Ynni Cymru rhaglen cyllid grant cyfalaf 2025 i 2026: canllawiau
Sut i wneud cais am gyllid cyfalaf ar gyfer systemau ynni lleol deallus (SLES) yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Darperir y nodiadau cyfarwyddyd hyn i'ch helpu i lenwi ffurflen gais am Gyllid Grant Cyfalaf Ynni Cymru 2025 i 2026.
Sylwch mai bwriad y ddogfen hon yw darparu canllaw cyffredinol yn unig ac ni fwriedir iddi gael unrhyw effaith gyfreithiol. Mae’r sail gyfreithiol ar gyfer cynnig a thalu grantiau wedi’i nodi yn amodau’r grant. Bydd yr amodau penodol a fydd yn berthnasol i unrhyw gynnig o grant wedi'u nodi yn y Llythyr Cynnig Grant ffurfiol os bydd eich cais am gyllid yn llwyddiannus.
Trosolwg o Ynni Cymru
Mae Llywodraeth Cymru, trwy Ynni Cymru, yn gweithio i gefnogi'r broses o ddatblygu a darparu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ledled Cymru. Mae cronfa grantiau cyfalaf o hyd at £10 miliwn ar gael i sefydliadau cymwys gyflawni prosiectau SLES ledled Cymru. Bydd Cam 2 y cynllun Grantiau Cyfalaf yn cael ei rannu’n ddau lwybr ymgeisio:
Llwybr 1 - prosiectau SLES syml gyda manteision cymunedol diriaethol, a
Llwybr 2 - SLES mwy, ailadroddadwy neu sy'n edrych i'r dyfodol.
Mae'r cyllid ar gyfer gwaith cyfalaf ac ni ellir ei ddefnyddio i dalu costau yr aed iddynt cyn cael cynnig grant.
Caiff y ceisiadau eu gwerthuso, ar sail gystadleuol, ochr yn ochr â cheisiadau eraill, trwy gyfeirio at y meini prawf canlynol:
- Cyfatebiaeth i egwyddorion SLES Ynni Cymru a'i amcanion ehangach
- Y tebygolrwydd o gyflawni'r prosiect
- Buddion i'r sefydliad, y gymuned, yr amgylchedd, ac unrhyw fuddion ehangach
- Costau'r prosiect, caffael, a gwerth am arian
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 16 Mehefin 2025 a rhaid cyflawni'r prosiectau erbyn 31 Mawrth 2026.
Amcanion Ynni Cymru
Bydd y cyllid grant cyfalaf yn cynorthwyo sefydliadau cymwys i gyflawni amcanion Ynni Cymru, sef:
- Cyflymu’r broses o drosglwyddo i SLES ledled Cymru a'u defnyddio .
- Ehangu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i bobl leol ac a ddefnyddir ac a gynhyrchir yng Nghymru.
- Optimeiddio effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd dan berchnogaeth leol.
- Hwyluso pontio teg i sero net, gan gadw’r buddion i gymunedau Cymru.
Pontio Teg
Mae Pontio Teg yn ymwneud â'r modd yr ydym yn sicrhau nad ydym yn gadael neb ar ôl wrth i ni symud tuag at Gymru lanach, gryfach a thecach.
Yng nghyd-destun Ynni Cymru, mae hyn yn golygu:
- Gweithio gyda phobl ledled Cymru i gynnwys cymunedau yn y broses o wneud penderfyniadau.
- Sicrhau bod ein cymorth yn cael ei dargedu at y cymunedau mwyaf agored i niwed yn sgil y newid i sero net.
- Rhoi cynnydd o 5% i brosiectau sy'n pasio'r marc trothwy sylfaenol lle byddai'r buddion yn cael eu gwireddu mewn ardaloedd sydd â sgôr uchel yn y Mynegai Amddifadedd Lluosog. Gwiriwch eich ardal yma.
- Sicrhau bod y gymuned leol yn sicrhau budd, ac yn cadw'r manteision, o brosiectau ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd.
Trosolwg o'r grant
Pwy all wneud cais
Bydd y sefydliadau canlynol, sydd â’u pencadlys neu ganolfan weithredu yng Nghymru, yn gymwys i wneud cais:
Cyrff Sector Cyhoeddus sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru ac fel y'u diffinnir o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig I:
- Awdurdodau lleol
- Gweinyddiaethau datganoledig y llywodraeth
- Prifysgolion a cholegau
- Ysgolion
- Cyrff cyhoeddus eraill fel y’u diffinnir o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015
Sefydliadau Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Elusennau cofrestredig
- Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cymdeithasau Budd Cymunedol
- Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
- Cwmnïau Cydweithredol
- Cwmnïau cyfyngedig trwy warant neu gyfranddaliadau (nad ydynt yn dosbarthu elw)
- Sefydliadau gwirfoddol sydd wedi'u sefydlu'n gyfreithiol
- Sefydliadau ffydd sydd â budd cymunedol clir
- Sefydliadau eraill sy'n rhai nid-er-elw neu'n seiliedig ar genhadaeth
Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) sydd wedi'u sefydlu'n gyfreithiol, ac sy'n cyflogi pobl yng Nghymru
Caniateir mwy nag un cais, ond rhaid i bob un ymdrin ag un SLES. Caniateir systemau integredig sy'n cyfuno sawl SLES; cyfeiriwch at adran Egwyddorion Systemau Ynni Lleol Clyfar ac Atodiad 1 i gael rhagor o wybodaeth am SLES.
Gellir dyfarnu uchafswm grant o hyd at £999,999.99 fesul sefydliad ar draws pob cais. Mae yna hefyd uchafswm terfyn dyfarnu grant o hyd at £999,999.99 fesul prosiect (yn amodol ar y llwybr).
Isafswm gofyniad cyllid cyfatebol
Rhaid i bob cais gynnwys lefel benodedig o arian cyfatebol, fel yr amlinellir yn y tabl isod:
| Sefydliad | Yr Arian Cyfatebol Sylfaenol sy'n Ofynnol |
|---|---|
| Y Sector Cyhoeddus | 25% |
| BBaChau | 10% |
| Sefydliadau Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol | 0% |
Er nad yw'n ofynnol i sefydliadau cymunedol a mentrau cymdeithasol sicrhau arian cyfatebol, fe'u hanogir i geisio arian cyfatebol, a dylid dangos tystiolaeth o hyn yn ystod y broses ymgeisio.
Ni ellir defnyddio grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru fel arian cyfatebol, er bod benthyciadau Llywodraeth Cymru yn gymwys. Rhaid dyrannu arian cyfatebol i gostau cymwys sy'n cefnogi'r gosodiad neu swyddogaeth SLES yn uniongyrchol gyda phrosiectau yn cael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2026.Yn achos cwmnïau cyfyngedig, unig fasnachwyr, a phartneriaethau (sydd wedi bod yn masnachu am o leiaf ddwy flynedd) yn benodol, gall Banc Datblygu Cymru gynnig y Cynllun
Benthyciadau Busnes Gwyrdd (GBLS) i fod yn arian cyfatebol. Mae'r GBLS wedi'i gynllunio i gynnig pecyn cymorth i alluogi busnesau Cymru i fynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni a chefnogi busnesau ar eu taith i sero net. Mae Banc Datblygu Cymru yn ymwybodol o’r angen i BBaChau ddarparu arian cyfatebol ar gyfer y prosiect SLES, a gallant gysoni'r broses GBLS â phroses ymgeisio Ynni Cymru.
Os hoffech drafod y GBLS ymhellach, cysylltwch â Chris Dhenin yn uniongyrchol (chris.dhenin@developmentbank.wales). Mae rhagor o wybodaeth am y GBLS ar gael yn Atodiad 2 – Ffrydiau Cyllido.
Yn benodol ar gyfer cyrff sector cyhoeddus, bydd Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn gallu trafod a chynghori ar sut y gellir cyrchu ffynonellau cyllid presennol a'u cyfuno i unrhyw gais Ynni Cymru.
Ceisiadau ar y Cyd
Croesewir ceisiadau ar y cyd gan sefydliadau cymwys a rhaid iddynt gael eu cyflwyno gan ymgeisydd arweiniol. Mewn achosion o'r fath, bydd gofynion cyllid cyfatebol yn cael eu haddasu yn seiliedig ar y gwariant cyfalaf (CAPEX) y mae pob partner yn gyfrifol amdano. Bydd y cais am brosiect yn cael ei rannu yn ôl cost i bartneriaid, a bydd y cyllid cyfatebol priodol yn cael ei gymhwyso yn unol â hynny. Bydd unrhyw grant a ddyfarnir yn cael ei wneud i'r prif ymgeisydd.
Cael ei ariannu?
Mae cyfanswm o £10 miliwn o gyllid grantiau cyfalaf ar gael. I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau fodloni'r meini prawf canlynol:
- Rhaid i brosiectau fod â lefel benodol o isafswm cyllid cyfatebol: 25% yn achos sefydliadau sector cyhoeddus, 10% yn achos BBaChau, a 0% i sefydliadau cymunedol a mentrau cymdeithasol
- Dylai prosiectau geisio pob grant ac opsiwn ariannu arall sydd ar gael cyn gwneud cais am grant Ynni Cymru. Mae Atodiad 2: ffrydiau cyllido yn rhoi manylion ffrydiau cyllido posibl.
- Rhaid cwblhau a chyflawni prosiectau erbyn 31 Mawrth 2026.
- Llwybrau ariannu:
Llwybr 1: £25,000-£150,000 £149,999 fesul prosiect ar gyfer prosiectau SLES syml ac iddynt fuddion cymunedol diriaethol (rhaid iddynt gynnwys ynni adnewyddadwy a gwresogi carbon isel).
Llwybr 2: £150,000-£999,999.99 fesul prosiect ar gyfer prosiectau SLES mwy, y gellir eu dyblygu, neu sy'n canolbwyntio ar y dyfodol.
Cyfeiriwch at yr adran Llwybrau Ymgeisio i gael rhagor o arweiniad.
- Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd ac iddynt Fynegai Amddifadedd Lluosog uchel, ac yn benodol y rhai yn y 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ôl MALlC. Gwiriwch eich ardal yma.
