Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Ebrill 2024.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn ar reoliadau a chanllawiau statudol drafft. Bydd y rhain yn sefydlu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a tatwio.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae ymgynghoriad ar yr egwyddorion ar gyfer sefydlu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer y triniaethau arbennig a enwir eisoes wedi’i gynnal gennym.
Mae rheoliadau a chanllawiau statudol drafft wedi cael eu llunio yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw. Hoffem eich gwahodd i roi sylwadau ar y testunau drafft hyn yn yr ymgynghoriad. Wedi hynny, byddwn yn dechrau ar y broses ddeddfu yn y Senedd.
Mae rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn nodi'r fframwaith cyfreithiol. Y bwriad yw cychwyn rhan 4 o'r ddeddf a rhoi'r cynllun trwyddedu ar waith yn ei gyfanrwydd.
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para 8 wythnos.
Dogfennau ymgynghori
Rheoliadau trwyddedau triniaeth arbennig (Cymru) 202X, drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 874 KB
Rheoliadau unigolion sydd wedi eu hesemptio o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202X, drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 301 KB
Rheoliadau mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202X, drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 996 KB
Rheoliadau pwyllgorau trwyddedu triniaethau arbennig (Cymru) 202x, drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 336 KB
Rheoliadau gwrthrychau rhagnodedig ar gyfer tyllu'r corff (Cymru) 202X, drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 200 KB
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch TriniaethauArbennig@llyw.cymru.
