Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ar reoliadau drafft a chanllawiau statudol mewn perthynas â chynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig fel y nodir yn Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ac Atodlen 3 iddi. Y bwriad yw cychwyn Rhan 4 o'r Ddeddf ac Atodlen 3 iddi, a gweithredu'r cynllun trwyddedu hwn.

Diben yr ymgynghoriad hwn

Hoffem gael eich barn ar eiriad rheoliadau drafft a fydd yn deddfu darpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ('y Ddeddf') ac Atodlen 3 iddi. Mae'r rheoliadau drafft hyn yn darparu'r manylion sydd eu hangen i sefydlu a gweithredu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio, a chymeradwyo mangreoedd a cherbydau lle mae'r triniaethau hyn yn cael eu rhoi.

Yr ymgynghoriad blaenorol

Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 25 Ionawr a 19 Ebrill 2023 i ofyn am farn ar gynigion mewn perthynas â chynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr y pedair triniaeth arbennig a enwir yng Nghymru. Mae'r cynigion yn nodi'r manylion ar gyfer sut y gallai cynllun o'r fath weithio. Yn gyffredinol, cytunodd yr ymatebwyr â'r cynigion a gyflwynwyd yn y ddogfen honno ac fe gafodd crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, sy'n nodi'r ymatebion a gafwyd a'n dadansoddiad ohonynt, ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024.

Asesiadau effaith

Cyhoeddwyd asesiad effaith rheoleiddiol drafft ac asesiad effaith integredig fel rhan o'r ymgynghoriad cyntaf. Roedd nifer o awdurdodau lleol yn eu hymatebion i'r ymgynghoriad yn teimlo bod costau'r gwaith paratoi y byddai'n rhaid iddynt ei wneud i sefydlu'r cynllun wedi eu tanamcangyfrif, ond ni wnaethant roi manylion unrhyw gostau. Aethpwyd ar drywydd hyn gyda'r awdurdodau lleol perthnasol, ac maent wedi rhoi amcangyfrif o'r costau ar gyfer y gweithgareddau, y staff a'r amser a fyddai'n ofynnol ar gyfer y gwaith hwn i'w gynnwys yn y fersiwn derfynol o'r asesiad effaith rheoleiddiol. Ni chafwyd unrhyw ymatebion mewn cysylltiad â'r asesiad effaith integredig. Er hyn, mae wedi ei ddiweddaru i ystyried y 'Ddyletswydd ansawdd' newydd ar Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r GIG, a bydd yn cael ei ddiweddaru ymhellach os bydd unrhyw faterion perthnasol yn codi o dan yr ail ymgynghoriad hwn.

Fel rhan o'r ymgynghoriad blaenorol, fe wnaethom ofyn am gyngor gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch y costau i'r Gwasanaeth Llysoedd mewn cysylltiad â'n cynigion, sy'n defnyddio'r llysoedd i glywed apeliadau mewn perthynas â'r cynllun. Yn ogystal, fe wnaethom ofyn iddynt adolygu'r costau a ddarparwyd ganddynt i ystyried ein cynigion diwygiedig. Rydym wedi cynnwys yr 'Asesiad o'r effaith ar gyfiawnder' yn sgil hyn yn yr 'Asesiad effaith rheoleiddiol'. Bydd yr 'Asesiad effaith rheoleiddiol' hefyd yn cael ei ddiweddaru i gynnwys rhai mân gostau ychwanegol na chafodd eu cynnwys cynt, a 'Memorandwm esboniadol ar gyfer y rheoliadau'. Ni fyddwn yn ymgynghori eto ar yr 'Asesiad effaith rheoleiddiol' na'r 'Asesiad effaith integredig', a byddant yn cael eu hailgyhoeddi ar eu ffurf derfynol fel rhan o'r broses ddeddfwriaethol.

Yr ail ymgynghoriad hwn

Mae'r ail ymgynghoriad hwn yn dilyn yr ymgynghoriad y cyfeirir ato uchod ac yn cyflwyno'r drafftiau terfynol o'r rheoliadau sydd i'w gwneud o dan ran 4 o'r ddeddf ac atodlen 3 iddi. Mae'r ymgynghoriad hwn hefyd yn cynnwys canllawiau statudol drafft ar gyfer awdurdodau lleol ar sut y maent i benderfynu ynghylch addasrwydd 'person i roi triniaeth arbennig' at ddibenion caniatáu trwydded newydd, adnewyddu trwydded neu ddirymu trwydded, pan fo amheuaeth wedi ei chodi ynghylch hyn. Gan yr ymgynghorwyd eisoes ynghylch y cynigion ar gyfer y cynllun gorfodol, mae'r ail ymgynghoriad hwn yn ymgynghoriad technegol yn benodol ar eiriad y rheoliadau drafft a'r canllawiau statudol drafft. I'r perwyl hwn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi ei chydsyniad i'r ymgynghoriad redeg am wyth wythnos yn lle'r cyfnod safonol o 12 wythnos.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y rheoliadau drafft yr hoffem eich barn arnynt yw:

  • 'Rheoliadau trwyddedau triniaeth arbennig (Cymru) 202X'
  • 'Rheoliadau mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202X'
  • 'Rheoliadau unigolion sydd wedi eu hesemptio o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202X'
  • 'Rheoliadau pwyllgorau trwyddedu triniaethau arbennig (Cymru) 202X'
  • 'Rheoliadau gwrthrychau rhagnodedig ar gyfer tyllu'r Corff (Cymru) 202X'

Cyhoeddir y rheoliadau drafft eu hunain ar wahân ar yr un dudalen we â'r ddogfen hon. Gan fod y rhain wedi eu hysgrifennu mewn termau cyfreithiol ac yn dechnegol eu natur, nodir crynodebau o ddiben pob set o reoliadau yn atodiad B.

Bydd y rhan fwyaf o'r rheoliadau y cyfeirir atynt uchod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft, sy'n golygu bod rhaid gosod drafft o’r ddeddfwriaeth gerbron y Senedd. Bydd y Senedd wedyn yn cynnal dadl ar y rheoliadau drafft hyn cyn pleidleisio o'u plaid iddynt ddod yn gyfraith. Yr eithriad yw 'Rheoliadau pwyllgorau trwyddedu triniaethau arbennig (Cymru) 202X', a fydd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Mae hyn yn golygu na fydd dadl yn cael ei chynnal ar y rheoliadau cyn iddynt ddod yn gyfraith, a bydd gan y Senedd amser penodol i wneud unrhyw wrthwynebiadau. Os daw unrhyw wrthwynebiadau i law, bydd cynnig yn cael ei gyflwyno i ganslo’r ddeddfwriaeth a bydd dadl yn cael ei chynnal ar yr adeg hon. Os na ddaw unrhyw wrthwynebiadau i law, bydd y gyfraith yn parhau mewn grym.

Yr amserlen a'r cyfnod pontio

Ein bwriad yw y bydd y cynllun cofrestru presennol o dan ran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol (darpariaethau amrywiol) 1982 ("Deddf 1982") yn dod i ben yng Nghymru unwaith y daw'r cynllun trwyddedu newydd i rym. Bydd cyfnod pontio ar gyfer yr ymarferwyr a'r perchnogion / gweithredwyr mangreoedd / cerbydau hynny sydd wedi eu cofrestru ar hyn o bryd o dan Ddeddf 1982 ac sy'n dymuno parhau i fasnachu tra byddant yn gwneud eu ceisiadau o dan y cynllun newydd. Mae manylion y cyfnod pontio wedi cael eu hystyried a’u trafod ymhellach. Un pwynt trafod allweddol oedd gwrthbwyso’r angen i ddarparu sicrwydd parhaus o ddiogelwch y cyhoedd os na chyflwynir yr ystod lawn o droseddau o dan y ddeddf tan naw mis ar ôl y dyddiad dod i rym fel y cynigiwyd yn wreiddiol, yn erbyn yr angen i geiswyr gael penderfyniad ar eu cais, ac i awdurdodau lleol ystyried a phrosesu ceisiadau. O ganlyniad, rydym o'r farn ei bod yn gymesur newid y cyfnod pontio o naw mis i chwe mis.

