Neidio i'r prif gynnwy

2. Lloriau

Trosolwg

Bydd angen i lawr ddarparu ar gyfer un neu ragor o'r swyddogaethau a ganlyn:

  • Cynhaliaeth strwythurol i gynnwys a defnyddwyr yr ystafell a phwysau'r llawr ei hun; ac
  • Os yw'n llawr gwaelod, gwrthsefyll: 
    • Lleithder o'r ddaear; a
    • Cholli gwres (inswleiddio thermol)

Mae tri dull cyffredinol o adeiladu llawr gwaelod:

  • Llawr concrit solet, sy'n gorffwys ar y ddaear
  • Llawr pren crog
  • Llawr concrit crog

Garej

Yn gyffredinol, bydd llawr nodweddiadol ar gyfer garej yn cynnwys seiliau caled, tywod llenwi, croen atal lleithder, a choncrit. Ystyrir ei bod yn arfer da gosod rhwyll atgyfnerthu yn y concrit, oherwydd gall hynny leihau'r perygl iddo gracio dan lwyth (pwysau) cerbyd. Ni fydd angen inswleiddio'r llawr fel rheol.

Adeiladau storio, rhandai a hafdai

Gall y lloriau yn y mathau hyn o adeiladau fod yn un o'r tri math cyffredinol a amlinellir uchod. Bydd yr union fanyleb ar gyfer y llawr yn dibynnu ar sut y bwriedir defnyddio'r adeilad ac a fwriedir ei wresogi. Gellir cael gafael ar ragor o wybodaeth am bob math o lawr yn yr adran ar loriau ar gyfer estyniadau.