Rebecca Evans AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Trysorlys Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Rhoi cyfarwyddyd strategol a rheoli adnoddau Llywodraeth Cymru
- Polisi trethi, gan gynnwys Diwygio'r Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, gostyngiadau’r dreth gyngor a Noddi gwasanaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru
- Ardoll Ymwelwyr
- Monitro a rheoli'r gyllideb
- Buddsoddi Strategol
- Buddsoddi i Arbed
- Cyfrifyddu Ariannol ac archwilio
- Monitro a rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn
- Gwerth am arian ac effeithiolrwydd
- Gweithredu a datblygu'r setliad cyllid datganoledig a'r Datganiad Polisi Cyllido
- Y berthynas â Thrysorlys EF a Chyllid a Thollau EF ar bob mater gwariant a threth
- Polisi cyflogau'r Sector Cyhoeddus
- Caffael, cynnal a gwaredu eiddo ac asedau eraill
- Materion masnachol a chaffael ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus Cymru
- Polisi grantiau
- Ystadegau Swyddogol, gan gynnwys y Cyfrifiad
- Materion Cyfansoddiadol
- Polisi cyfiawnder a'r ymateb i adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder
- Cydlynu gwaith ar y Fframweithiau Cyffredin
- Deddf Marchnad Fewnol y DU
- Goruchwylio’r gwaith o archwilio, arolygu a rheoleiddio mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y trefniadau trefniadol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
* Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gyfrifol am osod y gyllideb ac am reoli adnoddau Llywodraeth Cymru yn strategol. Serch hynny, mae pob Gweinidog unigol yn gyfrifol am reoli ei Brif Grŵp Gwariant (MEG) ei hun, a dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch penderfyniadau cyllido unigol at y Gweinidog perthnasol.
*Bydd Swyddfa’r Cabinet yn helpu’r Prif Weinidog a’r Cabinet i gyflawni ei flaenoriaethau strategol.
Bywgraffiad
Cafodd Rebecca Evans ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2011, i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, daeth yn Aelod Cynulliad dros etholaeth Gŵyr.
Cafodd Rebecca radd mewn Hanes o Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol o Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn cael ei hethol, roedd Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector.
Ym mis Mehefin 2014, penodwyd Rebecca yn Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd. Ym mis Tachwedd 2017, fe'i penodwyd yn Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 ymunodd â'r Cabinet fel y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Ar 13 Mai 2021, cafodd Rebecca ei phenodi'n Weinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Ar 21 Mawrth 2024, penodwyd Rebecca yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet.