Rheoliadau o dan adran 11(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 mewn perthynas â Chynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yng Nghymru
Rydym am glywed eich barn ar Reoliadau o dan adran 11(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 mewn perthynas â Chynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yng Nghymru.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch ("y Swyddfa") wedi'i ddynodi o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 fel gweithredwr y cynllun ar gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr sydd heb eu datrys yng Nghymru a Lloegr. Mae'r Swyddfa yn darparu cynllun annibynnol, tryloyw ar gyfer ymdrin â chwynion er mwyn adolygu cwynion myfyrwyr ac apeliadau academaidd. Mae rhagor o wybodaeth am y Swyddfa ar ei gwefan.
Ar hyn o bryd, ni all dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid atgyfeirio eu cwynion i gorff annibynnol. Bwriad y polisi yw ymestyn cwmpas cynllun y Swyddfa yng Nghymru er mwyn galluogi'r Swyddfa i ystyried cwynion sydd heb eu datrys gan y dysgwyr a'r prentisiaid hyn. Bydd hyn yn sicrhau dull mwy cyson a theg o ymchwilio i gwynion a rheoli apeliadau ar draws y sector addysg drydyddol ehangach.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r polisi sy'n sail i'r rheoliadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu gwneud o dan adran 11(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ("Deddf 2004") i weithredu'r newid hwn.
Rhagair y gweinidog
Fel Gweinidog, rwy'n hynod falch o'n sector addysg drydyddol yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod ein darparwyr yr un mor ymroddedig â minnau i sicrhau bod pob dysgwr yn mwynhau profiad addysgol o ansawdd uchel. Yn ganolog i'r ymrwymiad hwn mae creu amgylchedd cefnogol lle mae adborth yn cael ei annog a lle byddwn yn mynd i’r afael â’r adborth hwnnw. Mae hyn yn cynnwys eglurder a hygyrchedd trefniadau ar gyfer codi pryderon - rhaid i ddysgwyr wybod nid yn unig bod ganddynt yr hawl i gwyno, ond yn union sut i wneud hynny. Mae'n hanfodol bod systemau a phrosesau wedi'u cynllunio i fod yn agored ac yn gynhwysol, gan roi hyder a gallu i bob dysgwr leisio eu barn ar faterion sy'n effeithio ar eu profiad.
Mae strwythurau sy'n grymuso llais y dysgwr yn hanfodol i wella safonau ar draws ein sefydliadau, ac mae adborth o gwynion yn chwarae rhan hanfodol yn y gwelliant parhaus hwn. Dylai fod modd datrys llawer o faterion yn gyflym ac yn effeithiol o fewn proses gwyno'r darparwr ei hun. Serch hynny, hyd yn oed pan fydd materion yn cael eu datrys yn anffurfiol, mae'n hanfodol bod achosion o'r fath yn cael eu cofnodi'n briodol a bod y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i lywio ymarfer yn y dyfodol.
Rwy'n cydnabod, fodd bynnag, nad oes modd mynd i'r afael â phob cwyn trwy brosesau mewnol yn unig. Pan fydd dysgwyr yn teimlo nad yw eu materion wedi eu datrys, mae pob dysgwr ar draws addysg drydyddol yn haeddu'r cyfle i'w cwyn gael ei hystyried yn annibynnol. Bydd ymestyn Cynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol i gynnwys cyrsiau Addysg Bellach a Phrentisiaethau yng Nghymru yn cyflawni'r nod hwnnw.
Rwy'n eich gwahodd i rannu eich safbwyntiau ar y cynigion pwysig hyn, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i ddatblygu mwy o gysondeb, cydraddoldeb a hygyrchedd ar gyfer ymdrin â chwynion ar draws y sector addysg drydyddol.
Cefndir
Mae gan y rhan fwyaf o ddysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol yng Nghymru brofiad dysgu cadarnhaol. Pan fo problemau'n codi, mae llawer o gwynion yn cael eu datrys yn llwyddiannus trwy weithdrefnau cwyno mewnol darparwyr. Serch hynny, mae'n bwysig bod dysgwyr yn gallu gofyn am adolygiad annibynnol lle nad oes modd datrys pryderon yn lleol.
Sefydlodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ("Deddf 2022") y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (dan yr enw Medr), sy'n gyfrifol am reoleiddio a chefnogi addysg a hyfforddiant trydyddol yng Nghymru.
Mae adran 127 o Ddeddf 2022 yn gosod dyletswydd ar Medr i gymryd y camau hynny sy'n ymddangos yn briodol i sicrhau bod gan ddarparwyr addysg drydyddol weithdrefn ar waith ar gyfer ymchwilio i gwynion dysgwyr, a'u bod yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y weithdrefn yn hysbys i ddysgwyr. Fel rhan o'i fframwaith rheoleiddio, mae Medr wedi gosod amod cofrestru (ar gyfer sefydliadau addysg uwch) a chyllid (ar gyfer darparwyr eraill), sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt fod â gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion dysgwyr, ac i wneud dysgwyr yn ymwybodol o'r gweithdrefnau hyn.
