Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Os byddwch am adeiladu wal fewnol newydd, dymchwel wal fewnol bresennol, neu greu agorfa mewn wal fewnol, bydd rheoliadau adeiladu'n berthnasol fel rheol.

Ceir dau fath o wal fewnol yn gyffredinol:

  • Wal sy'n cynnal llwyth – lle mae'r wal yn gwahanu ystafelloedd a lle mae angen hefyd iddi drosglwyddo llwythi o rannau eraill y strwythur, y to a'r lloriau ac ati i lawr i'r sylfeini – mae rhagor o fanylion i'w gweld isod.
  • Wal nad yw'n cynnal llwyth – lle mae'r wal yn gwahanu ystafelloedd a lle nad oes angen iddi drosglwyddo llwythi.

Adeiladu wal fewnol newydd

Yn gyffredinol, bydd angen cymeradwyaeth dan Reoliadau Adeiladu 2000 ar waith adeiladu wal fewnol newydd.

Yn achos prosiectau addasu:

  • Dylid sicrhau dull gwahanu digonol rhwng y lle newydd y gellir byw ynddo a'r lle sy'n weddill – o ran y gallu i wrthsefyll tân ac o ran inswleiddio thermol.
  • Dylai unrhyw ddrws a roddir mewn wal o'r fath allu gwrthsefyll tân yn ddigonol, a dylai allu cau ar ei ben ei hun. Yn dibynnu ar y defnydd a wneir o'r ystafell newydd y gellir byw ynddi, efallai y bydd angen i'r wal wahanu newydd allu inswleiddio rhag sŵn hefyd.

Dymchwel wal fewnol

Dylid cymryd gofal cyn dymchwel unrhyw wal fewnol. Gall wal o'r fath fod yn cyflawni llawer o swyddogaethau a allai effeithio ar yr adeilad a diogelwch y sawl sydd ynddo.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r adran ganlynol ar waith cyffredin yn awgrymu elfen arall y mae angen fel rheol iddi fodloni gofynion y Rheoliadau ar gyfer waliau mewnol: