Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Sylfeini

Mae angen sylfeini er mwyn trosglwyddo llwyth yr adeilad yn ddiogel i'r ddaear. Felly dylai fod gan bob adeilad sylfeini digonol (o goncrit fel rheol), a fydd yn amrywio o'r naill brosiect i'r llall gan ddibynnu ar amgylchiadau pob achos.

Gall y sylfeini hyn fod yn sylfeini dwfn (sy'n llenwi'r rhan fwyaf o'r ffos) neu'n sylfeini bas (lle darperir y trwch lleiaf posibl i drosglwyddo'r llwyth i'r pridd).

Gellir defnyddio mathau eraill o sylfeini os yw cyflwr y ddaear yn golygu nad yw llenwi ffos yn ymarferol. Byddai'n ddoeth cysylltu â pheiriannydd strwythurol neu siarad â Gwasanaeth Rheoli Adeiladu i gael rhagor o gyngor.

Dyma'r ffactorau y dylid eu hystyried wrth ddylunio sylfaen.

Y math o bridd

Mae'r math o bridd y bydd y sylfaen yn gorwedd arno yn bwysig am ddau reswm:

  • dylai'r pridd fod yn gallu cario pwysau (llwyth) y sylfaen a'r estyniad – bydd gan briddoedd gwahanol allu gwahanol i gario llwyth.
  • gall y modd y mae pridd yn adweithio i amrywiadau mewn lleithder (er enghraifft, yn ystod tymhorau hir o sychder neu law) beri i'r pridd chwyddo neu grebachu. Mae hynny'n broblem benodol yn achos rhai priddoedd cleiog. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd yn bennaf hyd at ddyfnder penodol (oddeutu 0.75m fel rheol), felly dylai'r sylfeini fod yn ddyfnach er mwyn sicrhau nad yw symudiadau'r ddaear yn effeithio arnynt (ond gweler "Coed" isod).

Strwythurau cyfagos

Mae'n bwysig sicrhau nad yw'r gwaith cloddio ar gyfer y sylfaen newydd yn tanseilio strwythurau cyfagos. Yn gyffredinol mae'n arfer da cloddio o leiaf hyd at yr un dyfnder â gwaelod sylfaen yr adeilad cyfagos. Os yw'r gwaith cloddio yn rhedeg ochr yn ochr â sylfaen sy'n bodoli eisoes, bydd angen bod yn ofalus, er enghraifft, drwy gloddio a choncritio'r sylfaen mewn rhannau bach er mwyn osgoi tanseilio strwythur cyfagos ar ei hyd (gweler hefyd y cyfarwyddyd am y Ddeddf Muriau Cydrannol).

Coed

Bydd coed yn tynnu lleithder o'r ddaear sydd o'u hamgylch a thu hwnt, drwy eu gwreiddiau. Wrth i leithder gael ei dynnu o'r ddaear, bydd y ddaear yn tueddu i grebachu. Bydd y graddau y bydd y ddaear yn crebachu yn dibynnu ar y ffactorau a ganlyn:

  • Y math o bridd – bydd priddoedd cleiog yn crebachu mwy na mathau eraill o bridd. Felly, gallai'r ffaith bod y ddaear yn symud yn ormodol ddifrodi'r sylfaen a'r strwythur y mae'n ei gynnal.
  • Y math o goeden a'i maint – bydd y math o goeden neu lwyn, a'u maint ar ôl gorffen tyfu (pan fyddant yn eu llawn dwf), yn penderfynu faint o leithder y byddant yn ei dynnu o'r ddaear.

Os oes coed mewn ardaloedd lle mae’r pridd yn gleiog, gallai hynny olygu bod angen i sylfeini fod gryn dipyn yn ddyfnach na'r disgwyl ar y dechrau, ond os yw'r coed yn ddigon pell i ffwrdd efallai na fyddant yn effeithio ar y sylfeini. Sylwer: Os bydd coed sy'n bodoli eisoes yn cael eu symud neu os bydd eu maint yn cael ei leihau'n sylweddol, bydd yr holl leithder sydd yn eu gwreiddiau, neu rywfaint ohono, yn cael ei ryddhau gydag amser i'r pridd, ac os clai yw'r pridd, er enghraifft, gallai hynny beri i'r pridd chwyddo a difrodi sylfeini cyfagos a'r strwythur(au) sy’n ael eu cynnal ganddynt.

Draeniau a charthffosydd

Wrth i bwysau (llwyth) sylfaen adeilad gael ei drosglwyddo i'r pridd, bydd yn ymledu tuag i lawr y tu allan i ôl troed y sylfaen, ar ongl nodweddiadol o 45 gradd. Os oes draen neu garthffos yn yr ardal sydd o fewn yr ongl 45 gradd honno, mae perygl y gallai llwyth y sylfaen effeithio arnynt ac y gallent gracio. Fel rheol, felly, dylai'r gwaith cloddio ar gyfer y sylfaen fynd o leiaf hyd at yr un dyfnder â gwaelod (wyneb mewnol isaf) rhan ddyfnaf y ddraen, y garthffos neu'i chwter.

Maint ac adeiladwaith yr adeilad newydd

Os bydd yr adeilad yn un deulawr, bydd angen i'r sylfaen gynnal mwy o bwysau (llwyth) na phe bai'n adeilad unllawr. Bydd hynny'n ffactor hollbwysig wrth benderfynu ar ddyluniad y sylfaen, yn enwedig ei dyfnder a'i lled. Bydd cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a gallu'r pridd sy'n cynnal yr adeilad i gario llwyth. Bydd trwch y waliau hefyd yn ffactor wrth benderfynu ar led y sylfaen.

Cyflwr y ddaear

Fel arfer, caiff yr uwchbridd ei godi a gwelir daear dda nad oes dim wedi tarfu arni, h.y. daear nad oes dim wedi'i adeiladu arni. Mewn rhai achosion, ceir ardaloedd sydd wedi'u hôl-lenwi o'r blaen, megis uchod lle mae draeniau wedi'u gosod neu lle mae safle wedi'i wastatáu, ac fel arfer, byddant yn cynnwys pridd meddal, cymysg a gwrthrychau dieithr. Ni ellir creu'r sylfaen nes y deuir ar draws daear nad oes dim wedi tarfu arni.

Safleoedd tirlenwi

Mae rhai adeiladau wedi cael eu codi ar safleoedd tirlenwi, a gallai fod angen math mwy helaeth o sylfaen yno megis pyst, oherwydd yr angen i gloddio am sawl metr er mwyn dod o hyd i ddaear nad oes dim wedi tarfu arni. Gallai sylfaen “rafft” fod yn opsiwn arall. Bydd peiriannydd adeiladu yn gallu rhoi rhagor o gyngor ichi.

Am resymau'n ymwneud ag iechyd a diogelwch, dylid bod yn ofalus wrth weithio mewn ffosydd, oherwydd gallai unrhyw ddaear sy'n cwympo achosi anaf difrifol.