ddull system gyfan ar lefel genedlaethol a chymunedol, arwain at ganlyniadau gwirioneddol sy'n para gydol oes ac ymgorffori arferion da, iach wrth i blant dyfu'n oedolion.

Er y byddwn yn cynnal gwaith ar lefel poblogaeth, sy’n cynnwys ein dulliau wedi’u targedu ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gan geisio gwneud y dewis iach yn ddewis hawdd i oedolion ar draws y lleoedd rydym yn gweithio, yn byw, yn siopa ac yn hamddena ynddynt, nod y cynllun hwn yw canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar.

Mae gan y cynllun 6 adran, sy'n canolbwyntio ar ein themâu blaenoriaeth. Wrth wraidd pob thema, mae:

  • cefnogi babanod, plant a phobl ifanc
  • lleihau anghydraddoldebau iechyd

Y themâu yw:

  • ymgorffori dull system gyfan
  • cefnogi teuluoedd a'r sylfeini ar gyfer iechyd gydol oes
  • ysgolion a lleoliadau sy'n cefnogi iechyd da
  • creu amgylcheddau bwyd iachach
  • vywydau egnïol
  • llwybrau triniaeth

Mae iechyd meddwl, maeth, a gweithgarwch corfforol yn gwbl gydgysylltiedig yn y ffordd y maent yn llywio iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Mae'r bwyd rydym yn ei fwyta yn rhoi'r egni a'r maetholion sydd eu hangen ar ein hymennydd i weithio'n dda. Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar ein hemosiynau a sut rydym yn meddwl. Un o'r pethau gorau y gallwn ei wneud ar gyfer ein hiechyd meddwl a'n llesiant meddyliol yw bod yn egnïol. Mae ein cyrff yn rhyddhau hormonau sy’n gwneud i ni deimlo'n dda pan fyddwn yn egnïol a all hefyd leihau gorbryder a straen, a'n helpu i gysgu'n well.

Mae'r blynyddoedd cyntaf, yn enwedig y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, yn amser hanfodol ar gyfer twf iach. Mae bwyta'n iach a bod yn egnïol yn gynnar mewn bywyd yn helpu plant i:

  • deimlo'n dda
  • chwarae
  • dysgu
  • tyfu'n gryf

Mae gan ein hysgolion a'n lleoliadau ran allweddol wrth ddarparu amgylchedd cefnogol lle mae plant yn datblygu ymddygiadau cadarnhaol o ran gweithgarwch corfforol a bwyd, gan siapio eu perthynas gydol oes â bwyd a gweithgarwch corfforol. Gallant helpu i gael gwared ar rwystrau a gwella mynediad i blant sydd â llai o gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol neu i roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol fwydydd gartref, a thrwy wneud hynny helpu i leihau anghydraddoldebau.

Mae gan ein hamgylchedd bwyd, y bwyd sydd ar gael i ni yn ein hardal leol a sut mae'n cael ei labelu a'i farchnata, ran ganolog yn yr hyn rydym yn dewis ei fwyta a'i yfed. Mae poblogrwydd bwyta allan ac archebu tecawê wedi tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gyfrannu at gymeriant calorïau uwch. Nid yw pobl mewn sawl rhan o Gymru yn byw o fewn pellter cerdded hawdd i safleoedd bwyd sy'n gwerthu dewis eang o fwyd iachach sy’n fforddiadwy, fel ffrwythau a llysiau. I'r gwrthwyneb, mae nifer y lleoedd tecawê yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae cysylltiad rhwng nifer uchel o leoedd tecawê ac ardaloedd o amddifadedd. Gwyddom y gall plant ysgol gael eu temtio i fwyta byrbrydau tecawê ar eu teithiau yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.

Mae tystiolaeth yn dangos bod hysbysebu cynhyrchion bwyd a diod llai iach yn dylanwadu ar arferion bwyta pobl ifanc. Mae bron i hanner (48%) o'r holl hysbysebion bwyd a diod a ddangosir ar sianeli teledu masnachol sy'n cael eu gwylio fwyaf gan blant ar gyfer cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr (HFSS). Yn wahanol i hysbysebion ar y teledu ac yn y cyfryngau digidol, mae mannau cyhoeddus yn parhau i fod heb eu rheoleiddio i raddau helaeth, sy’n golygu bod pobl yn parhau i weld hysbysebion ar gyfer bwydydd llai iach. Mae astudiaethau'n dangos bod hysbysebion awyr agored ar gyfer bwydydd llai iach yn effeithio'n sylweddol ar flys a deiet defnyddwyr, yn debyg i hysbysebion ar-lein. Mae plant ac oedolion o gefndiroedd mwy difreintiedig yn cael eu targedu'n anghymesur gan farchnata HFSS oherwydd mwy o ddibyniaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreswylio mewn ardaloedd sydd â dwysedd uwch o hysbysebion awyr agored.

Mae hon yn ddogfen fyw a byddwn yn adeiladu ar y camau gweithredu ym mhob thema, wrth i ni ddatblygu ymhellach ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer gweithredu effeithiol a datblygu ffordd ymlaen ar gyfer cynlluniau cyflawni yn y dyfodol.

Ymgorffori dull system gyfan

Mae cymhlethdod gordewdra yn golygu nad oes atebion syml ac ni all un asiantaeth na sefydliad ei datrys ar ei ben ei hun. Mae gan bawb ran i'w chwarae. Mae dull system gyfan yn gyfle i fynd i'r afael â'r cymhlethdod hwn ac mae'n cael blaenoriaeth yn ein cynllun cyflawni.

Mae'n ffordd ddynamig o weithio, sy'n dod â phartneriaid at ei gilydd i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r her, ac integreiddio camau er mwyn sicrhau newid cynaliadwy, hirdymor. Trwy ddeall y dulliau o gyflawni newid a'u rhyngddibyniaethau, gallwn weithio'n wahanol ar draws sefydliadau a lleoliadau i ail-lunio ein hamgylcheddau mewn ffordd sy'n annog ac yn galluogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd bwyd iachach ac i fod yn fwy egnïol. Mae sawl astudiaeth achos ryngwladol wedi dangos y gellir gwneud hyn gydag ymdrech unedig a pharhaus, chanlyniadau addawol wrth leihau gordewdra ymhlith plant drwy ddefnyddio dull system gyfan.

Rydym wedi bod yn gweithio'n genedlaethol ac yn lleol i ymgorffori dull system gyfan o bwysau iach. Mae timau rhanbarthol system gyfan o fewn byrddau iechyd wedi ymgysylltu'n helaeth ag asiantaethau a grwpiau lleol a chenedlaethol ledled Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r timau rhanbarthol system gyfan, gan sicrhau cysondeb o ran dulliau gweithredu a monitro a gwerthuso cynnydd. Y ffocws hyd yma yw cyflwyno'r achos dros weithredu ar y cyd ac ymgorffori pwysigrwydd pwysau iach yng nghynlluniau strategol cyrff y sector cyhoeddus. Mae pob maes wedi bod yn cydweithio â phartneriaid hefyd er mwyn nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer newid, gan ddefnyddio offer diweddaraf y system. Sef:

  • mynediad at fwyd fforddiadwy, iachach i blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau
  • safleoedd bwyd iachach yn y sector oddi allan i'r cartref
  • cynyddu gofodau i blant gael cyfle i redeg a chwarae
  • hysbysebu iachach yn ein stryd fawr
  • mannau cymunedol mwy diogel gan greu lleoedd ar gyfer teithio llesol

Trwy ein dull system gyfan, mae gweithredu yn cael ei alluogi ar draws pob thema yn y cynllun cyflawni hwn, yn ogystal â'r camau gweithredu penodol a nodir ynddynt.

Mae cynlluniau peilot PIPYN a PIPYN Actif ar gyfer plant a theuluoedd yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful yn ymyriadau system lleol ar gyfer y blynyddoedd cynnar, sy'n canolbwyntio ar ddulliau system gyfan lleol o atal a lleihau gordewdra yn ystod plentyndod cynnar. Maent yn cefnogi teuluoedd i fabwysiadu ac ymgorffori amgylchedd bwyd a gweithgareddau teuluol iachach yn y cartref ac wedi sefydlu rhwydweithiau cydweithredol cryf ymhlith ymarferwyr y blynyddoedd cynnar, gyda channoedd o deuluoedd yn cael cefnogaeth.

Fe'u sefydlwyd mewn ymateb i nifer y plant sy'n dechrau ysgol sydd dros eu pwysau neu'n ordew ac maent yn archwilio sut i gefnogi teuluoedd i gyrraedd pwysau iach heb stigma i'r plentyn neu'r teulu. Mae ffocws ar leihau anghydraddoldebau yn y rhaglen beilot.

Mae gan y 3 ardal a ddewiswyd broblemau a heriau gwahanol, a all effeithio ar gyfranogiad, gan gynnwys rhai’n ymwneud â bwyd sy'n briodol yn ddiwylliannol. Mae PIPYN yn edrych ar wahanol ddulliau o chwalu rhwystrau a darparu gwasanaethau a gweithgareddau mwy cynhwysol. Mae rhaglen Ynys Môn yn canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â gwledigrwydd; mae Caerdydd yn canolbwyntio ar gyfranogiad pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac mae Merthyr Tudful yn ymgysylltu â chymunedau sydd â lefelau uchel o amddifadedd, fel y'i mesurir gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 1: byddwn yn ehangu rhaglenni PIPYN a PIPYN Actif a gynhelir yn Ynys Môn, Caerdydd a Merthyr Tudful

Ar ôl gwerthuso'r model PIPYN, byddwn yn cyflwyno'r model diwygiedig ledled Cymru, gan flaenoriaethu ardaloedd sydd â'r lefelau mwyaf o ordewdra ymhlith plant. Byddwn yn sicrhau bod dysgu o PIPYN yn cael ei integreiddio i raglenni ehangach y blynyddoedd cynnar hefyd.

Cam gweithredu 2: byddwn yn cryfhau ein strwythurau llywodraethu ac adrodd fel y gellir cael atebolrwydd clir ar gyfer cynnydd tuag at ein canlyniadau cyffredin, gyda chefnogaeth fframwaith nodau a dangosyddion newydd Pwysau Iach: Cymru Iach

Amlinellir rhagor o wybodaeth am y dull yn adran llywodraethiant, atebolrwydd a monitro'r gwaith o gyflawni'r cynllun.

Cam gweithredu 3: byddwn yn cryfhau ac yn ymgorffori ymhellach ddulliau system gyfan ar lefel gymunedol a chenedlaethol

Dros y 2 flynedd nesaf, ar lefel genedlaethol, byddwn yn cynnal 3 digwyddiad lledaenu ac ehangu er mwyn rhannu a dysgu o arfer da. Byddwn yn cynhyrchu canllawiau, cymorth a deunydd cyfathrebu newydd i ehangu'r dysgu a manteision dulliau system gyfan gan ein timau a'n partneriaid rhanbarthol. Byddwn yn cefnogi timau iechyd cyhoeddus lleol o fewn byrddau iechyd i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau gweithredu ymhellach, wedi'u cynhyrchu ar y cyd â'u partneriaid. Bydd y cynlluniau gweithredu yn cael eu llywio gan ddealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwahanol ymyriadau i wneud y gorau o'u heffaith debygol. Bydd y byrddau iechyd yn cael eu cefnogi i fesur a gwerthuso canlyniadau.