- Sylwch fod swm y cyllid sydd ar gael yn amodol ar y drefn rheoli cymorthdaliadau (gweler yr adran Gwybodaeth Ychwanegol yn y cyfarwyddyd isod).
Egwyddorion System Ynni Lleol Glyfar (SLES)
Mae SLES yn cyfuno gwahanol asedau cynhyrchu ynni, storio ynni, rheoli'r galw am ynni a seilwaith ynni mewn ardal leol, ac yn peri iddynt weithredu mewn modd mwy deallus a sicrhau buddion lleol.
- Clyfar – mae'r prosiectau'n defnyddio data a rheolyddion i sicrhau bod ynni yn cael ei ddefnyddio mewn modd mwy effeithlon ac effeithiol, yn y man iawn ac ar yr adeg iawn (e.e. systemau rheoli a meddalwedd ar gyfer monitro, awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial, a/neu gyfnewid ynni).
- Lleol – bydd y prosiectau dan berchnogaeth leol, a byddant yn cydnabod bod gan leoedd a chymunedau gwahanol yng Nghymru anghenion gwahanol, ac y bydd buddion yn deillio'n lleol (e.e. buddion o ran perchnogaeth leol, carbon, buddion ariannol, a buddion amgylcheddol a chymdeithasol ehangach).
- System Ynni – mae prosiectau'n defnyddio sawl math o dechnoleg (e.e. cyfuniad o gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol i hwyluso'r defnydd o bŵer adnewyddadwy, systemau gwresogi, oeri, a dŵr poeth carbon isel, cludiant allyriadau isel iawn, lleihau'r galw, technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy wedi'u lleoli ar y cyd, y defnydd gorau posibl o gapasiti'r grid, a storio ynni).
Buddion SLES
Mae SLES yn gwella fforddiadwyedd trwy leihau biliau ynni a chreu cyfleoedd refeniw newydd. Mae'n sicrhau diogelwch a rhagweladwyedd, ac yn darparu cyflenwad ynni sefydlog gan wella'r gallu i wrthsefyll amrywiadau ac amhariadau. Yn ogystal, disgwylir i brosiectau SLES yrru twf economaidd lleol, creu swyddi, uwchsgilio gweithwyr, a darparu buddion cymunedol ehangach.
Y tu hwnt i effeithlonrwydd ynni, mae prosiectau SLES hefyd yn hybu cyfiawnder ynni, gan wneud ynni glân a fforddiadwy yn fwy hygyrch, yn enwedig i boblogaethau agored i niwed. Dylai ymgeiswyr ddangos yn glir sut y mae eu prosiect SLES yn darparu buddion lleol, gan gyfrannu at nodau trawsnewid ynni Ynni Cymru trwy wella fforddiadwyedd, diogelwch, a chydnerthedd, ac o ran creu swyddi a'r effaith amgylcheddol – gan sicrhau gwerth hirdymor y tu hwnt i sefydliad yr ymgeisydd.
Manteision System SLES
Effeithiau: Y cyflenwad ynni a'r galw am ynni
Buddion: Llai o alw am ynni a biliau is (o ganlyniad i ynni cost is, effeithlonrwydd ynni, a chyfleoedd ar gyfer ymateb ar ochr y galw)
Effeithiau: Iechyd a Llesiant
Buddion: Gwell ansawdd aer dan do ac yn yr awyr agored (sy'n arwain at ganlyniadau iechyd a llesiant gwell)
Effeithiau: Ystyriaethau o ran y rhwydwaith trydan
Buddion: Gwell cydnerthedd ynni lleol (trwy sefydlogi a rheoli'r grid)
Effeithiau: Ystyriaethau o ran y rhwydwaith trydan
Buddion: Optimeiddio ar lefel y grid a'r prosiect (trwy ddefnyddio dull integredig a chamau gweithredu penodol i le targededig)
Effeithiau: Cyflogaeth a Sgiliau
Buddion: Cyfleoedd gwaith a datblygu sgiliau
Effeithiau: Seiliedig ar le
Buddion: Defnyddio adnoddau a chadwyni cyflenwi lleol sy'n bodoli eisoes i ddiwallu anghenion ynni cymunedol
Effeithiau: Y cyflenwad ynni a'r galw am ynni
Buddion: Llai o ddibyniaeth ar olew a nwy wedi'u mewnforio (mwy o hunangynhaliaeth a gwell diogelwch ynni)
Dosbarthiad: Mwy o degwch cymdeithasol; modelau perchnogaeth leol
Effeithiau: Seiliedig ar le
Buddion: Adfywio lleoedd a chynyddu refeniw lleol gan gadw'r buddion yn y cymunedau
Proses: Lleihau'r risg o fuddsoddi yn seilwaith SLES
- Effeithiau: buddion y gellir eu priodoli i weithrediad gwirioneddol y prosiect ynni
- Dosbarthiad: sut y mae buddion yn cael eu dosbarthu ymhlith rhanddeiliaid
- Proses: sefydlu, gweithredu, a rheoli prosiect
Technolegau cymwys a meini prawf cyllido
Yn unol ag egwyddorion SLES a'r enghreifftiau yn yr adran Egwyddorion Systemau Ynni Lleol Clyfar ac Atodiad 1, gall y technolegau sy’n gymwys i gael cyllid gynnwys cyfuniad o’r canlynol:
Llwybr 1
Rhaid i brosiectau gynnwys o leiaf un dechnoleg gynhyrchu ac un dechnoleg gwresogi carbon isel, gyda'r opsiwn i gynnwys technolegau ychwanegol. Mae systemau clyfar hefyd yn ofynnol. Gweler atodiad 3.
Llwybr 2
Rhaid i brosiectau ymgorffori o leiaf dwy dechnoleg gymwys a rhaid i’r SLES gynnwys technoleg cynhyrchu ynni adnewyddol, gyda'r opsiwn i gynnwys technolegau ychwanegol. Mae systemau clyfar hefyd yn ofynnol. Gweler atodiad 3.
Yn achos y ddau lwybr, nid oes cyllid ar gael ar gyfer systemau sy'n cynnwys dim ond solar ffotofoltäig a system storio ynni batri.
Technolegau cymwys
Technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, megis:
- Treulio anaerobig
- Hydro
- Solar Ffotofoltäig (PV) a solar thermol
- Gwynt
Technoleg yn ymwneud â gwresogi, oeri, a dŵr poeth carbon isel, megis:
- Pympiau gwres (unrhyw fath)
- Solar thermol
- Rhwydweithiau gwres
Seilwaith cludiant allyriadau isel iawn, megis:
- Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan
Technolegau storio ynni, megis:
- Systemau storio ynni batri
- Storio thermol
- Gwresogyddion storio
Systemau clyfar fel systemau rheoli adeiladau, goleuadau clyfar (gweler Atodiad 3 – Systemau Clyfar am ragor o fanylion) monitro grid clyfar a mesuryddion clyfar
Gall systemau gwresogi biomas, megis boeleri peledi coed, fod yn gymwys i gael cyllid lle y maent wedi’u hymgorffori mewn SLES ehangach ac yn amlygu budd datgarboneiddio clir. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu asesiad carbon cylch bywyd llawn, sy'n cwmpasu'r gadwyn cyflenwi biomas o gynaeafu a phrosesu i gludiant a hylosgi, ochr yn ochr â chyfrifiadau allyriadau a wrthbwysir trwy aildyfiant. Rhaid nodi ffynhonnell y biomas, gan ffafrio cyflenwad o ffynonellau lleol oherwydd yr allyriadau cysylltiedig is. O ystyried bod gronynnau'n cael eu rhyddhau yn ystod y broses hylosgi, rhaid i ymgeiswyr hefyd ddarparu tystiolaeth o gefnogaeth gan awdurdodau cynllunio a rheoli adeiladu lleol.
Mae Seilwaith Gwefru Cerbydau Di-allyriadau yn gymwys i gael cyllid os caiff ei ymgorffori mewn SLES.
Costau cymwys
Costau cymwys yw’r rhai sy’n uniongyrchol gysylltiedig â chyflwyno, gosod a chomisiynu’r technolegau carbon isel a ariennir. Gall y rhain gynnwys gwaith galluogi rhesymol, megis dylunio, peirianneg, rheoli'r prosiect, a chostau gosod a chomisiynu. Gall amser staff ymgynghorol allanol a staff mewnol sy'n gysylltiedig yn benodol â'r gweithgareddau hyn fod yn gymwys hefyd, ar yr amod bod dogfennaeth briodol, megis anfonebau a thaflenni amser, yn dangos tystiolaeth o'r costau.
Gwaith galluogi
Dim ond gwaith y mae ei angen yn uniongyrchol ar gyfer gweithredu neu osod y system sy'n gymwys (e.e. mân waith adeileddol y mae ei angen i osod cyfarpar neu gysylltu systemau). Ni fyddai gwaith uwchraddio adeilad yn gyffredinol neu waith paratoadol nad yw'n gysylltiedig (e.e. ailwifro adeilad cyfan neu waith nad yw'n hanfodol i uwchraddio'r deunydd inswleiddio) yn gymwys.
Inswleiddio neu Adnewyddu
Nid yw gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni (megis inswleiddio) yn gymwys oni bai eu bod yn rhan hanfodol ac annatod o osod y dechnoleg (e.e. ychwanegu deunydd inswleiddio i sicrhau bod pwmp gwres ffynhonnell aer yn gweithredu'n effeithiol). Nid yw prosiectau adnewyddu neu ailwampio ehangach yn gymwys.
Costau anghymwys
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o gostau na fyddant yn cael eu hystyried yn gymwys i gael cymorth:
- System dechnoleg sengl.
- Costau refeniw mewnol, megis y rhai sy'n ymwneud â chostau staff ar gyfer gweithredu/cynnal a chadw'r SLES.
- Mesurau nad ydynt yn arwain at arbedion carbon nac yn eu cefnogi, er enghraifft:
- Unrhyw gyfarpar gwresogi sy'n defnyddio tanwydd ffosil sylfaenol, e.e. boeleri nwy, gwres a phŵer cyfunedig (CHP) nwy
- Amnewid system gwres carbon isel bresennol sy'n dal i fod o fewn ei hoes weithredu ddefnyddiol.
- Costau sy’n ymwneud â'r gwaith ehangach o adnewyddu adeiladau, megis ailwampio a gwaith sylweddol i'r adeiladwaith.
