Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn pennu naw cyswllt â gweithwyr iechyd proffesiynol, ar bwyntiau penodol, ar gyfer plant yng Nghymru rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed. Dylai byrddau iechyd lleol gynnig y cysylltiadau hyn i bob plentyn yng Nghymru. . 

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn darparu ystadegau cryno ar gyfraddau cwblhau’r cysylltiadau a dderbyniodd plant drwy’r rhaglen yn 2022. Mae hefyd yn cynnig dadansoddiadau o dueddiadau mwy hirdymor, gan ddefnyddio data chwarterol sydd eisoes ar gael ar StatsCymru (Rhaglen Plant Iach Cymru)

Ffynhonnell y data yw'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD) sy'n cael ei chynnal gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Caiff data ar gyfer y rhaglen eu casglu gan ddefnyddio system seiliedig ar bapur, sy'n cyfyngu ar gywirdeb y data a gesglir. Yn benodol, mae'r broses hon yn effeithio ar y cysylltiadau 6 wythnos ac 8 wythnos. Mae ansawdd y data a gesglir yn ddigonol i ddangos darlun eang o’r rhaglen ond mae'n debygol ei fod yn rhoi cyfrif ychydig yn is na chyfanswm y cysylltiadau a ddigwyddodd. Mae rhagor o fanylion am y rhaglen a ffynhonnell y data ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Effeithiodd pandemig COVID-19 yn sylweddol ar y rhaglen yn 2020, er i'r mwyafrif o gysylltiadau gael eu cynnal 'fel arfer' o 2021 ymlaen. Darperir manylion penodol am sut yr effeithiwyd ar y rhaglen yn 2020 yn natganiad ystadegol Rhaglen Plant Iach Cymru, Ionawr - Rhagfyr 2020.

Prif Bwyntiau

  • Cafodd ychydig o dan 200,000 o gysylltiadau’r Rhaglen Plant Iach Cymru eu cofnodi yn 2022, sy’n ostyngiad mewn cysylltiadau ers 2021.
  • O'r holl gysylltiadau a ddylai fod wedi cael eu cynnig i bob plentyn rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed yn ystod y flwyddyn, cofnodwyd bod 76% ohonynt wedi cael eu cwblhau. Roedd hyn 2 bwynt canran yn is nag yn 2021. 
  • Mae cyfraddau cwblhau’r cysylltiadau yn parhau i amrywio'n fawr rhwng pob pwynt cyswllt. Yn ystod y flwyddyn, cafodd cyswllt cyntaf 92% o blant rhwng 10 i 14 diwrnod oed ei gofnodi, o'i gymharu â 64% o blant rhwng 12 wythnos ac 16 wythnos oed, a 67% o blant oedd yn gymwys i gael y cyswllt 3.5 mlwydd oed.
  • Ni chafodd dros 62,000 o gysylltiadau a ddylai fod wedi cael eu cynnig eu cofnodi fel rhai oedd wedi digwydd. Mewn 66% o'r achosion hyn ni chafodd apwyntiad ei gofnodi ar y system; mewn 23% o’r achosion, y rheswm dros y diffyg cyswllt oedd colli data neu ddata annilys; ac mewn 10% o’r achosion, cafodd apwyntiad ei wneud ond ni ddaethpwyd â'r plentyn iddo. 

Crynodeb blynyddol o Raglen Plant Iach Cymru

Ffigur 1: Nifer y plant cymwys am gysylltiad dan Raglen Plant Iach Cymru, a nifer y cysylltiadau a dderbyniwyd, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far sy’n dangos, ar gyfartaledd, fod mwy o gysylltiadau wedi cael eu cwblhau adeg y cysylltiad 10 i 14 diwrnod nag ar unrhyw bwynt cyswllt arall.

Nifer blynyddol y plant sy'n gymwys dan Raglen Plant Iach Cymru, cysylltiadau a gwblhawyd a'r gyfradd gwblhau yn ôl oedran cyswllt (StatsCymru)

Ffigur 2: Cyfradd cwblhau flynyddol Rhaglen Plant Iach Cymru, 2017 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos bod canran y cysylltiadau a gwblhawyd wedi cynyddu’n gyson ar y cyfan ers dechrau'r rhaglen.

Canran flynyddol y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau Plant Iach Cymru, yn ôl yr awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn byw (StatsCymru)

Mae plentyn yn gymwys i gael cyswllt pan fydd yn cyrraedd oedran pob pwynt cyswllt. Er enghraifft, daw plentyn yn gymwys ar gyfer y cyswllt 3.5 mlynedd pan fydd yn cyrraedd 3.5 mlwydd oed. ‘Cysylltiad wedi’i gwblhau’ yw un lle mae plentyn cymwys yn cael cyswllt drwy'r rhaglen, a hwnnw wedyn yn cael ei gofnodi yn y system iechyd plant. Y 'gyfradd gwblhau' yw nifer y cysylltiadau a gwblhawyd wedi'u rhannu â nifer y cysylltiadau a ddylai fod wedi'u cynnig. 

Yn 2022, cafwyd dros 199,100 o gysylltiadau ar gyfer plant cymwys, sy'n cyfateb i 76% o'r holl gysylltiadau y dylid fod wedi eu cynnig. 

Roedd y gyfradd gwblhau yn amrywio'n fawr o un pwynt cyswllt i’r llall. Cynhaliwyd 92% o’r cysylltiadau (26,055 o 28,291) gyda phlant a ddylai fod wedi cael cynnig cysylltiadau pan oeddent yn 10 i 14 diwrnod oed, y gyfradd gwblhau uchaf o unrhyw gyswllt. Mae hyn yn cymharu â 64% o’r cysylltiadau a gynhaliwyd gyda phlant a ddylai fod wedi cael cynnig cysylltiad pan oeddent yn 12 wythnos (18,296 o 28,685) ac 16 wythnos oed (18,432 o 28,887), y cyfraddau cwblhau isaf o unrhyw gyswllt. Yn hanesyddol, roedd y gyfradd gwblhau isaf o blith yr holl gysylltiadau i’w chanfod yn achos y cysylltiad yn 3.5 mlwydd oed. Fodd bynnag, cafodd data blynyddol ar gyfer 2022 eu tynnu o’r system Iechyd Plant ar ddyddiad hwyrach na’r arfer, gan olygu bod data a gafodd eu cyflwyno yn hwyr wedi cael eu hystyried a allent, o bosibl, fod wedi cynyddu’r gyfradd gwblhau.

Mae nifer y plant cymwys a’r rheini a gafodd gysylltiad ar bob pwynt cyswllt i’w gweld ar StatsCymru.

Mae Ffigur 3 yn dangos cyfresi amser y gyfradd cwblhau cysylltiadau, gan ddefnyddio data o ddechrau'r rhaglen ar bob pwynt cyswllt. 

Ffigur 3: Cyfraddau cwblhau cysylltiadau ar bob pwynt cyswllt, 2017 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Dwy siart linell sy’n dangos bod canran y plant cymwys a gafodd gysylltiadau ar bob pwynt wedi cynyddu ar y cyfan ers dechrau'r rhaglen. Roedd cwymp amlwg yn ystod y pandemig ar gyfer y rhan fwyaf o bwyntiau cyswllt yn 2020, ond mae'r cyfraddau cwblhau ar bob pwynt cyswllt wedi gwella ers hynny. 

Canran y plant cymwys sydd â chysylltiadau Plant Iach Cymru wedi'u cofnodi, fesul chwarter (StatsCymru)

[Nodyn 1] Sylwer y gallai canran wirioneddol y plant cymwys sy'n cael cyswllt yn 8 wythnos oed fod yn uwch na'r niferoedd a gyflwynir oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai cysylltiadau gan ymwelwyr iechyd yn 8 wythnos oed wedi'u cofnodi ar ffurflen gyswllt 6 wythnos; gweler yr adran Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg i gael rhagor o fanylion.

Mae'r holl gysylltiadau a gynigir drwy Raglen Plant Iach Cymru yn wirfoddol, felly mae dewis personol yn effeithio ar ganran y plant cymwys sy'n cael cyswllt.

