Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig (IIA) ar effaith newidiadau arfaethedig a fydd yn gwneud y driniaeth dreth o drafodion aml-annedd yn decach.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn yn ymwneud â'r offeryn statudol drafft canlynol, a osodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yn y Senedd ar 20 Ionawr 2026:
“Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026”.
Mae'r offeryn statudol drafft i'w weld yma:
Ochr yn ochr â'r offeryn statudol drafft, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg Femorandwm Esboniadol hefyd, sy'n cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Mae’r memorandwm esboniadol i'w weld yma:
Mae'r memorandwm esboniadol a'r offeryn statudol drafft yn nodi'r diwygiad y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (DTTT), er mwyn gwneud y newid canlynol i'r rheolau sy'n llywodraethu rhyddhad anheddau lluosog (MDR) y dreth trafodiadau tir (TTT):
- cynyddu cyfradd isaf rheolau treth MDR o 1% i 3%.
Ymgynghori
Nid oes unrhyw ddyletswydd statudol i ymgynghori ar y cynigion a nodir yma. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'r cyhoedd ynghylch MDR a materion eraill yn ymwneud â rhyddhadau TTT rhwng 8 Ebrill a 19 Mai 2024. Mae'r cynigion deddfwriaethol a nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw ac yn dilyn y newidiadau deddfwriaethol a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2025 (Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025). Ar hyn o bryd, nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol ar y materion hyn. (Gweler hefyd baragraffau 1.34 i 1.43, 'Ymgynghori'.)
Effaith a'r dull cymesur
Rhagwelir y bydd y newid arfaethedig yn gwneud y driniaeth dreth yn fwy teg ar gyfer trafodiadau anheddau lluosog, ac y gallant arwain at gynnydd bach mewn refeniw.
Yn unol ag arfer Llywodraeth Cymru, cymerir dull cymesur yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn, sy'n crynhoi barn Llywodraeth Cymru, sef y disgwylir i'r newidiadau arfaethedig gael effaith gadarnhaol ac ni ddisgwylir iddynt gael fawr ddim effaith negyddol, os o gwbl.
Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
1.1 Mae'r wybodaeth a ddarperir yn yr adran hon hefyd i'w gweld yn y Memorandwm Esboniadol, sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan y Senedd:
Disgrifiad o ddiben y cynnig a'r effaith y bwriedir iddo ei chael
1.2 Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y newid canlynol i'r rheolau sy'n llywodraethu'r rhyddhad rhag treth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer caffaeliadau sy'n ymwneud ag anheddau lluosog, a elwir hefyd yn rhyddhad anheddau lluosog (MDR):
- cynnydd i gyfradd isaf rheolau treth MDR, o 1% i 3%.
1.3 Bydd y newid yn cael ei wneud drwy ddiwygio Atodlen 13 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (DTTT).
1.4 Bydd y diwygiad yn gwella DTTT yn unol ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru, sy'n datgan y dylai trethi Cymru:
- Codi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus sydd mor deg â phosibl
- Cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru
- Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml
- Cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl
- Cyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.
1.5 Mae'r cynig hyn yn dilyn newidiadau deddfwriaethol a wnaed ym mis Chwefror 2025 i wella rheolau MDR. Bryd hynny, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru y bwriad i fonitro ac ystyried rôl MDR ymhellach, ac y byddai'n destun penderfyniadau pellach fel y bo'n briodol (Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025, 14 Ionawr 2025).
Y cefndir deddfwriaethol
1.6 Cyflwynodd Llywodraeth y DU MDR i ddeddfwriaeth treth dir y dreth stamp (SDLT) yn 2011, gyda'r nod o leihau'r rhwystr posibl i fuddsoddi mewn eiddo preswyl, cefnogi adeiladwyr tai yn dilyn y cwymp ariannol a hyrwyddo cyflenwad tai'r sector rhentu preifat. Ar ôl newid mymryn arno, cariwyd MDR drosodd i ddeddfwriaeth TTT yn 2018.
1.7 Diddymodd Llywodraeth y DU ar y pryd MDR SDLT ar 1 Mehefin 2024, gan nodi mai:
ychydig iawn o effaith gadarnhaol yr oedd MDR wedi'i chael ar y cyflenwad cyffredinol o dai neu gyflenwad y sector rhentu preifat, ac nad oedd yn gosteffeithiol o ran cyflawni ei amcanion gwreiddiol.