Ar hyn o bryd, dim ond myfyrwyr addysg uwch sy'n gallu gofyn am adolygiad annibynnol trwy'r Swyddfa, ac nid oes gan ddysgwyr addysg bellach a phrentisiaid opsiwn annibynnol cyfatebol. Nid oes gan Lywodraeth Cymru na Medr bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion gan ddysgwyr unigol at ddarparwyr sy'n bodloni'r diffiniad o sefydliad cymwys presennol ar hyn o bryd (gweler y diffiniad isod).
Wrth ddatblygu Deddf 2022, aeth Llywodraeth Cymru ati i geisio barn ar drefniadau ar gyfer datrys yn annibynnol gwynion dysgwyr ar draws y sector addysg drydyddol a chynnig ymestyn cylch gwaith y Swyddfa.
Amlinellodd y Memorandwm Esboniadol y bwriad i ymestyn Cynllun Cwynion y Swyddfa i gynnwys dysgwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau yng Nghymru. Mae Deddf 2022 yn gwneud darpariaeth i alluogi Gweinidogion Cymru i bennu sefydliadau cymwys ychwanegol ar gyfer y cynllun trwy reoliadau.
Bydd y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn yn ymestyn y cynllun fel y gall dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid yng Nghymru atgyfeirio cwynion sydd heb eu datrys i'r Swyddfa.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod hwn yn fesur diogelwch pwysig i ddysgwyr ac yn gam cymesur tuag at fwy o dryloywder, cysondeb a thegwch wrth ymdrin â chwynion ar draws sector addysg drydyddol Cymru.
Ymgysylltu â dysgwyr
Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar reoliadau sy'n effeithio'n bennaf ar y fframwaith rheoleiddio ar gyfer ymdrin â chwynion gan ddysgwyr yng Nghymru. Bydd effaith ymestyn Cynllun Cwynion y Swyddfa yn cyflwyno budd pwysig i ddysgwyr, ac mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn dysgwyr fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau y gall dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid lywio agweddau ar y newidiadau sy'n effeithio arnynt yn fwyaf uniongyrchol, gan gynnwys sut y gellir gwneud cwynion, y canllawiau a'r wybodaeth sydd ar gael i ddysgwyr, a'r rhwymedïau a allai fod ar gael pan gaiff cwyn ei chadarnhau.
Cyfrifoldeb statudol y Swyddfa yw gweithredu a gweinyddu'r Cynllun Cwynion. Fel rhan o'r gweithgaredd paratoi cyn y gweithredu arfaethedig, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r Swyddfa i ymgymryd ag ymgysylltu wedi'i dargedu â dysgwyr, rhieni a darparwyr. Mae hyn wedi cynnwys rhaglen o weithdai i ddysgwyr ar-lein a gynhaliwyd rhwng misoedd Mai a Mehefin 2026, yn ogystal ag ymweliadau arfaethedig â darparwyr unigol yn nhymor yr hydref 2026, a fydd yn cynnwys ymgysylltu â dysgwyr. Mae'r Swyddfa hefyd yn bwriadu cynnwys dysgwyr wrth lywio diweddariadau i'w gwefan a deunyddiau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â dysgwyr i sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn diwallu anghenion pob dysgwr.
Yng ngoleuni'r gweithgaredd ymgysylltu wedi'i dargedu, nid oes dogfen ymgynghori ar wahân ar gyfer pobl ifanc wedi'i llunio.
Cynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol
Ynglŷn â'r Swyddfa
Mae Deddf 2004 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddynodi corff i weithredu cynllun cwynion gan ddysgwyr. Mae'r Swyddfa yn gorff annibynnol a dyma weithredwr dynodedig y cynllun yng Nghymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru rôl o ran ymchwilio neu ddatrys cwynion myfyrwyr unigol.
Rhaid i'r Swyddfa ddarparu cynllun ar gyfer adolygu cwynion cymwys mewn sefydliadau cymwys.
Diffiniad o sefydliadau cymwys
Mae adran 11 o Ddeddf 2004 yn diffinio sefydliadau cymwys. Mae'r rhain yn ddarparwyr addysg y mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd rhan yng Nghynllun Cwynion y Swyddfa. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu darparwyr y gall eu dysgwyr gyflwyno cwyn sydd heb ei datrys i'r Swyddfa unwaith y bydd proses gwynion y darparwr ei hun wedi'i chwblhau.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr sy'n bodloni meini prawf y sefydliad cymwys ymrwymo i gynllun y Swyddfa a chydymffurfio â'i ofynion, gan gynnwys talu ffioedd tanysgrifio.