Bydd yr amserlen a'r cyfnod pontio arfaethedig fel a ganlyn:

Mis cyn y dyddiad dod i rym

Bydd awdurdodau lleol yn cael y pŵer i godi ffi am gais am drwydded triniaeth arbennig a chais am dystysgrif gymeradwyo mangre neu gerbyd.

Y dyddiad dod i rym

Bydd y drosedd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniol (yn fwriadol neu'n ddi-hid) wrth wneud cais am drwydded neu gais am dystysgrif gymeradwyo mangre neu gerbyd yn dod i rym.

Bydd ymarferwyr a pherchnogion / gweithredwyr mangreoedd / cerbydau presennol, sydd wedi eu cofrestru o dan Ddeddf 1982, yn gymwys i gael ‘trwydded drosiannol’ neu ‘dystysgrif gymeradwyo mangre / cerbyd drosiannol’ os byddant yn cyflwyno eu ceisiadau newydd cyn pen tri mis ar ôl y dyddiad dod i rym. Diben hyn yw dangos i aelodau'r cyhoedd fod yr unigolyn neu'r busnes wedi bod yn rhan o gynllun cofrestru o'r blaen ac wedi gweithredu i safon benodol. Bydd hyn yn caniatáu i geiswyr a busnesau barhau i fasnachu tra bydd ceisiadau'n cael eu prosesu.

Unwaith y bydd yr awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â'r cais, ni fydd y drwydded neu'r dystysgrif gymeradwyo 'drosiannol' bellach yn gymwys.

Bydd gan awdurdodau lleol chwe mis ar ôl y dyddiad dod i rym i brosesu'r holl geisiadau trosiannol a gyflwynir. Felly, dylid prosesu ceisiadau a gyflwynir cyn gynted â phosibl.

Chwe mis ar ôl y dyddiad dod i rym

Bydd gweddill y troseddau o dan y ddeddf yn dod i rym.

Erbyn y dyddiad hwn, disgwylir i awdurdodau lleol fod wedi prosesu ceisiadau gan y rhai a oedd wedi eu cofrestru'n flaenorol o dan Ddeddf 1982.

Bydd y cyfnod pontio yn dod i ben a bydd y cynllun trwyddedu yn gwbl weithredol.

Noder: 

Ni fydd ceiswyr nad ydynt eisoes wedi eu cofrestru o dan Ddeddf 1982 ar y dyddiad dod i rym yn gymwys ar gyfer y trefniadau trosiannol. Ni chaniateir i'r ceiswyr hyn fasnachu hyd nes y byddant wedi eu trwyddedu neu y bydd eu mangreoedd/cerbydau wedi eu cymeradwyo. Bydd awdurdodau lleol yn dechrau prosesu ceisiadau gan yr ymgeiswyr newydd hyn ar ôl iddynt ddod i law.

Y canllawiau statudol

Gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi dau fath gwahanol o ganllawiau ar gyfer rhanddeiliaid, sydd â statws gwahanol yn dibynnu a yw deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu.

Canllawiau statudol: mae'r mathau hyn o ganllawiau wedi eu nodi yn y gyfraith ac yn cynnwys manylion ynghylch pwy sy'n eu darparu, pa faterion y mae rhaid iddynt eu cynnwys, a phwy sy'n gorfod eu dilyn. 

Canllawiau anstatudol: nid ydynt wedi eu nodi mewn unrhyw gyfraith benodol, ac felly nid oes ganddynt unrhyw ddyletswyddau cyfreithiol penodol mewn cysylltiad â phwy sy'n eu dyroddi, yr hyn y mae rhaid iddynt ei gynnwys na phwy sy'n gorfod eu dilyn. Gan fod canllawiau anstatudol yn cael eu cyhoeddi at ddibenion rhoi cyngor a gwybodaeth, gallant fod yn fwy hyblyg o ran cynnwys ac ymdrin ag ystod ehangach o faterion. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth ymarferol y mae angen i'r gynulleidfa arfaethedig fod yn ymwybodol ohoni i weithredu mewn ffordd benodol.

Ni ellir cyhoeddi canllawiau statudol ac anstatudol yn yr un ddogfen oherwydd eu statws cyfreithiol gwahanol.

Y canllawiau statudol ar gyfer penderfynu ynghylch addasrwydd person i roi triniaeth arbennig

O dan ddarpariaethau adran 66(11) o'r ddeddf, mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ‘roi canllawiau i awdurdodau lleol ynghylch materion sydd i gael eu hystyried wrth benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi, ac os felly, i ba raddau, ynghylch addasrwydd ceisydd i roi triniaeth arbennig’. Felly, mae gan y canllawiau hyn statws canllawiau statudol.

Felly, rydym wedi drafftio canllawiau statudol priodol er mwyn cyflawni'r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru, ac mae'r rhain ynghlwm yn Atodiad C. Y brif gynulleidfa ar gyfer y canllawiau statudol hyn yw awdurdodau lleol, i'w helpu i ddehongli adran 66(11) mewn termau ymarferol. Fodd bynnag, rydym yn gwahodd yr holl randdeiliaid i wneud sylwadau ar y ddogfen ddrafft. Byddwn yn cyhoeddi fersiwn wedi ei fformatio'n llawn o'r canllawiau statudol yn y Gymraeg a'r Saesneg ar ôl i'r ymgynghoriad hwn ddod i ben ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau. 

Canllawiau anstatudol ar gyfer ymarferwyr ac awdurdodau lleol

Rydym yn bwriadu darparu canllawiau anstatudol ar wahân fel a ganlyn:

  • ar gyfer ymarferwyr a gweithredwyr mangreoedd/cerbydau ynghylch yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wneud cais am drwydded triniaeth arbennig neu dystysgrif gymeradwyo mangre/cerbyd, a chyngor ar sut y gallant gydymffurfio ag amodau eu trwydded neu eu tystysgrif gymeradwyo
  • ar gyfer awdurdodau lleol ar sut y maent i weinyddu a gorfodi'r cynllun trwyddedu

Rydym yn gweithio gyda'n gwahanol grwpiau rhanddeiliaid i ddrafftio'r dogfennau hyn i sicrhau eu bod yn cynnwys digon o wybodaeth i egluro'r ffordd y gweithredir y cynllun trwyddedu a darparu gwybodaeth ymarferol. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu cyhoeddi'n agosach at y dyddiad dod i rym ar gyfer y cynllun.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rydym yn croesawu sylwadau ar y rheoliadau drafft a'r canllawiau statudol drafft tan 8 Ebrill 2024, ac ar ôl hynny byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a gafwyd.

Bydd eich ymatebion i'r ymgynghoriad yn helpu i lywio'r fersiynau terfynol o'r rheoliadau a'r canllawiau statudol. Ein bwriad yw dadansoddi'r ymatebion ac ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau cyn gosod y rheoliadau drafft terfynol gerbron y Senedd, a gobeithiwn gynnal y ddadl yn fuan wedyn.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r canllawiau statudol tua'r un pryd. Ein bwriad yw y bydd y rheoliadau, os cânt eu pasio, a'r cynllun gorfodol ar gyfer ceisiadau, yn dod i rym ar ddyddiad i'w benderfynu ym mis Hydref 2024. Gall y dyddiad hwn newid, yn dibynnu ar y broses ddeddfwriaethol a chymeradwyaeth y Senedd.

Byddwn yn cyhoeddi manylion yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad hwn ac unrhyw ddiwygiadau a gymeradwywyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol maes o law.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Noder: bydd y cynllun trwyddedu gorfodol hwn yn cael ei gyflwyno ar y telerau a nodir yn y ddogfen hon a'r rheoliadau. Ni allwn felly ailedrych ar bwnc y cynllun ei hun na'r cynigion a gyflwynwyd yn y ddogfen ymgynghori gyntaf.