- Gwaith ôl-weithredol, sydd eisoes wedi'i ddechrau neu wedi'i gwblhau cyn i Lythyr Cynnig Grant gael ei gyhoeddi.
- Gwelliannau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
- Gwaith o ran dichonoldeb neu'r cysyniad.
- Costau'n ymwneud â'r swyddfa, gan gynnwys rhent, cyfleustodau, cyfarpar swyddfa.
- Costau teithio neu gynhaliaeth.
- TAW adferadwy – bydd angen i ymgeiswyr reoli'r agwedd hon ar lif arian mewn modd priodol lle telir TAW mewn un flwyddyn ariannol ond caiff ei adfer y flwyddyn wedyn.
- Mae taliadau cadw yn annhebygol o fod yn gymwys
- Costau wrth gefn, gan mai'r ymgeisydd a ddylai reoli unrhyw orwariant ychwanegol.
- Costau sy'n gysylltiedig â llunio'r cais am grant (p'un a yw'n gost fewnol neu'n gost allanol).
- Inswleiddio Waliau Allanol: oherwydd y costau uchel ymlaen llaw, caiff ei drin fel gwaith uwchraddio sylweddol i'r adeiladwaith ac fe'i hystyrir yn waith adnewyddu. Nid yw gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni (megis inswleiddio) yn gymwys oni bai eu bod yn rhan hanfodol ac annatod o osod y dechnoleg.
- Aerdymheru a ddefnyddir ar gyfer oeri yn unig
Safonau'r dechnoleg
Rhaid i SLES fodloni safonau cyfredol y diwydiant i sicrhau eu bod yn gydnaws â'r grid a systemau ynni ehangach. Dylai ymgeiswyr geisio cyngor arbenigol i sicrhau bod technolegau'n integreiddio'n effeithlon, yn gweithredu mewn modd dibynadwy, ac yn cefnogi gofynion ynni y dyfodol.
Rhaid i bob contractwr ac isgontractwr fod yn osodwyr technolegau carbon isel ardystiedig, lle bo hynny'n briodol. Yn achos technolegau sy'n rhan o'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS), rhaid i osodwyr fod wedi'u hardystio gan yr MCS. Yn achos technolegau nad ydynt yn rhan o'r MCS, rhaid darparu ardystiadau perthnasol amgen – megis HETAS, Flexi-Orb, NAPIT, neu NICEIC. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu rhifau ardystiad pob contractwr ac isgontractwr sy'n cyflawni'r gwaith.
Diogelu data
Rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau diogelu data a diogelwch data cwsmeriaid yn fframwaith y SLES.
Cydnerthedd y grid
Dylai ymgeiswyr sy'n gosod technoleg cynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy ystyried defnyddio systemau clyfar a all weithredu mewn "modd ynysig" os bydd y grid yn methu am gyfnod, gan sicrhau cyflenwad ynni parhaus. Er enghraifft, gall paneli solar ffotofoltäig wefru batri cysylltiedig yn uniongyrchol gan ddefnyddio trydan DC. Er mwyn galluogi'r modd ynysig, mae angen gwrthdröydd hybrid, ac mae sawl darparwr yn y DU yn cynnig y nodwedd hon. Wrth ddewis gwrthdröydd, dylid ystyried ffactorau megis capasiti'r batri, y gallu i dyfu yn unol ag anghenion, a chydnawsedd â'r gosodiadau solar. Mae'n hanfodol ymgynghori â dylunydd a gosodwr ardystiedig i sicrhau gweithrediad cywir y system, cydymffurfio â rheoliadau'r DU ac i gael unrhyw ganiatâd angenrheidiol gan y Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO), y tîm tân ac achub lleol a'r awdurdod rheoli adeiladu ar gyfer systemau sy'n gweithredu yn y modd ynys.Mae ynni solar dros ben yn cael ei allforio i'r grid pan fydd y batri yn llawn neu pan nad oes galw ar y safle. Bydd cynnwys y gallu i weithredu yn y modd ynys yn cael ei ystyried yn ffafriol yn y broses asesu.
Y broses ymgeisio
Cyn i chi ddechrau
Cyn cyflwyno eich cais, cyfrifoldeb yr ymgeisydd arweiniol yw sicrhau'r canlynol:
- Bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn y cais yn gywir
- Bod eich cynnig yn bodloni'r meini prawf cymhwystra a ddisgrifir yn adran Gofynion y Prosiect
- Bod pob adran o'r cais wedi'i chwblhau
- Os ydych yn cyflwyno cais ar y cyd, bod yr holl bartneriaid wedi llofnodi'r cais
Gwneud cais
Gall ymgeiswyr oedi a chadw eu cynnydd ar unrhyw adeg, gan eu galluogi i ddychwelyd at y cais a'i gwblhau yn ddiweddarach.
Os cyflwynir cais ar gam, dylai'r ymgeisydd anfon neges e-bost i ynnicymru@localpartnerships.gov.uk, yn nodi ei enw, ei sefydliad, a rhif y cwmni.
Dylai hefyd gadarnhau bod y cais wedi'i gyflwyno ar gam ac y bydd yn cyflwyno cais diwygiedig.
Ar ôl ei gyflwyno, bydd ymgeiswyr yn cael cyfle i lawrlwytho copi gorffenedig o'r cais.
Rolau a Cydweithio
Yr Ymgeisydd Arweiniol
Mae'r ymgeisydd arweiniol yn gyfrifol am reoli'r broses ymgeisio a chyflwyno'r adroddiadau dilynol. Mae hyn yn cynnwys llofnodi’r Llythyr Cynnig Grant, gwneud hawliadau, a darparu adroddiadau cynnydd. Yr ymgeisydd arweiniol yw'r prif bwynt cyswllt ac sy'n sicrhau bod pob agwedd ar y prosiect yn cyd-fynd â'r gofynion a'r canllawiau ariannu.
Y Swyddog Awdurdodi
Mae swyddog awdurdodi yn unigolyn sydd â'r awdurdod priodol i gymeradwyo penderfyniadau ariannol ar gyfer y sefydliad. Fel arfer cyflawnir y rôl hon gan gyfarwyddwr ariannol, Prif Swyddog Ariannol, neu swyddog Adran 151 (yn achos awdurdodau lleol). Mae llofnod y swyddog awdurdodi yn cadarnhau bod yr holl rwymedigaethau ariannol yn ddilys, a bod gan y sefydliad y gallu i reoli'r cyllid grant mewn modd priodol.
Cydweithio Dylid nodi'r sefydliadau partner a rhoi eu manylion ar y ffurflen gais dim ond os byddant yn cael arian grant os bydd y prosiect yn llwyddiannus.
Llwybrau Ymgeisio
Cyfeiriwch at adran egwyddorion System Ynni Leol Clyfar (SLES) ac Atodiad 1 i gael rhagor o wybodaeth am SLES.
Bydd cynllun Grant Cyfalaf Cam 2 yn cael ei rannu’n ddau lwybr ymgeisio:
- Llwybr 1: Prosiectau SLES syml ac iddynt fuddion cymunedol diriaethol
- Llwybr 2: SLES mwy, y gellir eu dyblygu, neu sy'n canolbwyntio ar y dyfodol
Llwybr 1: Prosiectau SLES syml ac iddynt fuddion cymunedol diriaethol
Mae'r llwybr hwn yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned gyda chostau rhwng £25,000 a £149,999. Dylai'r prosiectau hyn sefydlu neu wella SLES o fewn ardal leol. Bydd y rhan fwyaf o brosiectau yn canolbwyntio ar un safle neu adeilad, er y gellir ystyried prosiectau aml-safle os ydynt yn gweithredu fel rhan o SLES ehangach.
Rhaid i brosiectau gynnwys gwresogi carbon isel a chynhyrchu adnewyddadwy, a gallant hefyd ymgorffori technolegau cymwys ychwanegol megis gwefru cerbydau trydan, a systemau storio ynni batri. Rhaid i'r technolegau a ddewisir weithio'n effeithiol yn unigol ac yn rhan o system integredig. I gael cyllid, rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Mawrth 2026.
Llwybr 2: SLES mwy y gellir eu dyblygu neu sy'n canolbwyntio ar y dyfodol
Yn achos prosiectau sy'n costio rhwng £150,000 a £999,999.99, mae'r llwybr hwn yn cefnogi prosiectau uchelgeisiol ac iddynt botensial cryf ar gyfer eu cyflawni'n llwyddiannus a'u mabwysiadu'n ehangach. Gallai prosiectau cymwys gynnwys gosodiadau SLES ar sawl safle ac iddynt system reoli gyffredinol, datblygiadau ar raddfa fawr ar un safle, neu arddangosiadau arloesol megis cydleoli technoleg solar, gwynt, a systemau storio ynni batri i wneud y gorau o gysylltiadau â'r grid.
Rhaid i safleoedd cymwys fod yn gyson ag egwyddorion SLES ac amlygu gwelliannau sylweddol o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o gymharu ag arferion safonol. Disgwylir i brosiectau ymgysylltu ag amryfal randdeiliaid a sicrhau eu hymrwymiad. Er mwyn sicrhau'r buddion gorau, bydd yn ofynnol iddynt fod â system megis System Rheoli Adnoddau Ynni Gwasgaredig (DERMS) neu System Rheoli Adeiladau (BMS). Croesewir cynigion sy'n ymgorffori dulliau cyflenwad lleol neu farchnad ynni leol.
Rhaid i brosiectau ddarparu buddion clir i randdeiliaid y tu hwnt i'r ymgeiswyr, ac amlygu'r modd y gellir cymhwyso eu profiadau a'u hatebion i gymunedau eraill, gan gefnogi'r broses o'u mabwysiadu'n ehangach. O ystyried cymhlethdod y mentrau hyn, gallant fod yn rhan o gynlluniau ehangach, hirdymor. Fodd bynnag, rhaid i’r holl elfennau a ariennir trwy’r grant hwn gael eu cyflawni’n llawn erbyn 31 Mawrth 2026.