1.8 Yna, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'r cyhoedd ynghylch yr opsiwn o ddiddymu MDR TTT (rhwng 8 Ebrill a 19 Mai 2024), fel rhan o ymgynghoriad ehangach ar ryddhadau TTT (gweler isod, Adran 5. Ymgynghori).
1.9 Yn dilyn hynny, ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025, cynigiodd Llywodraeth Cymru ddiwygiadau i'r rheolau sy'n llywodraethu MDR TTT, a chytunodd y Senedd arnynt. Roedd y diwygiadau yn cynnig rhoi'r gorau i'r posibilrwydd o drethdalwyr yn elwa ar MDR a'r eithriad ar gyfer is-annedd (SDE) yn yr un trafodiad anheddau lluosog sy'n ddarostyngedig i'r cyfraddau preswyl uwch.
1.10 Wrth gynnig newidiadau deddfwriaethol ym mis Ionawr 2025, nododd Llywodraeth Cymru y byddai MDR yn destun ystyriaeth bellach yn ystod 2025. Mae'r cynig presennol yn ganlyniad i'r ystyriaeth bellach honno.
1.11 Mae adran 30 o DTTT yn cyflwyno Atodlenni 9 i 22 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhadau y gellir eu hawlio mewn cysylltiad â thrafodiadau penodol y codir TTT arnynt fel arfer. Mae Atodlen 13 yn darparu ar gyfer rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy'n ymwneud ag anheddau lluosog, a elwir hefyd yn rhyddhad anheddau lluosog, neu MDR. O dan adran 30(6)(b), caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio DTTT drwy reoliadau er mwyn addasu rhyddhad rhag TTT. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 30(6) o DTTT yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.
1.12 O dan adran 78 o DTTT, caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud, drwy reoliadau, y cyfryw ddarpariaeth ddeilliadol, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed ag sy'n briodol, yn eu barn nhw, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, neu mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth o'r fath neu er mwyn rhoi unrhyw ddarpariaeth o'r fath ar waith yn llawn. Bydd y Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol i ddarparu eglurder ynghylch y rheolau MDR cymwys ar gyfer trafodiadau tir; y rhoddir effaith iddynt yn unol â chontract (neu gontract sy'n cael ei gyflawni'n sylweddol) cyn i'r rheol newid a'i gwblhau ar ôl hynny, a phan fo trafodiadau cysylltiol y naill ochr i'r rheolau newydd hyn yn dod i rym.
Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael
1.13 Bydd y Rheoliadau yn gwneud un diwygiad i DTTT.
1.14 Rhagwelir y bydd y diwygiad yn gwella tegwch y driniaeth dreth ar gyfer trafodiadau anheddau lluosog. Gallai'r newidiadau arwain at gynnydd bach yn y refeniw y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael o TTT.
Y rheolau presennol
1.15 Rhyddhad rhannol rhag TTT yw MDR, y gall trethdalwr ei hawlio pan fydd yn caffael mwy nag un annedd gan yr un gwerthwr, mewn un trafodiad neu mewn trafodiadau cysylltiol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar drethdalwyr i hawlio MDR. Os caiff MDR ei hawlio, bydd y trethdalwr yn cyfrifo ac yn talu treth yn unol â'r fformiwla a nodir yn DTTT (gweler isod, paragraff 1.19).
1.16 Gwneir hawliadau mewn hunanasesiadau TTT a chânt eu gwirio gan ACC. Er enghraifft, byddai prynu pedair annedd gyda'i gilydd sy'n costio £1 miliwn yn atebol i dâl TTT o £111,200 heb MDR, neu £59,800 gydag MDR (yn seiliedig ar y cyfraddau mewn grym ar 1 Hydref 2025).
1.17 Mae MDR yn cael ei gymhwyso'n wahanol yn y ddau gategori canlynol o drafodiadau:
- trafodiadau eiddo preswyl, lle dim ond anheddau sy'n cael eu gwerthu/prynu
- trafodiadau defnydd cymysg, lle mae'r eiddo sy'n caei ei werthu/brynu yn cynnwys rhannau preswyl ac amhreswyl.
1.18 Mewn trafodiadau anheddau lluosog eiddo preswyl, cymhwysir MDR i gyfanswm cost y trafodiad, sy'n atebol ar gyfraddau preswyl uwch TTT. Mewn trafodiadau defnydd cymysg, cymhwysir MDR i'r rhan breswyl yn unig, sy'n atebol ar brif gyfraddau preswyl TTT (mae'r rhannau amhreswyl yn atebol ar gyfraddau amhreswyl).
