Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data am awdurdodau’r heddlu, tân a pharciau cenedlaethol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Refeniw

Yn 2020-21, bu cynnydd o 9.6% i £9.1 biliwn yng nghyfanswm gwariant refeniw gros awdurdodau lleol Cymru. Mae hyn yn bennaf oherwydd yr arian ychwanegol a oedd ar gael oherwydd pandemig Covid-19

Roedd gwariant gros y pen yn £2,872 neu £238 yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.

Cyn effaith y dirwasgiad a'r mesurau cyni a ddaeth yn ei sgil, adroddwyd yn rheolaidd am gynnydd blynyddol o 5% neu 6% ond ers 2010-11, dim ond yn ystod tair blynedd yn unig y gwelwyd twf sy'n uwch na 2%. 

Mae hyn wedi cael effaith amrywiol gan ddibynnu ar y maes gwasanaeth, er bod newidiadau o ran dosbarthu yn golygu y dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi dros gyfnod o amser. Yn gyffredinol, mae gwasanaethau statudol fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu (ac ym maes gwasanaethau cymdeithasol y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gwariant) ond, mewn gwasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, gwasanaethau amgylcheddol lleol, ffyrdd a thrafnidiaeth a chynllunio, gwelwyd gostyngiadau cyffredinol ers 2010-11. Addysg a gwasanaethau cymdeithasol sydd i gyfrif yn awr am 66% o wariant cyffredinol awdurdodau unedol o'i gymharu â 59% yn 2010-11 a 60% ym 1999-2000.

Cyfalaf

Bu cynnydd o 6.3% mewn gwariant cyfalaf yn 2020-21 i £1,324 miliwn neu £418 y pen o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £78 miliwn ar y flwyddyn flaenorol.

Yn gyffredinol, mae gwariant cyfalaf yn fwy anwadal a gall gael ei effeithio'n sylweddol gan fuddsoddiadau mawr neu addasiadau. Cynyddodd gwariant yn 2020-21 yn rhannol oherwydd cynnydd mawr mewn addysg, sy'n cynrychioli 24% o'r gwariant cyfalaf. Mewn cyferbyniad, gwelwyd gostyngiadau mawr yn y gwasanaethau tai a chynllunio.

Cafodd y rhan fwyaf o'r gwariant cyfalaf hwn ei wario gan awdurdodau unedol. Adroddodd awdurdodau’r heddlu, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parciau cenedlaethol wariant o £59 miliwn, £12 miliwn a £4 filiwn yn eu trefn.

Adroddiadau

Refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 536 KB

PDF
Saesneg yn unig
536 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.