O dan adran 5.27 o God y Gweinidogion, rhaid i weinidogion gydymffurfio â’r Rheolau Penodi Busnes wrth dderbyn penodiadau newydd ar ôl gwasanaeth y Goron.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae er budd y cyhoedd y dylai cyn-Weinidogion allu symud i faes busnes neu i feysydd eraill sy'n gysylltiedig â bywyd cyhoeddus, a dechrau gyrfa newydd neu ailgydio mewn hen un.
Mae'r un mor bwysig, pan fydd cyn-Weinidog yn derbyn penodiad neu gyflogaeth benodol, nad oes unrhyw bryderon am briodoldeb y penodiad.
Y rheolau
Mae Cod y Gweinidogion yn gosod y gofyniad canlynol ar Weinidogion Cymru:
5.27 Rhaid i gyn-Weinidogion gydymffurfio â'r Rheolau Penodiadau Busnes a gofyn am gyngor gan y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol ynghylch unrhyw benodiadau neu gyflogaeth y maent yn dymuno eu derbyn. Mae hyn yn berthnasol am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl gadael y swydd.
5.28 Rhaid i gyn-Weinidogion gydymffurfio â'r cyngor a ddarperir gan y Cynghorydd Annibynnol a sicrhau nad oes unrhyw benodiadau newydd yn cael eu cyhoeddi, neu eu derbyn, cyn i gyngor o'r fath gael ei ddarparu. Bydd manylion y cyngor yn cael eu cyhoeddi gan y Cynghorydd Annibynnol pan fydd rôl yn cael ei chyhoeddi neu ei derbyn.
5.29. Fel rheol gyffredinol, gwaherddir cyn-Weinidogion rhag lobïo'r llywodraeth neu ymgymryd â gweithgaredd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn lobïo am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl gadael eu swydd, a rhaid iddynt hefyd osgoi gweithio neu gynghori ar unrhyw geisiadau i sicrhau cyllid neu gontractau'r llywodraeth yn ystod y cyfnod hwnnw. Ar unrhyw adeg ar ôl gadael y llywodraeth, rhaid i gyn-Weinidogion beidio â manteisio ar wybodaeth freintiedig a gafwyd yn ystod eu cyfnod yn y swydd.
Diben y Rheolau Penodiadau Busnes yw darparu mesurau diogelu rhag awgrymiadau o amhriodoldeb, yn benodol:
- gallai gobaith neu ddisgwyliad Gweinidog sy'n gwasanaethu o gael ei gyflogi yn y dyfodol gan gwmni neu sefydliad penodol ddylanwadu ar ei benderfyniadau a'i ddatganiadau; neu
- gallai cyflogwr ddefnyddio, mewn modd amhriodol, wybodaeth swyddogol y mae cyn-Weinidog wedi'i gweld, neu
- efallai y bydd achos dros bryder am y penodiad mewn rhyw agwedd benodol arall.
Ceisiadau gan gyn-weinidogion a rôl y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol
Mae'n ofynnol i gyn-Weinidogion ddarparu manylion am unrhyw benodiad neu gyflogaeth arfaethedig i Gynghorydd Annibynnol Llywodraeth Cymru ar Safonau Gweinidogol am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl gadael eu swydd.
Mae hyn yn wir am bob penodiad (gan gynnwys gwaith ymgynghori) p'un a yw'r cyn-Weinidog yn cael ei dalu ai peidio. Dylid darparu manylion ar y ffurflen berthnasol i sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chasglu.
Os oes angen, bydd y Cynghorydd Annibynnol yn ceisio, yn gyfrinachol, wybodaeth ychwanegol gan uwch-swyddogion yn adran(au) y cyn-Weinidog am unrhyw gyswllt â'r darpar gyflogwr neu ei gystadleuwyr a natur unrhyw berthynas gontractiol, reoleiddiol neu unrhyw berthynas arall â hwy. Bydd hefyd yn ymgymryd â'i weithdrefnau diwydrwydd dyladwy ei hunan gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd os ystyrir bod hynny'n angenrheidiol.
