Neidio i'r prif gynnwy

Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd ar gyfer Mai i Orffennaf 2021.

Mae’r ystadegau chwarterol, a gyhoeddir ar StatsCymru â dangosfyrddau ategol, yn cyflwyno gwybodaeth ar nifer y rhaglenni prentisiaethau a ddechreuwyd. Maent yn cynnwys data ynghylch lle mae’r dysgwr yn byw, math o raglen, grŵp oedran, sector, ethnigrwydd, anabledd a blwyddyn academaidd.

Cynhyrchir ffigurau dros dro bob chwarter, a chânt eu rhoi ar ffurf derfynol pan gaiff data Ch4 eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn. Mae data Ch1, Ch2, Ch3 a Ch4 ar gyfer 2020/21 bellach yn derfynol. Cânt eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfnod rhewi Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach yn derfynol hefyd.

O fis Mawrth 2020 ymlaen, amharwyd yn sylweddol ar y ddarpariaeth addysg gan bandemig y Coronafeirws (COVID-19). Mae'r ffigurau a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn debygol o fod wedi cael eu heffeithio. Dylid cadw hynny mewn cof, yn enwedig wrth eu cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Pwyntiau allweddol o’r data diweddaraf

  • Dechreuodd 5,110 o bobl ar raglenni dysgu prentisiaeth yn ystod Ch4 2020/21, sef cynnydd sylweddol ar y 3,465 o bobl a ddechreuodd ar raglenni o'r fath yn ystod Ch4 2019/20, ond eto'n llai na'r 6,360 o bobl a ddechreuodd yn ystod Ch4 2018/19. Mae'n bosibl bod y gwahaniaeth hwn o ganlyniad i'r ffaith bod llai o bobl wedi dechrau ar raglenni yn ystod Ch4 2019/20 yn dilyn y tarfu a gafwyd yn sgil pandemig y Coronafeirws (COVID-19).
  • Bu cynnydd yn nifer y bobl a ddechreuodd ar bob un o'r tri math o raglenni dysgu prentisiaeth yn ystod Ch4 2020/21. Gwelwyd cynnydd o 162% yn nifer y bobl a ddechreuodd ar raglenni Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2) o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dechreuodd 2,435 o bobl ar raglenni dysgu o gymharu â 930 yn ystod Ch4 2019/20. Mae'r nifer diweddaraf yn debyg i'r nifer a welwyd ddwy flynedd yn ôl.
  • Gwelodd prentisiaethau (Lefel 3) gynnydd o 2% gyda 1,730 o raglenni yn cychwyn yn 2020/21 Ch4 o gymharu â 1,695 yn 2019/20 Ch4.
  • Gwelwyd cynnydd o 12% hefyd mewn Prentisiaethau Uwch (Lefel 4+) gyda 945 o raglenni yn cychwyn yn 2020/21 Ch4 o gymharu ag 845 yn 2019/20 Q4.
  • Yn 2020/21 Ch4, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd. Roedd 47% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth a gychwynnwyd yn y sector hwn, o'i gymharu â 58% yn Ch4 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Yn 2020/21 Ch4, roedd tua 64% o'r holl raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd gan ddysgwyr benywaidd, o gymharu â 73% yn Ch4 yn y flwyddyn flaenorol.
  • Ar ôl cyrraedd y targed ar gyfer tymor y Senedd flaenorol, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi pennu targed newydd i greu 125,000 o brentisiaethau pob oedran dros gyfnod tymor Senedd 2021-2026. Asesir y targed hwn gan ddefnyddio mesur llymach sy'n ystyried pobl sy'n gadael cyrsiau'n gynnar (yn ystod yr 8 wythnos gyntaf) a phobl sy'n trosglwyddo rhwng cofnodion prentisiaeth. Dechreuodd 3,860 o bobl ar brentisiaethau o'r fath yn ystod Ch4 2020/21.
  • Cyfanswm nifer y bobl a ddechreuodd ar raglenni yn erbyn y mesur targed blaenorol oedd 112,590 dros y cyfnod rhwng Ch4 2015/16 a Ch3 2020/21. Mae'r nifer hwn wedi cael ei ddiwygio rhywfaint ers iddo gael ei gyhoeddi ddiwethaf am fod data dros dro ar gyfer chwarteri 1 i 3 2020/21 bellach yn derfynol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.