1.19 Cyfrifo MDR mewn trafodiadau eiddo preswyl. Mae trafodiadau anheddau lluosog eiddo preswyl yn ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch TTT. Pan hawlir MDR, defnyddir y fformiwla gyfrifo ganlynol i sefydlu swm yr atebolrwydd TTT ar y trafodiad cyfan:
tâl TTT tybiannol ar annedd o bris cyfartalog (pris cyfartalog yr anheddau a brynir) | X | nifer yr anheddau a brynir |
Enghraifft
(cyfrifiadau yn seiliedig ar gyfraddau TTT mewn grym ym mis Hydref 2025)
- Prynu 4 annedd yn yr un trafodiad.
- Cyfanswm y gost yw £1 miliwn.
- Byddai'r anheddau yn costio £200K, £225K, £250K a £325K pe baent yn cael eu prynu ar wahân.
- Pris cyfartalog yr annedd yw £250K.
- Gall y prynwr ddewis hawlio MDR.
| Cost y trafodiad | Swm yr atebolrwydd TTT | |
|---|---|---|
| Os nad yw MDR yn cael ei hawlio | £1,000,000 | £111,200 |
| Os yw MDR yn cael ei hawlio | £1,000,000 | £59,800 |
| Swm y rhyddhad a roddir = £51,400* | ||
Nodyn. Rheol Isafswm Treth MDR. Mewn achosion anarferol, pan mae yr atebolrwydd ar gyfer anheddau mewn trafodaeth yn dod i lai nag 1% o gost yr anheddau, mae’r rheol isafswm treth yn cael ei chymhwyso, fel bod yr atebolrwydd am y rhan honno o’r drafodaeth wedyn yn cael ei osod ar gyfradd y rheol isafswm treth MDR. Ar hyn o bryd, y cyfradd yw 1%. (Gweler hefyd paragraff 1.24.iii a 1.25.)
1.20 Cyfrifo MDR mewn trafodiadau defnydd cymysg. Fel y nodwyd i ddechrau ym mharagraff 4.6, mae swm yr atebolrwydd TTT yn gyffredinol is mewn trafodiadau anheddau lluosog defnydd cymysg nag mewn trafodiadau anheddau lluosog eiddo preswyl, am ddau reswm.
1.21 Yn gyntaf, er bod trafodiadau anheddau lluosog eiddo preswyl yn ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch, drutach TTT, mewn trafodiadau anheddau lluosog defnydd cymysg, mae rhannau preswyl trafodiadau, yr hawlir MDR arnynt, yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl llai costus.
1.22 Yn ail, mae rhannau amhreswyl trafodiadau defnydd cymysg yn atebol ar y cyfraddau amhreswyl llai costus.
1.23 Mae'r broses o sefydlu swm yr atebolrwydd mewn trafodiadau anheddau lluosog defnydd cymysg yn fwy cymhleth na'r broses a ddefnyddir mewn trafodiadau anheddau lluosog eiddo preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu'r angen i sicrhau tegwch wrth drethu trafodiadau a all o bosibl gynnwys gwahaniaethau mawr mewn gwerth rhwng rhannau preswyl ac amhreswyl.
1.24 Dilynir y pum cam canlynol i gyfrifo swm yr atebolrwydd:
- Dosrannu, i sefydlu pa ran o gyfanswm y gost sydd ar gyfer y rhannau preswyl ac amhreswyl yn y drefn honno
- Cyfrifo atebolrwydd ar gyfer y rhan breswyl: cymhwysir prif gyfraddau preswyl TTT i'r fformiwla ar gyfer cyfrifo MDR, pan hawlir MDR
- Os hawlir MDR, rhaid ystyried y Rheol Isafswm Treth MDR a'i chymhwyso neu beidio: os bydd yr atebolrwydd ar gyfer y rhan breswyl yn unig fel y'i cyfrifir uchod yn dod i lai nag 1% o gost y rhan honno, bydd yr atebolrwydd am y rhan honno wedyn yn cael ei osod ar 1% o gyfanswm cost y rhan honno
- Cyfrifo'r atebolrwydd ar gyfer y rhan amhreswyl (gweler y manylion isod)
- Ychwanegu: ychwanegu'r atebolrwydd am y ddwy ran i gyfrifo cyfanswm yr atebolrwydd.