Ar hyd y cynllun hwn, mae pob thema yn canolbwyntio ar gamau gweithredu i ymgorffori dulliau system gyfan ar lefel genedlaethol, gan sicrhau bod pob rhan o'r system yn cydlynu ac yn ymateb gyda'i gilydd i'n nodau cyffredin.

Cefnogi teuluoedd a'r sylfeini ar gyfer iechyd gydol oes

Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd. Mae'r blynyddoedd cynnar, yn enwedig y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf (o'r beichiogrwydd i 2 oed), yn amser hanfodol ar gyfer twf iach. Mae bwyta'n iach a bod yn egnïol yn gynnar mewn bywyd yn helpu plant i deimlo'n dda, chwarae, dysgu a thyfu'n gryf.

Ond mae rhai teuluoedd yn wynebu heriau mwy, gan ei gwneud hi'n anoddach rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Mae bron i chwarter y plant oedran derbyn yn byw gyda gorbwysedd neu ordewdra, sy’n dangos pwysigrwydd sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi o oedran cynnar. Trwy greu cymunedau, lleoliadau gofal plant a gwasanaethau iechyd cefnogol a chwareus, gallwn alluogi pob plentyn i ddatblygu ymddygiadau iach gydol oes, gan leihau problemau iechyd a'u paratoi ar gyfer dyfodol mwy disglair.

Mae ymchwil wedi dangos y gall deiet a phwysau rhieni effeithio ar ffrwythlondeb a gall hyd yn oed gael effeithiau rhwng cenedlaethau. Gall magu gormod neu ddim digon o bwysau yn ystod beichiogrwydd hefyd arwain at broblemau iechyd i'r fenyw, neu ei babi heb ei eni. Mae twf yn ddangosydd pwysig o iechyd plentyn.

Mae tystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod llawer o fabanod yn y DU yn mynd y tu hwnt i'w gofynion o ran calorïau, ac mae bod dros bwysau yn ystod babandod yn debygol o barhau i blentyndod ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae'r Comisiwn Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) wedi cynghori llywodraethau i ystyried ffyrdd o fonitro cyffredinrwydd gorbwysedd a gorfwydo mewn babanod, a ffyrdd o fynd i'r afael â chymeriant egni uchel. Argymhelliad Llywodraeth y DU yw i fabanod gael eu bwydo ar y fron yn unig tan eu bod tua 6 mis oed a pharhau i fwydo babanod ar y fron am o leiaf y flwyddyn gyntaf o fywyd. Llaeth y fron, fformiwla babanod a dŵr yw’r unig ddiodydd y dylid eu cynnig rhwng 6 a 12 mis oed, a llaeth neu ddŵr, yn ogystal â llaeth y fron, ddylai gyfrif am y rhan fwyaf o ddiodydd a roddir i blant rhwng 1 a 5 oed. Ni ddylid rhoi diodydd wedi'u melysu â siwgr neu felysyddion nad ydynt yn siwgr i blant ifanc ac mae sudd ffrwythau yn cyfrannu 10% a mwy at gymeriant siwgrau rhydd ymhlith plant rhwng un a hanner a 4 oed.

Canfu astudiaeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o'r farchnad i fformiwla babanod a fformiwla ddilynol fod cyfuniad o ffactorau yn arwain at ganlyniadau gwael i rieni, a allai arbed tua £300 y flwyddyn trwy newid i frand rhatach. Mae'r materion yn cynnwys dyluniad a gweithrediad rheoliadau cyfredol ac ymatebion defnyddwyr i hysbysebion, sy'n pwysleisio brandio pan fo pob fformiwla babanod, mewn gwirionedd, yn diwallu anghenion maethol llawn babanod. Gwnaeth nifer o argymhellion i bedair llywodraeth y DU gan gynnwys:

  • dileu dylanwad brandiau mewn lleoliadau gofal iechyd: dylunio a gweithredu polisïau a phrosesau effeithiol i fynd ati i roi gwybodaeth amserol, glir, gywir a diduedd i rieni a rhieni sy'n disgwyl am ddigonolrwydd maethol cynhyrchion fformiwla babanod
  • galluogi rhieni i wneud dewisiadau cryf mewn manwerthu: cyflwyno mesurau rheoleiddio i'w gwneud yn ofynnol i leoliadau manwerthu ffisegol ac ar-lein arddangos, mewn lle amlwg, wybodaeth benodol am ddigonolrwydd maethol yn agos at gynhyrchion fformiwla babanod sydd ar werth (dylai rhaglen beilot wirfoddol ragflaenu hyn)
  • cryfhau'r rheolau labelu a hysbysebu: adolygu'r rheoliadau ar gyfer fformiwla babanod a fformiwla ddilynol neu gyflwyno mesurau rheoleiddio eraill fel bod gofyniad i weithgynhyrchwyr arddangos gwybodaeth am ddigonolrwydd maethol yn uniongyrchol ac yn amlwg ar labelu eu cynhyrchion fformiwla babanod.
  • sicrhau bod rheoliadau cyfredol a diwygiedig yn cael eu gorfodi'n effeithiol: llywodraethau i asesu a yw labeli yn 'gwbl amlwg' a chyfathrebu asesiadau i wneuthurwyr a gorfodwyr

Ni ddylai'r rhan fwyaf o fabanod ddechrau bwydydd solet tan tua 6 mis oed, pan fyddant wedi datblygu digon i wneud hynny.

Mae chwarae actif yn gwella ffitrwydd ac iechyd plentyn, yn helpu i wella ei iechyd meddwl a'i ddatblygiad gwybyddol yn ogystal â meithrin hyder a gwella sgiliau cymdeithasol. Chwarae actif yn yr awyr agored y gellir ei ddosbarthu fel ymarfer corff cymedrol i egnïol yw'r peth gorau ar gyfer amddiffyn rhag y risg o ordewdra.

Dyna ein nodau i gefnogi babanod a phlant ifanc:

  • caiff babanod eu geni'n iach oherwydd bod eu rhieni o bwysau iach
  • mae plant yn tyfu'n raddol yn eu blwyddyn gyntaf o fywyd ac yn bwysau iach pan fyddant yn dechrau’r ysgol
  • mae nifer cynyddol o fabanod yn mwynhau manteision llaeth y fron ac mae'r anghydraddoldebau presennol mewn cyfraddau bwydo ar y fron rhwng grwpiau yn llai
  • dim ond llaeth neu ddŵr y mae plant ifanc yn ei yfed
  • gall pob plentyn yng Nghymru fwynhau deiet iach amrywiol
  • gall rhieni ddarparu deiet iach amrywiol i'w plant
  • mae pob plentyn yng Nghymru yn gallu chwarae yn yr awyr agored bob dydd

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 4: byddwn yn datblygu a chyflawni cynllun gweithredu newydd ar gyfer bwydo babanod

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod llawer o fabanod yn cael mwy o galorïau nag sydd angen, gyda gorbwysedd ymhlith babanod yn para gydol plentyndod ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Trwy'r cynllun cyflawni hwn, byddwn yn datblygu a chyflawni cynllun gweithredu ar gyfer bwydo babanod, a fydd yn cefnogi ein babanod a'n plant o'u genedigaeth i oedran ysgol. Bydd yn gwneud y canlynol:

  • adeiladu ar Gynllun Gweithredu Cymru Gyfan ar Fwydo ar y Fron 2019 i 2024 i barhau i gynyddu nifer y babanod sy'n elwa ar gael eu bwydo ar y fron
  • cefnogi babanod sy'n cael eu bwydo â fformiwla trwy weithredu argymhellion priodol adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) a chefnogi'r gwaith o gyflwyno bwydydd solet i sefydlu dewisiadau bwyd, patrymau deietegol a thwf iach
  • ymgorffori'r rhain a'r camau gweithredu er mwyn cynnwys cymaint â phosibl o weithgarwch corfforol yn ein rhaglenni cymorth i deuluoedd, fel Dechrau'n Deg, a lleoliadau gofal plant

Nodau a chamau gweithredu allweddol

Cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron, gan sicrhau bod mwy o fabanod yn elwa ar laeth y fron a sefydlu bwydo ar y fron fel y norm diwylliannol trwy'r ffyrdd canlynol:

  • Menter Cyfeillgar i Fabanod (BFI) UNICEF unwaith i Gymru: cefnogir pob bwrdd iechyd yn genedlaethol i ennill achrediad aur BFI o fewn 3 blynedd, gyda ffocws cychwynnol ar gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron mewn ardaloedd Dechrau'n Deg
  • gwell mynediad at gymorth i deuluoedd drwy'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron
  • lansio Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Iechyd Cyhoeddus Cymru yn yr hydref i gefnogi normaleiddio bwydo ar y fron yn gyhoeddus

Grymuso a galluogi rhieni i ddarparu deietau maethlon i'w plant:

  • Babanod sy'n cael eu bwydo â fformiwla: byddwn yn ymateb i argymhellion y CMA ar lefel genedlaethol a'r DU i sicrhau bod fformiwla babanod yn fforddiadwy. Ar gyfer ein teuluoedd ifanc mwyaf agored i niwed, rydym yn adolygu'r cymorth a ddarperir gan y Cynllun Cychwyn Iach.
  • Adeiladu ar arfer da yng Nghaerdydd a'r Fro i nodi cyfleoedd ar gyfer ehangu cymorth deieteteg mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ledled Cymru.

Cefnogi twf cyson ymhlith plant ifanc trwy'r ffyrdd canlynol:

  • Coladu yn genedlaethol fesuriadau pwysau a hyd Plant Iach Cymru.
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer mesuriadau ychwanegol trwy wasanaethau Ymwelwyr Iechyd manylach fel rhan o’r rhaglen Dechrau'n Deg. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i nodi cynnydd mewn pwysau nad yw'n iach ac ymyrraeth gynnar i gefnogi ymddygiadau iachach yn unol ag argymhellion SACN i lywodraethau.

Amgylchedd bwyd iach yn y Blynyddoedd Cynnar, ble mae pob lleoliad gofal plant yng Nghymru yn darparu mynediad at ddeiet iach, amrywiol i blant:

  • Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwerthuso sut mae lleoliadau gofal plant ledled Cymru yn cefnogi plant i fwyta'n iach, gan gynnwys a ydynt yn dilyn canllawiau bwyd a maeth Llywodraeth Cymru, hyfforddiant staff, a sut mae ymgysylltu â Rhwydwaith Cymru o Gynlluniau Cyn Ysgol Iach Cymru, darparu cynnig gofal plant Dechrau'n Deg, cynnig Gofal Plant Cymru, a phroses Arolygu AGC. Bydd y canfyddiadau yn llywio dull cenedlaethol gwell i wneud y mwyaf o rôl lleoliadau.

Yn ystod y cynllun cyflawni hwn, defnyddir gwyddorau ymddygiad i ddeall sut mae ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn dylanwadu ar allu, cyfleoedd, a chymhelliant, rhieni wrth fabwysiadu ymddygiadau sy'n cefnogi’r maeth gorau posibl, i lywio cynlluniau cyflawni yn y dyfodol.

