Neidio i'r prif gynnwy

Fel rheol bydd gwaith adeiladu portsh ar lefel y ddaear, ble mae arwynebedd ei lawr dan 30 metr sgwâr, wedi'i eithrio rhag yr angen am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.

Bydd hyn ar yr amod bod y gwydr ac unrhyw osodiadau trydanol sefydlog yn cydymffurfio ag adrannau priodol rheoliadau adeiladu.

Er mwyn i bortsh gael ei eithrio rhag cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu:

  • rhaid bod y drws blaen rhwng y tŷ presennol a'r portsh newydd yn aros yn y man ar lle
  • os oes gan y tŷ fynedfa â ramp neu fynedfa wastad ar gyfer pobl anabl, rhaid sicrhau nad yw'r portsh yn effeithio'n andwyol ar y mynediad