Neidio i'r prif gynnwy
Categori Beth sy'n digwydd nesaf Nifer o gynlluniau
Yn mynd rhagddyn nhw  Wedi'u cynnwys yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Byddwn yn bwrw ymlaen gan ystyried argymhellion y Panel Adolygu Ffyrdd ac yn unol â’r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol. Bydd rhai cynlluniau'n cael eu hadolygu 15
Yn cael eu disodli gan brosiect newydd  Bydd prosiectau newydd o dan y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth yn cael eu cynnal i fynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd ar y Fenai ac yn Wrecsam 2
Rhaglenni newydd, gwell yn cael eu cynnal yn eu lle  Rhaglenni aml-ddull newydd ar lefel coridor yn cael eu cynnal ar yr M4, yr A55 / A494 15
Ddim yn mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd  Mae'n bosibl y bydd cynlluniau diwygiedig yn cael eu hystyried yn rowndiau cyllid y dyfodol, yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol 9
Cynlluniau awdurdodau lleol  Bydd y rhain yn cael eu hasesu yn rowndiau grant y dyfodol, yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol  15
Cynlluniau datblygu economaidd  Rydyn ni wedi gofyn i'r Cynghorydd Anthony Hunt a'r Cynghorydd Llinos Medi arwain grŵp i ddatblygu arweiniad ar gyflawni datblygu economaidd yn seiliedig ar leoedd, wedi'i alluogi gan atebion trafnidiaeth sy'n ategu twf economi ffyniannus, werdd a chyfartal ac sy'n cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol  3
Cyfanswm Cafodd 55 cynllun eu nodi yn adroddiad cychwynnol y Panel Adolygu Ffyrdd + pedwar a gafodd eu nodi wedyn. O'r 59 cynllun, cafodd wyth eu hepgor am nad oedden nhw o fewn y cwmpas neu nad oedd digon o wybodaeth; cafodd dau eu hadolygu yn gynnar; roedd tri yn gynlluniau datblygu economaidd; ac mae argymhellion y Panel ar 45 cynllun yn cael eu hamlinellu yn Atodiad 1 i adroddiad terfynol y Panel Adolygu Ffyrdd 59

Prosiectau sy'n mynd rhagddyn nhw – Rhaglen Newid Dulliau Teithio ar Gefnffyrdd

Yr A487 Abergwaun i Aberteifi  

Cynllun yn eu camau cynnar nas adolygwyd gan y panel. Bydd yn parhau gyda phroses WelTAG yn cael ei halinio i'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol.

Yr A4076 Hwlffordd

Yr A4042 y Coridor Deheuol o Bont-y-pŵl i'r M4  

Prosiect newydd o dan y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth: Gwelliannau aml-ddull i goridor yr A483 yn Wrecsam a chysylltiadau â chanol y ddinas

Gweithio gyda Chyngor Wrecsam i ddatblygu gwelliannau aml-ddull. Bydd y rhain yn cynnwys dichonoldeb / ymchwil i greu datblygiad preswyl a chyflogaeth aml-ddull o'r radd flaenaf, gyda llai o geir yn cael eu defnyddio, wedi'i alinio â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol. Cynhelir y prosiect hwn yn lle Ffordd Osgoi Wrecsam ar yr A483 J3-6.

Prosiect newydd o dan y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth: Cynlluniau diwygiedig ar gyfer Coridor y Fenai

Datblygu opsiynau cadarn i sicrhau y gellir croesi'r Fenai mewn ffordd sy'n ategu newid dulliau teithio, yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol. Rydyn ni wedi gofyn i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wneud argymhellion ynghylch y ffordd orau o wneud hyn. Mae'r prosiect hwn yn lle'r Drydedd Bont dros y Fenai.

Prosiectau sy'n mynd rhagddyn nhw – Y Rhaglen Diogelwch a Chydnerthedd Cefnffyrdd

Yr A494 Lon Fawr Rhuthun/Ffordd Corwen 

Newidiadau ar raddfa fach i wella diogelwch ar y gyffordd yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol

Yr A494 Cyffordd Maes Gamedd  

Ystyried opsiynau amgen ar raddfa fach i wella diogelwch, yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol

Yr A48 Cross Hands i Bensarn

Yr A48 Gwelliannau i Gyffordd Nantycaws 

Ystyried newidiadau ar raddfa fach i wella diogelwch, yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol. Ni fydd yn cynnwys cynigion ar gyfer cyffordd aml-lefel.

Yr A44 Llangurig i Aberystwyth 

Parhau i ddatblygu cynlluniau diogelwch a chydnerthedd yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol

  • Yr A487 Dorglwyd Comins Coch 
  • Yr A40 Fferm Millbrook, Aberhonddu
  • Yr A470 Caersws 
  • Yr A487 Rhiwstaerdywyll 
  • Yr A487 Llwyn Mafon 
  • Yr A40 Coridor Caerfyrddin i Sanclêr
  • Yr A40 Coridor Caerfyrddin i Landeilo

Rhaglenni aml-ddull newydd ar lefel coridor

Yr A55, yr A494 a llwybrau eraill y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol

Yn unol ag unrhyw argymhellion perthnasol gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ac yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol

A494 Aston Hill 

Byddwn yn gweithio gyda'r Awdurdod Lleol i ddatblygu opsiynau i wella ansawdd aer ac i ategu newid dulliau teithio a chydnerthedd, yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol

Yr M4 – astudiaethau trafnidiaeth i ategu newid dulliau teithio

Yn unol â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol

Mae'r rhaglenni aml-ddull hyn ar lefel coridor yn cymryd lle'r cynlluniau a'r astudiaethau canlynol:

  • Yr A55 – Adolygiad o groesfan ar yr un lefel*
  • Yr A55 – Cyfyngiadau ar gerbydau arall yn pasio*
  • Yr A55 / A494 – Astudiaeth o Gydnerthedd y Rhwydwaith
  • Yr A55 Cyffyrdd 15 a 16 
  • Yr A55 Cyffyrdd 23 i 24 – Astudiaeth o’r Coridor
  • Yr A55 Cyffyrdd 24 i 29 – Astudiaeth o’r Coridor
  • Yr A55 Cyffyrdd 29 i 33b
  • Yr A55 Cyffyrdd 32 i 33
  • Yr A55 Cyffyrdd 30 i 32a– Astudiaeth o’r Coridor*
  • Gwella Coridor Sir y Fflint
  • Yr A55 Cyffyrdd 33b Ewloe i A494 Cyfnewidfa Queensferry
  • Yr M4 Cyffyrdd 32 i 35 a'r A470 Coryton i Ferthyr 
  • Yr M4 C35 i 38 Pen-y-bont ar Ogwr
  • Yr M4 C38 i 43 Port Talbot
  • Yr M4 J43 i 47 Abertawe 

*Astudiaethau yn eu camau cynnar nas adolygwyd gan y Panel Adolygu Ffyrdd

Nid yw'r prosiect yn mynd rhagddo ar unrhyw ffurf ar yr adeg hon

  • Yr A470 Alltmawr (Fferm Chapel House)
  • Yr A5/ A483 Cylchfan Halton
  • Coridor Twf Caer-Brychdyn (Gogledd Cymru)
  • Cynlluniau Diogelwch Canolbarth Cymru yr A470 Llangurig, yr A470 Llanidloes, yr A470 Pont y Bat (Felinfach), yr A487 Llanrhystyd, yr A487 Machynlleth, yr A487 i'r Gogledd o Aberarth

Cynlluniau Awdurdodau Lleol 

Bydd datblygu cynlluniau awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn rowndiau cyllido grantiau trafnidiaeth yn y dyfodol, yn ddarostyngedig i fodloni'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol a'n hymrwymiadau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Gwnaeth adroddiad terfynol y Panel Adolygu Ffyrdd argymhellion ynghylch y cynlluniau canlynol:

  • Coridor Trafnidiaeth Dwyreiniol Caerdydd
  • Gwelliannau i Gerbytffordd Cymer
  • Addasu Ffordd yr Arfordir a Gwyro’r A487 yn Niwgwl
  • Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Cyswllt Ddinesig y Gogledd, Abertawe
  • Porth Gogleddol Cwm Cynon
  • Ffordd Osgoi Llanharan 2021 – 2026
  • Mynediad i Gyffyrdd Twnnel Hafren
  • Metro’r Gogledd – Gwella Tagfeydd yng Nghanol Tref Abergele
  • Metro’r Gogledd – Gwella Tagfeydd yn Llandudno Cam 4
  • Yr A469 Troedrhiwfuwch
  • Ffordd Aber-big, Blaenau Gwent

Ni chafodd y cynlluniau canlynol eu hadolygu gan y Panel:

  • Gwelliannau i Rwydwaith Ardal Drefol Llanelli a’r Llain Arfordirol (C48)
  • Coridorau Trafnidiaeth Gyhoeddus Strategol Sir Gaerfyrddin 
  • A4119 Ffordd Ddeuol Coed Elái 

Yn flaenorol gwnaeth Cadeirydd y Panel Adolygu Ffyrdd argymhellion ynghylch y cynllun canlynol a gafodd eu derbyn gan Lywodraeth Cymru:

  • Ffordd Osgoi a Ffordd Fynediad Llanbedr

Cynlluniau datblygu economaidd

  • Cafodd sampl fach o dri chynllun datblygu tir (Parc Busnes Celtaidd, Abergwaun; Llanfrechfa, Cwmbran; Warren Hall, Sir y Fflint) eu hadolygu am fod Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig drwy gyllid neu fod yn berchen ar y tir.
  • Ni wnaeth y Panel unrhyw argymhellion ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn neu beidio. Yn hytrach, defnyddiwyd y sampl i lywio cyngor y Panel ar fuddsoddi yn y ffyrdd yn y dyfodol.
  • Er mwyn helpu i roi'r rhain a chynlluniau datblygu economaidd eraill ar waith, rydyn ni wedi gofyn i'r Cynghorydd Anthony Hunt a'r Cynghorydd Llinos arwain grŵp i ddatblygu arweiniad ar gyflawni datblygiadau'n seiliedig ar leoedd, wedi'u galluogi gan atebion trafnidiaeth sy'n cefnogi twf economi ffyniannus, werdd a chyfartal ac sy'n cyd-fynd â'r meini prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd yn y dyfodol a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.