Cam gweithredu 5: byddwn yn adolygu'r Cynllun Cychwyn Iach ac yn gwerthuso cyfleoedd i gefnogi ymhellach y teuluoedd ar incwm isel yng Nghymru i gael gafael ar fwyd iachach

Mae'r Cynllun Cychwyn Iach yn fenter gan Lywodraeth y DU sydd â'r nod o leihau anghydraddoldebau economaidd ac iechyd drwy gefnogi teuluoedd ar yr incwm isaf drwy ddarparu cymorth i brynu ffrwythau, llysiau, llaeth a fformiwla babanod, yn ogystal â fitaminau cychwyn Iach am ddim.

Ysgolion a lleoliadau sy'n cefnogi iechyd da

Mae'r rhan fwyaf o blant yn treulio cyfran sylweddol o'u hwythnos yn yr ysgol. Mae gan ein hysgolion a'n lleoliadau rôl ddylanwadol wrth ddarparu amgylchedd cefnogol lle mae plant yn datblygu ymddygiadau cadarnhaol mewn perthynas â gweithgarwch corfforol a bwyd, gan lywio eu perthynas gydol oes â bwyd a gweithgarwch corfforol.

Mae gan ysgolion a lleoliadau y potensial hefyd i helpu i gael gwared ar rwystrau a gwella cyfleoedd i'r plant hynny sydd â llai o gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol neu i roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol fwydydd gartref, a thrwy wneud hynny helpu i leihau anghydraddoldebau.

Dyma ein nodau ar gyfer ysgolion a lleoliadau:

  • mae prydau ysgol yn bodloni gofynion maeth dysgwyr
  • mae bwyd a ddarperir ar safle'r ysgol yn iach fel mater o drefn
  • mae plant yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i gynllunio, tyfu, paratoi a choginio bwyd fforddiadwy ac iachach
  • mae plant yn profi amrywiaeth o wahanol fwydydd ac yn deall tarddiad y bwydydd hynny
  • mae gweithgarwch corfforol yn rhan o fywyd yr ysgol o ddydd i ddydd
  • mae gan bob plentyn gyfleoedd i fod yn egnïol yn ystod y diwrnod ysgol
  • mae pob plentyn yn cael cyfle i archwilio a phrofi amrywiaeth o opsiynau chwaraeon a hamdden egnïol ac yn cael cymorth i ddod o hyd i'r rhai y maent yn eu mwynhau
  • mae plant yn hyddysg ym maes llythrennedd corfforol

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 6: cynyddu gwerth maethol prydau ysgol a'r nifer sy'n eu cymryd trwy adolygu'r Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion

Nod Safonau Bwyd a Maeth mewn Ysgolion yng Nghymru yw sicrhau bod yr holl fwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion a gynhelir yn cyfrannu at ddeiet iach a chytbwys i fyfyrwyr. Mae'r safonau hyn yn rhan o Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013, a sefydlwyd o dan Fesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009. Mae'r safonau'n sicrhau bod plant yng Nghymru yn gallu cael prydau maethlon sy'n cefnogi eu hiechyd a'u llesiant ac mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i gydymffurfio â'r rheoliadau. Mae Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 hefyd yn cynnwys gofyniad i ysgolion hyrwyddo bwyta'n iach. Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion adrodd yn flynyddol ar y camau a gymerwyd i hyrwyddo arferion bwyta ac yfed iach. Mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, hefyd yn adrodd i Weinidogion Cymru ar y camau y mae ysgolion yn eu cymryd.

Cam gweithredu 7: byddwn yn datblygu canllawiau ac adnoddau ar gyfer bwyd a gweithgarwch corfforol i gefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru

Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau ynglŷn â'r hyn i'w addysgu a sut caiff ei addysgu. Nod Iechyd a Lles, un o Feysydd Dysgu a Phrofiad gorfodol y cwricwlwm, yw sicrhau bod cwricwlwm ar lefel ysgol yn adeiladu dysgu a chymorth mewn perthynas ag iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol, i bob person ifanc yng Nghymru.

Mae'r fframwaith yn pwysleisio pwysigrwydd datblygiad corfforol, gyda chynnydd clir mewn llythrennedd a gweithgarwch corfforol. Mae'n tynnu sylw at yr angen i ddysgwyr gael cyfleoedd dyddiol, parhaus i fod yn egnïol yn gorfforol, sy'n hanfodol ar gyfer datblygu ffyrdd o fyw iach ac egnïol sy'n hybu iechyd a lles da trwy gydol eu hoes. Yn ogystal, mae'r maes hwn o'r cwricwlwm yn helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a lles corfforol, fel:

  • bwyta'n iach
  • maeth
  • cwsg

Mae'r cwricwlwm yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o wahanol safbwyntiau a gwneud penderfyniadau gwybodus ar faterion fel cyrchu bwydydd maethlon lleol, cynhyrchu bwyd, a chynaliadwyedd. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau coginio ymarferol hefyd, sy'n hanfodol ar gyfer hyrwyddo arferion bwyta iach. Bydd cefnogi fframwaith y cwricwlwm gyda chanllawiau ac adnoddau yn darparu rhagor o gymorth i addysgu yn y meysydd allweddol hyn. Bydd cyflawni'r cam gweithredu yn cael ei arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Adnodd, y corff newydd sy'n gyfrifol am adnoddau addysg cenedlaethol.

Cam gweithredu 8: byddwn yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgorffori ymhellach gyfleoedd mewn ysgolion i ganolbwyntio ar fwyta’n iachach a gweithgarwch corfforol

Nod Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hybu Iechyd a Lles, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yw hybu iechyd a lles pawb sy'n dysgu, yn gweithio ac yn chwarae mewn ysgolion yng Nghymru drwy fabwysiadu dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles.

Mae "Ysgol hybu iechyd" yn un sy'n cymryd cyfrifoldeb am gynnal a hybu iechyd pawb sy'n dysgu, yn gweithio, yn chwarae ac yn byw ynddi nid yn unig trwy'r cwricwlwm iechyd a lles ffurfiol ond drwy alluogi ysgolion eu hunain i gymryd rheolaeth dros agweddau ar amgylchedd yr ysgol sy'n dylanwadu ar iechyd. Mae'r rhwydwaith yn hyrwyddo ac yn amddiffyn iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei gymuned trwy weithredu cadarnhaol. Gellir cyflawni hyn trwy feysydd craidd y safonau arfaethedig newydd.

Mae'r dull Bywiog Bob Dydd yn cael ei ddatblygu i ategu'r Cwricwlwm i Gymru gyda'r nod o alluogi ysgolion i ddarparu ystod amrywiol o gynigion gweithgarwch corfforol i ddisgyblion cyn, yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol. Mae'r dull yn cael ei ategu gan ddull system ysgol gyfan. Mae hynny'n cynnwys cefnogi pob ysgol i greu amgylcheddau dysgu iach ac egnïol gyda chysylltiadau cryf â'u cymuned leol. Nod y dull yw gwneud newid sylweddol yn nifer y plant ysgol sy'n egnïol am 60 munud neu ragor bob dydd trwy gynigion uniongyrchol ac anuniongyrchol. 

Bydd hyn yn cynnwys:

  • offeryn asesu bywiog bob dydd a chanllawiau cysylltiedig
  • offeryn asesu a chanllawiau i alluogi ysgolion i werthuso cynnydd wrth weithredu dull ysgol gyfan ar gyfer bwyd
  • gweithredu model cyflawni newydd ar gyfer Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hybu Iechyd a Lles

Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn galluogi ysgolion i fonitro gweithgarwch corfforol plant, eu hymddygiad deietegol, a mesurau iechyd a lles eraill dros amser. Mae SHRN yn helpu ysgolion, a'r rhai sy'n cefnogi ysgolion, i gymryd camau gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella iechyd.

Cam gweithredu 9: byddwn yn cefnogi mentrau sy'n lleihau anghydraddoldebau iechyd ac economaidd

Mae yna nifer o fentrau sy'n cefnogi lleihau anghydraddoldebau iechyd ac economaidd. Mae'r rhain yn cynnwys prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, grantiau gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion sydd â ffocws penodol ar anghenion dysgwyr difreintiedig a'r Grant Hanfodion Ysgol sy'n darparu cymorth ariannol i deuluoedd incwm isel i helpu i dalu am wahanol gostau sy'n gysylltiedig â'r ysgol gan gynnwys addysg coginio a maeth.

Mae "Bwyd a hwyl", rhaglen gwella gwyliau’r haf yn gynllun mewn ysgolion sy’n darparu prydau iach, addysg ar fwyd a maeth, gweithgarwch corfforol a sesiynau cyfoethogi i ddysgwyr mewn ardaloedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol am o leiaf 12 diwrnod yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

Gall plant a'u teuluoedd gymryd rhan hefyd mewn gweithgarwch corfforol a dysgu am fanteision bwyd iach gan fabwysiadu dulliau Ysgolion Bro. Yn 2025 i 2026, bydd ysgolion ledled Cymru yn derbyn £2 filiwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyfoethogi gan gynnwys profiadau chwaraeon, creadigol, diwylliannol a chwarae i gyd-fynd â'r diwrnod ysgol.

Creu amgylcheddau bwyd iachach

Mae gan ein hamgylchedd bwyd, y bwyd sydd ar gael i ni yn ein hardal leol a sut mae'n cael ei labelu a'i farchnata, ran ganolog yn yr hyn rydym yn dewis ei fwyta a'i yfed.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn cydnabod na ellir gwahanu rheoli gordewdra yn glinigol oddi wrth yr amgylchedd lle mae pobl yn byw. Mae hyn yn cynnwys yr amgylchedd bwyd, fel agosrwydd at safleoedd manwerthu bwyd a'r mathau o fwyd sydd ar gael. Mae’r amgylchedd adeiledig a'r amgylchedd naturiol yn chwarae rôl arwyddocaol ac yn elfen hanfodol o'r dull amlochrog sydd ei angen i frwydro yn erbyn gorbwysedd a gordewdra. Mae Bwyd o Bwys: Cymru yn dangos sut mae ein polisïau bwyd yn dod at ei gilydd yn 10 amcan llesiant Llywodraeth Cymru, sydd yn eu tro yn gwneud y mwyaf o'n cyfraniad at saith Nod Llesiant hirdymor Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Sector manwerthu

Yn ein siopau bwyd a'n harchfarchnadoedd, mae hyrwyddiadau yn aml wedi'u targedu at gynhyrchion llai iach, a allai fod yn uchel mewn braster, siwgr neu halen, yn hytrach nag opsiynau iachach[troednodyn 1]. Mae'r cynhyrchion hyn yn tueddu i gael eu gosod mewn mannau amlwg hefyd, fel pen draw eiliau neu wrth fannau talu. Mae pris cyfartalog bwyd yn ein basgedi siopa bellach 30% yn uwch nag yr oedd yn 2022, ac mae bwyd iachach yn tueddu i gostio mwy nag opsiynau llai iach hefyd. Er bod y patrwm hwn wedi parhau am o leiaf y degawd diwethaf, mae'r bwlch wedi ehangu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ein nodau yw:

  • mae gan gymunedau fynediad yn y gymdogaeth at fwydydd iachach fforddiadwy
  • mae hysbysebu, hyrwyddo a lleoli mewn lleoliadau manwerthu yn hyrwyddo opsiynau iachach
  • mae labeli bwyd mewn lleoliadau manwerthu yn cefnogi dewis doeth
  • mae cymorthdaliadau a chymhellion yn hyrwyddo ffrwythau a llysiau
  • mae basged siopa iach yn fforddiadwy
  • mae cyfran y gwerthiant o fwydydd llai iach yn gostwng dros amser

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 10: byddwn yn cydweithio â phartneriaid i ddylunio a phrofi dulliau gwirfoddol o wella a chynyddu cyflymder y newid wrth ddarparu rhagor o fwydydd iach a fforddiadwy mewn lleoliadau manwerthu

Byddwn yn cydweithio â manwerthwyr, academyddion ac arbenigwyr pwnc i ddatblygu ac archwilio amrywiaeth o ddulliau posibl ar gyfer annog a galluogi pobl i wneud dewisiadau iachach.