Gofynion y prosiect
Mae'r adran hon yn amlinellu'r meini prawf hanfodol y mae'n rhaid i brosiectau eu bodloni i fod yn gymwys ar gyfer y grant. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth bod eu prosiect yn bodloni'r safonau angenrheidiol, yn ymgorffori amryfal dechnolegau ynni, ac yn cefnogi nodau ehangach y rhaglen gyllido. Bydd pob un o'r meini prawf y manylir arnynt isod yn helpu i asesu potensial y prosiect i ysgogi newid ystyrlon a chyflymu'r broses o drosglwyddo i atebion ynni lleol clyfrach.
Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO)
Mae Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) yn sefydliad sy'n gofalu am ran o'r grid trydanol. Bydd angen i'r prosiect holi'r Gweithredwr i sicrhau y gall y technolegau cynhyrchu a storio trydan arfaethedig gael eu cysylltu â'r grid. Rhaid i'r prosiectau fod wedi dechrau ar y broses o wneud cais i'r DNO, neu wedi cael cadarnhad gan y DNO nad oes angen gwneud unrhyw waith uwchraddio, a hynny'n rhan o'r meini prawf cymhwystra yn y ffurflen gais, neu ddarparu tystiolaeth y gellir sicrhau caniatâd o fewn amserlen y prosiect, os yw hynny'n ofynnol ar gyfer y prosiect. Gall y dystiolaeth a ddarperir gynnwys y ffurflen gais a gyflwynwyd i'r DNO, cadarnhad mewn neges e-bost, neu brawf o gysylltiad â'r DNO ((sy'n cwmpasu technolegau cynhyrchu a storio ynni perthnasol.)
Yng Nghymru, mae rhwydweithiau trydan yn cael eu gweithredu gan SP Energy Networks (SPEN) a National Grid Electricity Distribution (NGED). Cyfeiriwch at Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu yng Nghymru yn Atodiad 4
Caniatâd cynllunio
Efallai y bydd gofyn cael caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect SLES. Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth bod yr holl gydsyniadau angenrheidiol naill ai eisoes ar waith neu y gellir eu cael o fewn amserlen y prosiect, a hynny heb effeithio ar y gwaith o gyflawni'r SLES. Gellir cael prawf o ganiatâd cynllunio neu ddatblygiad a ganiateir trwy gyflwyno ymholiad cyn gwneud cais i’r cyngor lleol neu ymgynghori â chynlluniwr trefi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Atodiad 5.
Fe'ch cynghorir i droi at adran gynllunio neu wefan eich cyngor lleol i gael hyd i ddogfennau a chanllawiau sy'n benodol i'ch ardal, gan y gall rheoliadau a gofynion amrywio.
Gwaith dylunio / Arolygon strwythurol
Efallai y bydd angen i brosiectau wneud gwaith dylunio a chynnal arolygon strwythurol, yn enwedig yn achos systemau ffotofoltäig solar sydd i'w gosod ar doeon, er mwyn sicrhau dichonoldeb a chydymffurfedd y gosodiad. Rhaid i brosiectau wneud gwaith dylunio priodol a chynnal arolygon strwythurol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cynllunio a gosod, a hynny cyn gwneud cais, neu ddarparu tystiolaeth glir y gellir sicrhau'r cydsyniadau hynny o fewn amserlen cyflawni'r prosiect. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Atodiad 6.
Benthyciadau a Gofynion Ariannol
Rhaid i brosiectau ddarparu arian cyfatebol fel y nodir yn fanwl yn Nhabl 3 Arian Cyfatebol.
| Sefydliad | Yr Arian Cyfatebol Sylfaenol sy'n Ofynnol |
|---|---|
| Y Sector Cyhoeddus | 25% |
| BBaChau | 10% |
| Sefydliadau Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol | 0% |
Mae arian cyfatebol i'w ddarparu fel cyfraniadau ariannol. Ni ellir defnyddio grantiau eraill gan Lywodraeth Cymru fel arian cyfatebol, er bod benthyciadau Llywodraeth Cymru yn gymwys (gweler Atodiad 2 – Ffrydiau Cyllido am ragor o wybodaeth). Rhaid dyrannu arian cyfatebol i gostau cymwys sy'n cefnogi'r gosodiad neu swyddogaeth SLES sy'n uniongyrchol y prosiectau sy'n cael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2026.
Prydles/Perchnogaeth Adeilad
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth briodol eu bod naill ai'n berchen ar yr adeilad(au) neu'r safle(oedd) ar gyfer y SLES arfaethedig, yn meddu ar brydles, neu wedi cael caniatâd priodol fel y gallant gael mynediad atynt a gwneud gwaith arnynt. Rhaid i gytundeb prydles bara am o leiaf dair blynedd o ddyddiad y cais.
Pan fydd morgais neu fenthyciad ariannol arall wedi’i warantu ar eiddo sy’n rhan o SLES arfaethedig, dylai'r sawl sy'n gwneud cais am grant holi'r cwmni ariannol dan sylw i sicrhau bod y mesurau a gynigir yn dderbyniol.
Yswiriant
Dylai'r sawl sy'n gwneud cais am grant holi yswiriwr ei eiddo, cyn gynted â phosibl yn y broses, ynghylch ei ofynion mewn perthynas ag yswirio'r cyfarpar sydd i'w osod o dan y SLES arfaethedig.
SLES
Yn rhan o'r adran cymhwystra, rhaid i chi ddangos bod eich system yn brosiect SLES amldechnoleg.
Dylai'r ymgeisydd ddangos bod y system yn un a reolir. Gellir gwneud hyn trwy egluro sut y mae cydrannau unigol y SLES yn ymgorffori rheolyddion clyfar sy'n rheoli'r defnydd o ynni a'r dull o'i storio mewn modd effeithlon, gan sicrhau bod ynni'n cael ei ddefnyddio ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Dylai ymgeiswyr amlygu'r modd y bydd y system yn sicrhau buddion lleol y tu hwnt i'r sefydliad sy'n gwneud cais, a'r modd y mae'r system yn ymgorffori amryfal dechnolegau sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn modd cydlynol.
Gwerth am arian
Y dull caffael
Rhaid cwblhau'r prosesau caffael sy'n ymwneud â'ch prosiect SLES (a chyflwyno prawf o hynny) cyn i'r Llythyrau Cynnig Grant gael eu cyhoeddi.
Wrth ddefnyddio cyllid grant i gaffael gwaith, nwyddau, neu wasanaethau, mae'n hanfodol dilyn proses dryloyw, deg a chosteffeithiol. I gefnogi'r economi leol, anogir ymgeiswyr i gael o leiaf un dyfynbris gan gyflenwr lleol pryd bynnag y bo modd.
Mae’r dull caffael a amlinellir isod yn berthnasol i fusnesau bach a chanolig, sefydliadau cymunedol, mentrau cymdeithasol ac elusennau. Rhaid i gyrff y sector cyhoeddus gadw at reoliadau caffael y sector cyhoeddus.
Er nad yw’r sefydliadau hyn wedi’u rhwymo’n ffurfiol gan Ddeddf Caffael 2023, disgwylir i bob gweithred o gaffael sy’n defnyddio arian cyhoeddus ddilyn egwyddorion craidd y Ddeddf – sef tryloywder, tegwch, triniaeth gyfartal, peidio â gwahaniaethu, a chymesuredd.
Rhaid i bob gweithgarwch caffael fod yn gymesur â gwerth, cymhlethdod a risg y contract, a dylai sicrhau gwerth am arian a llwybr archwilio clir.
Pryniadau a Chontractau hyd at £4,999 (Nwyddau, Gwasanaethau, neu Waith)
- Rhaid cael o leiaf un dyfynbris ysgrifenedig a'i gadw.
- Rhaid dangos gwerth am arian trwy sicrhau bod nwyddau, gwaith, neu wasanaethau o ansawdd digonol ac am bris cystadleuol.
- Rhaid cadw cofnod i gyfiawnhau'r penderfyniad, a hynny at ddibenion archwiliadau.
- Anogir ymgeiswyr i ystyried cyflenwyr lleol, ac efallai y bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth o ymdrechion i ddod o hyd i ffynonellau lleol.
- Dylai cymesuredd arwain yr ymdrech gaffael yn unol â gwerth a chymhlethdod y contract.
Pryniadau a Chontractau rhwng £5,000 a £24,999 (Nwyddau, Gwasanaethau, neu Waith)
- Rhaid cael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig gan ffynonellau cystadleuol (Gallwch hysbysebu ar y wefan Gaffael Genedlaethol, www.gwerthwchigymru.llyw.cymru. Gall hyn helpu os ydych yn ei chael yn anodd dod o hyd i gyflenwyr neu os hoffech ddenu cyflenwyr newydd i ddarparu dyfynbris. Mae hysbysebu ar GwerthwchiGymru yn arfer gorau; fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo eich bod eisoes yn gallu nodi cyflenwyr a allai ddarparu’r cynnig cyffredinol gorau). .
- Rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un manylebau a chael eu hasesu ar sail gyfartal.
- Rhaid cofnodi'r broses ddethol, gan gynnwys y dyfynbrisiau a gafwyd, y meini prawf gwerthuso, a'r penderfyniad terfynol.
- Dylid ystyried cyflenwyr lleol, ac efallai y gofynnir i ymgeiswyr ddangos yr ymdrechion i ddod o hyd i ddyfynbrisiau lleol.
Pryniadau a Chontractau rhwng £25,000 a £74,999 (Nwyddau, Gwasanaethau, neu Waith)
- Rhaid cael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig gan ffynonellau cystadleuol* yn seiliedig ar y canlynol:
o Yr un fanyleb.
o Yr un meini prawf gwerthuso.
o Yr un cyfnod amser ar gyfer gosod.
(Gallwch hysbysebu ar y wefan Gaffael Genedlaethol, www.gwerthwchigymru.llyw.cymru. Gall hyn helpu os ydych yn ei chael yn anodd dod o hyd i gyflenwyr neu os hoffech ddenu cyflenwyr newydd i ddarparu dyfynbris. Mae hysbysebu ar GwerthwchiGymru yn arfer gorau; fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo eich bod eisoes yn gallu nodi cyflenwyr a allai ddarparu’r cynnig cyffredinol gorau) - Argymhellir sefydlu panel gwerthuso.
- Rhaid cadw cofnod o'r holl ddyfynbrisiau, y prosesau gwerthuso, a'r penderfyniadau o ran dyfarnu, a hynny at ddibenion archwilio.
- Os mai un dyfynbris yn unig a geir, rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â'r rheolwr prosiect perthnasol (e.e. Ynni Cymru neu Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru) i gael cyfarwyddyd cyn bwrw ymlaen. Efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ymhellach trwy GwerthwchiGymru.
Pryniannau a Chontractau o £75,000 hyd at £1,000,000 (Nwyddau, Gwasanaethau, neu Weithiau)
- Rhaid cael o leiaf bedwar tendr gan ffynonellau cystadleuol (Gallwch hysbysebu ar y wefan Gaffael Genedlaethol, www.gwerthwchigymru.llyw.cymru. Gall hyn helpu os ydych yn ei chael yn anodd dod o hyd i gyflenwyr neu os hoffech ddenu cyflenwyr newydd i ddarparu dyfynbris. Mae hysbysebu ar GwerthwchiGymru yn arfer gorau; fodd bynnag, efallai y byddwch yn teimlo eich bod eisoes yn gallu nodi cyflenwyr a allai ddarparu’r cynnig cyffredinol gorau).
- Rhaid i bob cynigydd gael yr un fanyleb, meini prawf gwerthuso, a dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.
- Rhaid i'r broses werthuso ddilyn y meini prawf gwreiddiol, a rhaid llunio adroddiad gwerthuso ffurfiol.
- Argymhellir y dylid cael panel gwerthuso i asesu'r cyflwyniadau.
- Os mai un tendr yn unig a geir, rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â'r rheolwr prosiect perthnasol (e.e. Ynni Cymru neu Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru) i gael cyfarwyddyd cyn bwrw ymlaen. Efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ymhellach trwy GwerthwchiGymru.
Adfachu
Os yw'ch sefydliad yn derbyn grant, efallai y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl os:•
- Rydych chi'n rhoi'r gorau i fasnachu.
- Mae eich sefydliad yn newid yn sylweddol o'r hyn a nodwyd gennych yn eich cais.Ydych yn gwerthu unrhyw eitemau a brynwyd â'r grant.
- Caiff yr eiddo neu'r safle lle mae'r SLES a ariennir ei werthu.
- Yw perchnogaeth eich busnes yn newid dwylo.
- Ydych yn symud eich busnes y tu allan i Gymru neu'n ei werthu.
Rheoli Gwrthdaro Buddiannau
Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod y broses gaffael yn cael ei chynnal mewn modd teg a di-duedd. Os yw perthynas, partner busnes, neu ffrind yn dymuno cyflwyno dyfynbris, rhaid i'r broses barhau i fod yn agored ac yn dryloyw. Rhaid datgan unrhyw wrthdaro buddiannau yn y cais, ac ni chaiff unigolion â buddiant gymryd rhan yn y broses werthuso.
Cadwyni Cyflenwi Moesegol
deunyddiau eraill a ddefnyddir mewn paneli solar a nwyddau 'gwyrdd' eraill. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio llafur gorfodol i gloddio a phrosesu mwynau mewn rhai gwledydd. O ganlyniad, mae pryderon o'r fath hefyd yn berthnasol i gadwyni cyflenwi cynnyrch 'gwyrdd' eraill – e.e. cydrannau tyrbinau gwynt a systemau storio ynni batri.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi i annog sefydliadau i ystyried datblygu cadwyni cyflenwi mwy moesegol wrth gyflawni contractau a phrosiectau. Mae’r Cod yn cwmpasu’r materion cyflogaeth canlynol:
- Caethwasiaeth Fodern a thorri hawliau dynol
- Cosbrestru
- Hunangyflogaeth ffug
- Defnydd annheg o gynlluniau mantell a chontractau dim oriau
- Talu’r Cyflog Byw
Dylai ymgeiswyr fod yn dangos eu bod nhw, ynghyd â'u contractwyr, eu hisgontractwyr, a'u cyflenwyr, yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru.
Treth ar Werth (TAW)
Anogir ymgeiswyr yn gryf i geisio cyngor proffesiynol ynglŷn â TAW, gan y gall cymhwysedd i gael rhyddhad fod yn gymhleth ac yn benodol i bob sefydliad.
Mae TAW yn dreth ar ddefnydd a ychwanegir at y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau yn y DU, ac a gesglir gan fusnesau ar ran CThEF. Wrth wneud cais am grant Ynni Cymru, rhaid i ymgeiswyr nodi swm y TAW yn fanwl gywir a chadarnhau bod contractwyr a chyflenwyr yn codi'r swm cywir arnynt. Gweler tabl 3.
Sefydliadau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW – Os yw'r sefydliad wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, dim ond am y gwerth net y caniateir iddo hawlio. Felly, mae'n rhaid bod gan sefydliadau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ddigon o arian i dalu costau TAW y gwaith.
Sefydliadau nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW – Os nad yw’r sefydliad wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, yna gall hawlio’r gost lawn gan gynnwys TAW gan Ynni Cymru, ond ni fydd yn gallu hawlio’r TAW yn ôl gan CThEF.
Efallai y bydd elusennau, BBaChau, a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn gymwys i gael rhyddhad TAW neu gyfraddau gostyngol – cyfeiriwch at ganllawiau CThEF yma. Mae'r ymdriniaeth o ran TAW ar gyfer paneli solar, pympiau gwres, a systemau storio ynni batri yn dibynnu ar y math o sefydliad a'r defnydd o'r adeilad.
Yng Nghymru, mae TAW cyfradd sero yn berthnasol i ddeunyddiau arbed ynni a osodir mewn adeiladau a ddefnyddir at ddibenion elusennol yn unig neu eiddo preswyl penodol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol os yw'r adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gweithgareddau masnachol, megis rhentu gofod ar gyfer digwyddiadau.
I fod yn gymwys i gael TAW Cyfradd Sero:
- Rhaid bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol yn unig
- Rhaid i'r gosodiad fodloni'r diffiniad o ddeunyddiau arbed ynni yn unol â rheolau TAW.
| Deunydd/Gwasanaeth | Y Gyfradd Safonol (20%) | Cyfradd Sero (0%) |
|---|---|---|
| Paneli Solar | Wedi'u gosod mewn eiddo masnachol (e.e. swyddfeydd, siopau manwerthu, safleoedd diwydiannol) | Wedi'u gosod mewn adeiladau preswyl neu elusennol a ddefnyddir at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â busnes |
| Pympiau Gwres | Wedi'u gosod mewn eiddo masnachol (e.e. swyddfeydd, siopau manwerthu, safleoedd diwydiannol) | Wedi'u gosod mewn adeiladau preswyl neu elusennol a ddefnyddir at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â busnes |
| Systemau Storio Ynni Batri | TAW o 20% os cânt eu gosod ar wahân (ôl-osod neu osodiad batri ar ei ben ei hun) | TAW o 0% dim ond os cânt eu gosod gyda phaneli solar mewn adeiladau preswyl/elusennol |
| Llafur (gosod) | TAW o 20% os yw'r gosodiad ar gyfer eiddo masnachol neu brosiectau anghymwys | TAW o 0% os yw'n rhan o osodiad paneli solar neu bwmp gwres cymwys |
Buddion Meintiol ac Ansoddol
Mae dangos manteision eich SLES yn allweddol i gais cryf (gweler manteision SLES adran uchod). Lle bo hynny'n bosibl, dylai ymgeiswyr feintioli eu gofynion ynni presennol a'u gofynion ôl-brosiect a ragwelir. Gall y ffigurau hyn fod yn amcangyfrifon ar adeg y cais.
Gall ymgeiswyr ddefnyddio sesiynau galw heibio neu gysylltu â thîm Ynni Cymru am gyngor o ran ymgorffori gwefrwr cerbydau trydan, rhaid i ymgeiswyr sicrhau prisio teg, tryloyw, sy'n cynnwys strwythurau clir, mesurau i atal ffioedd gormodol, a chyfatebiaeth â chyfradd y farchnad. Dylent hefyd amlygu buddion megis gwell hygyrchedd, arbedion o ran costau, neu well cydnerthedd ynni. Gallai diffyg tystiolaeth o brisio teg effeithio ar yr asesiad.
Y tu hwnt i arbedion ynni, dylai prosiectau SLES gyfrannu at yr agwedd ‘Leol’ ar y system trwy fuddion, a all gynnwys y canlynol:
- Yr Effaith ar y Gymuned: Yn annog perchnogaeth leol, yn meithrin ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd, yn cryfhau cysylltiadau cymunedol, ac yn amlygu cefnogaeth leol.
- Buddion Amgylcheddol: Lleihau carbon, gwella ansawdd yr aer, cefnogi bioamrywiaeth trwy adfer tir a chreu cynefinoedd.
- Arloesedd ac Ymchwil: Yn ysgogi atebion ynni newydd, yn fodel ar gyfer prosiectau ynni clyfar yn y dyfodol, ac yn meithrin partneriaethau ymchwil.
Trosolwg o'r broses ymgeisio a dethol
Trosolwg o'r broses ymgeisio a dethol
- Cam 1 – Agor y grant cyfalaf: 2 Mai 2025.
- Cam 2 – Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 5pm ar 16 Mehefin 2025.
- Cam 3 – Bydd y ceisiadau'n cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio, yn gyflawn, a bod y dogfennau ategol perthnasol ynghlwm.
- Cam 4 – Bydd y ceisiadau sy'n cydymffurfio yn cael eu gwerthuso ar sail gystadleuol yn unol â'r meini prawf sgorio a amlinellir isod.
- Cam 5 – Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael Llythyr Cynnig yn nodi uchafswm y cynnig grant, cyfnod y dyfarniad, amodau'r grant, ac amserlenni'r taliadau.
- Cam 6 – Rhaid hawlio'r grant yn llawn erbyn y dyddiad dod i ben a nodir yn y Llythyr Cynnig Grant gan ddefnyddio’r broses hawlio briodol a chan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol gofynnol fel y nodir yn y Llythyr Cynnig Grant. Bydd rheolau hawlio penodol yn cael eu rhannu â'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Gwybodaeth ychwanegol
- Mae pob dyfarniad yn ddewisol ac nid oes proses apelio.
- Mae'r nodyn cyfarwyddyd hwn yn rhoi arweiniad cyffredinol ond nid oes iddo unrhyw statws cyfreithiol.