Ar y cyfan, mae tueddiad mwy hirdymor ar i fyny yng nghanran y plant cymwys sy'n cael cysylltiadau. Mae effaith pandemig COVID-19 yn glir yn 2020, ond gwnaeth y rhaglen adfer yn 2021 ac mae canran y plant sy’n cael cysylltiadau ers hynny wedi bod ar lefel eithaf tebyg i'r chwarteri ychydig cyn y pandemig. 

Cafodd cysylltiadau 10 i 14 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis eu blaenoriaethu yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar wahanol adegau yn ystod tonnau'r pandemig. Mae'r data ar gyfer y cysylltiadau hyn yn dangos llai o ostyngiad yng nghanran y plant a gafodd gysylltiadau yn 2020 na'r holl bwyntiau cyswllt eraill. 

Rhesymau dros beidio â chael cyswllt

Dylid anfon gwahoddiad at bob plentyn cymwys ledled Cymru ar gyfer pob cyswllt naill ai'n uniongyrchol drwy'r post (ar gyfer cysylltiadau sy'n cyd-fynd ag imiwneiddiadau, cyn belled ag y rhoddir caniatâd i wneud hynny) neu drwy eu hymwelydd iechyd ar gyfer cysylltiadau dan arweiniad yr ymwelydd iechyd. Os na ddigwyddodd unrhyw gyswllt, cofnodir y rheswm yn y system iechyd plant.

Ffigur 4: Rheswm dros beidio â chysylltu, pob cyswllt gyda'i gilydd, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart far sy’n dangos nad oedd apwyntiad wedi’i gofnodi ar gyfer y mwyafrif o gysylltiadau na ddigwyddodd

Canran flynyddol o gysylltiadau anghyflawn Rhaglen Plant Cymru Iach yn ôl rheswm ac oedran cyswllt (StatsCymru) 

Yn ystod 2022, roedd ychydig dros 62,000 o gysylltiadau na chafodd eu cwblhau yn ôl cofnodion y system iechyd plant. Roedd hyn yn gynnydd ers 2021 (58,000 heb eu cwblhau). 

Mae’n bosibl nad oedd rhai cysylltiadau wedi’u cwblhau am y rhesymau canlynol:

  • ni gynigiwyd cysylltiadau gan fyrddau iechyd am nad oedd ganddynt y gallu i'w cynnig;
  • cynigiwyd cysylltiadau ond ni fanteisiodd rhieni’r plant cymwys arnynt; neu
  • digwyddodd y cysylltiadau, ond ni chafodd y ffurflen casglu data ei llenwi na’i rhoi yn y system iechyd plant. 

Roedd gan 77% o'r cysylltiadau anghyflawn wybodaeth wedi'i chofnodi ar y system yn nodi pam na chofnodwyd cyswllt. Roedd mwyafrif (66%) y cysylltiadau heb eu gwneud am nad oedd cofnod bod apwyntiad wedi’i wneud. Pan wnaed apwyntiad, y prif reswm pam na ddigwyddodd y cyswllt oedd oherwydd na ddaethpwyd â’r plentyn i’r apwyntiad (10%).

Cysylltiadau o fewn ystod oedran y rhaglen, 2022

Er bod Rhaglen Plant Iach Cymru wedi'i chynllunio er mwyn i blant gael cyswllt ar oedrannau penodol, yn ymarferol mae gan bob pwynt cyswllt drothwy oedran isaf ac uchaf ar gyfer cynnal y cysylltiad. Dangosir y trothwyon hyn yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ffigur 5: Canran y cysylltiadau a ddigwyddodd o fewn yr ystod oedran, o dan yr oedran isaf ac yn uwch na’r oedran uchaf, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar sy'n dangos bod y rhan fwyaf o gysylltiadau wedi digwydd o fewn yr ystodau oedran penodedig. 

Canran flynyddol y cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru a gynhaliwyd o fewn yr ystodau oedran (StatsCymru)

Cafodd y rhan fwyaf o'r holl gysylltiadau (74%) eu gwneud o fewn yr ystod oedran penodedig, er bod rhywfaint o wahaniaethau rhwng pwyntiau cyswllt. 

Pan oedd plant yn cael eu cyswllt y tu allan i'r trothwy oedran, roedd hyn yn bennaf cyn yr oedran isaf ym mhob pwynt cyswllt, ar wahân i'r cyswllt 10 i 14 diwrnod. Y ganran fwyaf o blant na chafodd eu gweld o fewn yr ystod oedran yw 3.5 mlwydd oed, lle cafodd bron i hanner y plant gysylltiad cyn y trothwy oedran isaf. 

Dechrau'n Deg

Rhaglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae wedi’i thargedu at deuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig. Mae'r rhaglen yn ategu Rhaglen Plant Iach Cymru ac yn cynnig gwell gwasanaethau ymwelydd iechyd drwy ymweliadau ychwanegol ar 24+ wythnos y beichiogrwydd, o enedigaeth y babi i chwech wythnos oed, a rhwng 9 a 12 mis oed a 18 a 24 mis oed.

Cyhoeddir ystadegau blynyddol sy'n disgrifio gweithgarwch ym meysydd rhaglen Dechrau'n Deg yn ogystal â chanlyniadau i blant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd eraill: Dechrau'n Deg: ystadegau cryno.

Pan gyflwynwyd Rhaglen Plant Iach Cymru i ddechrau, roedd y gyfradd cwblhau cysylltiadau yn is ar gyfer plant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg, o'i chymharu â phlant sy'n byw mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg. Roedd hyn i’w ddisgwyl gan fod y ddwy raglen yn cyd-fynd â'i gilydd. Ers canol 2017, ychydig iawn o wahaniaeth sydd wedi bod rhwng y cyfraddau cwblhau ar gyfer plant sy'n byw yn y ddwy ardal. 

Yn chwarter olaf 2022, canran y plant cymwys y cofnodwyd eu bod wedi cael eu cyswllt oedd 70% mewn ardaloedd Dechrau'n Deg a 73% mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg. 

Canran y plant cymwys â chysylltiadau Plant Iach Cymru sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg, fesul chwarter (StatsCymru)

Crynodeb byrddau iechyd lleol

Mae'r rhaglen yn cael ei rhoi ar waith gan saith bwrdd iechyd lleol Cymru. Mae'r gyfradd cwblhau cysylltiadau yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd ac mae data ar gyfer blwyddyn galendr 2021 yn cael ei ddangos yn Ffigur 6.

Ffigur 6: Cyfradd cwblhau cysylltiadau ar bob pwynt cyswllt (canran y plant cymwys), yn ôl bwrdd iechyd, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Naw siart far sy’n dangos y cyfraddau cwblhau ar gyfer y gwahanol bwyntiau cyswllt.

Cyfradd gwblhau flynyddol cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn ôl darparwr bwrdd iechyd ac oedran cyswllt (StatsCymru)

[Nodyn 1] Sylwer y gallai canran wirioneddol y plant cymwys sy'n cael cyswllt yn 8 wythnos oed fod yn uwch na'r niferoedd a gyflwynir oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai cysylltiadau gan ymwelwyr iechyd yn 8 wythnos oed wedi'u cofnodi ar ffurflen gyswllt 6 wythnos; gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion.

Mae ffigur 6 yn dangos bod y cyfraddau cwblhau yn amrywio'n fawr rhwng pwyntiau cyswllt a rhwng y byrddau iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth.

Er bod amrywiaeth, mae gan rai byrddau iechyd gyfraddau cwblhau uwch na’i gilydd yn gyson. Mae gan Gwm Taf Morgannwg gyfraddau cwblhau sy’n uwch na chyfartaledd Cymru ar bob pwynt cyswllt, tra bod gan Betsi Cadwaladr a Bae Abertawe gyfraddau cwblhau sy’n uwch na chyfartaledd Cymru ar 8 o'r 9 oedran cyswllt. Mae gan Hywel Dda, ac Aneurin Bevan gyfraddau cwblhau uwch na chyfartaledd Cymru ar 1 pwynt cyswllt yn unig. Mae gan Aneurin Bevan gyfraddau cwblhau arbennig o isel ar y pwyntiau cyswllt 8, 12 ac 16 wythnos o ganlyniad i anawsterau gyda’r gweithlu.

Cyhoeddir data sy'n seiliedig ar awdurdod lleol preswyl y plentyn hefyd ar StatsCymru. 

Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg

Rhaglen Plant Iach Cymru

Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Plant Iach Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ac yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Monitro'r rhaglen a'r ffynhonnell ddata

Cefnogir y rhaglen gan system iechyd plant, a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'r system yn galluogi byrddau iechyd i drefnu cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru, yn darparu ffurflen casglu data cyson ar gyfer pob cyswllt, a seilwaith digidol cyson ar gyfer cofnodi data. Mae'r data sy'n cael eu casglu yn cefnogi polisïau sydd â’r nod o wella iechyd plant ledled Cymru.

Daw data’r rhaglen o’r NCCHD, sy’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, sy’n byw yng Nghymru neu sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae'n dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data'r system iechyd plant a gedwir gan fyrddau iechyd lleol. Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol i sefydlu set ddata ar gyfer cysylltiadau’r rhaglen â phlant rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed. Caiff y data eu casglu gan ymwelwyr iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ar ffurflenni papur sy'n cael eu cyflwyno i staff gweinyddol sy'n rhoi data â llaw yn y system iechyd plant. Caiff yr NCCHD ei diweddaru ar sail cronfeydd data’r systemau iechyd plant lleol bob chwarter (diwedd Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref).

Sylwer mai dim ond data o’r NCCHD sy'n cael eu dadansoddi yma ac nad yw cysylltiadau’r Rhaglen Plant Iach cyn 10 diwrnod oed ac ar ôl 3.5 oed yn cael eu hadrodd yn y datganiad hwn. Mae elfennau allweddol y rhaglen yn cael eu hadrodd mewn mannau eraill:

Mesur cwmpas y rhaglen

Er mwyn mesur sut mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu ar gyfer plant sy'n byw yng Nghymru gan ddefnyddio'r NCCHD, defnyddiwyd y fethodoleg ganlynol:

  • Nodi plant cymwys priodol yn ystod y cyfnod ar gyfer pob cysylltiad. Er enghraifft, o ran y cyswllt 10 i 14 diwrnod oed, rydym wedi edrych ar bob plentyn yng Nghymru sy’n dod yn 10 diwrnod oed yn ystod y chwarter. 
  • Ar gyfer y plant cymwys hyn rydym wedi cyfrif y cofnodion dilys ar gyfer pob un o gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru. 
  • Ceir chwarter blwyddyn o oedi wrth adrodd er mwyn caniatáu amser i gofnodi data yng nghronfeydd data'r system iechyd plant.
  • Sylwer bod data blynyddol yn cael eu hechdynnu ar yr un pryd â chwarter olaf y flwyddyn ac nad yw data ar gyfer y tri chwarter blaenorol yn y flwyddyn yn cael eu diwygio. Os cyflwynir data yn hwyr ar gyfer cysylltiadau a ddigwyddodd yn nhri chwarter cyntaf y flwyddyn, caiff y rhain eu cyfrif yn y data blynyddol ond nid yn y data chwarterol o'r adeg pan ddigwyddodd y cysylltiadau. O ganlyniad mae'r gyfradd gwblhau flynyddol yn debygol o fod yn uwch na chyfraddau'r cyfraddau chwarterol cyfansoddol. 

Rhoi’r rhaglen ar waith 

Dim ond i gysylltiadau canlynol Rhaglen Plant Iach Cymru y mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn berthnasol:

  • cyswllt cartref ymwelwyr iechyd yn 10 i 14 diwrnod oed;
  • cyswllt meddyg teulu yn 6 wythnos oed;
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd (asesiad twf) yn 8, 12 ac 16 wythnos oed;
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 6 mis oed; 
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 15 mis oed;
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 27 mis oed; a
  • cyswllt gwasanaeth ymwelwyr iechyd yn 3.5 oed (cyn ysgol).

Ar ôl y cyswllt cartref cyntaf yn 10 i 14 diwrnod oed, gall cysylltiadau gwasanaeth ymwelwyr iechyd ddigwydd naill ai yn y cartref neu mewn clinigau, er y gellir cynnal cysylltiadau asesiadau twf hefyd mewn meddygfeydd. Mae'r archwiliad corfforol yn digwydd yn bennaf mewn meddygfeydd neu mewn clinigau.

Mae gan bob pwynt cyswllt drothwy oedran isaf ac uchaf y dylai’r cysylltiad ddigwydd rhyngddynt. Cafodd y trothwyon hyn eu pennu gan Benaethiaid Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd mewn byrddau iechyd lleol ac maen nhw i’w gweld yn Nhabl 1. 

Tabl 1: Trothwyon oedran cysylltiadau’r Rhaglen Plant Iach Cymru 
CyswlltOedran isaf Oedran uchaf
Cyswllt 10 i 14 diwrnod10 diwrnod14 diwrnod
Archwiliad corfforol 6 wythnos (dan arweiniad meddyg teulu)6 wythnos12 wythnos
Cyswllt 8 wythnos8 wythnos12 wythnos
Cyswllt 12 wythnos12 wythnos16 wythnos
Cyswllt 16 wythnos16 wythnos20 wythnos
Cyswllt 6 mis26 wythnos35 wythnos
Cyswllt 15 mis65 wythnos78 wythnos
Cyswllt 27 mis117 wythnos130 wythnos
Cyswllt 3.5 mlwydd (cyn ysgol)185 wythnos208 wythnos

Cwmpas

Mae’r ystadegau yn y datganiad yn ymwneud â chysylltiadau gan weithwyr iechyd proffesiynol â phlant sy'n byw yng Nghymru o'u genedigaeth i deirblwydd a hanner oed.

Mae problemau ansawdd data hysbys o ran y data a gesglir drwy Raglen Plant Iach Cymru. Un o'r materion yw y gall y system bapur arwain at dangyfrif mewn gweithgarwch gan ei bod yn dibynnu ar y gweithiwr iechyd proffesiynol yn llenwi'r ffurflen bapur yn gywir, yn ei chyflwyno i weinyddwr iechyd plant, sydd wedyn yn lanlwytho'r data i'r system iechyd plant. Gall y broses hon arwain at fewnbynnu data anghywir ar y ffurflen, ffurflenni'n cael eu cyflwyno'n hwyr neu ddim o gwbl a gwallau priodoli â llaw. Er bod y mwyafrif helaeth o gysylltiadau'n cael eu cofnodi'n gywir, mae'r broses hon yn golygu nad yw data'n cael eu casglu ar gyfer pob plentyn yn ymarferol. 

Mae materion penodol sy'n effeithio ar y cysylltiadau 6 ac 8 wythnos. Y cysylltiadau 6 wythnos yw lle mae archwiliad corfforol o'r llygaid, y galon, y ceilliau, y cluniau a'r iechyd cyffredinol yn digwydd a dylai meddyg teulu neu bediatrydd wneud hynny. Dengys data a gofnodwyd yn NCCHD fod tua 80% o'r cysylltiadau hyn wedi digwydd ers cyflwyno'r rhaglen; fodd bynnag, mae adborth gan fyrddau iechyd yn awgrymu bod pob plentyn yn cael cynnig y cyswllt hwn a bod bron pob plentyn yn cael y cyswllt. Yn dilyn ymchwiliad i'r data, roedd yn amlwg bod rhai meddygon teulu wedi cofnodi'r cysylltiadau ar eu systemau meddygon teulu, ond heb gofnodi'r wybodaeth ar ffurflen casglu data Rhaglen Plant Iach Cymru, felly ni fydd yn bresennol yn yr NCCHD. 

Yn ogystal, mae'r cyswllt 8 wythnos â'r ymwelydd iechyd yn aml yn digwydd ar yr un pryd â'r cyswllt meddyg teulu 6 wythnos, ond er mwyn cael ei gofnodi yn yr NCCHD, mae angen cyflwyno ffurflenni casglu data ar wahân ar gyfer pob cyswllt. Gall hyn arwain at gyflwyno nifer o ffurflenni cyswllt 6 wythnos gan yr ymwelydd iechyd yn hytrach na'r ffurflen gyswllt 8 wythnos. Felly mae nifer y cysylltiadau 8 wythnos yn yr NCCHD yn is na nifer y cysylltiadau sy'n digwydd yn ymarferol. 