1.25 Rheol Isafswm Treth MDR. Mae'r rheol hon yn bodoli i wneud y driniaeth dreth yn fwy teg. Mae’n atal y posibilrwydd y gellid cyfnewid anheddau mewn trafodiadau anheddau lluosog defnydd cymysg yn ddi-dreth. Byddai triniaeth ddi-dreth yn digwydd oherwydd y cyfuniad o'r ddau ffactor hyn:
- mae prif gyfraddau preswyl TTT yn gymwys yn y categori trafodiad hwn, a
- mae trothwy y gellir prynu anheddau heb dalu TTT oddi tano, pan fyddant yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl – sef £225,000 ar hyn o bryd.
Byddai'r driniaeth ddi-dreth hon yn annheg o'i gymharu â thrafodiadau anheddau lluosog eiddo preswyl. Felly, mae rheol isafswm treth MDR yn sicrhau elfen o ailgydbwyso a thegwch rhwng trafodiadau anheddau lluosog defnydd cymysg ac eiddo preswyl.
1.26 Sefydlu'r atebolrwydd ar gyfer y rhan amhreswyl. Cyfrifir hyn gan ddilyn y tri cham canlynol:
- cyfrifo'r atebolrwydd tybiannol ar gyfer y trafodiad cyfan (rhannau preswyl ac amhreswyl gyda'i gilydd) yn ôl y cyfraddau amhreswyl,
- cyfrifo'r gyfran ganrannol o'r pris trafodiad llawn y gellir ei phriodoli i'r rhan amhreswyl, fel a ganlyn, cost y rhan amhreswyl / cost lawn
- cyfrifo cyfanswm yr atebolrwydd ar gyfer y rhan amhreswyl drwy luosi'r symiau a gafwyd yng nghamau i. a ii. uchod.
Enghraifft
Prynu siop ar y llawr gwaelod a 2 fflat uwchben gwerth £600,000.
Er mwyn cyfrifo'r atebolrwydd, dilynir y dull pum cam (gweler paragraff 1.15 uchod).
- Dosrannu: siop gwerth £250,000; 2 fflat gwerth £350,000 gyda'i gilydd (£150,000 a £200,000 yr un).
- Atebolrwydd ar gyfer y rhan breswyl = £3,500
- pris cyfartalog tybiannol yr anheddau = (£200k + £150k)/2 = £175k
- mae £175k yn is na'r trothwy cychwynnol ar gyfer prif gyfraddau preswyl TTT, sef £225k, felly nid oes unrhyw TTT yn ddyledus ar y cam hwn o'r cyfrifiad.
- O ystyried y canlyniad yng ngham ii., cymhwysir Rheol Isafswm Treth MDR, gan bennu'r atebolrwydd ar gyfer y rhan breswyl yn 1% o £350k = £3,500.
- Atebolrwydd ar gyfer y rhan amhreswyl = £7,396
- atebolrwydd tybiannol ar gyfer y trafodiad cyfan (rhannau preswyl ac amhreswyl gyda'i gilydd) yn ôl y cyfraddau amhreswyl = £17,750
- cyfran o'r trafodiad llawn y gellir ei phriodoli i'r rhan amhreswyl = 41.67%
- cyfanswm yr atebolrwydd ar gyfer y rhan amhreswyl = £17,750 x 41.67% = £7,395.83
- Cyfanswm yr atebolrwydd ar gyfer trafodiad defnydd cymysg gwerth £600K = £3,500 + £7,396 = £10,896
Diwygiadau arfaethedig i DTTT
1.27 Bydd y Rheoliadau yn newid y DTTT fel a ganlyn:
- bydd cyfradd isaf rheolau treth MDR yn cynyddu o 1% i 3%
1.28 Bydd rheolau trosiannol yn gymwys, fel y bydd trafodiadau yr ymrwymwyd iddynt ond nas cyflawnwyd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau newydd i rym, yn ddarostyngedig i'r rheolau a oedd mewn grym yn flaenorol.
