Neidio i'r prif gynnwy

1. Sut cafodd Llywodraeth Cymru y data?

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn eich data personol, drwy wefan trosglwyddo data ar-lein ddiogel, gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol fel rhan o'r casgliadau data statudol blynyddol ar lefel disgyblion. Ar ôl derbyn eich data personol, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data.

2. Ar gyfer pa ddisgyblion ydyn ni'n rhannu data?

Byddwn yn rhannu’r data a gasglwyd gennym amdanoch pan oeddech ym mlwyddyn 11 ac a oeddech yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (FSM) ar unrhyw adeg yn ystod y chwe blynedd hyd at a chan gynnwys pan oeddech ym mlwyddyn 11.

3. Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu/rhannu eich data?

Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y sail gyfreithiol, fel y'i nodir yn Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007, wrth dderbyn y data.

Mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data a dderbyniwyd yn yr ymarferion casglu data statudol o dan Erthygl 6(1)(e) o'r GDPR; prosesir y data yn unol â'n tasg gyhoeddus ac yn yr awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom ni i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

4. Gyda phwy rydym yn rhannu'r data?

Byddwn yn rhannu eich data gydag UCAS a fydd yn cyfateb y data i ddysgwyr sydd wedi cyflwyno cais UCAS, bydd UCAS wedyn yn rhannu'r data hwn gyda SAU fel rhan o'r cais, gan roi gwybodaeth fwy cyd-destunol i brifysgolion.

5. Beth ydym ni'n ei rannu?

Rydym yn rhannu'r eitemau data canlynol amdanoch o'r adeg pan oeddech ym mlwyddyn 11:

  • enw Cyntaf
  • enw(au) canol
  • cyfenw
  • rhyw
  • dyddiad geni
  • cod Post Cartref
  • rhif yr ysgol
  • gymwys i gael prydau ysgol am ddim (FSM) ar unrhyw adeg yn ystod y
  • chwe blynedd hyd at a chan gynnwys pan oeddech ym mlwyddyn 11
  • gwarchodaeth drosiannol disgyblion i gael prydau ysgol am ddim

6. Pam rydym yn rhannu'r data?

Diben rhannu data gydag UCAS yw:

  • bydd eich data yn cael ei baru â dysgwyr sydd wedi cyflwyno cais UCAS, bydd UCAS wedyn yn rhannu'r data hwn gyda Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) fel rhan o'r cais, gan roi gwybodaeth fwy cyd-destunol i brifysgolion
  • defnyddir eich data i ddadansoddi niferoedd y dysgwyr yn ymwneud â chyfraddau dilyniant i addysg uwch. Bydd UCAS yn rhannu’r ymchwil ystadegol hwn gyda LlC, gan alluogi nodi unrhyw ymyriadau polisi gofynnol a hyrwyddo cyfranogiad ehangach mewn Addysg Uwch i ddysgwyr yng Nghymru. Bydd hyn yn adeiladu tuag at degwch mynediad i addysg i ddysgwyr o bob cefndir

7. Beth fydd UCAS yn ei wneud gyda'r data?

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn hysbysiad preifatrwydd UCAS.

8. Eich hawliau o dan y GDPR

Mae gennych hawl i’r canlynol:

  • cael gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei brosesu amdanoch chi
  • ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gywiro gwallau yn y data
  • o dan rai amgylchiadau, gwrthwynebu prosesu ar sail sy'n gysylltiedig â'ch sefyllfa benodol
  • o dan rai amgylchiadau, cyfyngu ar brosesu
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o wybodaeth am y data y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw, a'u defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, cysylltwch â changen gwybodaeth a gwella ysgolion Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf a/neu'r swyddog diogelu data. Mae'r manylion fel a ganlyn:

Y Gangen Gwybodaeth a Gwella Ysgolion

Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: IMS@gov. Cymru

Swyddog Diogelu data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: DataProtectionOfficer@gov.Cymru

I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn - llinell gymorth: 029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y DU)
Cyfeiriad e-bost: wales@ico.org.uk