Diffiniad o gwynion cymwys
Mae cwyn gymwys yn gŵyn y caniateir i'r Swyddfa ei hystyried. Rhaid iddi:
- fod wedi'i gwneud gan ddysgwr presennol neu gyn-ddysgwr
- ymwneud â rhywbeth y mae'r darparwr wedi'i wneud neu heb ei wneud, a
- bod o fewn rheolau cynllun y Swyddfa.
Gall y Swyddfa adolygu a yw'r darparwr wedi dilyn ei weithdrefnau cyhoeddedig ac wedi gwneud penderfyniadau teg a rhesymol, gan gynnwys cwynion am brosesau asesu, apeliadau academaidd, gwasanaethau ac ymdrin â gweithdrefnau.
Nid yw'r Swyddfa yn ailystyried materion barn academaidd, yn ymchwilio i faterion cyflogaeth nac yn gwneud dyfarniadau ynghylch gwahaniaethu anghyfreithlon, sydd y tu allan i'w chylch gorchwyl.
Y Swyddfa ei hun sy'n penderfynu a yw cwyn yn gŵyn gymwys at ddibenion y cynllun, gan gymhwyso'r fframwaith statudol a'i rheolau cyhoeddedig.
Nid yw'r Swyddfa yn gwahaniaethu rhwng dysgwyr rhan-amser a dysgwyr llawn amser wrth ystyried cwynion. Ar hyn o bryd, mae cymhwystra i gyflwyno cwyn i'r Swyddfa yn seiliedig ar a yw'r unigolyn yn ddysgwr cofrestredig neu a oedd yn ddysgwr cofrestredig gyda darparwr sy'n aelod o Gynllun y Swyddfa neu gyda sefydliad arall ac yn ymgymryd â chwrs astudio neu raglen ymchwil sy'n arwain at gael dyfarniad gan ddarparwr sy'n aelod o Gynllun y Swyddfa, yn hytrach na’i fod yn seiliedig ar ddull neu ddwyster yr astudio. Felly, ystyrir cwynion gan ddysgwyr rhan-amser o dan yr un rheolau ac ar yr un sail â rhai gan ddysgwyr llawn amser.
Ymdrin â chwynion
Mae'r rhan fwyaf o gwynion dysgwyr yn cael eu datrys trwy weithdrefnau cwyno mewnol y darparwr ei hun. Os yw myfyriwr yn dal i fod yn anfodlon ar ôl i'r gweithdrefnau hynny gael eu cwblhau, efallai y bydd ei gŵyn yn gymwys i gael ei adolygu gan y Swyddfa.
Pan fydd y Swyddfa yn nodi methiannau yng ngweithredoedd neu brosesau darparwr, gall wneud argymhellion i fynd i'r afael â'r methiannau hynny a nodi rhwymedïau priodol i'r dysgwr.
Ymestyn cwmpas Cynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol
Er mwyn ymestyn cwmpas y cynllun i gyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau, mae angen i Weinidogion Cymru a'r Swyddfa gymryd camau penodol.
Gweinidogion Cymru
Aeth adran 128 o Ddeddf 2022 ati i ddiwygio Deddf 2004, gan roi'r gallu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu sefydliadau cymwys ychwanegol ar gyfer Cynllun Cwynion y Swyddfa.
Caiff y rheoliadau bennu'r canlynol fel sefydliadau cymwys at ddibenion Cynllun Cwynion y Swyddfa:
- darparwr cofrestredig, neu
- ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru nad yw'n ddarparwr cofrestredig, ond sy'n derbyn adnoddau ariannol o dan Ddeddf 2022
- a ddarperir gan Medr o dan adran 89(3)(a) ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau
- a sicrheir gan Medr neu Weinidogion Cymru o dan adran 97(1)(a) ar gyfer addysg bellach neu hyfforddiant, neu
- a ddarperir gan Medr o dan adran 104(1)(a) ar gyfer prentisiaethau
Gall y rheoliadau fod yn berthnasol i ddarparwyr unigol neu i ddisgrifiadau o ddarparwyr ac maen nhw'n ddarostyngedig i weithdrefn annilysu'r Senedd.
Mae'r diffiniadau canlynol yn berthnasol i'r rheoliadau:
Ystyr "darparwr addysg drydyddol yng Nghymru" yw sefydliad y mae ei weithgareddau'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, ac sy'n darparu addysg drydyddol, boed yn uniongyrchol neu drwy ddarpariaeth a wneir ar ei ran.
Ystyr "addysg drydyddol" yw addysg uwch, addysg bellach neu hyfforddiant.
Ystyr "addysg bellach" yw addysg, ac eithrio addysg uwch, sy'n addas i ofynion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol, ac sy'n cynnwys gweithgaredd amser hamdden wedi'i drefnu sy'n gysylltiedig ag addysg o'r fath.