1.29 Ar hyn o bryd, mae gwahaniaeth sylweddol rhwng lefelau atebolrwydd i dalu treth mewn trafodiadau anheddau lluosog defnydd cymysg ac eiddo preswyl. Gall atebolrwydd fod yn sylweddol is mewn trafodiadau defnydd cymysg am ddau reswm, oherwydd bod y rhan breswyl yn atebol i dalu prif gyfraddau preswyl TTT (tra mae trafodiadau preswyl yn unig yn atebol i dalu'r cyfraddau preswyl uwch) a bod y rhan amhreswyl yn atebol i dalu'r cyfraddau amhreswyl is.
1.30 Mae Llywodraeth Cymru yn fodlon y dylai triniaeth fanteisiol, gyda lefelau is o atebolrwydd, barhau ar gyfer trafodiadau defnydd cymysg. Fodd bynnag, dylid lleihau'r gwahaniaeth rhwng lefelau atebolrwydd ar gyfer y ddau gategori hyn, er mwyn adlewyrchu'r angen i gynyddu tegwch.
1.31 Gall y newid hwn arwain at gynnydd bach yn y refeniw y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael o TTT, a fydd yn cefnogi'r gwaith o ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd y cynnydd mewn atebolrwydd a achosir gan y cynnydd arfaethedig yn sicrhau cyfraniadau treth rhesymol a chymesur.
Ymgynghori
1.32 Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'r cyhoedd ynghylch MDR a chwestiynau eraill yn ymwneud â rhyddhadau TTT rhwng 8 Ebrill a 19 Mai 2024.
1.33 Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael yma: Newidiadau arfaethedig i ryddhadau o'r dreth trafodiadau tir
1.34 Mewn perthynas ag MDR, gofynnwyd y cwestiynau canlynol:
- Cwestiwn 1.1, A ydych yn cytuno bod y cynnig i ddiddymu MDR TTT a nodir yn yr ymgynghoriad hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru?
- Cwestiwn 1.2, A fydd diddymu MDR TTT yn cael effaith negyddol ar y sector rhentu preifat yng Nghymru yn eich barn chi?
- Cwestiwn 1.3, A fydd diddymu MDR TTT yn cael effaith negyddol ar eraill yng Nghymru yn eich barn chi?
1.35 Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad ar 17 Gorffennaf 2024. Gellir ei weld yma: Newidiadau arfaethedig i ryddhadau o'r dreth trafodiadau tir. Yn yr adroddiad, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad pellach o'r opsiynau mewn perthynas ag MDR, gan ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau maes o law.
1.36 Mynegodd sawl ymatebydd fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol yn MDR TTT. Cyfeiriodd llawer o'r ymatebwyr a oedd o blaid cadw MDR at resymau masnachol. Roedd rhai yn teimlo y byddai diddymu MDR yn datgymell pobl rhag buddsoddi yn y sectorau rhentu eiddo, a allai arwain at ddirywiad yn y cyflenwad o dai ac economi ehangach Cymru. Cyfeiriodd rhai at sectorau sy'n cael budd o MDR, megis y sector rhentu preifat, y sector llety myfyrwyr a gaiff eu hadeiladu at y diben a'r sector adeiladu i rentu, gan bwysleisio pwysigrwydd y sectorau hyn i'r cyflenwad tai. Dadleuodd rhai o blaid ehangu, datblygu neu wella MDR, yn hytrach na'i ddiddymu.
1.37 Cyfeiriodd rhai a oedd o blaid diddymu MDR at y pwysau cyllidebol ar Lywodraeth Cymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth flaenorol y DU i ddiddymu MDR SDLT. Nododd rhai y byddai diddymu MDR yn symleiddio'r system dreth. Nododd rhai nad yw trethdalwyr yn deall rhyddhadau treth yn dda iawn yn aml ac y gall hyn arwain at gyfrifiadau amhriodol, hawliadau yn cael eu herio gan yr awdurdodau treth perthnasol ac apeliadau aflwyddiannus i'r tribiwnlys trethi. Roedd rhai yn teimlo y byddai diddymu MDR TTT yn arwain at gymesuredd ar draws y ffin treth ddatganoledig (yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu MDR SDLT yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) ac yn helpu i symleiddio'r system o ganlyniad.
1.38 Pwysleisiodd rhai ymatebion bwysigrwydd gwneud penderfyniadau yng nghyd-destun ehangach ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r polisi tai, a phwysigrwydd cael sylfaen dystiolaeth i gefnogi'r gwaith o gyflwyno newidiadau i gyfundrefn TTT.