Mae cysylltiadau ymwelwyr iechyd sy'n cyd-fynd ag apwyntiadau brechu plentyndod hefyd yn awgrymu bod y gweithgarwch a gofnodir yn yr NCCHD wedi’i dangyfrif. Mae apwyntiadau brechu (sy'n cael eu gwneud yn nodweddiadol gan nyrs ymarfer cyffredinol) fel arfer yn cael eu trefnu i ddigwydd ar yr un pryd ac mewn lleoliad â chysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru â'r ymwelydd iechyd; fodd bynnag mae cyfraddau brechu yn fwy na chyfradd y plant sy'n gymwys i gael cysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru. 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n barhaus gyda byrddau iechyd a chydweithwyr gofal sylfaenol i wella ansawdd y data a gofnodir ym mhob cyswllt a'r gobaith yw y gellir cyflwyno system casglu data electronig yn y dyfodol i helpu gyda hyn. 

Mynediad at ddata, cyfrinachedd a rheoli datgelu

Mae'r data y mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ei ddarparu i Lywodraeth Cymru yn ddienw fel nad yw'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy. 

Mae’r ystadegau'n ystyried ein canllawiau rheoli datgelu ac yn dilyn canllawiau cyfrinachedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau iechyd, sydd ar gael yn: Canllawiau arferion gorau y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Diwygiadau

Mae’r NCCHD yn gronfa ddata fyw ac echdynnir data o'r gronfa ddata hon bob chwarter. Fel arfer, mae bwlch o 4 mis rhwng yr elfen sy'n cael ei chymryd a'r cyfnod cyfeirio (er enghraifft, bydd y data a echdynnwyd ym mis Ebrill ar gyfer y cyfnod cyfeirio o fis Hydref i fis Rhagfyr yn y flwyddyn flaenorol). Mae hyn er mwyn caniatáu i adrannau iechyd plant brosesu'r holl ffurflenni casglu data ar gyfer y cyfnod cyfeirio. Dim ond ar gyfer y chwarter diweddaraf y caiff data eu hechdynnu, felly nid yw data ar gyfer pob chwarter blaenorol yn cael eu diwygio fel mater o drefn. Pe bai data ar gyfer cyfnodau a gyhoeddwyd yn flaenorol yn cael eu hechdynnu ar unrhyw adeg ar ôl eu dyddiad echdynnu arferol, gallai’r niferoedd fod ychydig yn wahanol i'r data cyhoeddedig oherwydd ei bod yn bosibl bod rhai ffurflenni casglu data wedi’u prosesu’n hwyr iawn. 

Ni chaiff data ar gyfer cyfnodau amser blaenorol eu diwygio oni bai bod gwallau'n cael eu darganfod. Pe bai data anghywir yn cael eu cyhoeddi, byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a’r defnyddwyr yn cael eu hysbysu.

Sut y gallai’r ystadegau hyn gael eu defnyddio? 

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau: 

  • cyngor i Weinidogion
  • llywio trafodaeth yn y Senedd a thu hwnt
  • sicrhau bod data ar gael i'r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
  • monitro'r modd y caiff gwasanaethau eu darparu
  • ymchwil iechyd y cyhoedd 
  • datblygu polisi.

Defnyddwyr y data 

Dyma brif ddefnyddwyr tebygol y data:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol
  • sefydliadau gofal sylfaenol
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • y cyhoedd
  • ysbytai preifat
  • sefydliadau'r GIG
  • sefydliadau genedigaeth gwirfoddol.

Perthnasedd

Mae'r ystadegau'n rhoi cyfle i fonitro’r ffordd y mae Rhaglen Plant Iach Plant Cymru yn cael ei gweithredu ac i roi cipolwg ar broffil y blynyddoedd cynnar yng Nghymru. 

Anogir defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â Llywodraeth Cymru i roi gwybod i ni sut maent yn defnyddio'r data. 

Cysylltwyd â defnyddwyr allweddol cyn rhyddhau'r data hyn a byddwn yn parhau i gysylltu â nhw wrth i'r datganiad ystadegol ddatblygu. 

Bydd y datganiad yn cael ei addasu i ymateb i newidiadau polisi gan sicrhau bod ein ystadegau'n parhau'n berthnasol. 

Cywirdeb

Mae problemau ansawdd data hysbys o ran y data sy’n cael eu casglu drwy'r rhaglen, ac esbonnir y rhan fwyaf ohonynt yn yr adran cwmpas

Mae'r ffurflen casglu data yn cofnodi gwybodaeth am eitemau data ychwanegol megis anffurfio organau rhywiol menywod (FGM), yr oedran y daeth bwydo ar y fron i ben, yr oedran y cyflwynwyd bwydydd solet, ac amserlen sgiliau tyfu (SOGS). Fodd bynnag, nid yw'r un o'r eitemau data hyn yn cael eu cofnodi’n ddigon cywir a chyson ar hyn o bryd i allu cyhoeddi data. 

Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio'n barhaus gyda’r byrddau iechyd i wella cyflawnrwydd ac ansawdd. Un rhan o’r gwaith hwn yw newid y ffurflen casglu data i'w gwneud yn haws i ymwelwyr iechyd eu llenwi, a symud o bosibl i system casglu data ar-lein yn hytrach na defnyddio'r broses bapur gyfredol sydd â llawer o gyfyngiadau. 

Cyflawnrwydd

Er gwaethaf y materion yn ymwneud ag ansawdd data ac effaith pandemig COVID-19, sy’n golygu bod cyflawnrwydd y data yn amrywio ar draws rhai o'r eitemau data cyhoeddedig, mae'n ddigon uchel i gynhyrchu ystadegau swyddogol gyda nodiadau esboniadol. 

Mae'r broses gyfredol o gasglu data ar bapur yn dibynnu ar gwblhau ffurflenni casglu data yn gywir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a phrosesu amserol a phriodoli cywir gan weinyddwyr y systemau iechyd plant. 

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r NCCHD yn cael ei hadnewyddu ar sail data sy'n deillio o systemau iechyd plant lleol bob chwarter. 

Yn aml, mae bwlch amser o ran anfon ffurflenni casglu data at weinyddwyr y system iechyd plant, felly caiff data ei dynnu o'r system fel arfer tua 4 mis ar ôl y cyfnod cyfeirio ac fe'i cyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, cyn gynted ag y bydd adnoddau'n caniatáu ond fel arfer o fewn 2 fis i dderbyn y data. 

I ategu'r datganiad ystadegol blynyddol, cyhoeddir data chwarterol ar StatsCymru

Hygyrchedd ac eglurder 

Cyhoeddir yr ystadegau mewn modd hygyrch, trefnus, gyda chyhoeddiad ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae negeseuon RSS yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn. Cyhoeddir y datganiadau ar yr Hyb Cyhoeddi Ystadegau Gwladol yr un pryd hefyd. Rydym hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n hallbynnau ar X (a arferai cael ei alw yn Twitter). Gellir lawrlwytho'r holl ddatganiadau yn rhad ac am ddim. 

Mae’r tablau data ar gael drwy StatsCymru bob chwarter.

Defnyddir iaith glir yn ein hallbwn gymaint ag y bo modd ac mae’r holl allbynnau’n cadw at bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir ein holl benawdau ar dudalennau’r we yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â'r staff perthnasol y cyfeirir atynt yn y datganiad neu drwy ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Lle ceir newidiadau i'r data ffynhonnell a ddarperir, dangosir hyn yn yr allbynnau ystadegol. Lle gwyddys ymlaen llaw am newidiadau yn y dyfodol, bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru. 

Mae data a gesglir o NCCHD yn cadw at safonau cenedlaethol ac maent yn gydlynol o fewn ac ar draws sefydliadau iechyd yng Nghymru.

Mae gan Loegr Raglen Plant Iach sy'n gynllun tebyg i Raglen Plant Iach Cymru. 

Mae gan yr Alban Raglen Plant Iach sydd rywfaint yn wahanol i Raglen Plant Iach Cymru. 

Mae ystadegau Gogledd Iwerddon ar iechyd y cyhoedd ar gael gan Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Y nodau hynny yw creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd wrth gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016. 

Information on the indicators, along with narratives for each of the wellbeing goals and associated technical information is available in the adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Annie Campbell
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 15/2024

Image
Ystadegau Gwladol