- Mae unrhyw gyngor/cymorth a ddarperir gan Ynni Cymru yn cael ei ddarparu ar sail dim atebolrwydd.
- Ni fydd Ynni Cymru na Llywodraeth Cymru yn atebol i chi am unrhyw golled, difrod, costau, treuliau, nac atebolrwydd arall sy’n deillio o ddarparu/sy'n gysylltiedig â darparu unrhyw gyngor neu gymorth o’r math hwn a/neu unrhyw ddibyniaeth a roddir gennych ar y cyngor neu’r cymorth hwnnw.
- Dyfernir cyllid trwy broses gystadleuol. Mae'r cyllid sydd ar gael yn gyfyngedig ac nid oes yna sicrwydd y caiff unrhyw sefydliad ddyfarniad ariannol.
- Mae pob dyfarniad yn ddewisol ac nid oes yna broses apelio.
- O fod yn ddarparwr cyllid sector cyhoeddus ni ddylai’r gronfa hon ymgymryd ag unrhyw weithgarwch sy’n dadleoli neu’n ystumio darpariaeth bresennol y farchnad. Bydd y ffocws ar fuddsoddiadau sydd naill ai'n methu cael mynediad at fathau eraill o fuddsoddiadau mwy confensiynol, neu'n ei chael yn anodd gwneud hynny. At hynny, caiff ceisiadau eu hystyried yng nghyd-destun cyllid arall sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ac efallai y bydd ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio at gyllid amgen neu gymysg fel y bo’n briodol.
- Nid yw Ynni Cymru na Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithgareddau penodol sy’n debygol o fod yn destun dadlau ynghylch y defnydd priodol o arian cyhoeddus, ac felly ni fyddwn yn ariannu unrhyw sefydliad neu weithgarwch a allai, yn ein barn ni, ddwyn anfri ar Ynni Cymru neu Lywodraeth Cymru.
- Gwneir dyfarniadau o dan gynllun cymhorthdal cofrestredig SC11250 y DU
'Cynllun Cymhorthdal ar gyfer Cymorth Ynni Lleol (Cymru)' yn unol â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau (2022) y DU. Byddwch yn ymwybodol y bydd manylion pob dyfarniad yn cael eu cyhoeddi ar Gronfa Ddata Tryloywder Cymorthdaliadau y DU yn unol ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i reoli cymorthdaliadau. - Ystyrir bod gweithgareddau sydd eisoes wedi dechrau y tu hwnt i gwmpas y grant hwn.
- Os nad ydych yn siŵr am unrhyw ddarpariaethau yn yr amodau grant neu'r datganiad y mae'n ofynnol i chi ei wneud ar ddiwedd y ffurflen gais, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Cymorth a Gwybodaeth Gyswllt
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ein proses ymgeisio yn hygyrch felly cysylltwch â ni’n uniongyrchol os hoffech ofyn am addasiadau rhesymol: ynnicymru@localpartnerships.gov.uk.
Yn rhan o Gam 2 y Grant, mae Ynni Cymru yn cydweithio â Busnes Cymru i gefnogi sefydliadau'r trydydd sector trwy'r broses ymgeisio a chaffael.
Mae gan Uchelgais Gogledd Cymru arweiniad ar ei wefan. Mae arweiniad ar gael ar gyfer y canlynol:
- Amlinelliad ac Ymarferoldeb Prosiectau – Yn eich helpu i asesu ymarferoldeb eich prosiect arfaethedig a datblygu amlinelliad clir.
- Datblygu Cais am Gyllid – Yn darparu cipolygon allweddol ar strwythuro cais cryf am gyllid.
Mae Ynni Cymru hefyd yn darparu adnoddau a gwasanaethau i gynorthwyo ymgeiswyr, gan gynnwys:
- Offeryn Storio Ynni Cymru (WEST) – Yn dangos modelau refeniw blynyddol posibl ar gyfer defnyddio systemau storio ynni batri.
Sesiynau Galw Heibio – Gall ymgeiswyr ymuno â galwadau a drefnir gyda thimau Ynni Cymru ar gyfer sesiynau Holi ac Ateb. Cofrestrwch yma: Ynni Cymru - Local Partnerships
Geirfa termau
| Term | Disgrifiad |
| Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer (ASHP) | System wresogi sy'n tynnu gwres o'r aer i ddarparu gwres sy'n effeithlon o ran ynni. |
| Capasiti Cyflenwi Cytunedig (ASC) | Uchafswm y trydan y gall safle ei dynnu o'r grid, gan effeithio ar daliadau sefydlog. |
| System Storio Ynni Batri (BESS) | System sy'n storio trydan dros ben i'w ddefnyddio'n ddiweddarach, gan wella effeithlonrwydd a chydnerthedd ynni. |
| System Rheoli Adeiladau (BMS) | System reoli sy'n monitro ac yn rheoli defnydd ynni adeiladau, gan wella effeithlonrwydd. |
| Budd Cymunedol | Y manteision cymdeithasol, economaidd, neu amgylcheddol y mae prosiect yn eu cynnig i ardal leol. |
| Adnoddau Ynni Gwasgaredig (DER) | Ffynonellau ynni datganoledig megis paneli solar, tyrbinau gwynt, a systemau storio ynni batri. |
| System Rheoli Adnoddau Ynni Gwasgaredig (DERMS) | System ar gyfer rheoli amryfal ffynonellau ynni, gan optimeiddio effeithlonrwydd a sefydlogrwydd y grid. |
| Cerrynt Uniongyrchol (DC) | Math o lif trydan a ddefnyddir mewn systemau ynni adnewyddadwy, megis solar ffotofoltäig a systemau storio ynni batri. |
| Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) | Cwmni sy'n gyfrifol am weithredu a chynnal y rhwydwaith dosbarthu trydan rhanbarthol. |
| Distribution Connection and Use of System Agreement (DCUSA) | Contract rhwng sawl cwmni sy’n nodi’r telerau ar gyfer defnyddio a chysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu trydan ym Mhrydain Fawr. Mae'n safoni'r trefniadau masnachol rhwng gweithredwyr rhwydwaith dosbarthu (DNOs), cyflenwyr, a defnyddwyr eraill i sicrhau mynediad teg at y rhwydwaith a gofalu ei fod yn gweithredu mewn modd effeithlon. |
| Cerbyd Trydan (EV) | Cerbyd sy'n cael ei bweru gan drydan yn hytrach na thanwydd ffosil, gan leihau allyriadau carbon. |
| Man Gwefru Cerbydau Trydan (EVCP) | Gorsaf wefru ar gyfer cerbydau trydan, wedi'i hymgorffori mewn system ynni glyfar. |
| Astudiaeth Ddichonoldeb | Asesiad o hyfywedd technegol, ariannol ac amgylcheddol prosiect. |
| Nwyddau | Eitemau ffisegol sy'n cael eu prynu a'u gwerthu. Yng nghyd-destun caffael, mae nwyddau'n cyfeirio at gynhyrchion diriaethol a brynir gan sefydliad i'w defnyddio yn ei weithrediadau. |
| Llythyr Cynnig Grant (GOL) | Dogfen ffurfiol a roddir i ymgeiswyr llwyddiannus yn nodi manylion y telerau ac amodau ariannu. |
| Arian Cyfatebol | Gofyniad i ymgeiswyr gyfrannu eu harian eu hunain neu sicrhau cyllid ychwanegol gan ffynonellau eraill. |
| Sero Net | Targed i gydbwyso allyriadau carbon â'r carbon a waredir, gyda'r nod o leihau ôl troed carbon cyffredinol prosiect. |
| Cytundeb Prynu Pŵer (PPA) | Contract rhwng cynhyrchydd ynni a phrynwr, yn pennu'r telerau ar gyfer gwerthu'r trydan a gynhyrchir. |
| Proses Gaffael | Y dull strwythuredig o gaffael nwyddau a gwasanaethau yn unol â rheoliadau ariannu. |
| Gwarant Allgludo Clyfar (SEG) | Cynllun gan Lywodraeth y DU sy'n caniatáu i gynhyrchwyr ynni ar raddfa fach werthu trydan dros ben i'r grid. |
| Gwasanaethau | Tasgau neu weithgareddau anniriaethol a ddarperir gan un parti i'r llall yn gyfnewid am iawndal. Ymhlith yr enghreifftiau y mae ymgynghoriaeth neu gyngor cyfreithiol |
| SLES | Rhwydwaith o atebion ynni integredig lleol, gan gynnwys cynhyrchu adnewyddadwy, storio, a rheoli galw. |
| Adolygiad o Ffioedd wedi’u Targedu (TCR) | Adolygiad rheoleiddiol gan Ofgem yn effeithio ar strwythurau ffioedd rhwydwaith trydan, yn enwedig ar gyfer safleoedd â galw ysbeidiol. |
| Offeryn Storio Ynni Cymru (WEST) | Adnodd a ddatblygwyd gan Ynni Cymru i fodelu refeniw systemau storio ynni batris ac optimeiddio economeg prosiectau. |
| Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) | Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) wedi'i gynllunio i nodi'r ardaloedd bach yng Nghymru sydd â'r amddifadedd mwyaf. |
| Gwaith | Mae'n cyfeirio at brosiectau adeiladu neu beirianneg sifil, gan gynnwys tasgau megis datblygu seilwaith, atgyweirio, adnewyddu, a gosodiadau. Gall hyn gynnwys newidiadau ffisegol i dir, adeiladau, neu adeileddau. |
Atodiad 1: Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES)
Simple SLES System
SLES Syml
Mae SLES syml yn ymgorffori technolegau allweddol - gwresogi carbon isel, paneli solar, systemau storio ynni batri, a rheolyddion clyfar i wneud y defnydd gorau o ynni lleol. Byddai cais ar gyfer y SLES hon yn rhan o gronfa grant Llwybr 1. Trwy storio pŵer dros ben i'w ddefnyddio'n ddiweddarach, mae'n lleihau gwastraff, yn lleihau costau, ac yn gwella cynaliadwyedd. Gellir cynnwys rheolyddion goleuo a gwresogi clyfar hefyd, gan ddefnyddio awtomatiaeth a dadansoddeg data i sicrhau defnydd effeithlon o ynni.