Mae'r ymatebion i ymgyngoriadau yn debygol o gael eu gwneud yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Pe bai’n well gennych aros yn ddienw, rhowch wybod inni. Gallwch ymateb drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho copi o'r ffurflen ymateb yma.

Fel arall, gallwch e-bostio eich ymateb inni: TriniaethauArbennig@llyw.cymru

Rheoliadau trwyddedau triniaeth arbennig (Cymru) 202X

Cwestiwn 1. (a) Ydych chi'n credu bod y rheoliadau drafft hyn yn nodi'n ddigonol sut y bydd unigolion yn cael eu trwyddedu?

(b) A oes unrhyw beth yn aneglur, unrhyw beth ar goll y dylid ei gynnwys, neu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys na ddylid ei gynnwys?

Rheoliadau mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202X

Cwestiwn 2. (a) Ydych chi'n credu bod y rheoliadau drafft hyn yn nodi'n ddigonol sut y bydd mangreoedd a cherbydau yn cael eu cymeradwyo?

(b) A oes unrhyw beth yn aneglur, unrhyw beth ar goll y dylid ei gynnwys, neu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys na ddylid ei gynnwys?

Rheoliadau unigolion sydd wedi eu hesemptio o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202X

Cwestiwn 3. (a) Ydych chi'n credu bod y rheoliadau drafft hyn yn nodi'n ddigonol sut y bydd yr unigolion penodedig yn cael eu hesemptio?

(b) A oes unrhyw beth yn aneglur, unrhyw beth ar goll y dylid ei gynnwys, neu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys na ddylid ei gynnwys?

Rheoliadau pwyllgorau trwyddedu triniaethau arbennig (Cymru) 202X

Cwestiwn 4. (a) Ydych chi'n credu bod y rheoliadau drafft hyn yn nodi'n ddigonol sut y bydd pwyllgorau trwyddedu yn gweithredu at ddibenion y cynllun trwyddedu gorfodol hwn?

(b) A oes unrhyw beth yn aneglur, unrhyw beth ar goll y dylid ei gynnwys, neu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys na ddylid ei gynnwys?

Rheoliadau gwrthrychau rhagnodedig ar gyfer tyllu'r corff (Cymru) 202X

Cwestiwn 5. (a) Ydych chi'n credu bod y rheoliadau drafft hyn yn darparu diffiniad digonol o 'wrthrych' at ddibenion tyllu rhannau o'r corff heblaw rhannau personol o fewn y cynllun trwyddedu hwn?

(b) A oes unrhyw beth yn aneglur, unrhyw beth ar goll y dylid ei gynnwys, neu unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys na ddylid ei gynnwys?

Canllawiau statudol

Cwestiwn 6. (a) Ydych chi'n credu bod y canllawiau statudol drafft yn esbonio'n ddigonol sut y dylai awdurdod lleol benderfynu ynghylch addasrwydd 'person i roi triniaeth arbennig' at ddibenion trwyddedu o dan y cynllun trwyddedu gorfodol, pan fo amheuaeth wedi ei chodi ynghylch hyn?

(b) A oes unrhyw beth yn aneglur yn y Canllawiau Statudol drafft y dylid ei esbonio ymhellach? 

(c) A oes unrhyw beth mewn perthynas â phenderfynu ynghylch addasrwydd 'person i roi triniaeth arbennig' sydd ar goll o'r canllawiau statudol drafft, neu'n aneglur ynddynt?

Cwestiynau statudol

Cwestiwn 7. Hoffem wybod eich barn ynghylch yr effaith y gallai'r cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig yng Nghymru ei chael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yr un mor ffafriol â'r Saesneg.

  • Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? 
  • Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu leihau'r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 8. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid trefnu neu newid y cynllun trwyddedu gorfodol a gynigir ar gyfer Triniaethau Arbennig yng Nghymru er mwyn sicrhau:

  • effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
  • dim effeithiau andwyol ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Cwestiwn 9. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw broblemau cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y blwch isod i'w nodi.

Atodiad A: rhestr ddosbarthu'r ymgynghoriad

Pawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyntaf.

Sefydliadau cynrychioliadol

  • Cyngor Aciwbigo Prydain.
  • Cymdeithas Aciwbigo Meddygol Prydain.
  • Cymdeithas Aciwbigo’r Ffisiotherapyddion Siartredig.
  • Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig.
  • Y Ffederasiwn Gwallt a Harddwch Cenedlaethol.
  • Ffederasiwn y Therapyddion Cyfannol.
  • Save Face.
  • Ffederasiwn Artistiaid Tatŵ Prydain.
  • Ffederasiwn Tatŵio.
  • Cydgyngor Ymarferwyr Cosmetig – JCCP.
  • Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain – BABTAC.
  • Cyngor Harddwch Prydain.
  • Sefydliad a Chymdeithas Electrolysis Prydain.
  • Cymdeithas Tyllwyr Proffesiynol y DU – UKAPP.
  • Undeb y Diwydiant Tatŵio a Thyllu'r Corff.
  • Fforwm Busnes Preifat.
  • Consortiwm Manwerthu Cymru.
  • Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
  • Trade Union Congress (TUC) Cymru.
  • Confederation of British Industry (CBI) Cymru.
  • Ffederasiwn Busnesau Bach Prydain.
  • Ffederasiwn Busnesau Bach – Cymru.

Swyddfeydd y comisiynwyr

  • Comisiynydd y Gymraeg.
  • Y Comisiynydd Plant.
  • Y Comisiynydd Gwybodaeth.

Llywodraeth / llywodraeth leol 

  • Prif weithredwyr awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • Rheoleiddio llywodraeth leol.
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Iechyd

  • Prif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr Meddygol a Chyfarwyddwyr Nyrsio:
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
    • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
    • Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
    • Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
    • Y Coleg Nyrsio Brenhinol.
    • Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd BILl.
    • Coleg Brenhinol y Meddygon.
    • Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu.
    • Timau rhanbarthol Llais (Cynghorau Iechyd Cymuned gynt).

Iechyd y cyhoedd

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd.
  • Cyfadran Iechyd y Cyhoedd.
  • Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd – CIEH.
  • Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd – RSPH.
  • Arweinwyr iechyd yr amgylchedd awdurdodau lleol.
  • Canolfannau cyfunol Cymru ar gyfer iechyd y cyhoedd.
  • Cyfarwyddwyr diogelu'r cyhoedd Cymru.
  • Panel Arbenigol Clefydau Trosglwyddadwy Cymru Gyfan.
  • Panel Arbenigol Iechyd a Diogelwch Cymru Gyfan.
  • Penaethiaid safonau masnach Cymru.
  • Y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig.
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
  • Iechyd yr Amgylchedd Cymru.
  • Panel Arbenigol Trwyddedu Cymru Gyfan.

Atodiad B: crynodeb o'r rheoliadau drafft o dan ran 4 o ddeddf iechyd y cyhoedd (Cymru) 2017 ac atodlen 3 iddi

Rheoliadau trwyddedau triniaeth arbennig (Cymru) 202X

Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i driniaeth arbennig, yng nghwrs busnes, gael ei rhoi o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig (oni bai bod yr unigolyn hwnnw wedi ei esemptio). Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod cais i gael ei ganiatáu, rhaid iddo ddyroddi trwydded triniaeth arbennig i'r ceisydd, yn ogystal â'r amodau trwyddedu mandadol cymwys y mae rhaid i ddeiliad y drwydded lynu wrthynt. Bydd deiliad y drwydded wedi ei awdurdodi i roi'r driniaeth / triniaethau arbennig a nodir yn ei drwydded yn y fangre neu'r cerbyd wedi ei chymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo a bennir yn ei drwydded.

Mae'r rheoliadau drafft hyn yn ymwneud â thrwyddedau triniaeth arbennig ac maent yn cynnwys:

  • y meini prawf y mae rhaid eu bodloni er mwyn i gais am drwydded triniaeth arbennig gael ei ganiatáu ("y meini prawf trwyddedu")
  • ffurf a chynnwys ffurflen gais ar gyfer trwydded triniaeth arbennig
  • ffurf a chynnwys trwydded triniaeth arbennig
  • yr amodau trwyddedu mandadol ar gyfer pob trwydded triniaeth arbennig (ni waeth a ganiateir trwydded triniaeth arbennig am gyfnod o dair blynedd neu am gyfnod nad yw'n hwy na saith niwrnod)
  • yr amodau trwyddedu mandadol sy'n berthnasol i'r driniaeth arbennig sy'n cael ei rhoi
  • yr amodau trwyddedu mandadol sy'n berthnasol i driniaeth arbennig sy'n cael ei rhoi o dan oruchwyliaeth
  • darpariaeth ar gyfer ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau triniaeth arbennig

Rheoliadau mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202X

Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i driniaethau arbennig gael eu rhoi mewn mangre neu gerbyd wedi ei chymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo gan awdurdod lleol (oni bai bod y fangre honno neu'r cerbyd hwnnw wedi ei hesemptio neu wedi ei esemptio). Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y fangre neu'r cerbyd i gael ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo, bydd yn dyroddi tystysgrif gymeradwyo sy'n awdurdodi'r gymeradwyaeth honno. Mae'r rheoliadau drafft hyn yn ymwneud â chymeradwyo mangreoedd a cherbydau ac maent yn ymdrin â nifer o themâu.

Yn gyntaf, mae'r rheoliadau drafft yn nodi'r amgylchiadau pan fydd mangre neu gerbyd wedi ei hesemptio neu wedi ei esemptio rhag cael ei chymeradwyo neu ei gymeradwyo gan awdurdod lleol.

Mae'r rheoliadau drafft hefyd yn cynnwys manylion ehangach cymeradwyaethau megis:

  • y meini prawf y mae rhaid eu bodloni er mwyn i dystysgrif gymeradwyo newydd gael ei chaniatáu
  • y ffurflen gais sydd i gael ei defnyddio wrth wneud cais am dystysgrif gymeradwyo newydd
  • ffurf y dystysgrif gymeradwyo ar ôl i gymeradwyaeth gael ei chaniatáu
  • yr amodau mandadol y bydd tystysgrif gymeradwyo yn ddarostyngedig iddynt
  • darpariaeth mewn perthynas ag amrywiadau ar dystysgrif gymeradwyo
  • adnewyddu tystysgrif gymeradwyo (er enghraifft, pa feini prawf y mae rhaid eu bodloni er mwyn i dystysgrif gymeradwyo gael ei hadnewyddu)
  • darpariaeth ynghylch copïau o dystysgrif gymeradwyo
  • darpariaeth ar gyfer ffioedd mewn perthynas â thystysgrifau cymeradwyo
  • terfynu tystysgrif gymeradwyo yn wirfoddol
  • yr hyn y mae'n ofynnol i awdurdod lleol ei wneud os yw'n bwriadu gwrthod cais a'r hawl i gyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol
  • y broses apelio mewn cysylltiad â cheisiadau

Rheoliadau unigolion sydd wedi eu hesemptio o ran triniaethau arbennig (Cymru) 202x

Rhaid i unigolyn sy’n rhoi triniaeth arbennig i rywun arall, yng nghwrs busnes, gael ei drwyddedu, oni bai ei fod wedi ei esemptio. Mae'r rheoliadau drafft hyn yn manylu ar yr amgylchiadau pan fo unigolyn wedi ei esemptio neu heb ei esemptio rhag y gofyniad i gael trwydded triniaeth arbennig. Mae'r cynllun trwyddedu mewn perthynas â thriniaethau arbennig sy'n cael eu rhoi yng nghwrs busnes. Ni fwriedir i driniaethau arbennig sy'n cael eu rhoi fel rhan o'r GIG mewn lleoliad y GIG (er enghraifft un o ysbytai'r GIG) ddod o fewn cwmpas y cynllun trwyddedu hwn.

Mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn darparu bod unigolyn sy'n aelod o broffesiwn a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (ga) o adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002, sef:

  • y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
  • y Cyngor Optegol Cyffredinol
  • y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
  • y Cyngor Ciropractig Cyffredinol
  • y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • yn ddarostyngedig i adran 26(6), Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon
  • y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

wedi ei esemptio oni bai bod rheoliadau yn pennu bod trwydded yn ofynnol mewn perthynas â thriniaeth arbennig benodol. Mae'r rheoliadau drafft yn ei gwneud yn ofynnol:

  • nad yw ymarferwyr meddygol didrwydded, optometryddion, optegwyr cyflenwi, fferyllwyr na thechnegwyr fferyllfeydd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gael trwydded triniaeth arbennig. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i'r unigolion hyn gael trwydded i roi triniaeth aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis, neu datŵio.
  • nad yw ymarferwyr meddygol trwyddedig, deintyddion neu broffesiynolyn gofal deintyddol, ciropractyddion, osteopathiaid na bydwragedd, nyrsys neu gymdeithion nyrsio wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gael trwydded triniaeth arbennig oni bai bod amodau penodol yn gymwys. Yr amodau hynny yw bod yr unigolyn yn rhoi'r driniaeth arbennig mewn sefydliad gofal iechyd annibynnol a reoleiddir, ac nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw amodau, unrhyw gyfyngiadau nac unrhyw sancsiynau ar ei gofrestriad proffesiynol, mewn perthynas â'i addasrwydd i ymarfer. Os nad yw'r amodau hynny'n gymwys, yna mae'n ofynnol i'r unigolyn hwnnw gael trwydded i roi triniaeth aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis, neu datŵio.

Mae darpariaeth wedi ei gwneud hefyd ar gyfer trin aelodau o broffesiynau penodol, sef ciropodydd neu bodiatrydd a ffisiotherapydd, fel pe baent wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gael trwydded triniaeth arbennig mewn perthynas ag aciwbigo. Mae'r esemptiad hwn yn gymwys pan fydd triniaeth aciwbigo yn cael ei rhoi mewn sefydliad gofal iechyd annibynnol a reoleiddir ac nad oes gan yr unigolyn unrhyw amodau, unrhyw gyfyngiadau nac unrhyw sancsiynau ar ei gofrestriad proffesiynol, mewn perthynas â'i addasrwydd i ymarfer.

Rheoliadau pwyllgorau trwyddedu triniaethau arbennig (Cymru) 202x

Mae'r rheoliadau drafft hyn yn ymdrin â'r gweithdrefnau sy'n gymwys i bwyllgorau trwyddedu awdurdodau lleol (a'u his-bwyllgorau) er mwyn arfer y swyddogaethau a roddwyd iddynt o dan ran 4 o'r ddeddf. Pan fo'r awdurdod lleol yn bwriadu gwrthod cais am drwydded triniaeth arbennig, gwrthod cais i amrywio neu adnewyddu trwydded triniaeth arbennig, dynodi unigolyn fel person y mae angen trwydded triniaeth arbennig arno neu ddirymu trwydded triniaeth arbennig neu dystysgrif gymeradwyo, rhaid iddo roi hysbysiad rhybuddio i'r unigolyn hwnnw.

Mae'n ofynnol i bwyllgor trwyddedu'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir iddo ar ôl i hysbysiad rhybuddio gael ei roi i unigolyn a chaniateir cynnal gwrandawiad cyn i'r pwyllgor (neu'r is-bwyllgor) wneud penderfyniad terfynol y mae'r cais, y dynodiad neu'r dirymiad yn gymwys iddo. Mae'r swyddogaethau hyn wedi eu dirprwyo i bwyllgor (neu is-bwyllgor) trwyddedu'r awdurdod lleol.

Mae 'Rheoliadau drafft pwyllgorau trwyddedu triniaethau arbennig (Cymru)' yn cynnwys materion sy'n ymwneud â'r gweithdrefnau y mae rhaid i bwyllgor (neu is-bwyllgor) trwyddedu eu dilyn, megis pa broses y mae rhaid ei dilyn cyn cynnal gwrandawiad, y weithdrefn i'w dilyn mewn gwrandawiad, a pha bryd y bydd penderfyniad yn cael ei wneud.

