Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data yn ôl rhanbarth domisil, math o raglen dysgu drwy brentisiaeth, grŵp oedran, sector, a rhyw rhwng Chwefror i Ebrill 2020.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaethau a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Data dros dro sydd ar gyfer Ch3 2019/20 (Chwefror i Ebrill 2020). Mae’r data ar gyfer y chwarteri cynharach yn derfynol. Bydd ffigurau dros dro yn cael eu cynhyrchu yn chwarterol a’r data terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Chwefror.

Mae nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd yn chwarter 3 2019/20 wedi'i chwyddo gan ddysgwyr yn trosglwyddo o aelodau'r consortiwm a oedd yn arfer bod yn rhan o'r Bartneriaeth Sgiliau Galwedigaethol i ddarparwyr newydd. Dylid bod yn ofalus wrth ystyried ffigurau chwarter 3 2019/20 ochr yn ochr â'r ffigurau ar gyfer chwarteri blaenorol. Roedd tua 865 o'r prentisiaethau newydd a ddechreuwyd yn y chwarter hwn o ganlyniad i'r trosglwyddiadau hyn. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys cyfran uwch o brentisiaethau a ddechreuwyd yn y categorïau canlynol:

  • prentisiaethau uwch
  • menywod
  • y sectorau 'gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus' a 'rheoli a phroffesiynol'.
  • dysgwyr 25 oed a hŷn
  • dysgwyr nad ydynt yn anabl

Nid yw’r ffigurau dechrau hyn wedi’u cynnwys yn y mesur targed prentisiaethau gan ei fod yn ystyried trosglwyddiadau a gadael yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf).

Prif bwyntiau o'r data diweddaraf

  • Dechreuwyd ar 5,170 o raglenni dysgu prentisiaethau yn Ch3 2019/20 o gymharu â 5,110 yn Ch3 2018/19, cynnydd o 1%. Mae'r cynnydd hwn oherwydd prentisiaid yn trosglwyddo, fel y soniwyd gynt. Mae nifer y prentisiaethau a ddechreuir yn amrywio’n rheolaidd rhwng un cyfnod a’r llall.
  • Yn Ch3 2019/20, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. 56% o’r prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 43% yn Ch3 y flwyddyn flaenorol.
  • Yn Ch3 2019/20, dysgwyr benywaidd oedd i gyfrif am tua 70% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd, o gymharu â 67% yn Ch3 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Mae gan Lywodraeth Cymru darged o 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod tymor y Senedd hon (2016-2021). Asesir hyn gan ddefnyddio mesur mwy trwyadl sy’n ystyried y nifer sy’n gadael prentisiaeth yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini sy’n trosglwyddo o un brentisiaeth i un arall. O dan y mesur hwn, dechreuwyd 3,655 o brentisiaethau yn Ch3 2019/20  a 95,790 ers cyflwyno’r targed.
  • Fodd bynnag, mae gwybodaeth reoli o'r LLWR ar 22 Hydref 2020 yn dangos bod dros 100,000 o raglenni dysgu prentisiaeth wedi'u dechrau yn ôl y mesur targed. Dylid nodi nad yw'r wybodaeth reoli hon wedi'i dilysu ac ni chynhaliwyd gwiriadau ansawdd data pellach fel sy'n cael eu cynnal ar gyfer ystadegau swyddogol.

Bydd y datganiad hwn yn parhau i gael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cynnydd tuag at y targed yn unol â'r amserlen a gyhoeddir ymlaen llaw. Disgwylir i ddatganiad chwarter 1 2020/21 ddangos bod y targed wedi’i gyrraedd. Disgwylir iddo gael ei gyhoeddi fis Mai 2021.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.