Neidio i'r prif gynnwy

2. Diogelwch tân

Gall adeiladu wal newydd er mwyn rhannu ystafell neu greu ystafell newydd effeithio ar y dull o ddianc rhag tân. Os, wrth adeiladu wal o'r fath, y bydd sefyllfa'n cael ei chreu sy'n golygu mai'r unig ffordd bosibl o adael ystafell newydd neu bresennol yw drwy fynd drwy ystafell arall, bydd angen ffenest ddianc yn yr ystafell newydd neu bresennol (yr ystafell fewnol) yn ogystal ag un neu ragor o larymau mwg efallai. 

Os yw lefel llawr yr ystafell fewnol dros 4.5m uwchlaw lefel y ddaear (fel y byddai llawr uchaf tŷ trillawr nodweddiadol, er enghraifft), efallai na fydd yn ddiogel defnyddio ffenest ddianc ac y bydd angen chwilio am ateb arall. Efallai mai'r ateb fydd peidio â chreu ystafell fewnol yn y lle cyntaf.

Bydd angen i rai waliau o amgylch grisiau (mewn tai trillawr fel rheol, neu dai sy'n uwch na hynny) allu gwrthsefyll tân, er mwyn sicrhau na fydd tân yn un o'r ystafelloedd oddi ar y grisiau yn effeithio'n ormodol ar y dull o ddianc o ystafelloedd eraill y tŷ.  Mewn tai eraill (megis tai deulawr), efallai na fydd angen i'r waliau allu gwrthsefyll tân i raddau penodol, ond byddant yn parhau i ddiogelu'r grisiau i ryw raddau drwy gadw tân a mwg draw am gyfnod.

Dylid ystyried yn ofalus pa effaith y byddai dymchwel wal fewnol yn ei chael ar ddiogelwch tân. Mewn tai deulawr, gellid gwneud iawn fel rheol am ddymchwel wal o'r fath drwy ddarparu larymau mwg cysylltiedig a gaiff drydan o'r prif gyflenwad, a ffenestri dianc yn yr ystafelloedd eraill sydd oddi ar y grisiau. Fodd bynnag mewn tai trillawr a thai uwch na hynny, efallai na fydd camau o'r fath yn ddigonol. Bydd yr union nodweddion y mae eu hangen yn amrywio o'r naill achos i'r llall.

Efallai y bydd angen i wal newydd (gan gynnwys unrhyw ddrws sydd ynddi) sy'n gwahanu ystafell oddi wrth y grisiau allu gwrthsefyll tân yn ddigonol (mewn tŷ trillawr fel rheol), a dylai'r drws fod yn gallu cau ar ei ben ei hun.