Bydd y gwaith archwilio hwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella fforddiadwyedd a hygyrchedd bwyd iachach, yn enwedig i deuluoedd yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Erbyn mis Mawrth 2027, y nod yw ein bod gweithredu treial newid ymddygiad defnyddwyr er mwyn profi effeithiolrwydd o leiaf un o'r mesurau a nodwyd trwy ein gwaith archwilio. Os yw'r treial yn llwyddiannus, rydym yn bwriadu parhau i gydweithio â manwerthwyr ar sail wirfoddol i adeiladu ar y dysgu hwn a'i ymgorffori.

Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y cyfyngiadau ar fwyd llai iach, sydd â'r nod o fod y cam cyntaf mewn pecyn cytbwys o fesurau sy'n ceisio gwella iechyd ein hamgylcheddau bwyd manwerthu a lleihau'r anghydraddoldebau iechyd sy'n gysylltiedig â chost ac anhygyrchedd opsiynau iachach.

Ar 11 Chwefror 2025, gosododd Llywodraeth Cymru Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, sy'n bwrw ymlaen â 3 chynnig o'n hymgynghoriad ar Amgylchedd Bwyd Iach yn 2022. Disgwylir i'r rheoliadau hyn ddod i rym yn 2026 a byddant yn cyfyngu ar hyrwyddo bwyd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr a'u harddangos mewn lleoliadau gwerthu allweddol yn y sector manwerthu a chynigion i ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim yn y sector manwerthu a'r sector oddi allan i'r cartref.

Sector y tu allan i'r cartref

Mae bwyta allan a phrynu bwyd tecawê yn rhan gynyddol gyffredin o'n bywydau bob dydd. Canfu adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2024 fod mwy na hanner poblogaeth y DU wedi bwyta bwyd mewn bwyty, caffi, siop goffi neu siop frechdanau dros y mis blaenorol; roedd mwy na thraean wedi bwyta mewn safle bwyd cyflym ac ychydig o dan draean wedi bwyta bwyd tecawê a archebwyd gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein. Mae ystadegau Defra yn dangos bod gwariant y DU ar fwyd a diod a fwyteir y tu allan i'r cartref fesul person yr wythnos yn £10.06 o'i gymharu â gwariant ar fwyd a diod yn y cartref sef £33.27.

Mae bwyd o leoedd tecawê, caffis neu fwytai yn cynnwys mwy o galorïau na bwyd a baratoir yn y cartref yn gyffredinol. Nid yw pobl mewn sawl ardal o Gymru yn byw o fewn pellter cerdded hawdd i safleoedd bwyd sy'n gwerthu detholiad da o fwyd iachach, fforddiadwy fel ffrwythau a llysiau. I'r gwrthwyneb, mae nifer y lleoedd tecawê yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae cysylltiad rhwng dwysedd lleoedd tecawê ac ardaloedd o amddifadedd. Canfu astudiaeth gan yr Obesity Health Alliance (2024) fod gan ardaloedd difreintiedig yn y DU hyd at 5 gwaith yn fwy o safleoedd bwyd cyflym na chymdogaethau cyfoethocach, gan wneud dewisiadau bwyd iachach yn anoddach a gwaethygu anghydraddoldebau iechyd rhwng yr ardaloedd hyn. Yn yr un modd, nododd yr astudiaeth fod gan ardaloedd trefol grynodiad uwch o safleoedd bwyd cyflym, sy'n cyfyngu mynediad at opsiynau bwyd iachach ac yn aml yn gysylltiedig â chyfraddau gordewdra uwch ymhlith trigolion.

Mae ymchwil wedi canfod hefyd bod presenoldeb uwch o leoedd tecawê yn gysylltiedig ag arferion deietegol llai iach ymhlith plant. Mae cysylltiad wedi'i sefydlu rhwng agosrwydd safleoedd bwyd cyflym a siopau bwyd cyffredinol i ysgolion a chyffredinrwydd gordewdra ymhlith plant. Yr amser mwyaf cyffredin i blant brynu bwyd a diod yw yn syth ar ôl ysgol, gyda llawer yn dewis safleoedd bwyd sydd ar hyd eu llwybrau yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod gan yr amgylchedd bwyd ehangach y mae plant yn byw ynddo rôl arwyddocaol mewn gordewdra ymhlith plant, gan ddangos bod y gymdogaeth lle mae plant yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn cael y dylanwad mwyaf ar eu hiechyd.

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 11: gan adeiladu ar ein hymgynghoriad ar Amgylchedd Bwyd Iach yn 2022, byddwn yn ymgynghori ar gynigion amrywiol i gefnogi cydbwysedd iachach o safleoedd bwyd yng Nghymru

Bydd hyn yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiadau yn y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach:

  • cyfyngiadau ar fwydydd tecawê poeth yng nghyffiniau ysgolion
  • cyfyngiadau ar hyrwyddo bwydydd a diodydd sydd â lefel uchel o fraster dirlawn, halen a siwgr, gan gynnwys ail-lenwi am ddim
  • cymorth i gynyddu'r dewisiadau bwyd iachach sydd ar gael ar y stryd fawr
  • cefnogi busnesau bwyd lleol i ddatblygu dewisiadau bwyd iach

Gallai amrywiaeth o ymyriadau gefnogi newid yng nghydbwysedd safleoedd bwyd mewn cymunedau lleol, er enghraifft trwy ddefnyddio rheolau a chanllawiau cynllunio. Gallai hyn gynnwys:

  • creu parthau gwahardd ger lleoedd y mae plant a theuluoedd yn eu defnyddio’n aml, fel ysgolion, parciau a chanolfannau hamdden
  • parthau gwahardd ar sail pellter neu amser cerdded neu gyfyngu ar oriau agor safleoedd bwyd tecawê yn ystod amseroedd cinio ysgol, ac yn syth ar ôl ysgol

Nod dull o'r fath fyddai diogelu iechyd plant trwy leihau amlygiad i amgylcheddau bwyd nad yw'n iach.

Gallai camau eraill i leihau clystyrau o fusnesau sy'n gwerthu cynhyrchion bwyd â lefel uchel o fraster, halen a siwgr ac i gefnogi busnesau bwyd sy'n gwerthu bwydydd iachach gynnwys mentrau fel:

  • Mentrau trwyddedu, yn gweithio ochr yn ochr â pholisi cynllunio, i gefnogi hyrwyddo amgylcheddau bwyd iach. Gallai mentrau newydd, er enghraifft, gynnwys y gofyniad am drwydded i'r rhai sy'n gwerthu bwydydd â lefel uchel o fraster, halen a siwgr neu ddarparu trwydded sy'n cyfyngu ar y bwydydd sy'n cael eu gwerthu i blant yn ystod oriau penodol.
  • Cymorth i fusnesau bwyd lleol er mwyn ailfformiwleiddio eu cynhyrchion a chyngor ar ddadansoddi maeth.
  • Sut gellir mynd i'r afael â marchnata a labelu bwydydd llai iach fel nad yw prynwyr yn cael eu cymell neu eu hannog i brynu'r cynhyrchion hyn.
  • Ymgymryd â rhagor o waith ymchwil i fesurau posibl y gellid eu gweithredu i reoleiddio amgylcheddau bwyd digidol.
  • Mentrau arlwyo iachach gyda'r nod o annog safleoedd i newid i gynhwysion, cynhyrchion, bwydlenni ac arferion coginio iachach.
  • Cyflwyno safonau bwyd ar gyfer bwytai, peiriannau gwerthu neu fusnesau arlwyo manwerthu ar safleoedd sector cyhoeddus. Gellid ymgorffori'r safonau bwyd hyn mewn prosesau presennol ar gyfer contractau a chaffael.
  • Cyngor a chefnogaeth i ddarparwyr bwyd y tu allan i'r cartref.

Systemau bwyd cymunedol a chynaliadwy

Nod y Strategaeth Bwyd Cymunedol yw annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd fforddiadwy, cynaliadwy o ffynonellau lleol yng Nghymru. Mae bwyd yn sector hanfodol o'r Economi Sylfaenol, y mwyaf yn ôl nifer y busnesau (gan gynnwys manwerthu), gyda 18,190 o fusnesau, sy'n cyfrif am 28% o'r Economi Sylfaenol a 17% o'r holl fusnesau yng Nghymru. Mae'r Strategaeth Bwyd Cymunedol yn canolbwyntio ar fywiogi a chefnogi mentrau ar lawr gwlad sy'n gysylltiedig â bwyd a gwella'r ffocws ar faterion bwyd wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a darparu gwasanaethau ar raddfa gymunedol. Wrth weithio tuag at y nod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid o £3 miliwn a mwy, yn 2025 i 2026, i ddatblygu ymhellach y rhwydwaith o bartneriaethau bwyd lleol ledled Cymru ac i barhau i gefnogi a darparu adnoddau i bartneriaethau bwyd tan fis Mawrth 2028. Pwrpas y buddsoddiad hwn yw cefnogi datblygiad a hyfywedd hirdymor mentrau bwyd lleol trwy feithrin cysylltiad cryf rhyngddynt a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae amcanion cyllid grant ar gyfer partneriaethau bwyd lleol yn cynnwys ffocws ar yr hyn sydd ar gael yn lleol, fforddiadwyedd, mynediad at fwyd iach a maethlon i bob dinesydd yn y gymuned a'r defnydd ohono, gan gynnwys y rhai sy'n profi tlodi ac sydd â nodweddion gwarchodedig.

Bydd y Strategaeth Bwyd Cymunedol yn sail i'r camau gweithredu yn y cynllun cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach, yn enwedig mewn perthynas â gwella'r ddarpariaeth o fwyd iach, o ffynonellau lleol a mynediad ato. Mae ein gwaith ymgysylltu wedi pwysleisio'r cyfle unigryw i gefnogi cynnydd mewn tyfu cymunedol a garddwriaeth, gan ddefnyddio mannau gwyrdd ac annog arallgyfeirio ar ffermydd, i hyrwyddo'r cyflenwad lleol o gynnyrch bwyd ffres sy'n llawn maetholion. Mae cyfle clir hefyd i gysylltu fframwaith polisi bwyd Llywodraeth Cymru ag ymrwymiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yn Cymru Can 2023 i 2030, ar gyfer bwyd fel maes ffocws, gan gydnabod lle canolog bwyd a deiet ar gyfer cyflawni'r nodau Llesiant a chyflawni Cymru iachach.

Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn nodi camau gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac yn amlinellu sut byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i sicrhau bod yr ysgogiadau sydd ar gael i ni yn cael yr effaith fwyaf posibl. Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £27 miliwn a mwy i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i fynd i'r afael â diffyg diogeledd bwyd a darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau i helpu unigolion ac aelwydydd i wneud y mwyaf o'u hincwm a meithrin cadernid ariannol. Mae cyllid wedi cefnogi banciau bwyd a sefydliadau bwyd cymunedol i oresgyn rhwystrau o ran cael mynediad i gyflenwadau ychwanegol o fwyd o ansawdd da a storio a dosbarthu'r bwyd hwnnw, gan gynnwys bwyd dros ben da. Mae wedi darparu cyllid i gydlynwyr partneriaethau bwyd lleol hefyd sy'n ceisio dod ag aelodau o'r gymuned ynghyd i weithio tuag at system fwyd fwy gwydn, gyda milltiroedd bwyd byrrach, llai o wastraff bwyd a gwell mynediad at fwyd maethlon a fforddiadwy i bawb. Mae'r partneriaethau bwyd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy'n gysylltiedig â bwyd sydd â'r nod o gynyddu mynediad at gynnyrch a dyfir yn lleol i bawb, datblygu gwybodaeth a sgiliau tyfu ymhlith y gymuned, hwyluso sesiynau mewn sgiliau maeth a choginio a helpu i leihau'r ôl troed carbon.

Mae cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd ledled Cymru yn newid sylweddol sy'n dangos sut gall galw gan wasanaethau cyhoeddus greu cyfleoedd newydd ar gyfer cyflenwi bwyd lleol, iach. Mae mentrau drwy gefnogi'r Economi Sylfaenol, gan gynnwys yr adnodd ar-lein "Prynu bwyd addas at y dyfodol", prosiectau a gyflwynir drwy'r "Gronfa cefnogi cwmnïau lleol" a'r rhaglen "Bwyd Cymru ar y plât cyhoeddus" i gyd yn cryfhau'r berthynas rhwng cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr lleol ac yn helpu i fodloni'r galw yn y sector cyhoeddus. Mae cyfanwerthwyr o Gymru, fel Castell Howell a Harlech, yn gweithio'n arloesol gyda thyfwyr a chynhyrchwyr lleol i gofnodi cynnydd rhyfeddol yn y cyflenwad o gynnyrch o Gymru sy'n mynd i ysgolion ac ysbytai.

Mae prosiectau sy'n gysylltiedig â bwyd sy'n derbyn cyllid gan yr Economi Sylfaenol wedi canolbwyntio ar gynyddu'r cyflenwad o lysiau a chig cynaliadwy o Gymru i ysgolion. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y prosiect "Llysiau o Gymru ar gyfer ysgolion", dan arweiniad Synnwyr Bwyd Cymru
  • Castell Howell yn datblygu dewis newydd maethlon o brydau o Gymru ar gyfer ysgolion (gan gynnwys peli cig o Gymru)
  • Larder Cymru yn cydweithio â Harlech ar ddatblygu bwydlenni ysgolion i symleiddio proses Awdurdodau Lleol y Gogledd o gaffael bwyd er mwyn cyflenwi cymaint â phosibl o fwyd o Gymru i ysgolion

Mae prosiectau ar gyfer 2025 i 2026 yn cynnwys Larder Cymru yn treialu bariau salad mewn amrywiaeth o ysgolion uwchradd (gan ddysgu o fodel Malmo) er mwyn cynyddu bwyta'n iach a'r defnydd o gynnyrch lleol, tymhorol, a chydweithio â chyflenwyr i helpu i sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion newydd a nodi cyfleoedd ar gyfer ailfformiwleiddio neu ddatblygu cynnyrch newydd.

Cam gweithredu 12: byddwn yn ymgynghori ar opsiynau i wella'r cynnig bwyd iach mewn lleoliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys o fewn lleoliadau'r GIG, awdurdodau lleol a chanolfannau hamdden

Bydd hyn yn cynnwys ystyried opsiynau i gyflwyno canllawiau neu safonau ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus i gefnogi'r gwaith o ddarparu cynnig bwyd iach ac amrywiaeth o becynnau cymorth, canllawiau a chefnogaeth ar draws gwahanol leoliadau.

Mae safonau bwyd a maeth y sector cyhoeddus i gefnogi'r broses o gaffael opsiynau bwyd iachach yn cael eu llywio gan sawl fframwaith a menter, a byddwn yn eu hadolygu am gyfleoedd i gryfhau ymhellach y broses o'u gweithredu yng Nghymru yn lleoliadau'r sector cyhoeddus. Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, gwaith teg, a chaffael cymdeithasol gyfrifol. Rhaid i awdurdod contractio geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gynnal gwaith caffael cyhoeddus mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol.

Mae Safonau Prynu'r Llywodraeth ar gyfer Bwyd a Gwasanaethau Arlwyo, a gafodd eu gweithredu yn 2011 a'u diweddaru yn 2021, yn cynnwys safonau gorfodol ar gyfer caffaelwyr llywodraeth ganolog yn uniongyrchol, neu drwy eu contractau arlwyo, i leihau cymeriant bwydydd â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen a chynyddu'r defnydd o fwydydd iachach. Er nad yw'r safonau hyn wedi'u datganoli i Gymru, gallant ddarparu pwynt cyfeirio ar gyfer datblygu safonau lleol. O safbwynt ehangach, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cefnogi gwledydd i wella systemau bwyd gyda phecyn o gamau gweithredu blaenoriaeth, gan gynnwys polisïau ar gyfer caffael a gweini bwyd cyhoeddus iach. Mae'r polisïau hyn yn cynnwys gosod meini prawf ar gyfer bwyd sy'n cael ei weini neu ei werthu mewn lleoliadau cyhoeddus, fel ysgolion, ysbytai, a swyddfeydd y llywodraeth, er mwyn sicrhau bod bwyd maethlon, diogel ac iach yn cael ei ddarparu.

Hysbysebu bwyd

Mae gan hysbysebu bwyd rôl arwyddocaol wrth lywio ymddygiadau deietegol a chanlyniadau iechyd y cyhoedd. Mae'r rhan fwyaf o hysbysebion bwyd a diod yn hyrwyddo cynhyrchion HFSS llai iach, sy'n dylanwadu'n sylweddol ar arferion deietegol ac yn cyfrannu at ordewdra, yn enwedig ymhlith plant. Mae plant yn arbennig o agored i'r technegau perswadio a ddefnyddir gan hysbysebwyr bwyd, fel y defnydd o liwiau llachar, cymeriadau cartŵn, ac apeliadau emosiynol sy'n creu cysylltiadau cadarnhaol â bwydydd nad ydynt yn iach. Mae hysbysebion o'r fath yn meithrin arferion bwyta nad ydynt yn iach sy'n parhau wrth i blant dyfu'n oedolion ac yn cyfrannu at yr achosion cynyddol o ordewdra a chlefydau sy'n gysylltiedig â deiet. Mae plant yn agored iawn i farchnata o'r fath hefyd oherwydd eu gallu cyfyngedig i gydnabod ei fwriad i berswadio.

Yn wahanol i hysbysebion teledu a chyfryngau digidol, mae mannau cyhoeddus yn parhau i fod heb eu rheoleiddio i raddau helaeth, gan arwain at amlygiad parhaus i hysbysebion bwyd llai iach ac mae astudiaethau'n dangos bod hysbysebion awyr agored ar gyfer bwydydd llai iach yn cael effaith sylweddol ar flys a deietau defnyddwyr, yn debyg i hysbysebu ar-lein. Mae'r amlygiad hwn yn creu problem yn arbennig mewn amgylcheddau sy'n cael eu mynychu gan blant, fel systemau trafnidiaeth gyhoeddus, ysgolion, a chyfleusterau hamdden. Mae bylchau rheoleiddio yn parhau mewn perthynas â hysbysebu awyr agored, noddi digwyddiadau a chyfryngau digidol ac mae'r modelau proffilio maetholion a ddefnyddir ar hyn o bryd i ddosbarthu bwydydd llai iach hefyd wedi dyddio. Mae canllawiau presennol, fel y rhai gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA), hefyd yn methu â diogelu plant yn ddigonol oherwydd bylchau rheoleiddio a gorfodi cyfyngedig.

Nid yw amlygiad i hysbysebion ar gyfer bwydydd nad ydynt yn iach wedi'i ddosbarthu'n gyfartal ar draws poblogaethau. Mae plant ac oedolion o gefndiroedd mwy difreintiedig yn cael eu targedu'n anghymesur gan farchnata cynnyrch â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr oherwydd dibyniaeth uwch ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreswylio mewn ardaloedd sydd â llawer mwy o hysbysebion awyr agored. Mae astudiaethau wedi canfod bod cymdogaethau mwy difreintiedig yn fwy tebygol o gynnwys cyfran uwch o hysbysebion ar gyfer bwydydd nad ydynt yn iach o gymharu ag ardaloedd cyfoethog, gan waethygu anghydraddoldebau iechyd.

Mae ein strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn nodi'r ymrwymiadau canlynol erbyn 2030:

  • Gwaharddiad ar hysbysebu, noddi a hyrwyddo bwydydd sy'n uchel mewn braster dirlawn, siwgr a halen mewn mannau cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys gorsafoedd bws neu trên, digwyddiadau chwaraeon, atyniadau i deuluoedd, ysgolion (yn cynnwys yn agos atynt), ysbytai, canolfannau hamdden a mannau cyhoeddus eraill.
  • Cynnydd o ran hyrwyddo dewisiadau iachach a chymell cynhyrchion sy'n cefnogi dewisiadau cadarnhaol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i gyfyngu ymhellach ar hysbysebu ym maes darlledu ac ar-lein, nad ydynt wedi'u datganoli.

Cynnydd hyd yma

Gosodwyd Rheoliadau Hysbysebu (Diffiniadau ac Esemptiadau Bwydydd Llai Iach) 2024 gerbron Senedd y DU ar 3 Rhagfyr 2024 a byddant yn dod i rym ledled y DU ar 1 Hydref 2025. Maent yn cynnwys:

  • gwahardd hysbysebu bwyd neu ddiod llai iach ar y teledu cyn 9pm, gan gynnwys yr holl wasanaethau rhaglenni ar alw (ODPS) a gwasanaethau teledu protocol rhyngrwyd (IPTV) o dan awdurdodaeth y DU, ac a reoleiddir gan Ofcom felly
  • cyfyngiad llwyr ar hysbysebion y telir amdanynt ar gyfer bwyd neu ddiod llai iach ar-lein, gan gynnwys ODPS ac IPTV nad ydynt wedi'u rheoleiddio gan Ofcom

Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael gwared ar hyd at 7.2 biliwn o galorïau o ddeietau plant y DU y flwyddyn ac yn lleihau nifer y plant sy'n byw gyda gordewdra gan 20,000. Mae'r ffigur hwn yn deillio o luosi'r gostyngiad mewn calorïau a ragwelir (a gymerwyd o'r asesiad effaith ar gyfyngiadau hysbysebu HFSS) a'r nifer amcangyfrifedig o blant sydd wedi'u dylanwadu'n gadarnhaol gan y polisi.

Mae polisi i gyfyngu ar hysbysebu bwydydd â lefel uchel o fraster, siwgr neu halen ar waith ar draws ystad Trafnidiaeth Cymru, a gyflwynwyd o 2023.

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 13: byddwn yn ymgynghori ar amrywiaeth o opsiynau i wahardd hysbysebu, noddi a hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster dirlawn, siwgr a halen mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru

Mae amrywiaeth o fentrau wedi'u cyflwyno ledled y DU i naill ai wahardd neu gyfyngu ar farchnata bwyd sy'n uchel mewn braster dirlawn, halen neu siwgr mewn mannau cyhoeddus, neu i hyrwyddo opsiynau bwyd iachach yn y mannau hyn.

Mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn dylanwadu'n bennaf ar hysbysebu awyr agored trwy fannau y maent yn berchen arnynt neu'n eu rheoli. Fodd bynnag, mae'r rhain yn cyfrif am gyfran fach yn unig o’r ystad hysbysebu gyfan, gan fod y rhan fwyaf o fannau yn eiddo preifat.

Lle mae mentrau o'r fath wedi bod yn llwyddiannus, nodwyd y pwyntiau dysgu canlynol:

  • Mae angen arweinyddiaeth ac ymrwymiad gwleidyddol cryf.
  • Mae partneriaethau effeithiol rhwng llywodraeth genedlaethol, awdurdodau lleol, byrddau iechyd y GIG, awdurdodau iechyd cyhoeddus, adrannau trafnidiaeth, rhanddeiliaid y diwydiant a grwpiau eiriolaeth cymunedol yn hanfodol er mwyn sicrhau cefnogaeth.
  • Dylai polisïau gwmpasu’r holl asedau sy'n eiddo i'r llywodraeth a'r holl farchnata sydd wedi'i anelu at blant neu'n hygyrch iddynt, waeth beth fo'r gynulleidfa a fwriadwyd gan y gall polisïau cenedlaethol ehangach fod yn fwy effeithiol nag ymdrechion lleol tameidiog, gan sicrhau cysondeb a chyrhaeddiad ehangach.
  • Mae ymgyrchoedd cymorth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol i ennill momentwm ar gyfer gweithredu polisi. Mae ymchwil yn awgrymu bod cefnogaeth gyhoeddus eang yn aml i bolisïau sy'n cyfyngu ar farchnata bwyd nad yw'n iach, yn enwedig mewn amgylcheddau sy'n targedu plant, ac mae galw cynyddol am hysbysebion bwyd sy'n dweud y gwir, gyda rhieni yn mynegi pryderon am farchnata twyllodrus sy'n targedu plant.
  • Mae yna gyfleoedd i gyfathrebiadau annog hyrwyddo bwyd iachach a busnesau lleol hefyd, gan feithrin adferiad economaidd a buddion o ran iechyd cyhoeddus.
  • Mae gweithredu graddol wedi profi i fod yn strategaeth effeithiol, sy'n golygu y gellir addasu'n raddol a lleihau tarfu i fusnesau a hysbysebwyr.

Ailfformiwleiddio cynhyrchion bwyd

Mae amrywiaeth o fesurau cyllidol a gwirfoddol y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith i ysgogi busnesau i ailfformiwleiddio cynhyrchion bwyd a diod.

Mae rhaglen lleihau ac ailfformiwleiddio’r Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau yn ymgysylltu â phob sector o'r diwydiant bwyd a diod (manwerthwyr, gweithgynhyrchwyr, bwytai, tecawê a dosbarthu) i leihau’n wirfoddol lefel y siwgr, halen a chalorïau yn y bwyd a'r ddiod sy'n cyfrannu at gymeriant plant ac oedolion. Er bod y targedau gwirfoddol hyn yn gymwys yn Lloegr, mae sector bwyd a diod y DU yn gweithredu ledled y DU. Mae'r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth leihau lefelau siwgr, halen a chalorïau mewn rhai categorïau o gynhyrchion, ond mae lle i'r diwydiant wneud mwy.

Ers ei gyflwyno, mae Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (SDIL) wedi arwain at ailfformiwleiddio llawer iawn o gynhyrchion yn llwyddiannus, gyda gostyngiad cyfartalog o 46% mewn siwgr yn y diodydd meddal hynny sydd o fewn cwmpas yr ardoll rhwng 2015 a 2020. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yng Nghyllideb yr hydref 2024 ei bod yn cymryd camau i sicrhau bod yr SDIL yn parhau i fod yn effeithiol ac yn addas i'r diben. Bydd yn adolygu gweithrediad a strwythur yr SDIL, gyda'r bwriad o leihau ymhellach faint o siwgr sydd mewn diodydd meddal. Bydd yr adolygiad yn ystyried:

  • y trothwyon o ran cynnwys siwgr y mae'r SDIL yn gymwys iddynt
  • a ddylid dileu'r esemptiadau cyfredol ar gyfer diodydd llaeth a diodydd llaeth cyfnewid

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 14: byddwn yn archwilio hyfywedd ac effeithiolrwydd posibl mesurau cyllidol ychwanegol i annog y sector i greu cynhyrchion iachach

Byddwn yn cydweithio â Llywodraeth y DU i adolygu ac ystyried mesurau ar gyfer y DU gyfan ac archwilio mesurau penodol i Gymru.

Rydym am ddeall beth mwy y gellir ei wneud i gefnogi ac annog busnesau bwyd a diod manwerthu a’r tu allan i'r cartref i gynhyrchu opsiynau iachach i ddefnyddwyr. Er mwyn sicrhau bod unrhyw ddulliau gweithredu yn y dyfodol yn effeithiol wrth alluogi gwelliannau system gyfan yn y maes hwn, hoffem ddeall sut gallwn deilwra ein dull gweithredu ar gyfer busnesau o wahanol feintiau hefyd.

Erbyn mis Mawrth 2027, byddwn wedi cwblhau ein gwaith archwilio ac wedi datblygu cynllun i fwrw ymlaen ag unrhyw fesurau dichonadwy ac effeithiol.

Cam gweithredu 15: byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector bwyd a diod yng Nghymru i gefnogi ailfformiwleiddio ar gyfer opsiynau iachach drwy gyfuniad o weithio gyda'n rhwydweithiau clwstwr, ein gwaith mewnwelediad i'r farchnad, a thrwy gymorth technegol gan y canolfannau technoleg bwyd rydym yn eu cefnogi

Mae gan Gymru sector bwyd a diod ffyniannus. Ein nod yw diogelu a chefnogi twf busnesau Cymru, gan sicrhau eu bod yn cyfrannu'n gadarnhaol i'n hamgylcheddau bwyd lleol.

Bywydau egnïol

Ni yw'r genhedlaeth gyntaf sydd angen gwneud penderfyniad bwriadol i ymgorffori gweithgarwch corfforol yn ein bywydau bob dydd. Mae gan lai ohonom swyddi llaw ac mae technoleg yn frenin yn y cartref ac yn y gwaith. Y 2 leoliad lle’r ydym yn treulio'r rhan fwyaf o'n hamser. Mae newidiadau cymdeithasol yn golygu nad yw gweithgarwch corfforol yn rhan o'n bywydau i'r un graddau.

Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl 16 oed a hŷn yn anweithgar yn gorfforol yng Nghymru ar hyn o bryd[troednodyn 2]. Yn y DU, mae anweithgarwch corfforol yn gysylltiedig ag un o bob 6 o farwolaethau a hyd at 40% o lawer o gyflyrau hirdymor. Er gwaethaf yr amrywiaeth enfawr o fanteision iechyd a lles ar lefel unigol a chymunedol y gwyddom sy'n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol, nid yw mwy na thraean o oedolion a mwy na hanner y bobl ifanc rhwng 3 a 17 oed yn bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU ar hyn o bryd ar gyfer gwella iechyd.

Mae cynyddu hyd gweithgarwch corfforol o unrhyw ddwysedd, a threulio llai o amser yn eistedd, yn gysylltiedig ag amrywiaeth o fanteision iechyd meddwl a chorfforol cadarnhaol[troednodyn 3]. Ar lefel iechyd y boblogaeth mae galluogi pobl anweithgar yn gorfforol i fod yn fwy egnïol yn cael mwy o effaith na chael pobl egnïol i wneud mwy o weithgarwch. Gellir cyflawni hyn trwy leihau amser yn eistedd a chynyddu gweithgarwch corfforol mewn pyliau bach[troednodyn 4].

Er mwyn creu newid parhaol, mae angen dull system gyfan arnom; un sy'n sicrhau bod symud nid yn unig yn cael ei annog ond yn cael ei ymgorffori yng ngwead ein bywydau bob dydd ledled Cymru. Yn sail i'n hymdrechion i gyflawni Cymru fwy egnïol ac yn llywio'r ymdrechion hynny mae Cynllun Gweithredu Byd-eang ar Weithgarwch Corfforol Sefydliad Iechyd y Byd sy'n nodi amrywiaeth o gamau polisi o dan 4 amcan strategol:

  • creu cymdeithasau egnïol
  • creu amgylcheddau egnïol
  • creu pobl egnïol
  • creu systemau egnïol

Ein nodau yw:

  • mae oedolion a phlant yn cymryd rhan bob wythnos o leiaf mewn chwaraeon neu ymarfer corff neu hamdden egnïol
  • mae pob plentyn yn cael cyfle i chwarae yn yr awyr agored bob dydd
  • teithio llesol yw’r opsiwn diofyn ar gyfer teithiau byrrach yng Nghymru
  • mae plant yn cerdded, olwyno neu feicio i'r ysgol pryd bynnag y bo modd
  • mae mwy o bobl yn cymryd mwy o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • mae pobl yn cael cyfle i gael mynediad rhwydd i fannau gwyrdd ar gyfer hamdden
  • mae dylunio cymdogaethau, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â lefelau uwch o amddifadedd, yn galluogi gweithgarwch corfforol bob dydd

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 16: byddwn yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i greu cenedl fwy egnïol, trwy ddull creu lleoedd a dull systemau cyfan, gan annog cydweithredu traws-sector i hyrwyddo manteision iechyd ymgorffori mwy o weithgarwch mewn bywyd bob dydd

Bydd partneriaethau chwaraeon yn drobwynt i genedlaethau'r dyfodol, gan drawsnewid y ffordd y mae gweithgareddau chwaraeon ac ymarfer corff cymunedol yn cael eu creu, eu darparu, eu harwain a'u hariannu. Wedi'u cynllunio i oresgyn anghydraddoldebau parhaus ac ystyfnig mewn perthynas â chymryd rhan mewn gweithgarwch amser hamdden, nod y partneriaethau hyn yw trawsnewid Cymru yn genedl egnïol lle gall pawb gael mwynhad gydol oes o chwaraeon.

Bydd y partneriaethau chwaraeon rhanbarthol yn cyfuno adnoddau, arbenigedd a dysgu o amrywiaeth o sectorau, a byddant yn ymateb i anghenion rhanbarthol gyda ffocws ar gael gwared ar rwystrau o ran cyfranogiad, yn enwedig ar gyfer grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol fel pobl ifanc o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, y rhai ag anableddau, y rhai mewn ardaloedd o amddifadedd, a'r rhai o gymunedau heb wasanaethau digonol.

Cam gweithredu 17: byddwn yn hyrwyddo canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU i weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr allweddol

Mae fframwaith cyfathrebu canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU yn rhoi canllawiau i lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig ynghylch sut i gyfathrebu canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU.

Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bwysigrwydd y canllawiau gweithgarwch corfforol ar draws y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwneud i bob cyswllt gyfrif i godi ymwybyddiaeth o fanteision gweithgarwch corfforol.

Cam gweithredu 18: byddwn yn cefnogi amgylcheddau chwarae egnïol hygyrch, fforddiadwy sy'n diwallu anghenion datblygiadol plant ifanc

Mae chwarae yn ganolog i iechyd a llesiant corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae gallu chwarae a bod yn egnïol yn gorfforol yn yr awyr agored yn helpu plant i deimlo'n rhan o'u cymdogaethau a'u cymunedau ehangach.

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu ac, i’r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, sicrhau cyfleoedd digonol i blant chwarae yn eu hardaloedd. Mewn ymateb i argymhellion a wnaed yn yr adroddiad ar Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae, mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chwarae Cymru a Rhwydwaith Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Awdurdodau Lleol wedi adolygu ac adnewyddu canllawiau statudol "Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae" a'r pecyn cymorth cysylltiedig.

Mae pwysigrwydd chwarae a sut gall ysgolion a staff ysgol hyrwyddo manteision chwarae gyda rhieni a darparu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau â'r gymuned ehangach yn agwedd allweddol ar bolisi a chanllawiau Ysgolion Bro. Mae ymgorffori chwarae yn y canllawiau yn cwmpasu 3 maes:

  • ymgysylltu â rhieni trwy rôl swyddog ymgysylltu â theuluoedd i hyrwyddo manteision chwarae ac annog rhyngweithio teulu neu plentyn drwy chwarae
  • ysgolion yn cysylltu â sefydliadau chwarae a grwpiau cymunedol i wneud cysylltiadau â'r hyn a gynigir eisoes yn y gymuned
  • y potensial i ysgolion ddarparu gofod chwarae y tu allan i'r diwrnod ysgol trwy agor tiroedd yr ysgol

Cam gweithredu 19: byddwn yn cynyddu cyfranogiad mewn mentrau sy'n annog teithio llesol, gan gynnwys galluogi mwy o blant i gerdded, olwyno neu feicio i'r ysgol, ac archwilio cyfleoedd i ymgorffori canlyniadau iechyd ymhellach mewn mentrau teithio llesol

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw'r ddeddfwriaeth allweddol sy'n cefnogi teithio llesol yng Nghymru ac mae'n hyrwyddo cerdded, olwyno a beicio fel dulliau trafnidiaeth hyfyw ar gyfer teithiau bob dydd. Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i fynd ati i fapio a chynllunio ar gyfer teithiau teithio llesol a’u hyrwyddo.

Cefnogir teithio llesol hefyd gan:

Mae Cynllun Cyflawni Teithio Llesol 2024 i 2027 yn nodi'n fanylach sut y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid cyflawni yn gweithredu'r ymrwymiadau teithio llesol yn "Llwybr newydd: strategaeth trafnidiaeth Cymru" a'r "Cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth", a chael mwy o bobl i newid eu ffordd o deithio trwy wneud teithio llesol yn fwy deniadol, yn fwy cynhwysol ac yn haws i'w ddefnyddio. Bydd gwell integreiddio â thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cynyddu’r newid mewn dulliau teithio ac yn helpu pobl i gerdded neu olwyno rhannau o'u teithiau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol hefyd i wella ffyrdd a phalmentydd, gan gynnwys llwybrau i ysgolion, i'w gwneud yn fwy diogel i bobl sy'n cerdded, olwyno a beicio.

Sefydlwyd Hyb Teithio Llesol i Ysgolion gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cydgrynhoi ymdrechion ac yn gwella cydlynu trwy gefnogi mentrau cyfredol fel y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a rhaglenni a ariennir yn uniongyrchol fel Teithiau Llesol Sustrans a'r Rhaglen Cerdded i'r Ysgol WOW Living Streets. Bydd yr hwb yn cefnogi cydweithio drwy fentrau fel gwaith mapio cynhwysfawr o ddata teithio llesol, rhoi cyhoeddusrwydd i’w ganllawiau Strydoedd Ysgol, a chydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chydweithwyr Llywodraeth Cymru ym maes addysg. Y nod yn y pen draw yw datblygu un pwynt ar gyfer cydlynu a darparu teithio llesol i ysgolion ledled Cymru.

Cam gweithredu 20: byddwn yn archwilio rôl y system gynllunio wrth ddatblygu a chynnal amgylcheddau lleol egnïol i adeiladu darlun o sut mae polisïau'n cael eu gweithredu'n lleol

Nod y darn newydd hwn o waith yw nodi arfer da a chyfleoedd y gellid eu cyflwyno ledled Cymru. Mae polisïau cynllunio ar waith i gefnogi timau cynllunio lleol i ddatblygu a chynnal amgylcheddau lleol egnïol, trwy lwybrau teithio llesol, mynediad i fannau gwyrdd a glas, mynediad i fannau chwarae a hamdden awyr agored a dylunio cymdogaethau lleol sy'n galluogi pobl anweithgar yn gorfforol i fod yn fwy egnïol. Mae gan Gymru fframwaith cynllunio cynhwysfawr sy'n cynnwys polisïau cenedlaethol a chynlluniau datblygu lleol. Ymhlith yr elfennau allweddol mae "Cymru'r dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040", fframwaith datblygu cenedlaethol strategol sy'n cynnwys ffocws ar iechyd a llesiant, gyda'r nod o greu cymunedau iachach trwy ddatblygu cynaliadwy a gwell mynediad i fannau gwyrdd.

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn darparu'r fframwaith polisi cynllunio cenedlaethol cyffredinol ar gyfer Cymru ac yn cyfrannu at ganlyniadau iechyd drwy hyrwyddo datblygu cynaliadwy a chreu amgylcheddau sy'n cefnogi llesiant corfforol a meddyliol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn annog defnyddio Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd i werthuso effeithiau posibl penderfyniadau cynllunio ar iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ystyriaethau iechyd yn cael eu hintegreiddio yn y broses gynllunio.

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn paratoi cynlluniau datblygu lleol, sy'n nodi polisïau a chynigion ar gyfer defnydd tir yn eu hardal. Mae cynlluniau datblygu lleol yn integreiddio ystyriaethau iechyd mewn prosesau cynllunio a datblygu gofodol, er enghraifft, trwy annog datblygiad cymunedau y gellir cerdded ynddynt gyda mannau gwyrdd, parciau a chyfleusterau hamdden hygyrch, sy'n hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac yn lleihau ymddygiad eisteddog. Yr hyn sy'n hanfodol i waith cynllunio yng Nghymru hefyd yw Siarter Creu Lleoedd Cymru sy'n pwysleisio ansawdd, cynaliadwyedd a chyfranogiad cymunedol wrth gynllunio er mwyn annog:

  • ymgysylltu â'r gymuned: cynnwys cymunedau lleol yn y broses ddatblygu er mwyn sicrhau bod eu hanghenion a'u dyheadau'n cael eu diwallu
  • lleoliadau cynaliadwy: dewis lleoliadau sy'n cefnogi cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • mannau cyhoeddus o safon: creu strydoedd a mannau cyhoeddus diogel a chroesawgar sydd wedi'u diffinio'n dda

Cam gweithredu 21: byddwn yn creu, gwella a diogelu mannau gwyrdd a glas i gefnogi cyfleoedd ar gyfer hamdden egnïol

Mae yna amrywiaeth o fentrau sy'n cefnogi mynediad i'n mannau gwyrdd a glas. Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cymorth a chyngor arbenigol ar gyfer prosiectau mannau gwyrdd a arweinir gan y gymuned ledled Cymru.

Mae'r rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yng Nghymru yn cynnig pecynnau gardd i grwpiau cymunedol i greu gerddi natur a gwella mannau gwyrdd o fewn cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac amdrefol. Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn brosiect gan Lywodraeth Cymru i greu rhwydwaith parhaus o goetiroedd ledled y wlad.

Mae Parciau Cenedlaethol Cymru (Eryri, Arfordir Penfro, a Bannau Brycheiniog), y pum Tirwedd Cenedlaethol, a Llwybr Arfordir Cymru yn darparu mannau ar gyfer gweithgareddau awyr agored fel heicio, dringo a chwaraeon dŵr, gan hybu iechyd a llesiant y corff.

Mae rhandiroedd a gerddi cymunedol yng Nghymru yn hybu iechyd, lles a chydlyniant cymunedol yn sylweddol. Maent yn cynnig mannau i bobl dyfu eu bwyd eu hunain, cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, a chysylltu â natur a'u cymdogion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu Grant Gwella Mynediad gwerth £4 miliwn i wella hawliau tramwy cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd, gyda'r nod o wella hygyrchedd a hyrwyddo gweithgareddau awyr agored ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol gwell.

Mae Partneriaethau Natur Lleol Cymru yn fenter sydd â'r nod o adeiladu rhwydwaith adfer natur ledled Cymru gan annog gweithgareddau awyr agored fel cerdded, garddio a gwaith cadwraeth. Mae'r grant Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy yng Nghymru yn cefnogi prosiectau sy'n gwella'r amgylchedd naturiol ac yn hyrwyddo arferion cynaliadwy. Mae'n cynnwys cyllid ar gyfer prosiectau iechyd a lles mewn Tirweddau Dynodedig.

Llwybr rheoli pwysau Cymru gyfan a rhaglen atal diabetes Cymru gyfan

Mae Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan yn ceisio gwella canlyniadau i bobl drwy sicrhau y caiff yr holl lefelau gwasanaeth eu hadeiladu ar ddealltwriaeth a rennir o'r cymhlethdod o ffactorau sy'n arwain at orbwysedd a gordewdra, gan bwysleisio bod rhaid i wasanaethau ganolbwyntio ar yr unigolyn a bod yn empathig, yn barchus ac yn anfeirniadol. Mae'r llwybr yn canolbwyntio ar y daith rheoli pwysau, o ymyrraeth gynnar i gymorth arbenigol ac mae wedi'i rannu'n 4 lefel.

Lefel 1

Cyngor a chymorth hunangyfeiriedig. Mae'r lefel hon yn cynnwys cyngor ac adnoddau cychwynnol i unigolion reoli eu pwysau'n annibynnol trwy'r wefan Pwysau Iach Byw'n Iach.

Lefel 2

Gwasanaethau rheoli pwysau aml-elfennol. Mae'r lefel hon yn cynnwys rhaglenni mwy strwythuredig (deietegol, gweithgarwch corfforol, ac ymddygiadol) sy'n cael eu cyflwyno neu eu comisiynu gan fyrddau iechyd. Er mwyn cefnogi'r cynnig lefel 2, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu FIT FANS, rhaglen byw'n iach a cholli pwysau 12 wythnos am ddim i ddynion a menywod rhwng 35 a 65 oed sydd eisiau colli pwysau a gwella'u ffitrwydd.

Lefel 3

Gwasanaeth asesu a rheoli pwysau amlddisgyblaethol arbenigol. Mae'r lefel hon yn cynnwys cefnogaeth fwy dwys gan dîm o arbenigwyr a gallai gynnwys cyffuriau colli pwysau. Mae pobl sy'n bodloni'r canllawiau clinigol ar gyfer presgripsiwn hefyd yn cael cymorth gyda deiet a gweithgarwch corfforol. Pan fo ffactorau seicolegol yn sail i orbwysedd a gordewdra, dylid atgyfeirio'r unigolion hyn at wasanaethau lefel 3 fel y gellir cynnal asesiad amlddisgyblaethol llawn, gan gynnwys asesiad gan seicolegydd.

Lefel 4

Gwasanaethau llawfeddygol arbenigol. Mae hyn yn cynnwys ymyriadau llawfeddygol ar gyfer rheoli pwysau pan nad yw dulliau eraill wedi bod yn llwyddiannus.

Ein camau gweithredu

Cam gweithredu 22: byddwn yn mabwysiadu dull gwella parhaus ar gyfer y Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gwasanaethau i blant

Bydd hyn yn cynnwys y camau canlynol:

  • Tystiolaeth a gwerthusiad o Gynlluniau Peilot Plant a Theuluoedd PIPYN a'r ddarpariaeth gyfredol yn y gwasanaethau.
  • Canolbwyntio ar roi mecanweithiau cadarn ar waith ar gyfer data ac adrodd, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma trwy ddatblygu'r Set Ddata Sylfaenol.
  • Cynnal adolygiad o gyffuriau colli pwysau a llwybrau triniaeth yng nghyd-destun canllawiau NICE. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gyffuriau Colli Pwysau er mwyn penderfynu a fydd tirzepatide a meddyginiaethau colli pwysau eraill a drwyddedir yn y dyfodol ar gael yn y GIG yng Nghymru a sut. Bydd y gwaith hwn yn ystyried trefniadau gweithredu ar gyfer gofal sylfaenol ochr yn ochr â'r gwasanaethau arbenigol presennol ar gyfer colli pwysau, asesu capasiti a chostau, a datblygu modelau cyflawni diogel ac effeithlon sy'n gynaliadwy ac y gellir eu hehangu.
  • Cyhoeddi canllawiau i gefnogi rheoli pwysau yn ystod beichiogrwydd.
  • Gwneud newidiadau i safonau neu ddatblygu safonau newydd yn dilyn ymgynghoriad presennol NICE ar safonau.

Cam gweithredu 23: byddwn yn adolygu'r gwerthusiad o ganlyniadau cam cychwynnol rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn ystod 2025 i 2026 a'r camau nesaf

Mae 220,000 a mwy o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, ac mae gan 9 o bob 10 ddiabetes math 2. Mae hwn yn gyflwr difrifol, ac weithiau yn gyflwr gydol oes, sy'n brif achos colli golwg ac yn cyfrannu'n sylweddol at fethiant yr arennau, trawiad ar y galon a strôc. Gallai tua un o bob 11 oedolyn yng Nghymru fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035 os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, yn ôl dadansoddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, gellid atal neu oedi mwy na hanner yr achosion o ddiabetes math 2 gyda newidiadau i ymddygiad. Bydd cam cychwynnol cynllun peilot Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan a chanfyddiadau'r gwerthusiad yn dod i ben yn 2025 i 2026.

Llywodraethiant, atebolrwydd a monitro'r gwaith o gyflawni'r cynllun

Byddwn yn sefydlu gweithgorau thematig newydd, i gynnwys partneriaid cenedlaethol a lleol, i helpu i lywio sut rydym yn bwrw ymlaen â'r nodau a'r camau gweithredu yn y cynllun cyflawni hwn. Bydd y gweithgorau yn alinio blaenoriaethau cenedlaethol a lleol ac yn sicrhau bod dull system gyfan yn cael ei ymgorffori trwy ein cynllun. Bydd y timau system gyfan rhanbarthol yn ein cefnogi i nodi cyfleoedd i ehangu'r arferion gorau presennol ledled Cymru.

Yn ogystal â'r gweithgorau thematig, bydd grŵp trosolwg strategol newydd yn sicrhau bod ein strategaeth a nodau ein cynllun cyflawni yn cael eu cydgysylltu, eu cyfathrebu, eu monitro a’u gwerthuso yn effeithiol.

Bydd Bwrdd Cenedlaethol yn asesu cynnydd ac atebolrwydd yn y system. Byddwn yn defnyddio'r 5 ffordd o weithio a nodir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i lywio ein dull gweithredu.

Er mwyn darparu mwy o arweinyddiaeth a thryloywder, byddwn yn cyhoeddi ac yn adrodd yn erbyn fframwaith newydd o nodau a dangosyddion a fydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais hirdymor o leihau gordewdra ymhlith oedolion a phlant. Byddwn yn cwblhau'r fframwaith hwn yn ystod blwyddyn gyntaf ein cynllun cyflawni newydd. Mae un o'r blaenoriaethau a nodwyd yn y strategaeth yn ymwneud â datblygu fframwaith canlyniadau a mesur fel y gallwn ddeall a monitro'n well y cynnydd rydym yn ei wneud. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd yr amrywiaeth o ffactorau sy'n dylanwadu ar bwysau iach a natur hirdymor y newidiadau rydym yn ceisio eu gwneud. Mae cyfres o nodau, sy'n seiliedig ar grwpiau poblogaeth ac is-systemau, yn cefnogi pob thema yn y cynllun cyflawni hwn. Pwrpas y nodau yw helpu pawb i ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ceisio ei newid. Bydd dangosyddion cysylltiedig yn cael eu datblygu i'n galluogi i fesur a yw pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Bydd yn crynhoi'r dystiolaeth ar gyfer gweithredu effeithiol yn erbyn pob un o'r nodau yn y cynllun cyflawni hwn hefyd, gan adeiladu ar y camau gweithredu a nodwyd eisoes. Erbyn i ni ddod â'r cynllun cyflawni hwn i ben, byddwn wedi datblygu map llwybr lefel uchel hefyd i gefnogi cynlluniau cyflawni’r dyfodol ar gyfer Pwysau Iach: Cymru Iach.

Atodiad: rhestr o gamau gweithredu

Cam gweithredu 1

Ehangu rhaglenni PIPYN a PIPYN Actif yn Ynys Môn, Caerdydd a Merthyr Tudful.

Cam gweithredu 2

Cryfhau strwythurau llywodraethu ac adrodd fel y gellir cael atebolrwydd clir am gynnydd tuag at ganlyniadau cyffredin.

Cam gweithredu 3

Cryfhau ac ymgorffori ymhellach ddulliau system gyfan ar lefel gymunedol a chenedlaethol.

Cam gweithredu 4

Datblygu a chyflwyno cynllun gweithredu newydd ar gyfer bwydo babanod.

Cam gweithredu 5

Adolygu'r Cynllun Cychwyn Iach a gwerthuso cyfleoedd i gefnogi ymhellach deuluoedd ar incwm isel yng Nghymru i gael mynediad at fwyd iachach.

Cam gweithredu 6

Cynyddu gwerth maethol prydau ysgol a'r nifer sy'n eu cymryd trwy adolygu'r Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion.

Cam gweithredu 7

Datblygu canllawiau ac adnoddau bwyd a gweithgarwch corfforol i gefnogi Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru.

Cam gweithredu 8

Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgorffori ymhellach gyfleoedd mewn ysgolion i ganolbwyntio ar fwyta'n iachach a gweithgarwch corfforol.

Cam gweithredu 9

Cefnogi mentrau sy'n lleihau anghydraddoldebau iechyd ac economaidd.

Cam gweithredu 10

Cydweithio â phartneriaid i ddylunio a phrofi dulliau gwirfoddol i wella a chynyddu cyflymder y newid wrth ddarparu mwy o fwyd iach, fforddiadwy mewn lleoliadau manwerthu.

Cam gweithredu 11

Ymgynghori ar gynigion amrywiol i gefnogi cydbwysedd iachach o safleoedd bwyd yng Nghymru.

Cam gweithredu 12

Ymgynghori ar opsiynau i wella'r cynnig bwyd iach mewn lleoliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys yn lleoliadau'r GIG, awdurdodau lleol, a chanolfannau hamdden.

Cam gweithredu 13

Ymgynghori ar amrywiaeth o opsiynau i wahardd hysbysebu, noddi a hyrwyddo bwydydd â lefelau uchel o fraster dirlawn, siwgr a halen mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru.

Cam gweithredu 14

Archwilio hyfywedd ac effeithiolrwydd posibl mesurau cyllidol ychwanegol i annog y sector i greu cynhyrchion iachach.

Cam gweithredu 15

Parhau i weithio gyda'r sector bwyd a diod yng Nghymru i gefnogi ailfformiwleiddio ar gyfer opsiynau iachach.

Cam gweithredu 16

Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i greu cenedl fwy egnïol, trwy ddull creu lleoedd a dull systemau cyfan.

Cam gweithredu 17

Hyrwyddo canllawiau gweithgarwch corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU i weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr allweddol.

Cam gweithredu 18

Cefnogi amgylcheddau chwarae egnïol, fforddiadwy a hygyrch sy'n diwallu anghenion datblygiadol plant ifanc.

Cam gweithredu 19

Cynyddu cyfranogiad mewn mentrau sy'n annog teithio llesol, gan gynnwys galluogi mwy o blant i gerdded, olwyno neu feicio i'r ysgol.

Cam gweithredu 20

Archwilio rôl y system gynllunio wrth ddatblygu a chynnal amgylcheddau lleol egnïol.

Cam gweithredu 21

Creu, gwella a diogelu mannau gwyrdd a glas i gefnogi cyfleoedd ar gyfer hamdden egnïol.

Cam gweithredu 22

Mabwysiadu dull gwella parhaus ar gyfer y Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, gan ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a gwasanaethau i blant.

Cam gweithredu 23

Adolygu gwerthusiad canlyniadau cam cychwynnol rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn ystod 2025 i 2026 a'r camau nesaf.

Troednodiadau

[1] Kantar. Worldpanel Take Home Purchasing. Data 52 wythnos hyd at 29 Rhagfyr 19.

[2] Bradley J. Physical inactivity in Wales snapshot. Cymru. Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2024.

[3] Ekelund U, Tarp J, Johannessen J, Hansen B, Jefferis B, Fagerland M, Whincup P, Diaz K, Hooker S, Chemofsky A, Larson M, Spartano N, Vasan R, Dohm I, Hagstromer M, Edwardson C, Yates T, Shiroma E, Anderssen S a Lee I. Dose-response associations between accelerometry measured physical activity and sedentary time and all cause mortality: systematic review and harmonised meta-analysis. British Medical Journal, 2019. 366: 1 i 10.

[4] Ekelund U, Dalene K, Tarp J a Lee I. Physical activity and mortality: what is the dose response and how big is the effect? British Journal of Sports Medicine, 2020.