Rhaglen cymorth cyflogadwyedd: adborth partneriaid yn dilyn yr hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol cyntaf â’r farchnad
Crynodeb o’r adborth fel rhan o’r gwaith parhaus i helpu i lywio’r rhaglen cymorth cyflogadwyedd. Cyfeirnod caffael C008/2025/2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Roedd angen lanlwytho’r ymatebion i'r holiadur ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad a'u cyflwyno'n ffurfiol drwy eDendroCymru ar 18 Tachwedd 2025. At ddibenion adrodd, cafodd yr holl ymatebion i'r holiadur ymgysylltu yhagarweiniol â’r farchnad eu gwneud yn ddienw cyn eu dadansoddi’n llawn. Ceir crynodeb o'r ymatebion dienw isod i roi gwybodaeth ar gyfer y farchnad a chefnogi tryloywder.
Adran 1
1. Manylion yr Ymatebydd
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Amh.
Ymateb llywodraeth cymru
Amh.
Adran 2
2. Cefnogi Is-gontractio a chynigion consortia
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Cytunodd 21 o'r 22 ymatebydd i rannu manylion cyswllt ar gyfer cydweithio.
Nododd 1 o 22 ymatebydd 'Ddim yn berthnasol'.
Ymateb llywodraeth cymru
Er mwyn annog is-gontractio a chydweithrediad consortia, byddwn yn cyhoeddi cyfeiriadur o gyflenwyr sydd wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn rhannu eu manylion cyswllt at y dibenion hyn. Bydd y cyfeiriadur yn cael ei gyhoeddi fel rhan o'r crynodeb o’r ymgysylltiad â chymorth cyflogadwyedd, ar wefan: rhaglen cymorth cyflogadwyedd: digwyddiadau ymgysylltu.
Bydd y cyfeiriadur hefyd yn cael ei gyhoeddi ar eDendroCymru yn ystod hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol arall â’r farchnad sydd ar ddod ar gyfer cymorth cyflogadwyedd a'r broses dendro yn y dyfodol.
Dylai cyflenwyr nad ydynt wedi'u rhestru ar hyn o bryd sydd â diddordeb mewn cydweithio ac sy'n dymuno ychwanegu eu manylion cyswllt at y cyfeiriadur anfon e-bost at Lywodraeth Cymru ar: CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru.
Cyfeiriwch at yr Hysbysiad Preifatrwydd a gyhoeddir gyda'r Cyfeiriadur o Gyflenwyr i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn trin eich manylion personol. Mae'n cynnwys gwybodaeth am eich hawliau a'r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch a'r seiliau cyfreithiol dros y modd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth.
Gweler yr wybodaeth yma hefyd:
- Llywodraeth Cymru, Canllawiau i Gonsortia: Ceisiadau ar y cyd am gontractau cyhoeddus: canllawiau i gonsortia.
Adran 3
3.1 Platfform digidol canolog (PDC)
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cytundeb eang ynghylch cofrestru ar PDC, gyda'r mwyafrif o gyflenwyr eisoes wedi'u cofrestru. Dywedodd rhai ymatebwyr fod dyblygu ar draws y platfform PDC, GwerthwchiGymru ac eDendroCymru a bod angen arweiniad ynglŷn ag integreiddio rhwng y platfformau hyn ac eglurder ynghylch diweddariadau. Mae angen arweiniad cynnar ar fusnesau bach a chanolig.
Efallai y bydd angen eglurhad ar sefydliadau sy'n gweithredu mewn consortia ynghylch a oes rhaid i bob partner gofrestru'n unigol neu'r sefydliad arweiniol yn unig.
Ymateb llywodraeth Cymru
Daeth y Ddeddf Caffael newydd i rym yn y DU ym mis Chwefror 2025 ac mae’n nodi bod yn rhaid i bob sefydliad yr ydym yn ei dalu fel awdurdod cyhoeddus fod wedi'i gofrestru ar y Platfform Digidol Canolog (PDC) fel y gallwn fod yn dryloyw ynglŷn â'n gwariant ac ynglŷn â phwy rydyn ni'n contractio â nhw.
Mae mwy o wybodaeth ar y ddolen isod am y PDC a sut i gofrestru am y tro cyntaf: Buyers and Suppliers: How to use the Central Digital Platform, the enhanced Find a Tender service.