Ystyr "hyfforddiant" yw hyfforddiant sy'n addas i ofynion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol, ac sy'n cynnwys gweithgaredd amser hamdden wedi'i drefnu sy'n gysylltiedig â hyfforddiant o'r fath.
Mae person dros oedran ysgol gorfodol yng Nghymru ar ôl diwedd y flwyddyn ysgol y mae'n troi’n un ar bymtheg oed, yn unol â Deddf Addysg 1996.
Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol
Rhaid i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (“y Swyddfa”) ddarparu cynllun ar gyfer adolygu cwynion cymwys sy'n bodloni'r holl amodau a nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf 2004 ac sy'n cydymffurfio â'r dyletswyddau a nodir yn Atodlen 3 i Ddeddf 2004. Mae gan y Swyddfa ddisgresiwn, o fewn y fframwaith statudol, i benderfynu a yw cwyn unigol yn dod o fewn cwmpas ei Chynllun Cwynion. Mae hyn yn cynnwys penderfynu a yw cwyn yn gŵyn gymwys, p'un a yw'n ymwneud â gweithred neu hepgoriad sefydliad cymwys.
Sefydliadau cymwys
Yn amodol ar y rheoliadau arfaethedig sy'n cael eu gwneud o dan adran 11 o Ddeddf 2004, gallai darparwyr ddod yn sefydliadau cymwys ar gyfer y cynllun mewn un o'r ddwy ffordd a nodir isod:
Sefydliadau cymwys presennol Cynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol
Mae llawer o sefydliadau addysg bellach yng Nghymru yn darparu cyrsiau addysg uwch sydd wedi'u dynodi ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Mae'r sefydliadau hyn yn "sefydliadau cymwys" ac eisoes yn tanysgrifio i Gynllun Cwynion y Swyddfa. Hyd yma, mae'r Swyddfa wedi arfer ei ddisgresiwn o dan adran 12(3) o Ddeddf 2004 i gyfyngu ar y cwynion cymwys gan y darparwyr hyn i gyrsiau addysg uwch yn unig. Mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at ddarparwyr o'r fath fel "sefydliadau cymwys presennol.”
Ar gyfer sefydliadau addysg uwch sy'n sefydliadau cymwys yn barod, nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol. Ar gyfer y darparwyr hyn, mae eu holl ddarpariaeth o fewn cwmpas y cynllun ac mae'r Swyddfa yn ystyried cwynion gan bob dysgwr, waeth beth fo lefel ei astudiaethau.
Ni fydd y rheoliadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar sefydliadau cymwys presennol oni bai eu bod yn rhoi'r gorau i gyflwyno darpariaeth addysg uwch. Er mwyn ymestyn y cynllun ar gyfer y darparwyr hyn i gynnwys Cyrsiau Addysg Bellach a Phrentisiaethau yng Nghymru, cyfrifoldeb y Swyddfa yw dileu ei phenderfyniad presennol o dan adran 12(3) o Ddeddf 2004.
Yn unol â'r gofynion a nodir yn Neddf 2004, mae'r Swyddfa wedi ymgynghori ar y newidiadau i'w rheolau i weithredu'r newid hwn yn ystod misoedd Mai – Gorffennaf 2026. Bydd y newidiadau hyn yn galluogi'r Swyddfa i ddod â phob cwrs sydd uwchlaw oedran ysgol gorfodol o fewn cwmpas y cynllun.
Sefydliadau cymwys newydd Cynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol
Nid yw rhai darparwyr, fel colegau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant annibynnol yng Nghymru sy'n darparu prentisiaethau, yn sefydliadau cymwys ar hyn o bryd at ddibenion Cynllun Cwynion y Swyddfa. Mae hyn oherwydd nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a restrir yn adran 11(1) o Ddeddf 2004, felly nid yw'n ofynnol iddynt danysgrifio i'r cynllun ar hyn o bryd. Mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at y darparwyr hyn fel "sefydliadau cymwys newydd.”
Mae'r rheoliadau arfaethedig yn ymestyn cwmpas Cynllun Cwynion y Swyddfa i gynnwys sefydliadau cymwys newydd. Bydd darpariaeth ar gyfer dysgwyr dros oedran ysgol gorfodol a ariennir o dan adran 89(3)(a), adran 97(1)(a) neu adran 104(1)(a) o Ddeddf 2022 o fewn cwmpas y cynllun newydd arfaethedig.
Cynnwys y Rheoliadau Arfaethedig i Ymestyn Cwmpas Cynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer sefydliadau Cymwys Newydd
Darparwyr sydd wedi'u cofrestru gyda Medr
Cynigir nad yw'r rheoliadau'n nodi darparwyr cofrestredig fel sefydliadau cymwys at ddibenion Cynllun y Swyddfa.
Pan fo corff llywodraethu darparwr addysg drydyddol yng Nghymru yn gwneud cais iddo gael ei gofrestru, rhaid i Medr gofrestru'r darparwr hwnnw os yw ei weithgareddau'n cael eu cyflawni'n gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru a'i fod yn darparu, neu wedi darparu ar ei ran, y math o addysg drydyddol a gwmpesir gan yr amodau cofrestru. Mae dau gategori cofrestru ar hyn o bryd: y categori Craidd AU a'r categori Amgen AU. Dim ond trwy reoliadau y gellir gwneud unrhyw gategorïau cofrestru ychwanegol ac nid oes unrhyw fwriad i wneud hynny ar hyn o bryd.
Gan fod y Gofrestr yn berthnasol i ddarpariaeth addysg uwch ar hyn o bryd, bydd y darparwyr hyn sy'n ceisio cofrestru yn sefydliadau sy’n gymwys eisoes ar gyfer Cynllun y Swyddfa.
Gellid diwygio'r rheoliadau arfaethedig i gynnwys darparwyr cofrestredig, os oes angen, pe bai categorïau cofrestru ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol.
Adran 89(3)(a) o Ddeddf 2022 (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau)
Mae adran 89(3)(a) yn galluogi Medr i ariannu cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau.
Mae Rheoliadau Addysg (Cyrsiau Addysg Uwch Penodedig) (Cymru) 2025 yn pennu cyrsiau addysg uwch at ddibenion adran 89, gan gynnwys:
- cyrsiau sy'n paratoi ar gyfer arholiad proffesiynol ar lefel uwch (paragraff 1(g) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988),
- cyrsiau sy'n darparu addysg ar lefel uwch, p'un a ydynt yn paratoi ar gyfer arholiad ai peidio (paragraff 1(h) o Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988), a
- chyrsiau ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC a nodir o fewn fframwaith prentisiaeth a gyhoeddwyd o dan adran 19(1) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.
Gan fod y cynllun eisoes yn cwmpasu addysg uwch, mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn hanfodol bod unrhyw ddarparwyr sy'n darparu addysg uwch nad ydynt eisoes yn sefydliadau cymwys yn cael eu dwyn o fewn ei gwmpas.
Cynigir felly fod y rheoliadau yn pennu darparwyr sy'n derbyn cyllid gan Medr o dan adran 89(3)(a) fel sefydliadau cymwys at ddibenion Cynllun y Swyddfa.
Bydd y dull hwn yn sicrhau bod y dysgwyr addysg uwch hynny yn gallu cael yr un mynediad at adolygiad annibynnol o gwynion â dysgwyr eraill.
Adran 97(1)(a) o Ddeddf 2022(Addysg Bellach neu Hyfforddiant)
Mae adran 97(1)(a) yn galluogi Gweinidogion Cymru a Medr i ariannu personau at ddiben y ddarpariaeth neu'r ddarpariaeth arfaethedig o addysg bellach neu hyfforddiant a gyflwynir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth a gyflwynir ar eu rhan.
Cynigir bod y rheoliadau yn pennu unrhyw ddarparwr sy'n derbyn cyllid gan Medr neu Weinidogion Cymru o dan adran 97(1)(a) fel sefydliad cymwys ar gyfer cynllun y Swyddfa, ac eithrio awdurdodau lleol.
Rydym o'r farn na ddylai awdurdodau lleol fod yn sefydliadau cymwys mewn perthynas â dysgu oedolion yn y gymuned. Bwriad y polisi yw ymestyn mynediad at adolygiad annibynnol o gwynion ar gyfer dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid nad oes ganddynt lwybr annibynnol ar gyfer cwynion heb eu datrys ar hyn o bryd.
Mae awdurdodau lleol eisoes o fewn cylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Felly, byddai gofyn iddynt danysgrifio i'r Swyddfa yn creu trefniadau cwynion cyfochrog ar gyfer awdurdodau lleol, gan arwain at ddyblygu systemau a phrosesau. Gallai hyn arwain at ddryswch i ddysgwyr a'r potensial o ganlyniadau anghyson. Mae'r sefyllfa hon yn wahanol i sefydliadau addysg bellach. I'r sefydliadau hynny, Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol fydd yr unig adolygydd annibynnol o gwynion dysgwyr heb eu datrys a bydd yn darparu math o iawn nad yw ar gael ar hyn o bryd.
Bydd hyn yn arwain at ddysgu oedolion yn y gymuned a gyflwynir gan goleg addysg bellach yn dod o fewn cylch gwaith y Swyddfa, tra bydd y ddarpariaeth a gyflwynir gan awdurdod lleol yn parhau i fod o fewn cylch gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r dull hwn yn atgyfnerthu'r bwriad polisi sylfaenol, gan y byddai pob un sy'n ymgymryd â dysgu oedolion yn y gymuned yn gallu cael mynediad at adnoddau annibynnol ac eglurder ynghylch pa gorff priodol i fynd ato, heb roi beichiau ychwanegol ar awdurdodau lleol.