Rheoliadau gwrthrychau rhagnodedig ar gyfer tyllu'r corff (Cymru) 202x

O dan ran 4 o'r ddeddf, ystyr "tyllu'r corff" ar hyn o bryd yw 'gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi i emwaith, neu i wrthrych o ddisgrifiad a ragnodir mewn rheoliadau neu o dan reoliadau, gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn neu ei dynnu o gorff yr unigolyn'. Ystyr gwneud trydylliad yw 'gwneud bwlch yng nghyfanrwydd y croen neu'r bilen fwcaidd mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) drwy bric neu endoriad'.

Diben y rheoliadau hyn yw rhagnodi 'gwrthrych' i ddiffinio ymhellach beth yw ystyr 'tyllu'r corff'. Cadarnhaodd proses ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r sector tyllu'r corff, nad yw'r enwau a gymhwysir at wrthrychau sy'n cael eu hatodi i gorff unigolyn, eu mewnblannu ynddo, neu eu tynnu ohono, wedi eu safoni. Mae disgrifiadau cyffredin o wrthrychau yn cynnwys 'bachau', 'angorau macrogroenol', 'angorau microgroenol', 'microsglodion cyfathrebu agosfaes' a 'gleiniau silicon'. Hefyd, mae'r ystod o wrthrychau a ddefnyddir yn parhau i newid wrth i'r arfer o dyllu'r corff esblygu. Felly, mae angen i unrhyw ragnodiad o 'wrthrych' fod yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer natur amrywiol a chreadigol y driniaeth hon a dylai'r diffiniad fod yn eang ac yn hollgynhwysol.

Mae 'Rheoliadau drafft gwrthrychau rhagnodedig ar gyfer tyllu'r corff (Cymru)' yn cynnig rhagnodiad eang ar gyfer "gwrthrych". Bydd hyn yn golygu y bydd y diffiniad o dyllu'r corff o dan ran 4 o'r ddeddf yn darllen fel a ganlyn:

  • ystyr 'tyllu’r corff' yw 'gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd unigolyn, gyda golwg ar alluogi i emwaith, neu i unrhyw wrthrych nad yw'n emwaith, gael ei atodi i gorff yr unigolyn, ei fewnblannu yng nghorff yr unigolyn neu ei dynnu o gorff yr unigolyn'.

Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â'r diffiniad o 'wrthrych' a ragnodir o dan 'Reoliadau gwrthrychau rhagnodedig ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff (Cymru) 2019'.

Mae'r holl reoliadau drafft hyn i'w gweld ar dudalen ymgynghori Llywodraeth Cymru yma.

Atodiad C: canllawiau statudol drafft

Canllawiau statudol ar asesu addasrwydd person i roi triniaeth arbennig yng Nghymru

Dyroddir y canllawiau statudol hyn i awdurdodau lleol yng Nghymru o dan adran 66(11) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

1. Cyflwyniad

1.1 Pasiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 16 Mai 2017, ac fe gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf 2017. Mae rhan 4 o'r Ddeddf yn nodi'r gofynion i ymarferwyr sy'n rhoi 'triniaethau arbennig' yng Nghymru gael cynllun trwyddedu gorfodol. Mae'r pedair triniaeth arbennig yn cael eu pennu yn adran 57 o'r Ddeddf (a'u diffinio ymhellach yn adran 94), ac maent yn cynnwys:

  • aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
  • tyllu'r corff
  • electrolysis
  • tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol)

1.2 Bwriad y cynllun trwyddedu yw gwella a chynnal safonau atal a rheoli heintiau yn y diwydiant triniaethau arbennig a sicrhau diogelwch ac iechyd cleientiaid ac ymarferwyr fel ei gilydd.

1.3 Mae prif nodweddion rhan 4 o'r Ddeddf fel a ganlyn:

  • Mae'n ofynnol i bersonau sy'n rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru gael eu trwyddedu i wneud hynny gan awdurdod lleol (os nad ydynt wedi eu hesemptio).
  • Ni all deiliaid trwyddedau ond roi triniaethau arbennig mewn mangreoedd neu gerbydau sydd wedi eu "cymeradwyo" gan awdurdod lleol.
  • Rhaid bodloni meini prawf penodedig wrth gyflwyno cais am drwydded triniaeth arbennig, ac mae hyn yn cynnwys cyflwyno tystysgrif datgeliad sylfaenol a ddyroddir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
  • Rhaid i ddeiliaid trwyddedau gydymffurfio â'r amodau trwyddedu gorfodol i sicrhau eu bod yn cadw eu trwydded drwy gydol y cyfnod y'i caniateir ar ei gyfer.
  • Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gadw cofrestr sy'n agored i'r cyhoedd o fangreoedd a cherbydau sydd wedi eu cymeradwyo a'r personau hynny sydd wedi eu trwyddedu i roi triniaethau arbennig.
  • Caniateir i awdurdodau lleol godi ffioedd am weinyddu'r broses drwyddedu ar gyfer triniaethau arbennig, a monitro a gorfodi'r cynllun trwyddedu.
  • Gall awdurdodau lleol gymryd camau ffurfiol yn erbyn deiliaid trwyddedau mewn achosion pan fônt wedi torri eu hamodau trwyddedu neu wedi torri gofynion y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys dirymu eu trwydded.
  • Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau statudol i awdurdodau lleol gyfeirio atynt wrth ystyried troseddau perthnasol a ddatgenir gan geiswyr fel rhan o'u cais am drwydded triniaeth arbennig.

2. Diben y canllawiau statudol hyn

2.1 Mae Gweinidogion Cymru wedi dyroddi'r canllawiau statudol hyn (o dan adran 66(11) o'r Ddeddf) i awdurdodau lleol gyfeirio atynt pan fydd ceisydd neu ddeiliad trwydded wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol.

2.2 Mae'r ddogfen canllawiau statudol hon yn amlinellu sut y dylai awdurdodau lleol benderfynu ynghylch addasrwydd naill ai ceisydd neu ddeiliad trwydded. Mae'n nodi'r materion y bydd angen i awdurdod lleol eu hystyried wrth benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi, ac os felly, i ba raddau, ynghylch addasrwydd y person i roi triniaeth arbennig, ac a yw caniatáu, adnewyddu neu ddirymu trwydded triniaeth arbennig yn briodol o dan yr amgylchiadau. 

2.3 Yn gryno, diben y canllawiau statudol hyn yw:

  • sicrhau bod ceiswyr (sydd i gael eu trwyddedu) a deiliaid trwyddedau yn addas i roi'r driniaeth arbennig ac yn peri cyn lleied o risg â phosibl i ddiogelwch a lles cleientiaid yng nghwrs triniaeth arbennig
  • helpu i sicrhau bod proses yr awdurdod lleol ar gyfer gwneud penderfyniadau yn dryloyw, yn deg ac yn gymesur

3. I bwy y mae'r canllawiau statudol hyn yn gymwys, a pha bryd y maent yn gymwys?

3.1 Mae'r canllawiau statudol hyn yn gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

3.2 Dylai'r awdurdod lleol ymgynghori â hwy:

(i) Os yw'r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y meini prawf trwyddedu a'r gofynion ar gyfer cais am drwydded triniaeth arbennig wedi eu bodloni, ond mae'r ceisydd wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol. O dan yr amgylchiadau hyn, ar ôl ystyried y canllawiau yn llawn, mae gan yr awdurdod lleol y disgresiwn i benderfynu a ddylid dyroddi trwydded triniaeth arbennig.

Rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd i roi triniaeth arbennig y mae ei gais yn ymwneud â hi i'r graddau y byddai'n amhriodol caniatáu trwydded triniaeth arbennig iddo.

