Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 22 Awst 2013.

Cyfnod ymgynghori:
27 Mehefin 2013 i 22 Awst 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 136 KB

PDF
136 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich sylwadau ar Reoliadau 2013 a fydd yn cael eu gosod yn ystod mis Hydref 2013.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Ym mis Rhagfyr 2011 cyflwynodd awdurdodau lleol eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg cyntaf i Lywodraeth Cymru gan amlinellu sut y bydd pob awdurdod yn cyflawni'r canlyniadau a'r targedau a bennir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Roedd y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn cael eu paratoi â’u cyflwyno yn wirfoddol gan eu bod bryd hynny yn anstatudol. Maent yn gyfrwng i Lywodraeth Cymru fonitro'r modd y mae awdurdodau lleol yn ymateb ac yn cyfrannu at weithredu amcanion y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Pasiwyd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) gan y Cynulliad Cenedlaethol (dolen allanol, Saesneg yn unig) ym mis Ionawr 2013. Mae'r Ddeddf yn ceisio adeiladu ar y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg presennol sydd ar ffurf anstatudol drwy roi sail statudol iddynt. Bydd y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori ynghylch Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ei baratoi a'i gyhoeddi. Yna bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru iddynt gael ei gymeradwyo a'i fonitro. Cynlluniau 3 blynedd fydd y rhain a byddant yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.

Mae adran 85 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru neu i'w addasu ganddynt. Mae adran 86 ac 87 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas â'r materion canlynol:

  • asesu'r galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg
  • hyd y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
  • ffurf a chynnwys y Cynllun
  • cyflwyno'r Cynllun i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo
  • amseriad cyhoeddi'r Cynllun
  • dull cyhoeddi'r Cynllun
  • ymgynghori ar y Cynllun
  • adolygu'r Cynllun
  • adrodd ar weithredu'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (neu'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg diwygiedig).

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn am Reoliadau 2013 a welir isod.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 65 KB

PDF
65 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2013 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 85 KB

PDF
85 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.