1.39 Yn dilyn yr ymgynghoriad, datblygodd Llywodraeth Cymru y polisi MDR ymhellach. Rhoddwyd ystyriaeth ychwanegol i'r opsiwn o ddiwygio rheolau MDR er mwyn cael gwared ar y cyfle i hawlio MDR ac SDE yn yr un trafodiad, ochr yn ochr â'r opsiynau o gadw a diddymu.
1.40 Ym mis Ionawr 2025, nododd Llywodraeth Cymru y cynigion i ddiwygio rheolau MDR (Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2025). Cymeradwyodd y Senedd y cynigion hyn a daeth y newidiadau i rym ar 10 Chwefror 2025.
1.41 Bryd hynny, dywedodd Llywodraeth Cymru, gan y rhagwelwyd y byddai gwerth MDR yn cynyddu dros amser, ac yng nghyd-destun y cefndir ar y pryd ar gyfer arian cyhoeddus, na fyddai ond yn cadw MDR yn y tymor hwy pe bai ganddi hyder ei fod yn debygol o barhau i fod yn ysgogiad polisi priodol a darparu gwerth am arian. Felly, byddai MDR yn parhau i gael ei fonitro, a byddai yn destun penderfyniadau pellach fel y bo'n briodol.
Ystyriaethau polisi
1.42 Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw a gwella MDR ymhellach oherwydd ei fod yn ysgogiad polisi a allai, drwy gynnig manteision i'r sector rhentu preifat, gefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau tai. Mae'r ymrwymiadau hyn wedi'u nodi yn Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar sicrhau llwybr tuag at Dai Digonol, gan gynnwys Rhenti Teg a Fforddiadwyedd (Hydref 2024):
Rydym yn ymwybodol iawn [o ... bwysigrwydd] y Sector Rhentu Preifat wrth ddarparu amrywiaeth a dewis o lety i deuluoedd ac aelwydydd unigol ... [Mae] nifer y bobl sy'n cysylltu â gwasanaethau digartrefedd ac yn cael eu cefnogi â llety dros dro yn parhau i gynyddu. Wrth inni barhau i wynebu cyfnod ansicr a phwysau ariannol parhaus, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio i gynyddu mynediad at bob math o ddeiliadaeth tai a'u gwneud yn fwy fforddiadwy er mwyn diwallu anghenion tai pawb ledled Cymru.
1.43 Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cost ynghlwm wrth MDR, yn yr ystyr ei fod yn lleihau refeniw TTT sy'n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'n bosibl canfod yn wrthrychol a yw MDR yn ffactor penderfynol sy'n helpu busnesau yn y sector rhentu preifat i gefnogi ymrwymiadau tai Llywodraeth Cymru. Felly, nid yw'n bosibl gwybod gyda sicrwydd yr union gydbwysedd rhwng manteision a chostau cadw MDR. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod MDR yn cynnig mantais bosibl i'r sector rhentu preifat, ac y gall helpu busnesau i ddarparu tai, gan gynnwys mewn achosion pan fydd rhaid trosglwyddo perchnogaeth dros bortffolios o anheddau er mwyn i'r anheddau barhau i fod yn hyfyw.
1.44 Ers 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £79 miliwn mewn rhyddhad drwy MDR. Gall MDR gynyddu dros amser, ac mae rhyddhad rhag TTT wedi tueddu i fod braidd yn gyfnewidiol bob blwyddyn. Gan fod o leiaf rhywfaint o'r swm hwn yn refeniw a fyddai fel arall yn cefnogi arian cyhoeddus, ac yn enwedig yng nghyd-destun y cyfnod heriol i wariant cyhoeddus, mae'n bwysig sicrhau bod MDR yn ysgogiad polisi gwerthfawr ac yn cynrychioli gwerth am arian. Felly, bydd yn bwysig bod MDR yn cael ei ailwerthuso eto yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn fesur buddiol.
Adran 2. Llesiant Cymdeithasol
2.0 Prif effaith gadarnhaol y mesur hwn ar lesiant cymdeithasol yw ei fod yn gwella tegwch y driniaeth dreth ar gyfer trafodiadau anheddau lluosog. Gallai'r newid hefyd arwain at gynnydd bach yn refeniw treth Llywodraeth Cymru, a fydd yn cyfrannu at gefnogi polisïau sy'n anelu at wella llesiant cymdeithasol.
