Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn pennu naw cyswllt â gweithwyr iechyd proffesiynol, ar bwyntiau penodol, ar gyfer plant yng Nghymru rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed. Dylai byrddau iechyd lleol gynnig y cysylltiadau hyn i bob plentyn yng Nghymru.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn darparu ystadegau cryno ar y cysylltiadau a dderbyniodd plant drwy’r rhaglen yn 2021. Mae hefyd yn cynnig dadansoddiadau o dueddiadau mwy hirdymor, gan ddefnyddio data chwarterol sydd eisoes ar gael ar StatsCymru.

Ffynhonnell y data yw'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) sy'n cael ei chynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Caiff data ar gyfer y rhaglen ei gasglu gan ddefnyddio system seiliedig ar bapur, sy'n cyfyngu ar gywirdeb y data a gesglir. Yn benodol, mae'r broses hon yn effeithio ar y cysylltiadau 6 wythnos ac 8 wythnos. Mae ansawdd y data a gesglir yn ddigonol i ddangos darlun eang o’r rhaglen ond mae'n debygol ei fod yn rhoi cyfrif ychydig yn is na chyfanswm y cysylltiadau a ddigwyddodd. Mae rhagor o fanylion am y rhaglen a ffynhonnell y data ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Effeithiodd pandemig COVID-19 yn sylweddol ar y rhaglen yn 2020, er i'r mwyafrif o gysylltiadau gael eu cynnal 'fel arfer' yn 2021. Darperir manylion penodol am sut yr effeithiwyd ar y rhaglen yn 2020 yn natganiad ystadegol y llynedd.

Prif bwyntiau

  • Yn dilyn effeithiau pandemig COVID-19 yn 2020, fe wnaeth nifer cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru a gofnodwyd yn 2021 ddychwelyd i’r niferoedd a welwyd cyn y pandemig, gyda mwy na 203,000 yn digwydd ledled Cymru.
  • O'r holl gysylltiadau a ddylai fod wedi cael eu cynnig i bob plentyn rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed yn ystod y flwyddyn, cofnodwyd bod 78% ohonynt wedi cael eu cwblhau. Roedd hyn 12 pwynt canran yn uwch nag yn 2020, a'r ganran uchaf ers dechrau'r rhaglen. 
  • Mae cyfraddau cwblhau’r cysylltiadau yn parhau i amrywio'n fawr rhwng pob pwynt cyswllt. Yn ystod y flwyddyn cafodd cyswllt cyntaf 94% o blant rhwng 10-14 oed ei gofnodi, o'i gymharu â 67% o blant oedd yn gymwys i gael y cyswllt 3.5 mlynedd.
  • Er mai canran y cysylltiadau a gwblhawyd oedd yr uchaf i’w chofnodi yn 2021, gostyngodd y ganran yn ystod dau chwarter olaf y flwyddyn yn y rhan fwyaf o’r pwyntiau cyswllt.
  • Ni chafodd dros 58,000 o gysylltiadau a ddylai fod wedi cael eu cynnig eu cofnodi fel rhai oedd wedi digwydd. Mewn bron i 7 o bob 10 o'r achosion hyn ni chafodd apwyntiad ei gofnodi ar y system; mewn bron i 2 o bob 10 o achosion, y rheswm dros y diffyg cyswllt oedd colli data neu ddata annilys; ac mewn ychydig dros 1 o bob 10 achos, cafodd apwyntiad ei wneud ond ni ddaethpwyd â'r plentyn iddo.
  • Cafodd y rhan fwyaf o'r holl gysylltiadau (73%) eu gwneud o fewn yr ystodau oedran penodedig, er bod rhywfaint o amrywiaeth rhwng pwyntiau cyswllt. Lle digwyddodd cyswllt y tu allan i'r ystod oedran, roedd yn bennaf pan oedd y plentyn yn iau na'r trothwy oedran is.

Crynodeb blynyddol o Raglen Plant Iach Cymru

Tabl 1: Crynodeb o Raglen Plant Iach Cymru, 2021
Cyswllt Plant cymwys Wedi cael cyswllt % a gafodd gyswllt
10-14 diwrnod 28,636 26,909 94%
6 wythnos 28,315 23,718 84%
8 wythnos 28,231 21,181 75%
12 wythnos 27,988 18,854 67%
16 wythnos 27,945 18,910 68%
6 mis 27,972 24,228 87%
15 mis 29,149 23,653 81%
27 mis 30,363 24,002 79%
3.5 mlwydd 32,507 21,634 67%
Cyfanswm y cysylltiadau 261,106 203,089 78%

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)

Nifer blynyddol y plant sy'n gymwys o dan Raglen Plant Iach Cymru, y cysylltiadau a gwblhawyd a’r gyfradd gwblhau yn ôl oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 1: Cyfradd cwblhau flynyddol Rhaglen Plant Iach Cymru, 2017 i 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos bod canran y cysylltiadau a gwblhawyd wedi cynyddu ers dechrau'r rhaglen.

Canran flynyddol y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau Plant Iach Cymru, yn ôl yr awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn byw ar StatsCymru

Mae plentyn yn gymwys i gael cyswllt pan fydd yn cyrraedd oedran pob pwynt cyswllt. Er enghraifft, daw plentyn yn gymwys ar gyfer y cyswllt 3.5 mlynedd pan fydd yn cyrraedd 3.5 mlwydd oed. ‘Cysylltiad wedi’i gwblhau’ yw un lle mae plentyn cymwys yn cael cyswllt drwy'r rhaglen, a hwnnw wedyn yn cael ei gofnodi yn y system iechyd plant. Y 'gyfradd gwblhau' yw nifer y cysylltiadau a gwblhawyd wedi'u rhannu â nifer y cysylltiadau a ddylai fod wedi'u cynnig.

Yn 2021, cafwyd dros 203,000 o gysylltiadau ar gyfer plant cymwys, sy'n cyfateb i 78% o'r holl gysylltiadau y dylid fod wedi eu cynnig. Dyma'r gyfradd cwblhau cysylltiadau uchaf mewn unrhyw flwyddyn ers i'r rhaglen ddechrau ac mae'n parhau â'r duedd ar i fyny yn y tymor hwy, yn dilyn gostyngiad yn 2020 (a oedd yn bennaf oherwydd pandemig COVID-19).

Roedd y gyfradd gwblhau yn amrywio'n fawr o un pwynt cyswllt i’r llall. Cynhaliwyd tua 19 o bob 20 o’r cysylltiadau gyda phlant a ddylai fod wedi cael cynnig cysylltiadau pan oeddent rhwng 10 a 14 oed, y gyfradd gwblhau uchaf o unrhyw gyswllt. Mae hyn yn cymharu â thua 13 o bob 20 o gysylltiadau a gynhaliwyd gyda phlant a ddylai fod wedi cael cynnig cysylltiad pan oeddent yn 3.5 mlwydd oed, y gyfradd cwblhau isaf o unrhyw gyswllt.

Mae Ffigur 2 yn dangos cyfresi amser y gyfradd cwblhau cyswllt, gan ddefnyddio data chwarterol o ddechrau'r rhaglen ar bob pwynt cyswllt. Gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael esboniad ynghylch pam y gallai cyfraddau cwblhau chwarterol a blynyddol fod yn wahanol.

Ffigur 2: Cyfraddau cwblhau cysylltiadau ar bob pwynt cyswllt, fesul chwarter, Hydref 2016 i Ragfyr 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 2: Pedair siart linell sy'n dangos bod canran y plant cymwys a gafodd gysylltiadau ar bob pwynt wedi cynyddu ers dechrau'r rhaglen. Roedd cwymp amlwg yn ystod y pandemig ar gyfer y rhan fwyaf o bwyntiau cyswllt yn 2020, ond mae'r cyfraddau cwblhau ar bob pwynt cyswllt wedi gwella ers hynny.

Canran y plant cymwys sydd â chysylltiadau Plant Iach Cymru wedi'u cofnodi, fesul chwarter ar StatsCymru

[Nodyn 1] Sylwer y gallai canran wirioneddol y plant cymwys sy'n cael cyswllt yn 8 wythnos oed fod yn uwch na'r niferoedd a gyflwynir oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai cysylltiadau gan ymwelwyr iechyd yn 8 wythnos oed wedi'u cofnodi ar ffurflen gyswllt 6 wythnos; gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion.

[Nodyn) Sylwer y bydd rhai plant yn cael eu cyfrif sawl gwaith bob chwarter yn y siart 'cyfanswm cysylltiadau’. Y rheswm am hyn yw mai dyma gyfanswm yr holl gysylltiadau unigol ac mae’n bosibl fod plentyn unigol wedi bod yn gymwys i gael cysylltiadau lluosog yn ystod un chwarter.

Mae'r holl gysylltiadau a gynigir drwy Raglen Plant Iach Cymru yn wirfoddol, felly mae dewis personol yn effeithio ar ganran y plant cymwys sy'n cael cyswllt.

Ar y cyfan, mae tueddiad mwy hirdymor ar i fyny yng nghanran y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau. Mae effaith pandemig COVID-19 yn glir yn 2020, ond fe wnaeth y rhaglen ymadfer yn 2021 ac roedd canran y plant a oedd yn cael cysylltiadau ar lefel eithaf tebyg i'r chwarteri ychydig cyn y pandemig.

Cafodd cysylltiadau 10 i 14 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis eu blaenoriaethu yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar wahanol adegau yn ystod tonnau'r pandemig. Mae'r data ar gyfer y cysylltiadau hyn yn dangos llai o ostyngiad yng nghanran y plant a gafodd gysylltiadau yn 2020 na'r holl bwyntiau cyswllt eraill.

Er bod canran gyffredinol y plant a gafodd gysylltiadau yn uwch nag mewn unrhyw flwyddyn arall yn 2021, mae'r ddau chwarter olaf yn dangos tuedd ychydig ar i lawr yn y mwyafrif o gysylltiadau.

Rhesymau dros beidio â chael cyswllt

Dylid anfon gwahoddiad at bob plentyn cymwys ledled Cymru ar gyfer pob cyswllt naill ai'n uniongyrchol drwy'r post (ar gyfer cysylltiadau sy'n cyd-fynd ag imiwneiddiadau, cyn belled ag y rhoddir caniatâd i wneud hynny) neu drwy eu hymwelydd iechyd ar gyfer cysylltiadau dan arweiniad yr ymwelydd iechyd. Os na ddigwyddodd unrhyw gyswllt, cofnodir y rheswm yn y system iechyd plant.

Ffigur 3: Rheswm dros beidio â chysylltu, pob cyswllt gyda'i gilydd, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart colofnau yn dangos nad oedd apwyntiad wedi’i gofnodi ar gyfer y mwyafrif o gysylltiadau na ddigwyddodd

Canran flynyddol o gysylltiadau anghyflawn Rhaglen Plant Cymru Iach yn ôl rheswm ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Yn ystod 2021 roedd ychydig dros 58,000 o gysylltiadau na chafodd eu cwblhau yn ôl cofnodion y system iechyd plant. Bydd hyn naill ai oherwydd:

  • na chynigiwyd cysylltiadau gan fyrddau iechyd am nad oedd ganddynt y gallu i'w cynnig;
  • cynigiwyd cysylltiadau ond ni fanteisiodd rhieni’r plant cymwys arnynt; neu
  • digwyddodd y cysylltiadau, ond ni chafodd y ffurflen casglu data ei llenwi na’i rhoi yn y system iechyd plant.

Roedd gan 81% o'r cysylltiadau anghyflawn wybodaeth wedi'i chofnodi ar y system yn nodi pam na chofnodwyd cyswllt. Roedd mwyafrif (68%) y cysylltiadau heb eu gwneud am nad oedd cofnod bod apwyntiad wedi’i wneud. Pan wnaed apwyntiad, y prif reswm pam na ddigwyddodd y cyswllt oedd oherwydd na ddaethpwyd â’r plentyn i’r apwyntiad (12%).

Cysylltiadau o fewn ystod oedran y rhaglen, 2021

Er bod Rhaglen Plant Iach Cymru wedi'i chynllunio er mwyn i blant gael cyswllt ar oedrannau penodol, yn ymarferol mae gan bob pwynt cyswllt drothwy oedran isaf ac uchaf ar gyfer cyswllt. Pennwyd y trothwyon hyn gan Benaethiaid Ymwelwyr Iechyd byrddau iechyd lleol ac fe'u dangosir yn Nhabl 2.

Tabl 2: Trothwyon oedran cyswllt Rhaglen Plant Iach Cymru
Cyswllt Oedran lleiaf Oedran mwyaf
Cyswllt 10-14 diwrnod 10 diwrnod 14 diwrnod
Archwiliad corfforol 6 wythnos 6 wythnos 12 wythnos
Pwyso a mesur 8 wythnos 8 wythnos 12 wythnos
Pwyso a mesur 12 wythnos 12 wythnos 16 wythnos
Pwyso a mesur 16 wythnos 16 wythnos  20 wythnos
Cyswllt 6 mis 26 wythnos 35 wythnos
Cyswllt ymwelydd iechyd 15 mis 65 wythnos 78 wythnos
Cyswllt ymwelydd iechyd 27 mis 117 wythnos 130 wythnos
Cyswllt 3.5 mlwydd cyn ysgol 185 wythnos 208 wythnos

Ffigur 4: Canran y cysylltiadau a ddigwyddodd o fewn yr ystod oedran, o dan yr oedran isaf ac yn uwch na’r oedran uchaf, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar sy'n dangos bod y rhan fwyaf o gysylltiadau wedi digwydd o fewn yr ystodau oedran penodedig.

Canran flynyddol y cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru a gynhaliwyd o fewn yr ystodau oedran ar StatsCymru

Cafodd y rhan fwyaf o'r holl gysylltiadau (73%) eu gwneud o fewn yr ystod oedran penodedig, er bod rhywfaint o wahaniaethau rhwng pwyntiau cyswllt.

Pan oedd plant yn cael eu cyswllt y tu allan i'r trothwy oedran, roedd hyn yn bennaf cyn yr oedran isaf ym mhob pwynt cyswllt, ar wahân i'r cyswllt 10 i 14 diwrnod. Y ganran fwyaf o blant na chafodd eu gweld o fewn yr ystod oedran yw 3.5 mlwydd oed, lle cafodd 56% eu cyswllt cyn y trothwy oedran isaf.

Dechrau'n Deg

Rhaglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae wedi’i thargedu at deuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig. Mae'r rhaglen yn ategu Rhaglen Plant Iach Cymru ac yn cynnig gwell gwasanaethau ymwelydd iechyd drwy ymweliadau ychwanegol ar 24+ wythnos y beichiogrwydd, o enedigaeth y babi i chwech wythnos oed, a rhwng 9 a 12 mis oed a 18 a 24 mis oed.

Cyhoeddir ystadegau blynyddol sy'n disgrifio gweithgarwch ym meysydd rhaglen Dechrau'n Deg yn ogystal â chanlyniadau i blant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd eraill: Dechrau'n Deg: ystadegau cryno.

Ffigur 5: Rhaglen Plant Iach Cymru - cyfradd cwblhau cysylltiadau ar gyfer pob cyswllt yn y chwarter, trigolion Dechrau'n Deg a thrigolion nad ydynt yn rhan o Dechrau'n Deg, Hyd-Rhag 2016 i Hyd-Rhag 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart colofnau sy'n dangos bod y gyfradd gwblhau ar gyfer cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru wedi bod yn debyg ar gyfer plant sy'n byw yn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn ardaloedd Dechrau'n Deg ar gyfer y rhan fwyaf o'r rhaglen.

Canran y plant cymwys â chysylltiadau Plant Iach Cymru sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg, fesul chwarter ar StatsCymru

Pan gyflwynwyd Rhaglen Plant Iach Cymru i ddechrau, roedd y gyfradd cwblhau cysylltiadau yn is ar gyfer plant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, o'i chymharu â phlant sy'n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg. Roedd hyn i’w ddisgwyl gan fod y ddwy raglen yn cyd-fynd â'i gilydd. Ers canol 2017, ychydig iawn o wahaniaeth sydd wedi bod rhwng y cyfraddau cwblhau ar gyfer plant sy'n byw yn y ddwy ardal.

Yn chwarter olaf 2021, canran y plant cymwys y cofnodwyd eu bod wedi cael eu cyswllt oedd 73% mewn ardaloedd Dechrau'n Deg a 74% mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg.

Crynodeb o'r bwrdd iechyd lleol

Mae'r rhaglen yn cael ei rhoi ar waith gan saith bwrdd iechyd lleol Cymru. Mae'r gyfradd cwblhau cysylltiadau yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd ac mae data ar gyfer blwyddyn galendr 2021 yn cael ei ddangos yn Ffigurau 6 i 14.

Cyfradd cwblhau cysylltiadau ar bob pwynt cyswllt, yn ôl bwrdd iechyd, 2021

Ffigur 6: Cyswllt yn 10 i 14 diwrnod oed

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart colofnau sy'n dangos bod y gyfradd gwblhau ar gyfer cysylltiadau rhwng 10 a 14 diwrnod oed yn 90% neu'n fwy ar gyfer yr holl fyrddau iechyd.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 7: Archwiliad corfforol yn 6 wythnos oed (gyda meddyg teulu)

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart colofnau sy’n dangos bod y gyfradd gwblhau ar gyfer yr apwyntiad meddyg teulu yn 6 wythnos oed yn agos i gyfartaledd Cymru yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, ond yn sylweddol uwch ym Mhowys ac yn sylweddol is yng Nghaerdydd a'r Fro.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, gyn ôl darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 8: Pwysau a mesur yn 8 wythnos oed [Nodyn 1]

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart colofnau sy'n dangos bod gan bedwar bwrdd iechyd (Betsi Cadwaladr, Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg a Phowys) gyfraddau cwblhau o fwy na 80%; roedd y gyfradd yn Hywel Dda yn hafal i gyfartaledd Cymru (75%); tra bod y gyfradd yng Nghaerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan yn is na 70%.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

[Nodyn 1] Sylwer y gallai canran wirioneddol y plant cymwys sy'n cael cyswllt yn 8 wythnos oed fod yn uwch na'r niferoedd a gyflwynir oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai cysylltiadau gan ymwelwyr iechyd yn 8 wythnos oed wedi'u cofnodi ar ffurflen gyswllt 6 wythnos; gweler yr wybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion.

Ffigur 9: Pwysau a mesur yn 12 wythnos oed

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart colofnau sy'n dangos bod gan bedwar bwrdd iechyd (Cwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe, Betsi Cadwaladr, a Phowys)  gyfraddau cwblhau o fwy na 77%; roedd y gyfradd yn Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro yn agos i gyfartaledd Cymru (67%); tra bod y gyfradd yn Aneurin Bevan yn 32%.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl  darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 10: Pwysau a mesur yn 16 wythnos oed

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart colofnau sy'n dangos bod gan bedwar bwrdd iechyd (Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg, Bae Abertawe, a Phowys) gyfraddau cwblhau cyfraddau o fwy na 77%; roedd y gyfradd yn Hywel Dda a Chaerdydd a'r Fro yn agos i gyfartaledd Cymru (68%); tra bod y gyfradd yn Aneurin Bevan yn is na 30%.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl  darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 11: Cyswllt yn 6 mis oed

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart colofnau yn dangos bod y gyfradd gwblhau yn 6 mis oed yn 90% neu'n fwy mewn tri bwrdd iechyd (Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr); bod tri bwrdd iechyd arall (Hywel Dda, Powys ac Aneurin Bevan) yn agos at gyfartaledd Cymru (87%); ac mai Caerdydd a'r Fro oedd yr unig fwrdd iechyd a chanddo gyfradd gwblhau o lai nag 80%.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl  darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 12: Cyswllt yn 15 mis oed

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart colofnau sy’n dangos bod y gyfradd gwblhau yn 15 mis oed yn 80% neu'n fwy mewn pedwar bwrdd iechyd (Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg, Aneurin Bevan a Powys); bod gan ddau fwrdd iechyd arall gyfraddau ychydig yn is nag 80% (Bae Abertawe a Hywel Dda); tra bod gan Gaerdydd a'r Fro gyfradd gwblhau o 73%.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl  darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 13: Cyswllt yn 27 mis oed

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart colofnau yn dangos bod y gyfradd gwblhau yn 27 mis oed yn 80% neu'n fwy mewn tri bwrdd iechyd (Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg a Phowys); bod gan ddau fwrdd iechyd arall gyfraddau ychydig yn is na chyfartaledd Cymru o 79% (Bae Abertawe ac Aneurin Bevan; tra bod gan Hywel Dda a Chaerdydd a’r Fro gyfradd gwblhau o 73% neu’n is.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl  darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Ffigur 14: Cyswllt yn 3.5 oed (cyn ysgol)

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart colofnau yn dangos bod y gyfradd gwblhau yn 3.5 mlwydd oed yn agos at 80% mewn dau fwrdd iechyd (Powys a Betsi Cadwaladr); yn agos at gyfartaledd Cymru (67%) mewn tri bwrdd iechyd (Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan); ac yn agos at 50% yn y ddau fwrdd iechyd arall (Hywel Dda ac Abertawe).

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl  darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt ar StatsCymru

Mae ffigurau 6 i 14 yn dangos bod y cyfraddau cwblhau yn amrywio'n fawr rhwng pwyntiau cyswllt a rhwng y byrddau iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth.

Er bod amrywiaeth, mae gan rai byrddau iechyd gyfraddau cwblhau uwch na’i gilydd yn gyson. Mae gan Gwm Taf Morgannwg a Betsi Cadwaladr gyfraddau cwblhau sy’n uwch na chyfartaledd Cymru ar bob pwynt cyswllt, tra bod gan Fae Abertawe a Phowys gyfraddau cwblhau sy’n uwch na chyfartaledd Cymru ar 6 o'r 9 oedran cyswllt. Mae gan Hywel Dda, Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan gyfraddau uwch na chyfartaledd Cymru ar 3 neu lai o bwyntiau cyswllt.

Cyhoeddir data sy'n seiliedig ar awdurdod lleol preswyl y plentyn hefyd ar StatsCymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Plant Iach Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Monitro'r rhaglen a'r ffynhonnell ddata

Cefnogir y rhaglen gan system iechyd plant, a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'r system yn galluogi byrddau iechyd i drefnu cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn darparu ffurflen casglu data cyson ar gyfer pob cyswllt, a seilwaith digidol cyson ar gyfer cofnodi data. Mae'r data sy'n cael ei gasglu yn cefnogi polisïau sydd âr nod o wella iechyd plant ledled Cymru.

Daw data’r rhaglen o’r NCCHD, sy’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae'n dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data'r system iechyd plant a gedwir gan fyrddau iechyd lleol. Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol i sefydlu set ddata ar gyfer cysylltiadau’r rhaglen â phlant rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed. Caiff y data ei gasglu gan ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar ffurflenni papur sy'n cael eu cyflwyno i staff gweinyddol sy'n rhoi data â llaw yn y system iechyd plant.  Caiff yr NCCHD ei diweddaru ar sail cronfeydd data’r systemau iechyd plant lleol bob chwarter (diwedd Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref).

Sylwer mai dim ond data o’r NCCHD sy'n cael ei ddadansoddi yma ac nad yw cysylltiadau’r Rhaglen Plant Iach cyn 10 diwrnod oed ac ar ôl 3.5 oed yn cael eu hadrodd yn y datganiad hwn. Mae elfennau allweddol y rhaglen yn cael eu hadrodd mewn mannau eraill:

Mesur cwmpas y rhaglen

Er mwyn mesur sut mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu ar gyfer plant sy'n byw yng Nghymru gan ddefnyddio'r NCCHD, defnyddiwyd y fethodoleg ganlynol:

  • Nodi plant cymwys priodol yn ystod y cyfnod ar gyfer pob cysylltiad. Er enghraifft, o ran y cyswllt 10 i 14 diwrnod oed, rydym wedi edrych ar bob plentyn yng Nghymru sy’n dod yn 10 diwrnod oed yn ystod y chwarter
  • Ar gyfer y plant cymwys hyn rydym wedi cyfrif y cofnodion dilys ar gyfer pob un o gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru
  • Ceir chwarter blwyddyn o oedi wrth adrodd er mwyn caniatáu amser i gofnodi data yng nghronfeydd data'r systemau iechyd plant
  • Sylwer bod data blynyddol yn cael ei echdynnu ar yr un pryd â chwarter olaf y flwyddyn ac nad yw data ar gyfer y tri chwarter blaenorol yn y flwyddyn yn cael eu diwygio. Os cyflwynir data yn hwyr ar gyfer cysylltiadau a ddigwyddodd yn nau chwarter cyntaf y flwyddyn, caiff y rhain eu cyfrif yn y data blynyddol ond nid yn y data chwarterol o'r adeg pan ddigwyddodd y cysylltiadau. O ganlyniad mae'r gyfradd gwblhau flynyddol yn debygol o fod yn uwch na chyfraddau'r cyfraddau chwarterol cyfansoddol.

Rhoi’r rhaglen ar waith

Dim ond i gysylltiadau canlynol Rhaglen Plant Iach Cymru y mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn berthnasol:

  • cyswllt cartref ymwelwyr iechyd yn 10 i 14 diwrnod oed
  • cyswllt meddyg teulu yn 6 wythnos oed
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd (asesiad twf) yn 8, 12 ac 16 wythnos oed
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 6 mis oed
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 15 mis oed
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 27 mis oed
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 3.5 oed (cyn ysgol)

Ar ôl y cyswllt cartref cyntaf yn 10 i 14 diwrnod oed, gall cysylltiadau gwasanaeth ymwelwyr iechyd ddigwydd naill ai yn y cartref neu mewn clinigau, er y gellir cynnal cysylltiadau asesiadau twf hefyd mewn meddygfeydd. Mae'r archwiliad corfforol yn digwydd yn bennaf mewn meddygfeydd neu mewn clinigau.

Cwmpas

Mae’r ystadegau yn y datganiad yn ymwneud â chysylltiadau gan weithwyr iechyd proffesiynol â phlant sy'n byw yng Nghymru o'u genedigaeth i deirblwydd a hanner oed.

Mae problemau ansawdd data hysbys o ran y data a gesglir drwy Raglen Plant Iach Cymru. Un o'r materion yw y gall y system bapur arwain at dangyfrif mewn gweithgarwch gan ei bod yn dibynnu ar y gweithiwr iechyd proffesiynol yn llenwi'r ffurflen bapur yn gywir, yn ei chyflwyno i weinyddwr iechyd plant, sydd wedyn yn lanlwytho'r data i'r system iechyd plant. Gall y broses hon arwain at fewnbynnu data anghywir ar y ffurflen, ffurflenni'n cael eu cyflwyno'n hwyr neu ddim o gwbl a gwallau priodoli â llaw. Er bod y mwyafrif helaeth o gysylltiadau'n cael eu cofnodi'n gywir, mae'r broses hon yn golygu nad yw data'n cael ei gasglu ar gyfer pob plentyn yn ymarferol.

Mae materion penodol sy'n effeithio ar y cysylltiadau 6 ac 8 wythnos. Y cysylltiadau 6 wythnos yw lle mae archwiliad corfforol o'r llygaid, y galon, y ceilliau, y cluniau a'r iechyd cyffredinol yn digwydd a dylai meddyg teulu neu bediatrydd wneud hynny. Dengys data a gofnodwyd yn NCCHD fod tua 80% o'r cysylltiadau hyn wedi digwydd ers cyflwyno'r rhaglen; fodd bynnag, mae adborth gan fyrddau iechyd yn awgrymu bod pob plentyn yn cael cynnig y cyswllt hwn a bod bron pob plentyn yn cael y cyswllt. Yn dilyn ymchwiliad i'r data, roedd yn amlwg bod rhai meddygon teulu wedi cofnodi'r cysylltiadau ar eu systemau meddygon teulu, ond heb gofnodi'r wybodaeth ar ffurflen casglu data Rhaglen Plant Iach Cymru, felly ni fydd yn bresennol yn yr NCCHD.

Yn ogystal, mae'r cyswllt 8 wythnos â'r ymwelydd iechyd yn aml yn digwydd ar yr un pryd â'r cyswllt meddyg teulu 6 wythnos, ond er mwyn cael ei gofnodi yn yr NCCHD, mae angen cyflwyno ffurflenni casglu data ar wahân ar gyfer pob cyswllt. Gall hyn arwain at gyflwyno nifer o ffurflenni cyswllt 6 wythnos gan yr ymwelydd iechyd yn hytrach na'r ffurflen gyswllt 8 wythnos. Felly mae nifer y cysylltiadau 8 wythnos yn yr NCCHD yn is na nifer y cysylltiadau sy'n digwydd yn ymarferol.

Mae cysylltiadau ymwelwyr iechyd sy'n cyd-fynd ag apwyntiadau brechu plentyndod hefyd yn awgrymu bod y gweithgarwch a gofnodir yn yr NCCHD wedi’i dangyfrif. Mae apwyntiadau brechu (sy'n cael eu gwneud yn nodweddiadol gan nyrs ymarfer cyffredinol) fel arfer yn cael eu trefnu i ddigwydd ar yr un pryd ac mewn lleoliad â chysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru â'r ymwelydd iechyd; fodd bynnag mae cyfraddau brechu yn fwy na chyfradd y plant sy'n gymwys i gael cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru. 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n barhaus gyda byrddau iechyd a chydweithwyr gofal sylfaenol i wella ansawdd y data a gofnodir ym mhob cyswllt a'r gobaith yw y gellir cyflwyno system casglu data electronig yn y dyfodol i helpu gyda hyn.

Mynediad at ddata, cyfrinachedd a rheoli datgelu

Mae'r data y mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ei ddarparu i Lywodraeth Cymru yn ddienw fel nad yw'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy.

Mae’r ystadegau'n ystyried ein canllawiau rheoli datgelu ac yn dilyn canllawiau cyfrinachedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau iechyd, sydd ar gael yn: Canllawiau arferion gorau y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Diwygiadau

Mae’r NCCHD yn gronfa ddata fyw ac echdynnir data o'r gronfa ddata hon bob chwarter. Fel arfer, mae bwlch o 4 mis rhwng yr elfen sy'n cael ei chymryd a'r cyfnod cyfeirio (er enghraifft, bydd y data a echdynnwyd ym mis Ebrill ar gyfer y cyfnod cyfeirio Hydref-Rhag yn y flwyddyn flaenorol). Mae hyn er mwyn caniatáu i adrannau iechyd plant brosesu'r holl ffurflenni casglu data ar gyfer y cyfnod cyfeirio. Dim ond ar gyfer y chwarter diweddaraf y caiff data eu hechdynnu, felly nid yw data ar gyfer pob chwarter blaenorol yn cael eu diwygio fel trefn arferol. Pe bai data ar gyfer cyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol yn cael eu hechdynnu ar unrhyw adeg ar ôl eu dyddiad echdynnu arferol, gallai’r niferoedd fod ychydig yn wahanol i'r data cyhoeddedig oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai ffurflenni casglu data wedi’u prosesu’n hwyr iawn.

Ni chaiff data ar gyfer cyfnodau amser blaenorol eu diwygio oni bai bod gwallau'n cael eu darganfod. Pe bai data anghywir yn cael ei gyhoeddi, byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a’r defnyddwyr yn cael eu hysbysu.

Sut y gallai’r ystadegau hyn gael eu defnyddio?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • llywio trafodaeth yn y Senedd a thu hwnt
  • sicrhau bod data ar gael i'r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
  • monitro'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
  • ymchwil iechyd y cyhoedd
  • datblygu polisi

Defnyddwyr y data

Dyma brif ddefnyddwyr tebygol y data:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol
  • sefydliadau gofal sylfaenol
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • y cyhoedd
  • ysbytai preifat
  • sefydliadau'r GIG
  • sefydliadau genedigaeth gwirfoddol

Perthnasedd

Mae'r ystadegau'n rhoi cyfle i fonitro’r ffordd y mae Rhaglen Plant Iach Plant Cymru yn cael ei gweithredu ac i roi cipolwg ar broffil y blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Anogir defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â Llywodraeth Cymru i roi gwybod i ni sut maent yn defnyddio'r data.