Er enghraifft, gallai adeilad megis swyddfa, canolfan gymunedol, neu ganolfan hamdden osod paneli solar ffotofoltäig (PV), system storio ynni batris, pwmp gwres ffynhonnell aer, a mesuryddion clyfar. Byddai'r gosodiad hwn yn gwneud y mwyaf o hunan-ddefnydd ar y safle ac yn lleihau allyriadau carbon.
Gallai Canolfan Gymunedol integreiddio:
- Paneli To Solar Ffotofoltäig ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy
- System Storio Ynni Batris (BESS) i storio pŵer dros ben
- Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer (ASHP) ar gyfer gwresogi effeithlon
- Dargyfeiriwr dŵr poeth solar i wella'r cyflenwad dŵr poeth
- Mannau gwefru Batris Cerbydau Trydan ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy
Mae'r technolegau hyn yn gweithio gyda'i gilydd trwy reolyddion clyfar, gan sicrhau bod ynni'n cael ei ddefnyddio yn y modd gorau posibl. Yn ystod y misoedd cynhyrchu brig, gall yr adeilad redeg yn gyfan gwbl ar ynni solar yn ystod oriau golau dydd. Pan fodlonir y galw a bod y batri yn llawn, mae'r system yn allgludo ynni dros ben yn awtomatig i'r grid, gan gynhyrchu refeniw trwy Gytundebau Prynu Pŵer (PPA) neu daliadau Gwarant Allgludo Clyfar (SEG).
SLES o Gymhlethdod Cymedrol
Mae SLES o gymhlethdod cymedrol yn integreiddio sawl ffynhonnell ynni gwasgaredig – megis solar ffotofoltäig, gwynt, pympiau gwres, a systemau storio ynni batri – ochr yn ochr â rheoli ynni deallus a galluoedd ymateb i alw. Mae hyn yn caniatáu i gydrannau amrywiol, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, systemau gwresogi, a dyfeisiau, wneud y defnydd gorau o ynni yn seiliedig ar gyflenwad a galw. Byddai'r math hwn o brosiect SLES yn rhan o drywydd cronfa grant Llwybr 1 a 2.
Mae enghraifft ymarferol yn cynnwys grŵp o fusnesau bach a chanolig yn cydweithio â sefydliad ynni cymunedol i osod paneli to solar ffotofoltäig, Systemau Storio Ynni Batri (BESS), Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer (ASHP), dargyfeirwyr dŵr poeth solar, a mannau gwefru cerbydau trydan ledled parc busnes bach. Y sefydliad ynni cymunedol sy'n arwain y prosiect, yn berchen ar y systemau, ac yn eu rheoli a'u cynnal, gan gynnwys trefniadau prydlesu'r to ar gyfer paneli solar ffotofoltäig, gan werthu trydan wedi'i gynhyrchu trwy solar a'i storio, i fusnesau bach a chanolig trwy Gytundeb Prynu Pŵer (PPA) gwifren breifat ar gyfraddau is na'r grid.
Mae'r system yn gweithredu mewn modd deallus, gan flaenoriaethu'r defnydd o ynni ar y safle i leihau allyriadau carbon a chostau ynni. Pan fodlonir y galw a bod y batris yn llawn, caiff trydan adnewyddadwy dros ben ei allgludo i'r grid dan Gytundeb Prynu Pŵer wedi'i allgludo, gyda'r posibilrwydd o gyfranogiad ym marchnadoedd refeniw Systemau Storio Ynni Batri. At hynny, mae systemau solar a batri yn darparu pŵer wrth gefn yn ystod toriadau i gyflenwad y grid. Mae unrhyw arbedion ariannol a refeniw a gynhyrchir yn cael eu hailfuddsoddi mewn prosiectau cymunedol pellach, gan wella cydnerthedd a chynaliadwyedd ynni lleol.
SLES Gymhleth
Mae SLES gymhleth yn system gwbl integredig a hynod ddeallus sy'n cyfuno sawl fector ynni (trydan, gwres, cludiant) ag awtomatiaeth uwch, optimeiddio seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), a rhyngweithiad â'r grid. Gall optimeiddio a chydbwyso’r defnydd o ynni ar draws adeiladau, diwydiannau a chymunedau mewn modd dynamig, gan gynnig hyblygrwydd ar ochr y galw, a gall o bosibl gefnogi'r broses o fasnachu ynni ymhlith cymheiriaid. Byddai'r math hwn o brosiect SLES yn rhan o drywydd cronfa grant Llwybr 2.
Er enghraifft, gallai Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC) osod paneli to solar ffotofoltäig a System Storio Ynni Batris ar eiddo lleol amrywiol (cartrefi, adeiladau cyhoeddus, busnesau bach a chanolig, ffermydd), adeiladu fferm solar, tyrbin gwynt, a generadur dŵr, a chreu system Gorsaf Ynni Rhithwir (VPP), gan gysylltu a chydgasglu’r holl adnoddau ynni gwasgaredig hyn mewn modd digidol mewn un rhwydwaith a reolir yn ganolog. Byddai'r adnoddau hyn yn cael eu rheoli a'u hoptimeiddio i fod yn system ynni rithwir unedig a all weithredu'n debyg iawn i orsaf ynni gonfensiynol. Byddai'r Orsaf Ynni Rithwir yn hwyluso'r broses o integreiddio ynni adnewyddadwy ac yn darparu mwy o hyblygrwydd o ran bodloni'r galw am ynni, gan gynnig buddion megis pŵer glanach a mwy fforddiadwy.
Mae argaeledd trydan adnewyddadwy lleol rhatach yn cymell y broses o gyflwyno technolegau megis pympiau gwres, gwefru batris cerbydau trydan ac electrolysis hydrogen gwyrdd, cludiant sy'n defnyddio tanwydd hydrogen, a chwistrellu hydrogen cyfunol i’r grid nwy lleol. Caiff Marchnad Ynni Leol (LEM) ei chreu lle mae cwsmeriaid yn cael trydan rhatach pan fydd y systemau'n cynhyrchu ynni. Mae'r refeniw yn llifo i'r Cwmni Buddiant Cymunedol. Y Cwmni Buddiant Cymunedol sy'n cefnogi ac yn cynnal y systemau. Mae System Rheoli Adnoddau Ynni Gwasgaredig (DERMS) awtomataidd seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) yn anfon ynni lle y mae angen iddo fynd, a hynny ar yr adeg gywir, ac yn rheoli rhyngweithiadau â'r grid. Gall y System Rheoli Adnoddau Ynni Gwasgaredig hefyd allgludo ynni i'r grid mewn modd deallus, a hynny am dâl, neu gall gymryd rhan mewn marchnadoedd refeniw/hyblygrwydd batris.
Atodiad 2: Ffrydiau Cyllido
Nid yw'r rhestr o raglenni cyllido perthnasol yng Nghymru 2025/2026 a nodir isod yn gynhwysfawr ond mae'n rhoi rhywfaint o fanylion am y rhaglenni cyllido sydd ar gael. Mae ffynonellau cyllid ychwanegol ar gael, a gall canfyddwr cyllid fel y rhai a ddarperir gan Busnes Cymru fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr: Canfyddwr Cyllid | Busnes Cymru
Trwy'r Cynllun Uwchraddio Boeleri, mae yna grantiau ar gael i dalu rhan o'r gost o gael pwmp gwres neu foeler biomas yn lle system gwresogi tanwydd ffosil.
Rhaid i’r ymgeisydd fod yn berchen ar yr eiddo y mae'n gwneud cais amdano (gan gynnwys os yw’n fusnes, yn ail gartref, neu’n eiddo y mae'n ei rentu i denantiaid), a rhaid bod systemau gwresogi tanwydd ffosil – megis olew, nwy, trydan neu nwy petrolewm hylifedig (LPG) yn cael eu disodli.
Menter gwerth £25 miliwn a gyflwynir trwy fenthyciadau a grantiau, wedi’i chynllunio i gefnogi prosiectau ynni glân ledled Gogledd Cymru, gyda’r nod o gyflawni targedau ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio gydag elfennau perchnogaeth leol.
Bydd £5 miliwn yn cael ei dargedu at y sector gwirfoddol a £15 miliwn ar gyfer y sector preifat ar draws Gogledd Cymru.
Mae Digarbon yn darparu benthyciadau i helpu i ysgogi'r sector addysg drydyddol i gyflawni allyriadau sero net.
Mae sefydliadau addysg bellach ac uwch cyhoeddus yng Nghymru yn gymwys i wneud cais.
Y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd
Mae Banc Datblygu Cymru yn rhoi pecyn cymorth i fusnesau Cymru, gan gynnwys benthyciadau busnes gwyrdd, i'w helpu i leihau allyriadau carbon a chaniatáu i fusnesau arbed arian ar filiau ynni yn y dyfodol.
I wneud cais am y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, rhaid i gwmnïau cyfyngedig, unig fasnachwyr, neu bartneriaethau fod wedi’u lleoli yng Nghymru ac wedi bod yn masnachu am o leiaf ddwy flynedd, gydag o leiaf un set o gyfrifon blynyddol wedi’u ffeilio.
Grant Llywodraeth Cymru
Mae’r grant wedi’i fwriadu ar gyfer gwaith cyfalaf sy’n gysylltiedig ag ôl-osod datrysiadau gwres carbon isel mewn adeiladau annomestig sy’n eiddo i awdurdodau lleol.
Gall Awdurdodau Lleol yng Nghymru wneud cais.
Mae'r Warant Allgludo Clyfar yn caniatáu i ymgeiswyr gael taliadau am drydan dros ben a gynhyrchir gan eu paneli solar a gaiff ei allgludo yn ôl i'r grid. Er nad yw'n grant, mae'n darparu ffrwd refeniw barhaus a all wrthbwyso costau gosod.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar system cynhyrchu ynni ardystiedig a mesurydd allgludo/clyfar i wneud cais.
Grant Arbed Ynni Chwaraeon Cymru
Mae’r Grant Arbed Ynni yn grant cyllid cyfalaf sy’n cynnig cyfle i glybiau chwaraeon wneud gwelliannau a fydd yn arbed ynni.
Gwahoddir ceisiadau gan Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol, Partneriaethau Chwaraeon, neu Bartneriaid Cenedlaethol a ariennir gan Chwaraeon Cymru.
Mae Banc Datblygu Cymru yn darparu benthyciadau i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy bach nad ydynt yn gallu cyrchu cyllid masnachol.
Gall grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, modelau perchnogaeth leol, a busnesau bach a chanolig wneud cais.
Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
Mae'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo trwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd. Mae grantiau o hyd at £1,000 ar gael tuag at gynnal arolwg ynni o'ch eiddo, grantiau o hyd at £25,000 tuag at uchafswm o 80% o'r gost o wneud y gwaith a nodir, a benthyciadau i dalu am unrhyw gostau gosod sy'n weddill.
Gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, sydd â bil ynni blynyddol o £10,000 y flwyddyn o leiaf, wneud cais.
Grant Llywodraeth Cymru
Mae'r cynllun yn darparu benthyciadau ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio i gyrff sector cyhoeddus sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru.
Mae’r cynllun, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi’i dargedu at sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, prifysgolion, colegau, a'r gwasanaethau brys.
Atodiad 3: Systemau Clyfar
Systemau Clyfar
Rhaid i systemau clyfar ryngweithio a dylanwadu ar weithrediad ei gilydd y tu hwnt i gyd-leoli. Mae hyn fel arfer yn cynnwys cyfarwyddo llif ynni (e.e. ynni adnewyddadwy ar y safle, sy'n cyfeirio, storio gwefru, neu gyflenwi pympiau gwres cyn eu hallforio, a/neu weithrediad cydgysylltiedig a reolir gan system reoli).
Disgwylir i oleuadau clyfar fod yn system oleuo ddatblygedig ac yn fesur lleihau galw sy'n defnyddio goleuadau hynod effeithlon (technoleg LED o leiaf), ynghyd â nodweddion rheoli goleuadau awtomataidd clyfar, megis rheolydd isgoch goddefol sy'n synhwyro symudiadau, pylu awtomatig yng ngolau dydd, amserlennu rheoledig y gellir ei gyrchu o bell, dull o bylu a chynnau/diffodd i ganiatáu lefelau lwcs wedi'u teilwra ar gyfer gweithgareddau a thasgau amrywiol, er enghraifft, trwy ap ffôn clyfar neu System Rheoli Adeiladau (BMS).
Dylai'r holl oleuadau newydd fod wedi'u cynllunio'n broffesiynol a dylent roi ystyriaeth i safonau cydnabyddedig priodol y diwydiant o ran lefel lwcs, unffurfiaeth, a llacharedd fel sy'n briodol i'r dasg. Dylai goleuadau allanol roi ystyriaeth i Nodyn Cyfarwyddyd 08/23: Ystlumod a Goleuadau Artiffisial yn y Nos sy'n cynnwys gofyniad allweddol ar gyfer unedau goleuo a gyfeirir tuag i lawr, ac iddynt dymereddau lliw gwyn cynnes (yn ddelfrydol 1,700K 'ambr' a dim mwy na 3,000K 'gwyn cynnes’).
Bwriedir i'r cyllid cyfalaf hwn greu SLES ac felly disgwylir i’r gost ar gyfer cynnwys goleuadau clyfar fod yn rhesymol ac yn gymesur â’r prosiect. Ni fyddem yn disgwyl i oleuadau clyfar gynrychioli mwy na 10% o gyfanswm costau’r prosiect. Bydd costau afresymol ar gyfer goleuadau clyfar yn cael eu hystyried yn waith adnewyddu cynnal a chadw arferol ehangach anghymwys – gweler Costau anghymwys 'Costau sy’n ymwneud â'r gwaith ehangach o adnewyddu adeiladau, megis ailwampio a gwaith sylweddol i'r adeiladwaith'.
Atodiad 4: Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO)
| Sir | Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu |
| Ynys Môn | SP Energy Networks |
| Blaenau Gwent | National Grid Electricity Distribution |
| Pen-y-bont ar Ogwr | National Grid Electricity Distribution |
| Caerffili | National Grid Electricity Distribution |
| Caerdydd | National Grid Electricity Distribution |
| Sir Gaerfyrddin | National Grid Electricity Distribution |
| Ceredigion | SP Energy Networks |
| Conwy | SP Energy Networks |
| Sir Ddinbych | SP Energy Networks |
| Sir y Fflint | SP Energy Networks |
| Gwynedd | SP Energy Networks |
| Merthyr Tudful | National Grid Electricity Distribution |
| Sir Fynwy | National Grid Electricity Distribution |
| Castell-nedd Port Talbot | National Grid Electricity Distribution |
| Casnewydd | National Grid Electricity Distribution |
| Sir Benfro | National Grid Electricity Distribution |
| Powys | SP Energy Networks/National Grid Electricity Distribution |
| Rhondda Cynon Taf | National Grid Electricity Distribution |
| Abertawe | National Grid Electricity Distribution |
| Torfaen | National Grid Electricity Distribution |
| Bro Morgannwg | National Grid Electricity Distribution |
| Wrecsam | SP Energy Networks |
Atodiad 5: Caniatâd Cynllunio
Datblygiad a Ganiateir: Paneli Solar
Yn achos paneli solar ar eiddo annomestig, dylid bodloni’r amodau sylfaenol canlynol, i fod yn gymwys i gael statws datblygiad a ganiateir:
- Rhaid i'r paneli beidio ag ymwthio allan fwy na 200 mm o oledd neu arwyneb y to.
- Mewn ardaloedd cadwraeth neu Safleoedd Treftadaeth y Byd, ni ellir gosod cyfarpar solar ffotofoltäig neu solar thermol ar wal sy'n wynebu priffordd.
- Mae cyfyngiadau arbennig yn berthnasol mewn ardaloedd cadwraeth, Parciau Cenedlaethol, ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac efallai y bydd angen caniatâd cynllunio hyd yn oed os yw'r paneli yn bodloni meini prawf eraill ar gyfer datblygiadau a ganiateir.
- Rhaid i'r gosodiad beidio ag effeithio'n sylweddol ar edrychiad yr adeilad na'r amgylchedd o'i gwmpas.
Bydd angen Caniatâd Cynllunio yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
- Mae'r eiddo yn Adeilad Rhestredig neu wedi'i leoli mewn ardal sensitif, megis ardal gadwraeth, Parc Cenedlaethol, neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
- Mae'r gosodiad arfaethedig y tu hwnt i'r cyfyngiadau uchder neu faint, neu y mae'n newid edrychiad yr adeilad yn sylweddol.
Datblygiad a Ganiateir: Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer (ASHP)
I fod yn gymwys i gael statws datblygiad a ganiateir, dylai Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer gydymffurfio â'r amodau sylfaenol canlynol:
- Rhaid i'r uned gywasgu awyr agored (gan gynnwys y gorchudd) beidio â bod yn fwy na 0.6 metr ciwbig o ran cyfaint.
- Dim ond gosodiad cyntaf Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer sy'n gymwys i gael statws datblygiad a ganiateir, ar yr amod nad oes yna dyrbin gwynt ar yr eiddo.
- Rhaid i bob rhan o'r Pwmp Gwres Ffynhonnell Aer fod o leiaf un metr i ffwrdd o ffin yr eiddo.
- Nid yw gosodiadau ar doeon ar oledd yn gymwys i gael statws datblygiad a ganiateir. Os caiff ei osod ar do fflat, rhaid i bob rhan o'r pwmp gwres fod o leiaf un metr i ffwrdd o ymyl allanol y to.
Bydd angen Caniatâd Cynllunio yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
Mae’r gosodiad o fewn cwrtil Adeilad Rhestredig neu safle Heneb Gofrestredig (nid yw hawliau datblygiad a ganiateir yn berthnasol).
Fe'ch cynghorir i droi at adran gynllunio neu wefan eich cyngor lleol i gael hyd i ddogfennau a chanllawiau sy'n benodol i'ch ardal, gan y gall rheoliadau a gofynion amrywio.
Atodiad 6: asesiadau ac arolygon
Yn dibynnu ar natur y prosiect, efallai y bydd angen cynnal yr asesiadau canlynol. Sylwch mai cyngor cyffredinol yw hyn, ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymgynghori â gweithwyr proffesiynol perthnasol i gadarnhau'r camau gweithredu priodol ar gyfer unrhyw un o'r isod.
Arolygon Strwythurol
- Paneli Solar wedi'u Gosod ar y To – Efallai y bydd yn ofynnol cynnal arolwg strwythurol i asesu a all y to gynnal pwysau'r paneli solar a'r llwyth gwynt y byddant yn ei greu. Mae'n fwy tebygol y bydd angen arolwg yn achos adeiladau hŷn neu rai sydd eisoes â phryderon strwythurol.
- Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer – Os caiff y pwmp gwres ei osod ar do fflat, efallai y bydd angen cynnal asesiad i sicrhau y gall y strwythur gynnal y pwysau a’r dirgryniadau ychwanegol.
Arolygon Ecolegol ac Amgylcheddol
- Arolwg o Ystlumod – Bydd yn ofynnol os yw'r prosiect yn cynnwys addasiadau i do, gofod llofft, neu hen adeilad lle gallai ystlumod fod yn clwydo. Mae ystlumod yn rhywogaeth a warchodir, ac efallai y bydd angen cynnal arolwg cyn y caiff caniatâd cynllunio ei roi.
- Arolwg o Adar neu Fywyd Gwyllt – Bydd yn angenrheidiol os yw'r prosiect yn effeithio ar goed, gwrychoedd, neu adeiladau lle y gallai rhywogaethau adar a warchodir (e.e. tylluanod gwynion) fod yn nythu.
Asesiad o Effaith Sŵn
- Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer – Mewn rhai achosion, gall fod yn ofynnol cynnal asesiad o effaith sŵn, yn enwedig mewn ardaloedd preswyl, a hynny i sicrhau cydymffurfedd â chyfyngiadau sŵn datblygiadau a ganiateir.
Ymchwiliadau Tir
- Nifer o Baneli Solar wedi'u Gosod ar y Ddaear – Os ydych yn gosod paneli solar ar dir, efallai y bydd angen cynnal arolwg o gyflwr y tir i asesu sefydlogrwydd y pridd, y systemau draenio, ac effeithiau ecolegol posibl.
- Asesiadau o'r Sylfeini – Bydd yn ofynnol yn achos systemau storio ynni batris neu osodiadau seilwaith mawr, a hynny i sicrhau sefydlogrwydd y tir.
