Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11467 - cynllun i annog cofrestru i Gynllun Lesio Cymru a chefnogi darpariaeth tai i awdurdodau lleol Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026
3. Y sail gyfreithiol
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygiadau i Atodlen 5) 2026.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Amcan polisi'r rheoliadau yw helpu i gymell rhagor o bobl i gofrestru â Chynllun Lesio Cymru a helpu i ddarparu tai i awdurdodau lleol Cymru, i'w defnyddio fel llety rhent fforddiadwy, a hynny yn rhan o'r gwaith o fynd i'r afael ag effaith digartrefedd a defnyddio llety dros dro.
5. Diben y cynllun
Mae'r cynllun cymorthdaliadau hwn yn cael ei sefydlu i ganiatáu ad-dalu elfen cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir pan fydd unigolyn/landlord preifat yn prynu annedd ac yna'n ei lesio i awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r ad-daliad wedi'i gynllunio i sicrhau bod lesoedd a roddir i awdurdodau lleol o dan Gynllun Lesio Cymru yn gymwys ar gyfer yr ad-daliad.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Y sector tai preifat – Rhent preifat
8. Sectorau i’w cefnogi
- Gweithgarwch eiddo tirol
- Gweithgarwch llety a gwasanaethau bwyd
9. Hyd y cynllun
13 Chwefror 2026 tan 31 Mawrth 2031.
10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun
Mae uchafswm y gyllideb ar gyfer gwerth y cynllun wedi'i bennu yn £15 miliwn er mwyn sicrhau hyblygrwydd gweithredu os defnyddir yr ad-daliad yn fwy na'r hyn a amcangyfrifwyd.
11. Ffurf y cymorth
Mesurau treth (credyd treth, neu eithriad treth/toll).
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Bydd landlord unigol/preifat yn gallu hawlio ad-daliad o elfen cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir os bodlonir yr amodau a ganlyn:
- Mae'r annedd yn cael ei phrynu ar ôl i'r rheolau newydd ddod i rym ond cyn 31 Mawrth 2031.
- Nid yw'r gydnabyddiaeth a roddir am unrhyw annedd ar les i'r awdurdod lleol yn fwy na £400,000.
- Mae'r trethdalwr, o fewn 18 mis i ddyddiad prynu'r annedd (a fydd yn cael ei lesio i'r awdurdod lleol), yn rhoi les o'r annedd i awdurdod lleol.
- Rhoddir y les am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf ond heb fod yn fwy nag 20 mlynedd, ac nid yw'r rhent o dan y les yn fwy na'r lwfans tai lleol sy'n gymwys i'r annedd ar les i'r awdurdod lleol.
- O fewn 12 mis i'r les gael ei rhoi i awdurdod lleol, mae'r trethdalwr yn gwneud hawliad i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) am ad-daliad o'r elfen cyfraddau preswyl uwch.
Mae'r ad-daliad hefyd yn cynnwys amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r trethdalwr ad-dalu'r ad-daliad yn llawn os, ar unrhyw adeg yn ystod 5 mlynedd gyntaf y les, y caiff ei therfynu cyn 5 mlynedd ers y dyddiad y'i rhoddwyd (er enghraifft, gan y trethdalwr gwreiddiol sy'n arfer cymal terfynu Cynllun Lesio Cymru).
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Darparu ad-daliad o elfen cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir pan fo unigolyn/landlord preifat, sy'n agored i elfen cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir, yn prynu annedd ac yna'n ei lesio i awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r ad-daliad wedi'i gynllunio i sicrhau bod lesoedd a roddir i awdurdodau lleol o dan Gynllun Lesio Cymru yn gymwys ar gyfer yr ad-daliad. Byddai prif gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir yn parhau i fod yn gymwys i'r trafodiad.
Mae'r gydnabyddiaeth a roddir am annedd wedi'i chapio ar £400,000. Ar gyfer trafodiad o £400,000, cyfanswm y dreth trafodiadau tir ar y cyfraddau preswyl uwch yw £29,950, sy'n cynnwys elfen prif gyfraddau preswyl o £10,500. Felly, uchafswm ad-daliad elfen cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir fesul eiddo a brynir fydd £19,450, yn seiliedig ar y cyfraddau a'r bandiau Treth Trafodiadau Tir cyfredol : Y cyfraddau a'r bandiau trethi ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
Er nad oes terfyn ar nifer yr anheddau y gall unigolyn neu landlord preifat wneud cais i'w lesio i awdurdod lleol yng Nghymru drwy Gynllun Lesio Cymru, mae uchafswm gwerth y dyfarniad cymhorthdal (yn hytrach na gwerth y cynllun cymhorthdal) y caiff landlord unigol neu breifat ei gronni dros gyfnod o dair blynedd ariannol o dan y cynllun hwn wedi'i bennu yn £1 miliwn.
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â: StrategaethTrethi.CysylltiadauRhynglywodraethol@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch ag:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
DU
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