Mae'r wybodaeth y mae cyflenwyr yn ei lanlwytho i'r PDC yn cael ei defnyddio ar gyfer y seiliau gwahardd gorfodol; y fantais yw bod cyflenwyr yn cwblhau'r wybodaeth unwaith ar y PDC ac y gellir rhannu'r ymatebion hyn ar gyfer tendrau yn y dyfodol.
Mae GwerthwchiGymru yn gwasanaethu fel platfform ar-lein rhad ac am ddim a diogel ar gyfer hysbysebu contractau a chyfleoedd tendro. Gall cyflenwyr gofrestru ar GwerthwchiGymru o dan y codau CPV (Yr Eirfa Gaffael Gyffredin (Common Procurement Vocabulary)) perthnasol. Mae codau CPV yn rhifau dosbarthu safonol a ddefnyddir i ddisgrifio'r math o nwyddau, gwaith neu wasanaethau sy'n cael eu caffael. Drwy gofrestru o dan y codau CPV perthnasol, bydd cyflenwyr yn cael hysbysiadau am gyfleoedd tendro sy'n gysylltiedig â'r codau hynny ac arweiniad ar sut i gael mynediad at y dogfennau tendro drwy eDendroCymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan swyddogol: GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru - Gwerthwch iGymru.
Mae eDendroCymru yn blatfform tendro electronig a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhannu dogfennau tendro a derbyn ceisiadau tendro. Mae'n caniatáu i sefydliadau reoli dogfennau tendro ac ymatebion drwy borth Bravo Solution.
Er bod rhywfaint o integreiddio cefndirol rhwng pyrth PDC, GwerthwchiGymru ac eDendroCymru, rhaid i gyflenwyr gofrestru ar wahân ar bob un o'r pyrth hyn.
O ran ceisiadau consortia, dim ond y darparwr arweiniol sy’n gorfod cofrestru ar PDC, GwerthwchiGymru ac eDendroCymru. NID oes rhaid i aelodau eraill y consortiwm gofrestru'n annibynnol ar y PDC oni bai eu bod yn: Rhan o endid y "cyflenwr" sy'n gwneud cais, neu mae'r awdurdod contractio yn gofyn am gofrestriad unigol ar gyfer gwiriadau gwahardd (y caniateir iddynt ei wneud ond nid yw'n ofynnol).
Byddwn yn:
- Egluro'r weithdrefn ar gyfer cyflwyno cais a darparu cyfle Holi ac Ateb mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod. Byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o'r holl gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ar wefan llywodraeth Cymru (darperir dolenni yn 2).
- Bydd y weithdrefn ar gyfer cyflwyno cais a'r ymateb Holi ac Ateb hefyd yn cael eu cynnwys yn y Dogfennau Tendro, ar ôl eu cyhoeddi.
3.2 Lleihau carbon
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae ymrwymiad cryf i Sero Net, gyda chyflenwyr mwy â chynlluniau yn eu lle tra bod busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn pryderu am y baich. Mae’r ymatebwyr yn awgrymu hyfforddiant a chymhellion.
Ymateb llywodraeth Cymru
Gweler adnoddau gwybodaeth ac arweiniad ychwanegol yma:
- Carbon Reduction Plans – Training for suppliers - CCS.
- Defnyddio templed safonol Cynlluniau Lleihau Carbon yn seiliedig ar PPN 006 a Rhestr Wirio Cydymffurfio â Chynlluniau Lleihau Carbon.
- Gweler hefyd WPPN016 (Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 016: Datgarboneiddio drwy gaffael - mynd i'r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi) sy'n amlinellu pwysigrwydd mynd i'r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi i Lywodraeth Cymru.
3.3 Atebolrwydd ac yswiriant
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae gan y rhan fwyaf o gyflenwyr yswiriant digonol ac maent yn awgrymu dull sy'n adlewyrchu gwerth y contract a’r proffil risg, gan ofyn am gyhoeddi trothwyon yn gynnar.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- gosod trothwyon yswiriant yn seiliedig ar werth contract a’r proffil risg ac yn nodi’r trothwyon mewn ymarfer ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro, ar ôl eu cyhoeddi
3.4 Cyber essentials plus
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cefnogaeth eang ar gyfer Cyber Essentials Plus ac achrediad ISO27001, mae angen eglurhad a rhybudd cynnar ynghylch eu cymhwyso i bartneriaid cadwyn gyflenwi. Mae BBaChau yn pryderu am faich costau.
Ymateb llywodraeth Cymru
Gweler adnoddau gwybodaeth ac arweiniad ychwanegol yma:
- PPN 014: Cyber essentials scheme.
- Cyber Essentials Plus: Cyber Essentials.
Mae’r broses ardystio yn cael ei chynnal gan gyrff ardystio a gymeradwyir gan y llywodraeth ac sydd wedi'u hachredu ar hyn o bryd gan Information Assurance for Small and Medium Enterprises (IASME).
3.5 Cadwyni cyflenwi a chyflogaeth foesegol
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cefnogaeth gan bawb i god ymarfer cyflogaeth foesegol Llywodraeth Cymru mewn cadwyni cyflenwi, gyda llawer o gyflenwyr yn cyhoeddi datganiadau ynghylch Caethwasiaeth Fodern.
Ymateb llywodraeth Cymru
Gweler gwybodaeth ac arweiniad ychwanegol yma:
- Datganiad Caethwasiaeth Fodern Llywodraeth Cymru.
- Datganiad Ysgrifenedig: Modiwl dysgu ar-lein newydd ar Gaethwasiaeth Fodern (16 Hydref 2025).
- Llywodraeth Cymru, Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer: Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer.
- Llywodraeth Cymru, Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant: Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant.
3.6 Y Gymraeg
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae ymrwymiad cryf i safonau'r Gymraeg, ond byddai cynnydd yn yr arian a rhannu adnoddau cyfieithu yn helpu cyflenwyr, yn enwedig cyflenwyr BBaChau, i reoli costau.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- amlinellu’r model ariannu (gan gynnwys unrhyw gynnydd) mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y Dogfennau Tendro ar ôl eu cyhoeddi
- annog cyfleoedd rhwydweithio drwy gyflwyniad y Rhaglen i hyrwyddo cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth
Adran 4
Dangosyddion perfformiad allweddol (DPA)
4.1 Mesurau perfformiad
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae consensws am ddefnyddio DPA cymysg sy'n cynnwys canlyniadau meintiol (er enghraifft cyflogaeth, hyfforddiant, cymwysterau) a chanlyniadau ansoddol (er enghraifft hyder, lles, metrigau pellter a deithiwyd).
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- Mabwysiadu fframwaith DPA cytbwys, trwy fesur canlyniadau meintiol a thrwy gefnogi cyfleoedd rhwydweithio drwy gyflwyno'r Rhaglen i ddatblygu a monitro mesuriadau ansoddol.
4.2 Monitro cynnydd cyfranogwyr
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cyflenwyr yn defnyddio systemau CRM a chynlluniau gweithredu gyda chymysgedd o fesurau meintiol ac ansoddol gan gynnwys graddfeydd llesiant wedi'u dilysu, ac wedi’u cefnogi gan adolygiadau rheolaidd a dolenni adborth.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- Annog cyfleoedd rhwydweithio trwy gyflwyno’r Rhaglen i ddatblygu a chynnal fframwaith monitro gydag isafswm safon i gofnodi cynnydd cyfranogwyr.
- Annog y defnydd o offer rheoli achosion digidol ar gyfer olrhain mewn amser real.
BBaChau a chadwyn gyflenwi wydn
4.3 Cydweithio â BBaChau/ Mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cydweithrediad eang â BBaChau, Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol a chyflenwyr arbenigol gyda phwyslais ar ddarpariaeth yn y gymuned ac wedi'i ategu gan strwythurau ffurfiol fel cytundebau rhannu data. Mae hyn yn sicrhau hyblygrwydd ac arallgyfeirio o fewn y gadwyn gyflenwi, yn lleihau dibyniaeth ar ffynonellau unigol ac yn cynnal sefydlogrwydd gweithredol.
Ymateb llywodraeth Cymru
Gweler yr adnoddau gwybodaeth ac arweiniad yma:
- Llywodraeth Cymru, Canllawiau Budd i’r Gymuned ar gyfer Cyflenwyr Caffael: canllawiau budd i’r gymuned ar gyfer cyflenwyr.
- Llywodraeth Cymru, Canllawiau i Gonsortia: Ceisiadau ar y cyd am gontractau cyhoeddus: canllawiau i gonsortia.
Byddwn yn cymell cydweithio â BBaChau/Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol drwy:
- Annog is-gontractio a chydweithrediad consortia drwy gyhoeddi cyfeiriadur o gyflenwyr sydd wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn rhannu eu manylion cyswllt at y dibenion hyn, gweler C2.
