Rhaglen o ddiwygiadau i wella diogelwch adeiladau preswyl amlfeddiannaeth.
Cynnwys
Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026
Tanlinellodd gwersi a ddysgwyd o drychineb Tŵr Grenfell yr angen am atebolrwydd clir mewn perthynas â'r rhai sy'n berchen ar adeiladau perthnasol ac yn eu rheoli. Mae Deddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) (y Ddeddf) yn cyflwyno cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd yng Nghymru ar gyfer adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Mae adeilad preswyl amlfeddiannaeth yn adeilad o unrhyw faint sy'n cynnwys dwy neu fwy o unedau preswyl. Mae'r Ddeddf yn sefydlu system reoleiddio gadarn a chydlynol, gan greu llinellau atebolrwydd clir, gan osod amrediad o ddyletswyddau statudol ar "ddeiliaid dyletswydd” perthnasol mewn perthynas â rhannau perthnasol adeilad preswyl amlfeddiannaeth.
Mae'r Ddeddf yn creu tri chategori o adeiladau preswyl amlfeddiannaeth, a bennir gan uchder adeilad a nifer y llawr sydd ganddo, gyda'r gwahanol lefelau o reoleiddio'n dibynnu ar gategori'r adeilad. Mae'r adeiladau uchaf yn ddarostyngedig i'r rheoleiddio llymaf.
- Adeiladau Categori 1, sydd o leiaf 18 metr o uchder neu o leiaf saith llawr
- Adeiladau Categori 2, sydd o leiaf 11 metr o uchder ond yn llai na 18 metr o uchder, gydag o leiaf pum llawr ond llai na saith llawr
- Adeiladau Categori 3, sy'n llai nag 11 metr o uchder ac yn llai na phum llawr
Mae'r darpariaethau diogelwch tân yn y Ddeddf hefyd yn berthnasol i dai amlfeddiannaeth nad ydynt yn cael eu gosod o dan un gyd-denantiaeth sengl.
Y Rhaglen Diogelwch Adeiladau
Mae Ddeddf Diogelwch Adeiladau (Cymru) 2026 yn rhan o raglen ehangach o ddiwygiadau gyda'r nod o wella diogelwch mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- Rhaglen gyweirio sy'n mynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth 11 metr ac uwch
- Diwygiadau sylweddol i gam dylunio ac adeiladu adeiladau, gan gynnwys diwygiadau i reolaeth adeiladu, rheoliadau newydd ar gyfer adeiladau risg uchel, cyfrifoldebau cliriach i ddeiliaid dyletswyddau a chofrestru a rheoleiddio gorfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheolaeth adeiladu
- Gweithredu Cyd-dîm Arolygu sy'n cefnogi awdurdodau lleol a'r gwasanaethau tân i orfodi safonau diogelwch adeiladu mewn adeiladau preswyl uchel ac amlfeddiannaeth