Am yr un rhesymau, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi bwriad polisi clir yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer Deddf 2022 na fyddai'n ofynnol i awdurdodau lleol danysgrifio i gynllun y Swyddfa ar gyfer darpariaeth chweched dosbarth ysgolion.
Adran 104(1)(a) o Ddeddf 2022 (Cymorth Ariannol ar gyfer Prentisiaethau)
Mae adran 104(1)(a) yn galluogi Medr i ddarparu cyllid i berson, neu i gorff cydweithredol person, ar gyfer neu mewn cysylltiad â darparu prentisiaeth gymeradwy yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae Medr yn ariannu prentisiaethau o dan adran 97(1)(a) tan i adran 104(1)(a) ddod i rym, sef yn 2027 yn ôl pob tebyg.
Cynigir bod y rheoliadau yn pennu darparwyr sy'n derbyn cyllid gan Medr o dan adran 104(1)(a) fel sefydliadau cymwys at ddibenion Cynllun y Swyddfa.
O fis Medi 2027 ymlaen, bydd cyllid prentisiaeth yn cael ei ddyrannu gan Medr trwy broses ymgeisio am grant. Bydd y darparwr sy'n derbyn cyllid gan Medr yn gweithredu fel y prif ddarparwr a bydd yn gyfrifol am ansawdd a safonau cyffredinol yr holl ddarpariaeth a ariennir o dan y cytundeb, gan gynnwys darpariaeth a gyflwynir ar ei ran gan bartneriaid neu is-gontractwyr.
Pan fo darparwr yn cael ei nodi fel sefydliad cymwys o dan y rheoliadau, y bwriad polisi yw mai'r darparwr sy'n derbyn y cyllid perthnasol fydd y sefydliad cymwys at ddibenion y Cynllun. Felly, bydd disgwyl i brif ddarparwyr weithio ar y cyd gydag is-gontractwyr, cyflogwyr a phartneriaid cyflwyno eraill i sicrhau bod trefniadau priodol o ran ymdrin â chwynion ar waith, a bod dysgwyr yn cael eu hysbysu'n glir am eu hawliau a'u llwybrau o wneud cais am iawn.
Anogir darparwyr i ymgysylltu â'r Swyddfa ynglŷn â'u trefniadau partneriaeth neu gyflwyno unigol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y cynllun. Mae'r Swyddfa hefyd yn cyhoeddi canllawiau ar ddarparu cyfleoedd dysgu gydag eraill, y gallai darparwyr ddymuno rhoi sylw iddynt. Bydd y Swyddfa yn adolygu cwynion am y dysgu a wnaed gan y prentis yn unig ac ni fydd yn ymchwilio i faterion cyflogaeth.
Ein bwriad polisi wrth alluogi prentisiaid i gael mynediad at Gynllun y Swyddfa yw eu gosod ar sail debyg i ddysgwyr eraill sy'n astudio ar lefelau tebyg yn sector addysg drydyddol Cymru. Mae prentisiaid fel arfer yn rhan o drefniant partneriaeth sy'n cynnwys darparwyr a chyflogwyr, a allai wneud y broses o ddatrys cwynion yn fwy anodd iddynt. Bwriad sicrhau mynediad at gorff allanol annibynnol yw rhoi hyder i brentisiaid y bydd eu cwynion yn cael eu hadolygu'n deg ac yn ddiduedd, os nad oes modd eu datrys yn lleol. Bydd hyn yn cefnogi tegwch, hyder dysgwyr ac amddiffyniadau teg ar draws y system addysg drydyddol.
Darparwyr amgen
Bwriad polisi Llywodraeth Cymru yw i unrhyw ddarparwr sy'n derbyn cyllid o dan adran 89(3)(a), adran 97(1)(a) neu adran 104(1)(a) o Ddeddf 2022 gael ei bennu fel darparwr cymwys at ddibenion Cynllun y Swyddfa, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a nodir uchod. Mae hyn yn cynnwys darparwyr sy'n derbyn cyllid o dan yr adrannau hyn ond nad ydynt yn sefydliad addysg uwch, prifysgol neu goleg addysg bellach, ac sydd naill ai'n sefydliadau nid-er-elw neu er-elw.
Nid ydym yn bwriadu nodi darparwyr nad ydynt yn derbyn cyllid o dan y darpariaethau hyn fel darparwyr cymwys. Mae'r fframwaith deddfwriaethol wedi'i fframio o amgylch darparwyr sy'n derbyn cyllid o'r fath.