- Egluro gofynion ar gyfer ceisiadau consortiwm ac is-gontractio a darparu dolenni i ganllawiau mewn hysbysiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ac yn y dogfennau tendro.
- Annog cyfleoedd rhwydweithio drwy gyflwyno'r Rhaglen i helpu i adeiladu capasiti a sicrhau y cydweddir â blaenoriaethau'r sector.
4.4 Effaith meini prawf wedi’u sgorio ar gyfranogiad BBaChau
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae derbyniad cadarnhaol i’r dull meini prawf wedi'u sgorio, ond mae ymatebwyr yn rhybuddio yn erbyn symboliaeth ac yn gofyn am ddiffiniadau a phwysoliadau clir.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- egluro'r broses werthuso a'r meini prawf sgorio a fydd yn cael eu defnyddio, mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
- ei gwneud yn ofynnol i delerau ac amodau'r Contract sy'n berthnasol i gontractwr arweiniol, gan gynnwys y telerau sy'n ymwneud â thaliadau, gael eu trosglwyddo i unrhyw is-gontractwyr
4.5 Canllawiau i gyflenwyr
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cyflenwyr yn gofyn am ganllawiau clir mewn iaith glir ynghyd â thempledi a Chwestiynau Cyffredin. Byddai gweminarau a sesiynau Holi ac Ateb yn gymorth pellach i gyfranogiad.
Byddai amserlenni caffael clir a gwybodaeth TUPE hefyd yn cefnogi cyflenwyr.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn darparu:
- hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod sy'n ymgorffori'r amserlen gaffael, cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud ceisiadau a chyfle Holi ac Ateb a gwybodaeth berthnasol arall a fydd yn sicrhau bod y farchnad wedi’i hysbysu am y caffael a'r broses
- cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud ceisiadau, Templedi Ymateb a'r ymateb Holi ac Ateb yn y Dogfennau Tendro a byddwn yn gwirio'r holl ddogfennau tendro er mwyn sicrhau eglurder
Strwythur a dyraniad lotiau
4.6 Strwythur a dull cyflenwi lotiau
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Ffafriaeth am gydweddu’n rhanbarthol; cydbwyso maint lot ag effeithlonrwydd a mynediad BBaChau; cefnogi cyflenwi lleol gan osgoi darnio wrth wneud; caniatáu consortia.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- cynllunio strwythur creu lotiau sy’n cyd-fynd â rhanbarthau daearyddol a chyda maint lotiau cytbwys, bydd manylion yn cael eu cynnwys mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
Gweler hefyd ymateb i 4.3.
4.7 Darparu gwasanaethau
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae modelau cyfunol hyblyg yn cael eu ffafrio, gan ddibynnu ar bartneriaethau lleol, offer digidol, a darpariaeth ddwyieithog, gydag adnoddau ychwanegol ar gyfer ardaloedd gwledig.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- mabwysiadu model darparu gwasanaeth cyfunol a hyblyg sy'n caniatáu dull ymgysylltu digidol lleol, hybrid o gyflenwi gwasanaethau
- amlinellu’r model ariannu (gan gynnwys unrhyw gynnydd) mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
4.8 Risgiau creu lotiau
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae’r risgiau'n cynnwys darnio, eithrio busnesau BBaChau, a chymhlethdodau TUPE, tra bod strategaethau lliniaru yn cynnwys maint lotiau cytbwys, opsiynau consortia, a gosod capiau ar lotiau fesul cyflenwr, gydag arweiniad cynnar yn hanfodol.
Ymateb llywodraeth Cymru
Gweler ymatebion i 4.3, 4.5 a 4.6.
Methodoleg ariannu
4.9 Egwyddorion y model ariannu
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae ymatebwyr yn pwysleisio sefydlogrwydd, hyblygrwydd a’r gallu i ragweld, gan ffafrio ariannu aml-flwyddyn a modelau cyfunol sy'n cynnwys canlyniadau meddal.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- gweithredu Rhaglen â chontract aml-flwyddyn, bydd y model ariannu yn cynnwys dyrannu contractau blynyddol ac yn ymgorffori dull cyfunol o daliadau cyflenwi carreg filltir a thaliadau yn seiliedig ar y canlyniadau a gyflawnwyd
- amlinellu’r model ariannu mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
4.10 Rheoli risg ariannol
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae darparwyr yn rheoli risg drwy ragfynegi, rheoli ariannol, a rheoli llwyth achosion, gan nodi bod modelau cyfunol (sy'n cyfuno taliadau gweithgaredd a chanlyniadau) yn lleihau anwadalrwydd, tra bod taliadau ymlaen llaw a strwythurau carreg filltir yn helpu hylifedd, ac mae angen cylchoedd talu hyblyg ar BBaChau.
Ymateb llywodraeth Cymru
Mae gweithredu'r dull a amlinellir yn 4.9 yn cyd-fynd â'r adborth am reoli risg ariannol.
Gweler hefyd 4.4.
4.11 Heriau'r model ariannu
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae heriau'n cynnwys straen llif arian oherwydd oedi, targedau afrealistig, gorddibyniaeth ar ganlyniadau caled nad ydynt yn gwobrwyo ymgysylltiad gan y cyfranogwyr anoddaf i’w cyrraedd, a phrosesau talu cymhleth sy'n cynyddu'r baich gweinyddol.
Ymateb llywodraeth Cymru
Gweler 4.9.
Gwybodaeth ariannol
4.12 Effaith gofynion ariannol
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cyflenwyr wedi profi rhwystrau yn sgil capiau ar orbenion corfforaethol, capiau ar elw, trothwyon trosiant afrealistig, tra bod modelau talu sy'n seiliedig ar ganlyniadau yn cynyddu risg ac amlenni ariannol tynn yn atal arloesedd, gyda diffyg hyblygrwydd yn cyfyngu ar gyfranogiad BBaChau.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- cydweddu trothwyon trosiant ariannol yn gymesur â gwerth y contract er mwyn sicrhau y gallu i dyfu yn unol â’r anghenion a thegwch ac yn rhoi manylion y trothwy ariannol mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
- cynnwys mecanweithiau rhannu risg fel taliadau cyflenwi carreg filltir
- rhoi manylion am werth amcangyfrifedig y Rhaglen a gafodd ei chaffael, methodoleg dyrannu a dyraniad contract blynyddol mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
4.13 Trothwyon ariannol rhesymol
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae ymatebwyr yn awgrymu trothwyon cymesur sy'n gysylltiedig â maint y contract, dull haenog ar gyfer BBaChau o’u cymharu â chontractwyr mawr, ac yn pwysleisio tryloywder a chyhoeddi cynnar.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- cydweddu trothwyon trosiant ariannol yn gymesur â gwerth y contract er mwyn sicrhau y gallu i dyfu yn unol â’r anghenion a thegwch
- rhoi manylion y trothwy ariannol a'r meini prawf ariannol mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
4.14 Tystiolaeth ariannol a gedwir fel arfer
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cyflenwyr fel arfer yn dal cyfrifon wedi'u harchwilio am ddwy i dair blynedd, ynghyd â chyfrifon rheoli a rhagolygon llif arian, tystysgrifau yswiriant, a thystlythyrau banc neu ddatganiadau cronfeydd wrth gefn.
Ymateb llywodraeth Cymru
Byddwn yn:
- rhoi manylion am y meini prawf ar gyfer tystiolaeth ariannol fel cyfrifon wedi'u harchwilio mewn hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad sydd ar ddod ac yn y dogfennau tendro ar ôl eu cyhoeddi
Capasiti
4.15 Tystiolaeth o barodrwydd ar gyfer cyflenwi
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae cyflenwyr yn dangos parodrwydd drwy gynlluniau gweithredol a strwythurau staffio, fframweithiau sicrhau ansawdd, gallu systemau TG, data perfformiad contractau blaenorol, a pholisïau sy'n cynnwys diogelu, GDPR, a'r Gymraeg.
Ymateb llywodraeth Cymru
Bydd y sawl sy’n gwneud cais yn cael cyfle i ddangos ei gapasiti i gyflenwi fel rhan o'i gyflwyniadau tendro.
Arall
4.16 Adborth arall
Crynodeb o’r ymgysylltiad rhagarweiniol â'r farchnad
Mae'r ymatebwyr yn tynnu sylw at yr angen am ganllawiau clir mewn iaith glir, bod cyfleoedd i’w gweld yn gynnar, cymorth rhwydweithio ar gyfer consortia, prosesau cydymffurfio a hawlio symlach, a hyblygrwydd ar gyfer cyflenwi ac arloesi gwledig.
Ymateb llywodraeth Cymru
Mae'r pwyntiau a godwyd wedi'u hystyried yn yr ymatebion a ddarperir.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o'r holl ddigwyddiadau ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad ar wefan Llywodraeth Cymru (darperir dolenni yn 2).