(ii) Os daw'r awdurdod lleol yn ymwybodol bod gan ddeiliad trwydded euogfarn am drosedd berthnasol a oedd, er enghraifft:

  • heb ddigwydd cyn dyroddi'r drwydded triniaeth arbennig, neu os nad oedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol o'r euogfarn ar adeg caniatáu'r drwydded triniaeth arbennig
  • naill ai na fyddai'r drwydded, pe bai'r awdurdod wedi rhoi sylw i natur ac amgylchiadau'r drosedd honno, fel y'i disgrifir yn adran 66, at ddibenion dyroddi'r drwydded, wedi cael ei dyroddi o gwbl, neu na fyddai wedi cael ei dyroddi i'r graddau y mae'n ymwneud â rhoi triniaeth arbennig benodol

3.3 Er nad yw'r canllawiau statudol hyn wedi eu llunio i'w defnyddio gan geiswyr am drwydded triniaeth arbennig na deiliaid trwyddedau presennol, gallant eu helpu i ddeall y materion y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol eu hystyried wrth benderfynu ynghylch addasrwydd person i roi triniaeth arbennig pan fo'r person hwnnw naill ai wedi gwneud datganiad o euogfarn/euogfarnau am drosedd/troseddau perthnasol neu y mae'r awdurdod lleol wedi dod yn ymwybodol o'i euogfarn am drosedd berthnasol.

3.4 Nid yw'r canllawiau statudol hyn yn gymwys pan fydd y ceisydd neu ddeiliad y drwydded:

(a) wedi ei euogfarnu o drosedd berthnasol
(b) wedi ei 'euogfarnu o drosedd berthnasol', ond mae'r euogfarn honno wedi ei 'disbyddu' 
(c) wedi ei 'gyhuddo' o 'drosedd berthnasol', ond yn dilyn ei achos llys ni chafodd ei euogfarnu o'r drosedd honno
(d) wedi ei gyhuddo o drosedd berthnasol, ond nid yw'r achos llys wedi bod eto

4. Troseddau perthnasol a chasglu tystiolaeth

4.1 Diffinnir 'trosedd berthnasol' o dan adran 66(8)(a) a 8(b) o'r Ddeddf:
Adran 66(8)(a) trosedd o dan ran 4 neu o dan ran 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff) o'r Ddeddf.

Troseddau o dan ran 4
Adran 82 (troseddau sy’n ymwneud â’r system trwyddedu a chymeradwyo)
  • Person sy'n torri adran 58 (gofyniad trwyddedu).
  • Person sy'n torri gwaharddiad (o dan adran 61(3)(c), mewn hysbysiad a roddir o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58(3)).
  • Person sydd, heb achos rhesymol, yn torri'r gofyniad yn adran 69(2) (gofyniad i gael cymeradwyaeth).
  • Person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 77 (hysbysiadau stop).
  • Person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 78 (hysbysiadau camau adfer i ddeiliad trwydded).
  • Person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 79 (hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre).
  • Person sydd, mewn cais i ddyroddi, amrywio neu adnewyddu trwydded triniaeth arbennig neu gais am gymeradwyaeth i fangre neu gerbyd o dan adran 70
    • yn gwneud datganiad sy'n anwir neu'n gamarweiniol
    • naill ai'n gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol neu'n ddi-hid o ran a yw'n anwir neu'n gamarweiniol.

Pe bai person yn cael ei ddyfarnu'n euog, byddai'n agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Adran 89 (rhwystro ac yn y blaen swyddogion)
  • Person sy'n rhwystro'n fwriadol swyddog awdurdodedig sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 84 i 88.
  • Person sydd, heb achos rhesymol, yn methu â darparu i swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae eu hangen yn rhesymol at ddibenion adran 88(1).
  • Person sydd, heb achos rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 88(1)(b) neu (d).

Pe bai person yn cael ei ddyfarnu'n euog, byddai'n agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Troseddau o dan ran 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o'r corff)
Adran 95 (y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn).
  • Rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person yng Nghymru sydd o dan 18 oed.
  • Gwneud trefniadau i roi, yng Nghymru, dwll mewn rhan bersonol o gorff person sydd o dan 18 oed.

Pe bai person yn cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd o’r fath, byddai'n agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Adran 104 (rhwystro ac yn y blaen cwnstabl neu swyddog)
  • Unrhyw berson sy'n rhwystro'n fwriadol gwnstabl neu swyddog awdurdodedig sy'n arfer swyddogaethau o dan adrannau 99 i 103.
  • Unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu â darparu i gwnstabl neu swyddog awdurdodedig gyfleusterau y mae eu hangen yn rhesymol.
  • Unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 103(1)(b) neu (d).

Pe bai person yn cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd o'r fath, byddai'n agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Adran 66(8)(b) trosedd (pa un ai o dan gyfraith Cymru a Lloegr neu rywle arall) sydd:

(i) yn ymwneud â thrais
(ii) o natur rywiol, neu’n ymwneud â deunydd neu ddelweddau rhywiol
(iii) yn golygu tatŵio plentyn o dan 18 oed
(iv) yn ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith
(v) yn golygu methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cynllun ar gyfer trwyddedu neu fel arall ganiatáu neu reoleiddio cyflawni gweithgaredd sy’n driniaeth arbennig at ddibenion y Ddeddf hon

Casglu tystiolaeth sy'n ymwneud â throseddau perthnasol

4.2 Bydd awdurdod lleol yn casglu tystiolaeth a gwybodaeth sy'n ymwneud â throseddau perthnasol ceisydd o'r ffynonellau a ganlyn:

a) Tystysgrif datgeliad sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gyflwynir gan y ceisydd fel rhan o'i gais sy'n gofnod swyddogol o euogfarnau heb eu disbyddu a rhybuddion amodol a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Bydd hyn yn cynnwys troseddau sy'n ymwneud â thrais, troseddau o natur rywiol, neu'n ymwneud â deunydd neu ddelweddau rhywiol ac weithiau troseddau sy'n golygu tatŵio plentyn o dan 18 oed.

b) Os yw'n berthnasol, tystysgrif cofnod troseddol dramor a gyflwynir gan y ceisydd fel rhan o'i gais (er enghraifft, pan na fo ceisydd yn gymwys i gael tystysgrif datgeliad sylfaenol neu y mae wedi treulio mwy na 6 mis yn byw y tu allan i'r DU). Mae'r broses ymgeisio ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol o dramor yn amrywio o wlad i wlad. Efallai y bydd angen i geisydd wneud cais yn y wlad neu i'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU.

c) Cofnodion gorfodi'r awdurdod lleol ei hun neu wybodaeth a rennir gan awdurdodau lleol eraill sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith neu droseddau sy'n golygu methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cynllun trwyddedu ar gyfer trwyddedu neu fel arall ganiatáu neu reoleiddio cyflawni gweithgaredd sy'n driniaeth arbennig at ddibenion y Ddeddf hon ac weithiau troseddau sy'n ymwneud â thatŵio plentyn o dan 18 oed.

d) Gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn ffurflen gais y ceisydd.

5. Troseddau perthnasol – adran 66(8)(b) o’r Ddeddf

5.1 Mae'r adran hon yn rhoi rhagor o wybodaeth i awdurdodau lleol wrth ystyried euogfarnau 'heb eu disbyddu' o dan adran 66(8)(b) o'r Ddeddf. Nid yw'r Ddeddf yn rhestru nac yn diffinio'n benodol unrhyw drosedd benodol, fel "ymosodiad" neu "niwed corfforol difrifol", yn hytrach mae'n disgrifio mathau neu gategorïau o droseddau. Mae'r fanyleb lai diffiniol hon yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol.