Bydd y rheoliadau ddim ond yn gallu pennu darparwyr fel sefydliadau cymwys at ddibenion cynllun y Swyddfa nad ydynt yn sefydliadau cymwys presennol o dan adran 11(1) o Ddeddf 2004. Yn achos sefydliadau addysg bellach sy’n gymwys yn barod, mater i'r Swyddfa fydd penderfynu ar y cyrsiau penodol o fewn cwmpas y cynllun, gan arfer ei phwerau yn ôl disgresiwn yn unol â rheolau'r cynllun.
Cydweithio a threfniadau partneriaeth
Bwriad y polisi arfaethedig sy'n sail i'r rheoliadau yw darparu'r mynediad ehangaf posibl, o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth, i ddysgwyr ofyn i'r Swyddfa roi ystyriaeth annibynnol i gŵyn heb ei datrys pan nad yw eu darparwr yn gallu ei datrys er boddhad y dysgwr.
Pan ddaw darparwr yn sefydliad cymwys o dan y rheoliadau, y darparwr sy'n derbyn y cyllid fydd y sefydliad cymwys at ddibenion y cynllun. Felly, bydd angen i ddarparwyr weithio ar y cyd â masnachfreintiau ac unrhyw bartneriaid eraill i sicrhau bod trefniadau priodol o ran ymdrin â chwynion ar waith a bod dysgwyr yn cael eu hysbysu'n glir o'u hawliau.
Anogir darparwyr i ymgysylltu â'r Swyddfa ynglŷn â'u trefniadau partneriaeth neu gyflwyno unigol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y cynllun. Mae'r Swyddfa hefyd yn cyhoeddi canllawiau ar ddarparu cyfleoedd dysgu gydag eraill, y gallai darparwyr ddymuno rhoi sylw iddynt.
Dull gweithredu ac amserlen
Mae adborth blaenorol gan randdeiliaid wedi bod yn allweddol wrth lywio ein cynllun gweithredu a'n hamserlen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i ganiatáu digon o amser ar gyfer paratoi, yn enwedig o ystyried graddfa'r gweithgaredd ehangach i ddarparwyr sy'n deillio o weithredu Deddf 2022.
Cydnabyddir hefyd fod angen amser ar y Swyddfa i weithio'n agos gyda darparwyr i ddatblygu ei dealltwriaeth o'r sectorau addysg bellach a phrentisiaethau, ac i addasu'r cynllun a'r adnoddau cysylltiedig yn unol â hynny.
Mae'r amserlen weithredu arfaethedig yn ystyried parodrwydd ac ymgysylltiad y sector:
Yn parhau hyd at 31 Awst 2027
Gweithgaredd paratoi gan y Swyddfa i gefnogi gweithredu, gan gynnwys ymgysylltu â darparwyr, dysgwyr, ac addasu Cynllun Cwynion y Swyddfa a chynhyrchu adnoddau dwyieithog.
1 Awst 2027
Rheoliadau arfaethedig Gweinidogion Cymru o dan adran 11(2) o Ddeddf 2004 yn dod i rym.
1 Medi 2027
Mae'n ofynnol i sefydliadau cymwys newydd danysgrifio i gynllun y Swyddfa ar gyfer cyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau. Mae'r Swyddfa yn dod â chyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau o fewn y cwmpas ar gyfer sefydliadau cymwys presennol.
O 1 Medi 2027
Mae'r Swyddfa yn dechrau ystyried cwynion heb eu datrys gan ddysgwyr addysg bellach a phrentisiaid mewn perthynas â gweithredoedd neu hepgoriadau gan eu darparwr ar ôl y dyddiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i'r Swyddfa ymgymryd â gweithgaredd paratoi cyn gweithredu. Nod y gweithgaredd paratoi hwn yw lleihau'r angen am weithredu'n raddol ac mae'r Swyddfa yn gweithio tuag at gyflwyniad sengl yn amodol ar barodrwydd y sector.
Y Gymraeg
Er bod y Swyddfa yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr, mae'n galluogi dysgwyr addysg uwch i ymgysylltu â'r cynllun cwynion allanol yn ddwyieithog. Mae gwybodaeth am y cynllun ar gael yn Gymraeg trwy wefan Gymraeg bwrpasol, a gall dysgwyr gyflwyno cwynion a gohebu â'r Swyddfa yn Gymraeg os dymunant wneud hynny. Disgwylir y bydd yr ymrwymiad hwn i'r Gymraeg yn cael ei ailadrodd ar gyfer dysgwyr addysg bellach a phrentisiaid. Mae dogfennau allweddol, gan gynnwys Adroddiad Blynyddol y Swyddfa a'r Fframwaith Arfer Da ar gyfer darparwyr, hefyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd y gweithgareddau paratoi sy'n cael eu cynnal gan y Swyddfa cyn y gweithredu arfaethedig yn cynnwys hwyluso dwyieithog ar gyfer digwyddiadau yn ôl yr angen ac yn sicrhau bod deunyddiau a gwefan ddwyieithog ar gael i ddysgwyr addysg bellach, prentisiaid a darparwyr.
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod mynediad dwyieithog yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw'n ofynnol i ddysgwyr ddefnyddio'r Saesneg er mwyn ceisio cael iawn yn annibynnol ac i gefnogi mynediad cyfartal at y system gwynion i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg. Mae darpariaeth Gymraeg yn cael ei thrin fel rhan annatod o ymrwymiad ehangach y Swyddfa i hygyrchedd, tegwch a hyder dysgwyr, ac mae'n cyd-fynd â disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran amddiffyniadau cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr o fewn system addysg drydyddol Cymru.
Costau'r Cynllun
Cydnabu'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Deddf 2022 y byddai ymestyn Cynllun Cwynion y Swyddfa yn rhoi pwysau gweinyddol ac ariannol ychwanegol ar y Swyddfa a'r darparwyr.
Mae ffioedd aelodaeth y Swyddfa yn gweithredu ar sail system fandio, sy’n seiliedig ar niferoedd myfyrwyr. Mater i'r Swyddfa yw penderfynu ar lefel y tanysgrifiadau sy'n daladwy bob blwyddyn i'r Swyddfa gan sefydliadau cymwys.
Bydd yn ofynnol i ddarparwyr sy'n dod yn sefydliadau cymwys newydd trwy'r rheoliadau arfaethedig danysgrifio i'r Swyddfa a thalu ffi danysgrifio flynyddol.
Mae sefydliadau cymwys presennol eisoes yn talu ffi danysgrifio i'r Swyddfa mewn perthynas â'u darpariaeth addysg uwch. Mae'r ffi yn debygol o gynyddu pan fydd cyrsiau addysg bellach a phrentisiaeth y sefydliad yn cael eu dwyn o fewn cwmpas y cynllun.
Rydym yn cydnabod y gallai darparwyr fod â phryderon am oblygiadau ariannol posibl ehangu'r cynllun. Mae'r Swyddfa yn bwriadu parhau i gymhwyso gostyngiad o 30% i'r ffi danysgrifio graidd ar gyfer darparwyr addysg bellach a phrentisiaethau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod y gwahaniaethau rhwng modelau cyllido addysg uwch ac addysg bellach, gan gynnwys y gyfran uchel o ddysgwyr rhan-amser yn y sector addysg bellach.
Felly, mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru fod â dealltwriaeth glir o unrhyw effaith ariannol a ragwelir ar sefydliadau. Bydd hyn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Asesiad Effaith Rheoleiddiol cywir ar gyfer y rheoliadau arfaethedig ac yn darparu sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio ystyriaeth yn y dyfodol o opsiynau i fynd i'r afael â phryderon a godwyd.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Pa mor eglur yw'r estyniad arfaethedig i Gynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol i gynnwys cyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau?
Cwestiwn 2
A yw'r darparwyr arfaethedig i'w nodi yn y rheoliadau fel sefydliadau cymwys ar gyfer cynllun Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn briodol ac yn gymesur?
Cwestiwn 3
Pa effeithiau, cadarnhaol neu negyddol, ydych chi'n ystyried y gallai ymestyn Cynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol eu cael ar ddysgwyr addysg bellach a phrentisiaid?
Cwestiwn 4
Pa gostau neu effeithiau ar adnoddau, os o gwbl, yr ydych chi'n eu disgwyl i'ch sefydliad o ganlyniad i ymestyn y Cynllun Cwynion i gynnwys cyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau?
Cwestiwn 5
Ar wahân i ddarparwyr dysgu, a ydych chi'n ymwybodol o unrhyw sefydliadau eraill a allai ysgwyddo costau neu y gallai eu hadnoddau gael eu heffeithio o ganlyniad i'r estyniad arfaethedig o Gynllun Cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol?
Cwestiwn 6
A ydych chi’n credu y gallai'r rheoliadau effeithio (yn gadarnhaol neu'n negyddol) ar unrhyw bersonau sydd â nodweddion gwarchodedig sy'n cael eu cynnwys yn y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010? Os ydych chi o’r farn y gallai’r rheoliadau eu heffeithio, sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 7
A oes lle i unrhyw un o'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rhai nad ydynt yn ei rhannu?
Cwestiwn 8
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol ymestyn cwmpas cynllun Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar y Gymraeg? Mae gennym ni ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? A ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
Cwestiwn 9
Yn eich barn chi, a oes modd llunio neu newid y broses o ymestyn cynllun Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, neu liniaru unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg?
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill hefyd. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddi pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw a'ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi gyda’ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol hefyd o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall Llywodraeth Cymru fod dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth.
Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico gwefan
