Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

At ei gilydd, ni fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i osod unedau a ffitiadau newydd mewn cegin neu ystafell ymolchi, ond efallai y bydd angen cymeradwyaeth dan y rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith draenio neu waith trydanol sy'n rhan o'r gwaith adnewyddu.

Os bwriedir gosod ystafell ymolchi neu gegin mewn ystafell lle nad oedd un o'r blaen, mae'n debygol y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu er mwyn sicrhau y bydd gan yr ystafell systemau awyru a draenio digonol ac y bydd yn bodloni gofynion o ran sefydlogrwydd strwythurol, diogelwch trydanol a diogelwch tân.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r tudalennau canlynol yn awgrymu rhai o'r elfennau eraill y mae angen fel rheol iddynt fodloni gofynion y Rheoliadau ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi:

  • effaith ar hygyrchedd toiledau ar y llawr gwaelod
  • addasrwydd strwythurau lloriau presennol
  • yr angen am system awyru ychwanegol

Mae'r adrannau canlynol ar waith cyffredin yn awgrymu elfennau eraill y mae angen fel rheol iddynt fodloni gofynion y Rheoliadau ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi:

Gallai'r Corff Rheoli Adeiladu ofyn am ragor o fanylion a gwaith, yn dibynnu ar yr adeilad a'r amgylchiadau.