Troseddau o dan adran 66(8)(b)(i) a (ii)

Gall awdurdod lleol ddod yn ymwybodol o euogfarnau heb eu disbyddu, a all ar yr wyneb ymddangos fel rhai nad ydynt yn droseddau perthnasol. Gallai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw un o’r troseddau a ganlyn pan geir eu bod yn ymwneud â thrais neu o natur rywiol, neu'n ymwneud â deunydd neu ddelweddau rhywiol: 

  • gwerthu, cyflenwi, neu fewnforio cyffuriau / delio mewn cyffuriau o fangreoedd neu gerbydau lle mae triniaethau arbennig yn cael eu rhoi
  • masnachu pobl
  • caethwasiaeth fodern
  • meithrin perthynas amhriodol
  • cyflogi gweithwyr anghyfreithlon
  • delio mewn arfau tanio / delio mewn arfau tanio o fangreoedd neu gerbydau lle mae triniaethau arbennig yn cael eu rhoi
  • peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion eraill y cynllun trwyddedu
Ceiswyr

5.3 Pe bai euogfarn heb ei disbyddu am unrhyw droseddau nad ydynt yn ymddangos yn berthnasol hefyd yn ymwneud ag agweddau ar 'drais' neu 'faterion o natur rywiol', gan fod troseddau o 'drais' a 'materion o natur rywiol' yn cael eu hystyried yn droseddau perthnasol, ni fyddai'r awdurdod lleol yn gallu caniatáu'r drwydded triniaeth arbennig yn awtomatig. Yn yr achos hwn, byddai angen i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r canllawiau statudol hyn i benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd i roi triniaeth arbennig.

Deiliaid trwyddedau

5.4 Os yw'n dod i sylw'r awdurdod lleol, yn ystod y tair blynedd y mae'r drwydded yn ddilys ynddynt, bod euogfarn deiliad trwydded, sydd heb ei datgan a heb ei disbyddu, am unrhyw droseddau nad ydynt yn ymddangos yn berthnasol hefyd yn ymwneud ag agweddau ar 'drais' neu 'faterion o natur rywiol', gan fod troseddau o 'drais' a 'materion o natur rywiol' yn cael eu hystyried yn droseddau perthnasol, byddai angen i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r canllawiau statudol hyn i benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd deiliad y drwydded i roi triniaeth arbennig. Os yw'r amodau a nodir yn adran 68(3) wedi eu bodloni, sef:

  • bod deiliad y drwydded wedi ei euogfarnu o drosedd sy'n drosedd berthnasol (ac a oedd yn drosedd berthnasol ar y dyddiad y dyroddwyd y drwydded dan sylw)
  • bod y drwydded wedi ei dyroddi i ddeiliad y drwydded heb i'r awdurdod lleol roi sylw i natur ac amgylchiadau'r drosedd honno, fel y'i disgrifir yn adran 66, naill ai oherwydd nad oedd yr awdurdod lleol yn ymwybodol o'r euogfarn, neu oherwydd na chafwyd yr euogfarn cyn dyroddi'r drwydded
  • naill ai na fyddai’r drwydded, pe bai’r awdurdod lleol wedi rhoi sylw i natur ac amgylchiadau’r drosedd honno, fel y’i disgrifir yn adran 66, at ddibenion dyroddi’r drwydded, wedi cael ei dyroddi o gwbl, neu na fyddai wedi cael ei dyroddi i’r graddau y mae’n ymwneud â rhoi triniaeth arbennig benodol
  • bod yr awdurdod lleol o'r farn bod amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd deiliad y drwydded i roi triniaeth arbennig, byddai'r broses ar gyfer dirymu a amlinellir yn adran 68(5) i (7) o'r Ddeddf yn gymwys a gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad i ddeiliad y drwydded ddirymu ei drwydded
Enghreifftiau:
5.5 (A) Cyflogi gweithwyr anghyfreithlon

Os oes gan berson euogfarn heb ei disbyddu am drosedd sy'n ymwneud â chyflogi gweithwyr anghyfreithlon, ni fyddai angen i awdurdodau lleol ystyried yr euogfarn oherwydd ar yr wyneb mae'r euogfarn hon yn ymwneud â throsedd nad yw'n berthnasol. Fodd bynnag, os oedd euogfarn heb ei disbyddu'r person yn ymwneud â thrais er enghraifft, mae'n debygol y bydd hyn yn cael ei ystyried yn drosedd berthnasol. Ni fyddai'r awdurdod lleol yn gallu caniatáu'r drwydded triniaeth arbennig yn awtomatig a byddai angen iddo ymgynghori â'r Canllawiau Statudol hyn i benderfynu'n well a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y person i roi triniaeth arbennig.

(B) Masnachu pobl

Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn drosedd berthnasol yn benodol, ond pe bai trosedd sy'n ymwneud â masnachu pobl yn ymwneud ag elfennau o natur rywiol neu dreisgar, byddai angen i awdurdod lleol ystyried unrhyw elfennau o natur rywiol neu dreisgar o'r euogfarn heb ei disbyddu honno fel rhan o'i asesiad o addasrwydd y person i roi triniaeth arbennig.

(C) Gwerthu, cyflenwi neu fewnforio cyffuriau

Dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol y gallai rhai euogfarnau heb eu disbyddu mewn perthynas â gwerthu, cyflenwi a mewnforio cyffuriau gynnwys trais.

(D) Meithrin perthynas amhriodol

Nid yw troseddau sy'n ymwneud â meithrin perthynas amhriodol yn cael eu hystyried yn droseddau perthnasol yn benodol at ddibenion rhan 4 o'r Ddeddf. Fodd bynnag, yn dibynnu ar y manylion a'r materion eraill sy'n gysylltiedig ag euogfarn heb ei disbyddu, gellid ystyried hyn yn drosedd berthnasol pe bai'n cynnwys trais neu faterion o natur rywiol.

(E) Byrgleriaeth 

Er nad yw euogfarn heb ei disbyddu am drosedd sy'n ymwneud â byrgleriaeth yn cael ei hystyried yn drosedd berthnasol yn benodol, gall awdurdod lleol ganfod bod yr euogfarn heb ei disbyddu hefyd yn ymwneud â thrais wrth archwilio'n fanylach. Yn yr achosion hyn, byddai angen i awdurdod lleol ystyried yr agwedd dreisgar ar yr euogfarn honno fel rhan o'i asesiad o addasrwydd y person i roi triniaeth arbennig. Nid yw troseddau sy'n ymwneud â byrgleriaeth yn cael eu hystyried yn droseddau treisgar yn gyffredinol, ond o dan rhai amgylchiadau gallai'r drosedd fod wedi arwain at drais.

Troseddau o dan adran 66(8)(b)(iii), (iv) a (v)

5.6 Efallai y bydd angen i awdurdod lleol ystyried euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau perthnasol sy'n ymwneud â'r canlynol:
(iii) tatŵio plentyn o dan 18 oed
(iv) iechyd a diogelwch yn y gwaith
(v) methiant i gydymffurfio â gofyniad mewn cynllun ar gyfer trwyddedu neu fel arall ganiatáu neu reoleiddio cyflawni gweithgaredd sy’n driniaeth arbennig at ddibenion y Ddeddf hon
 
5.7 Mae'r troseddau hyn yn fwy rhagnodol a phan fo'r euogfarn heb ei disbyddu, bydd angen i awdurdodau lleol ymgynghori â'r canllawiau statudol hyn i benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd neu ddeiliad y drwydded i roi triniaeth arbennig.

5.8 Ym mhob achos, pan fo euogfarn am drosedd berthnasol wedi ei disbyddu neu y mae gan geisydd neu ddeiliad trwydded euogfarnau wedi eu disbyddu neu heb eu disbyddu am unrhyw droseddau nad ydynt yn cael eu hystyried yn droseddau perthnasol, nid yw'n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried yr euogfarnau ymhellach, nac ymgynghori â'r canllawiau statudol hyn.

6. Materion i'w hystyried wrth benderfynu ynghylch addasrwydd person i roi triniaeth arbennig

6.1 Unwaith y bydd yr awdurdod lleol yn ymwybodol bod gan y ceisydd euogfarn droseddol heb ei disbyddu am drosedd berthnasol, rhaid iddo beidio â chymeradwyo trwydded triniaeth arbennig yn awtomatig, hyd yn oed os yw pob agwedd arall ar ffurflen gais y ceisydd wedi ei chwblhau ac mewn trefn. Rhaid i'r awdurdod lleol ystyried manylion llawn yr euogfarn heb ei disbyddu a phenderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y person i roi'r driniaeth arbennig y mae ei gais neu ei drwydded yn ymwneud â hi i'r graddau y byddai'n amhriodol naill ai caniatáu trwydded triniaeth arbennig iddo neu beidio â rhoi hysbysiad iddo ddirymu ei drwydded triniaeth arbennig.