Cysylltwyd â defnyddwyr allweddol cyn rhyddhau'r data hyn a byddwn yn parhau i gysylltu â nhw wrth i'r datganiad ystadegol ddatblygu. 

Bydd y datganiad yn cael ei addasu i ymateb i newidiadau polisi gan sicrhau bod ein ystadegau'n parhau'n berthnasol.

Cywirdeb

Mae problemau ansawdd data hysbys o ran y data sy’n cael eu casglu drwy'r rhaglen, ac esbonnir y rhan fwyaf ohonynt yn yr adran cwmpas.

Mae'r ffurflen casglu data yn cofnodi gwybodaeth am eitemau data ychwanegol megis anffurfio organau rhywiol menywod (FGM), yr oedran y daeth bwydo ar y fron i ben, yr oedran y cyflwynwyd bwydydd solet, ac amserlen sgiliau tyfu (SOGS). Fodd bynnag, nid yw'r un o'r eitemau data hyn yn cael eu cofnodi ar hyn o bryd gyda chywirdeb a chysondeb digonol i gyhoeddi data. 

Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio'n barhaus gyda’r byrddau iechyd i wella cyflawnrwydd ac ansawdd. Un rhan o’r gwaith hwn yw newid y ffurflen casglu data i'w gwneud yn haws i ymwelwyr iechyd lenwi a symud o bosibl i system casglu data ar-lein, yn hytrach na defnyddio'r broses bapur gyfredol sydd â llawer o gyfyngiadau.

Cyflawnrwydd

Er gwaethaf y materion yn ymwneud ag ansawdd data ac effaith y pandemig COVID-19, mae cyflawnrwydd y data yn amrywio ar draws rhai o'r eitemau data cyhoeddedig, ond mae'n ddigon uchel i gynhyrchu ystadegau swyddogol gyda nodiadau esboniadol. 

Mae'r broses gyfredol o gasglu data ar bapur yn dibynnu ar gwblhau ffurflenni casglu data yn gywir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a phrosesu amserol a phriodoli cywir gan weinyddwyr y system iechyd plant.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r NCCHD yn cael ei hadnewyddu ar sail data sy'n deillio o systemau iechyd plant lleol bob chwarter.

Yn aml, mae bwlch amser o ran anfon ffurflenni casglu data at weinyddwyr y system iechyd plant, felly caiff data ei dynnu o'r system fel arfer tua 4 mis ar ôl y cyfnod cyfeirio ac fe'i cyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, cyn gynted ag y bydd adnoddau'n caniatáu ond fel arfer o fewn 2 fis i dderbyn y data.

I ategu'r datganiad ystadegol blynyddol, cyhoeddir data chwarterol ar StatsCymru.

Hygyrchedd ac eglurder

Cyhoeddir yr ystadegau mewn modd hygyrch, trefnus, gyda chyhoeddiad ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae negeseuon RSS yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn. Cyhoeddir y datganiadau ar yr Hyb Cyhoeddi Ystadegau Gwladol yr un pryd hefyd. Rydym hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n hallbynnau ar Twitter. Gellir lawrlwytho'r holl ddatganiadau yn rhad ac am ddim.

Mae’r tablau data ar gael drwy StatsCymru bob chwarter.     

Defnyddir iaith glir yn ein hallbwn gymaint ag y bo modd ac mae’r holl allbynnau’n cadw at bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir ein holl benawdau ar dudalennau’r we yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â'r staff perthnasol y cyfeirir atynt yn y datganiad neu drwy ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Lle ceir newidiadau i'r data ffynhonnell a ddarperir, dangosir hyn yn yr allbynnau ystadegol. Lle gwyddys ymlaen llaw am newidiadau yn y dyfodol, bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru.

Mae data a gesglir o NCCHD yn cadw at safonau cenedlaethol ac maent yn gydlynol o fewn ac ar draws sefydliadau iechyd yng Nghymru.

Mae gan Loegr Raglen Plant Iach sy'n gynllun tebyg i Blant Iach Cymru.

Mae gan yr Alban Raglen Iechyd Plant sydd rywfaint yn wahanol i Raglen Plant Iach Cymru.

Mae ystadegau Gogledd Iwerddon ar iechyd y cyhoedd ar gael gan Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd Gogledd Iwerddon ac mae ystadegau’r boblogaeth ar gael gan y Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA).

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Y nodau hynny yw creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd wrth gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016, ac mae'r datganiad hwn yn cynnwys 1 o’r dangosyddion cenedlaethol, sef Canran y genedigaethau unigol byw â phwysau geni o dan 2.5kg.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 20/2023