Bydd y Cynghorydd Annibynnol hefyd, os yw'n berthnasol i'r penodiad neu'r gyflogaeth arfaethedig, yn ystyried unrhyw rôl arall y gallai'r cyn-Weinidog fod wedi'i chyflawni (neu y mae'n dal i'w chyflawni) ar ran y llywodraeth. Gyda chaniatâd y cyn-Weinidog, efallai y bydd y Cynghorydd Annibynnol yn dymuno cysylltu â'r cyflogwr newydd arfaethedig i gael eglurhad o'r penodiad neu'r gyflogaeth arfaethedig a'i hysbysu o'r amodau a fydd yn berthnasol i'r penodiad neu'r gyflogaeth.
Bydd y Cynghorydd Annibynnol yn ystyried pob cais am gyngor ar benodiad neu gyflogaeth yn unigol, yn erbyn profion penodol sy'n ymwneud â'r canlynol:
- i ba raddau, os o gwbl, y mae'r cyn-Weinidog wedi bod mewn sefyllfa a allai olygu ei fod yn agored i'r awgrym bod y penodiad mewn rhyw ffordd yn wobr am ffafrau yn y gorffennol?
- a yw'r cyn-Weinidog wedi bod mewn sefyllfa lle mae wedi cael mynediad at gyfrinachau masnach cystadleuwyr, gwybodaeth am bolisi nad yw'r llywodraeth wedi'i gyhoeddi neu wybodaeth sensitif arall a allai roi mantais annheg neu amhriodol i'w gyflogwr newydd?
- a oes rheswm penodol arall pam y gallai derbyn y penodiad neu'r gyflogaeth achosi pryder i'r cyhoedd ar sail priodoldeb sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'i rôl Weinidogol flaenorol?
Bydd angen i'r Cynghorydd Annibynnol gydbwyso unrhyw bwyntiau sy'n codi o dan y profion hyn yn erbyn dymunoldeb cyn-Weinidogion yn gallu symud i faes busnes neu i feysydd eraill sy'n gysylltiedig â bywyd cyhoeddus, a'r angen iddynt allu dechrau gyrfa newydd neu ailgydio mewn hen un.
Amodau
Gall cyn-Weinidogion ddisgwyl i'r Cynghorydd Annibynnol gymhwyso'r amodau safonol canlynol ym mhob achos:
- Amod gwybodaeth freintiedig - Caniateir ichi fanteisio ar sgiliau a phrofiadau a gawsoch yn ystod eich cyfnod yn y swydd, fodd bynnag, rhaid ichi beidio â manteisio ar unrhyw wybodaeth freintiedig a gawsoch yn ystod eich cyfnod yn y swydd.
- Amod lobïo - Rhaid i unrhyw gyswllt â Llywodraeth Cymru, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ddigwydd dim ond lle na ellid yn rhesymol ystyried ei fod yn lobïo.
- Amod contractau a cheisiadau - Rhaid ichi beidio â gweithio na chynghori ar unrhyw geisiadau i sicrhau cyllid neu gontractau'r llywodraeth.
Caniateir i'r Cynghorydd Annibynnol gynghori nad yw'n gweld unrhyw reswm dros pam na ddylid derbyn penodiad neu gyflogaeth ar unwaith, heb unrhyw amodau pellach oni bai am y rhai uchod.
Fodd bynnag, os yw o'r farn y gallai pryder y cyhoedd fod o fath ddyfnder neu naws, caniateir iddo argymell bod amodau pellach hefyd yn cael eu cymhwyso. Gallai'r rhain gynnwys oedi cyn derbyn y penodiad neu y dylai'r cyn-Weinidog, am gyfnod penodol, ymwrthod â gweithgareddau penodol, er enghraifft trafodaethau masnachol gyda'i gyn adran, neu ymwneud â meysydd penodol busnes y cyflogwr newydd.
Mae unrhyw amodau a gynghorir yn berthnasol am uchafswm o ddwy flynedd ar ôl i'r cyn-Weinidog adael ei swydd.
Yn eithriadol, caniateir i'r Cynghorydd Annibynnol gynghori ei fod yn ystyried penodiad neu gyflogaeth benodol yn anaddas.
Lobïo
Fel egwyddor gyffredinol, caiff Gweinidogion eu hatal rhag lobïo'r llywodraeth am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl iddynt adael eu swydd. Mae hyn yn golygu na ddylai cyn-Weinidog gyfathrebu â Llywodraeth Cymru (gan gynnwys Gweinidogion, gweision sifil gan gynnwys cynghorwyr arbennig, a swyddogion/deiliaid swyddi cyhoeddus perthnasol eraill) – ble bynnag y mae'n digwydd – gyda'r bwriad o ddylanwadu ar benderfyniad, polisi neu ddyfarniad grant/contract y llywodraeth yn ymwneud â'u buddiannau eu hunain neu fuddiannau'r sefydliad sy'n eu cyflogi, neu sydd wedi rhoi contract neu swydd iddynt.
Nid yw hyn yn gwahardd cysylltiadau, gan gynnwys ar lefel gymdeithasol neu ar lefel plaid wleidyddol nad ydynt yn gysylltiedig â lobïo o'r fath.
Mewn achosion penodol, yn sgil natur y penodiad neu'r gyflogaeth arfaethedig, caniateir i'r Cynghorydd Annibynnol, yn ôl ei ddisgresiwn, argymell nad oes angen i'r gwaharddiad ar lobïo atal cyfathrebu â'r llywodraeth ar faterion sy'n rhan hanfodol o fusnes arferol y sefydliad dan sylw.
Cyfnod aros
Nid yw Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gyfnod aros safonol cyn derbyn penodiad ar ôl iddynt adael eu swydd. Mewn rhai achosion, caniateir i'r Cynghorydd Annibynnol gynghori y dylid cymhwyso cyfnod aros fodd bynnag, yn dibynnu ar natur y penodiad neu'r rôl sydd i'w derbyn.
Amserlenni
Anogir cyn-Weinidogion i ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol cyn gynted â phosibl wrth ystyried derbyn penodiad neu gynnig o gyflogaeth.
Ym mhob achos, mae angen darparu gwybodaeth, a derbyn ymateb gan y Cynghorydd Annibynnol, cyn derbyn unrhyw benodiad neu gynnig o gyflogaeth.
Ni fydd ôl-geisiadau yn cael eu hystyried fel rheol.
Nod y Cynghorydd Annibynnol yw darparu ei gyngor o fewn pythefnos ar ôl i'r cais gael ei wneud. Gall achosion cymhleth gymryd mwy o amser, ond mewn achosion o'r fath, bydd y Cynghorydd Annibynnol yn hysbysu'r cyn-Weinidog dan sylw.
Os oes gan gyn-Weinidog, ar ôl cael cyngor y Cynghorydd Annibynnol, bryderon, bydd ganddo gyfle i wneud sylwadau i'r Cynghorydd Annibynnol, gan gynnwys cyfle i gwrdd â'r Cynghorydd Annibynnol os yw'n dymuno.
Cyhoeddi cyngor y Cynghorydd Annibynnol
Bydd yr holl geisiadau a gyflwynir i'r Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol a'r trafodaethau a gynhelir ag ef yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol, a byddant yn parhau i fod yn gyfrinachol hyd nes y caiff y penodiad neu'r gyflogaeth ei chyhoeddi'n gyhoeddus neu ei derbyn, ac ar yr adeg honno bydd y Cynghorydd Annibynnol yn cyhoeddi ei gyngor, ynghyd â manylion cryno o swydd Weinidogol ddiwethaf y cyn-Weinidog, a'r penodiad neu'r gyflogaeth sydd i'w derbyn. Bydd y manylion yn cael eu rhoi ar dudalennau Llywodraeth Cymru.
Mae'r Cynghorydd Annibynnol yn ymdrin â gwybodaeth bersonol a ddarperir iddo yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Mae'r Cynghorydd Annibynnol yn ymateb i geisiadau am wybodaeth a gedwir nad yw eisoes wedi'i chyhoeddi yn unol â darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Rhagor o wybodaeth
Mae rhagor o wybodaeth am baratoi a chyflwyno cais o dan y Rheolau Penodiadau Busnes wedi'i nodi o dan set ar wahân o Ganllawiau i Weinidogion sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