6.2 Wrth benderfynu ynghylch addasrwydd person i roi triniaeth arbennig, rhaid i'r awdurdod lleol roi sylw i'r canlynol:

  • y dystiolaeth sydd wedi ei chynnwys yn nhystysgrif datgeliad sylfaenol y ceisydd, tystysgrif cofnod troseddol dramor (os yw’n berthnasol), cofnodion awdurdodau lleol a'r ffurflen gais am drwydded triniaeth arbennig
  • y dystiolaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr wybodaeth a gyflwynir gan ddeiliad y drwydded ac unrhyw wybodaeth arall a ddarperir gan bartïon perthnasol ac yng nghofnodion awdurdodau lleol eraill

6.3 Rhaid i'r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni bod ganddo ddigon o wybodaeth gan y person am ei euogfarnau heb eu disbyddu mewn cysylltiad â throseddau perthnasol ac os nad yw wedi ei fodloni, gall ofyn am ragor o wybodaeth gan y ceisydd neu ddeiliad y drwydded. Os oes angen, gellid cyflawni hyn drwy gyfarfod â'r person i drafod materion yr euogfarn heb ei disbyddu yn fanylach.

6.4 Dylid ystyried pob ceisydd neu ddeiliad trwydded, ynghyd â'r holl wybodaeth berthnasol a'r dystiolaeth ategol, yn ôl eu rhinweddau eu hunain. Os bydd cais yn cael ei wrthod neu os yw trwydded i'w dirymu ar y sail nad yw'r person yn addas i roi triniaeth arbennig, rhaid i'r awdurdod lleol allu cyfiawnhau ei benderfyniad gyda rhesymau clir.

6.5 Wrth benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd neu ddeiliad y drwydded i roi triniaeth arbennig, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried:

  1. natur ac amgylchiadau'r drosedd
  2. y math o euogfarn a'i pherthnasedd i addasrwydd y person i roi'r driniaeth/triniaethau arbennig difrifoldeb yr euogfarn/euogfarnau, o ran effaith neu effaith bosibl ar iechyd, diogelwch a lles cleient.
  3. nifer yr euogfarnau ac effaith gronnol yr euogfarnau hynny
  4. yr amser sydd wedi mynd heibio ers yr euogfarn/euogfarnau
  5. oedran y person ar adeg y drosedd/euogfarn
  6. unrhyw amgylchiadau lliniarol

6.6 Dylai awdurdodau lleol hefyd roi sylw dyladwy i fethiant y ceisydd neu ddeiliad y drwydded i ddatgelu manylion am drosedd berthnasol. Efallai fod gan awdurdodau lleol sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd a/neu wedi ei euogfarnu o'r drosedd honno, sy'n berthnasol i benderfynu a yw'n addas i roi triniaethau arbennig.

6.7 Pan fo awdurdod lleol o'r farn bod ceisydd neu ddeiliad trwydded wedi bod yn ochelgar neu'n gelwyddog, efallai y bydd yr awdurdod lleol am ystyried a gyflawnwyd trosedd o dan adran 82(7) yn yr ystyr bod y person:

(i) wedi gwneud datganiad sy'n anwir neu'n gamarweiniol
(ii) naill ai'n gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol neu'n ddi-hid o ran a yw'n anwir neu'n gamarweiniol

6.8 Gall yr awdurdod lleol hefyd ddod i'r casgliad bod ymddygiad o'r fath ar ran y ceisydd neu ddeiliad y drwydded yn arwydd clir nad yw'r person hwnnw'n addas i roi triniaeth/triniaethau arbennig.

6.9 Wrth ystyried euogfarnau'r gorffennol am unrhyw droseddau perthnasol, dylai'r awdurdod lleol ystyried a oes tebygolrwydd y bydd unrhyw euogfarnau yn y dyfodol, a'r tebygolrwydd y bydd yr euogfarnau hynny'n effeithio ar addasrwydd y ceisydd i roi triniaethau arbennig. Mae'n bosibl dod i'r casgliad, os yw'r ceisydd yn cynrychioli risg isel, ei bod yn briodol caniatáu trwydded triniaeth arbennig.

Canlyniad y penderfyniad
Ar gyfer ceisiadau newydd neu adnewyddu ceisiadau

6.10 Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu bod amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd, rhaid iddo beidio â dyroddi'r drwydded (adran 66(6)(a)) a rhaid iddo roi hysbysiad i'r ceisydd (adran 66(6)(b)) fod y cais wedi ei wrthod, gan nodi'r rhesymau dros wrthod a darparu'r holl fanylion angenrheidiol mewn cysylltiad â'r sylwadau y mae gan y ceisydd yr hawl i'w cyflwyno i'r awdurdod lleol a'r opsiynau apelio pellach sydd ganddo yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol (gweler atodlen 3 o'r Ddeddf). Mae'n rhaid i awdurdod lleol gael rhesymau clir, cymesur a digonol wrth geisio cyfleu penderfyniad i wrthod cais.

6.11 Os yw'r awdurdod lleol, ar ôl ystyried yn llawn, wedi ei fodloni, er gwaethaf yr euogfarn am drosedd berthnasol, nad oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd y ceisydd at ddibenion caniatáu iddo gael trwydded triniaeth arbennig i roi'r driniaeth / triniaethau arbennig y mae ei gais yn ymwneud â hwy, rhaid i'r awdurdod lleol ddyroddi'r drwydded triniaeth arbennig (adran 66(5)).

Ar gyfer dirymu trwydded triniaeth arbennig

6.12 Bydd angen i'r awdurdod lleol benderfynu a yw'r amodau a nodir yn adran 68(3) o'r Ddeddf wedi eu bodloni cyn iddo ystyried a ddylid rhoi hysbysiad i ddeiliad trwydded ddirymu ei drwydded triniaeth arbennig.

6.13 Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu bod amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd deiliad y drwydded, dylai roi hysbysiad i ddeiliad y drwydded ddirymu'r drwydded. Bydd y dirymiad yn cael effaith ar ôl i'r cyfnod ar gyfer dwyn apêl neu apêl bellach mewn cysylltiad â'r dirymiad ddod i ben, neu ar ôl tynnu'n ôl unrhyw apêl neu apêl bellach. Mae manylion pellach am y weithdrefn ar gyfer dirymu wedi eu darparu yn adran 68 o'r Ddeddf ac atodlen 3 iddi.

6.14 Yn ystod cyfnod yr apêl honno, mae'r hysbysiad a roddir gan yr awdurdod lleol yn parhau i gael effaith. Felly, os penderfyniad yr awdurdod lleol yw dirymu trwydded o dan adran 68, bydd y penderfyniad yn parhau mewn grym hyd nes y bydd y Pwyllgor Trwyddedu wedi cadarnhau neu beidio â chadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol, neu hyd nes y bydd y llys yn gwneud ei benderfyniad.

6.15 Os yw'r awdurdod lleol, ar ôl ystyried yn llawn, wedi ei fodloni, er gwaethaf yr euogfarn heb ei disbyddu am drosedd berthnasol, nad oes amheuaeth wedi ei chodi ynghylch addasrwydd deiliad y drwydded at ddibenion rhoi'r driniaeth/triniaethau arbennig, ni ddylai'r awdurdod lleol roi hysbysiad i ddeiliad y drwydded o'i fwriad i ddirymu'r drwydded triniaeth arbennig.

Sut i ymateb

Gofynnir i ymatebwyr gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb. Gellir llenwi'r ffurflen ar-lein neu ei lawrlwytho yma.

Dylid anfon yr ymatebion:

Drwy’r post: 
Ymgynghoriad ar Drwyddedu Triniaethau Arbennig
Is-adran Blaenoriaethau Diogelu Iechyd y Cyhoedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Drwy e-bost: TriniaethauArbennig@llyw.cymru.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgyngoriadau, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG47116.

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.