2.1 Pobl a Chymunedau
Bydd y newid i'r rheolau yn gymwys i brynwyr tai perthnasol ym mhob rhan o Gymru a byddant yn cynyddu costau i rai trethdalwyr. Fodd bynnag, mae manteision presennol MDR TTT, sy'n cefnogi trethdalwyr i gyflawni llai o atebolrwydd, yn cael eu cadw i raddau helaeth.
2.2 Hawliau Plant
Gweler hefyd y crynodeb o Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn Atodiad A isod. Nid yw asesiad llawn wedi cael ei gwblhau gan fod y crynodeb yn dangos nad yw'r newidiadau arfaethedig yn debygol o effeithio'n uniongyrchol ar Hawliau Plant.
2.3 Cydraddoldeb
Gweler hefyd yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn Atodiad B isod. Ni ragwelir unrhyw effeithiau gwahaniaethol ar gydraddoldeb.
2.4 Prawfesur Gwledig
Nid oes angen Asesiad Effaith Prawfesur Gwledig oherwydd ni ragwelir y bydd y cynnig hwn yn darparu mantais gymharol i drethdalwyr gwledig neu drefol.
2.5 Iechyd
Nid oes angen Asesiad o'r Effaith ar Iechyd oherwydd ni ragwelir y bydd y newid arfaethedig yn cael effeithiau gwahaniaethol ar iechyd grwpiau penodol. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cyhoeddi canllawiau yn esbonio'r newid mewn fformatau hygyrch, er mwyn cefnogi'r rhai y mae cyfathrebu yn peri anawsterau iddynt oherwydd problemau iechyds.
2.6 Preifatrwydd
Nid oes angen Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data gan na fydd y newid arfaethedig yn cynnwys ffyrdd newydd o brosesu gwybodaeth.
Adran 3. Llesiant Diwylliannol a’r Gymraeg
3.1 Llesiant Diwylliannol
Ni ddisgwylir i'r newid arfaethedig effeithio ar weithgarwch i hyrwyddo a diogelu diwylliant a threftadaeth nac ar allu pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau ac mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
3.2 Y Gymraeg
Ni ddisgwylir i'r newid arfaethedig effeithio ar y Gymraeg. Gweler hefyd yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg yn Atodiad C isod.
Adran 4. Llesiant Economaidd
4.1 Busnesau, y cyhoedd ac unigolion
4.4.1 Gall y newid arfaethedig gynyddu costau i rai trethdalwyr. Fodd bynnag, mae manteision presennol MDR TTT, sy'n cefnogi trethdalwyr i gyflawni llai o atebolrwydd, yn cael eu cadw i raddau helaeth.
4.1.2 Ni ragwelir y bydd y mesur yn rhoi'r rhai sy'n ymwneud ag agweddau masnachol ar drafodiadau eiddo, megis asiantau eiddo, trawsgludwyr a chyfreithwyr, o dan anfantais sylweddol.
4.2 Y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill
Ni ddisgwylir unrhyw effaith wahaniaethol.
4.3 Y Trydydd Sector
Ni ddisgwylir unrhyw effaith wahaniaethol.
4.4 Effaith ar Gyfiawnder
Mae effaith fach yn bosibl. Gweler yr Asesiad o'r Effaith ar Gyfiawnder yn Atodiad F isod.
Adran 5: Llesiant Amgylcheddol
5.1 Ni ddisgwylir i'r rheol newydd arfaethedig effeithio ar lesiant amgylcheddol. Gweler hefyd yr Asesiad o'r Effaith ar Fioamrywiaeth yn Atodiad D isod.
5.2 Nid oes angen yr asesiadau canlynol gan na fydd y rheol newydd arfaethedig yn effeithio ar y materion y maent yn eu hystyried:
- Asesiad o Adnoddau Naturiol
- Asesiad o'r Newid yn yr Hinsawdd
- Asesiad Amgylcheddol Strategol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol
Adran 6. Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol
6.1 Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar faterion yn ymwneud â rhyddhadau TTT, rhwng 8 Ebrill a 19 Mai 2024. Gellir dod o hyd i'r ddogfen ymgynghori ac adroddiad Llywodraeth Cymru ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad yma:
Ymgynghoriad cyhoeddus ar ryddhadau'r dreth trafodiadau tir
Llywodraeth Cymru Ymgynghoriad: crynodeb o'r ymatebion
6.2 Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynrychioli ystod o safbwyntiau mewn perthynas â chynigion Llywodraeth Cymru a materion eraill sy'n ymwneud â rhyddhadau TTT. Mae'r cynigion a amlinellir yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn yn mynd i'r afael yn rhannol â rhai o'r materion a nodir yn yr ymgynghoriad.
6.3 Disgwylir i effeithiau cadarnhaol y cynigion a amlinellir yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn gynnwys triniaeth dreth decach ar gyfer trafodiadau anheddau lluosog, yn ogystal â'r posibilrwydd o gynnydd bach yn refeniw treth Llywodraeth Cymru. Gallai'r cynigion hyn gael effaith gadarnhaol ar anfantais economaidd-gymdeithasol.
Adran 7. Rhestr o Asesiadau Effaith a gwblhawyd
Atodiad A: Hawliau plant
Atodiad B: Cydraddoldeb
Atodiad C: Y Gymraeg
Atodiad D: Bioamrywiaeth
Atodiad E: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
Atodiad F: Cyfiawnder
Asesiad Effaith Rheoleiddiol – gweler y Memorandwm Esboniadol (Memorandwm Esboniadol ar gyfer Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy’n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026)
Adran 8: Casgliad
Mae Llywodraeth Cymru o'r farn, fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn, na fydd y rheol treth newydd arfaethedig yn rhoi trethdalwyr sy'n prynu mwy nag un annedd yn yr un trafodiad, neu mewn trafodiadau cysylltiol, o dan anfantais andwyol. Bydd yn cyflwyno triniaeth dreth decach a gallant arwain at gynnydd bach yn refeniw treth Llywodraeth Cymru, a fydd yn cefnogi arian cyhoeddus.
Atodiadau
A. Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant
Bydd y rheol newydd yn gwella tegwch y driniaeth dreth ar gyfer trafodiadau anheddau lluosog, a gallant arwain at gynnydd bach mewn refeniw.
Bydd y diwygiad arfaethedig yn cadw MDR i raddau helaeth, a allai gefnogi busnesau yn y sector rhentu preifat i gynnal neu gynyddu nifer yr anheddau sy'n cael eu defnyddio, gan helpu i ddarparu tai, a pharhad tai, i aelwydydd. Gall hyn gefnogi teuluoedd yn eu hymdrechion i ofalu am eu plant.
Gall y cynnydd mewn refeniw treth fod o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i blant sy'n fuddiolwyr gwasanaethau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru neu wasanaethau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Efallai y caiff manteision eu profi yng nghyd-destun yr hawliau plant isod:
Erthygl 9 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Ni ddylid gwahanu plant oddi wrth eu rhieni onid yw hyn er eu lles nhw’u hunain, er enghraifft os yw rhiant yn cam-drin neu’n esgeuluso plentyn. Mae gan blant y mae eu rhieni wedi gwahanu hawl i gadw mewn cyswllt â’r ddau riant, oni fyddai hyn yn niweidio’r plentyn.
Erthygl 19 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn cael gofal priodol a'u hamddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt.
Erthygl 27 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Mae gan bob plentyn yr hawl i safon byw sy'n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a chymdeithasol ac i gefnogi eu datblygiad. Rhaid i lywodraethau helpu teuluoedd nad ydynt yn medru fforddio darparu hyn.
B. Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
- Ni ddisgwylir i'r rheol newydd arfaethedig gael unrhyw effaith wahaniaethol ar unrhyw bobl â nodweddion gwarchodedig fel y'u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
- Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn sefydlu ac yn darparu gwasanaeth mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig.
- Bydd ACC yn monitro materion sy'n ymwneud â defnyddio ei wasanaethau ac yn adrodd arnynt.
- Ni ddisgwylir i'r rheol newydd gael unrhyw effaith wahaniaethol ar hawliau dynol, Confensiynau'r Cenhedloedd Unedig, hawliau dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir, hawliau preswylio, cydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol, mynediad at systemau nawdd cymdeithasol na hawliau gweithwyr.
C. Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
- Ni ddisgwylir i'r rheol newydd gael effaith wahaniaethol ar y Gymraeg.
- ACC yw'r corff sy'n gyfrifol am roi gwybod i drethdalwyr am y ffordd y mae trethi datganoledig yn cael eu gweithredu. Mae'n ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru gydymffurfio â safonau'r Gymraeg a thrin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Bydd cyflwyno'r rheol newydd yn gyfle i ailddatgan yr arfer hon a sicrhau y gall trethdalwyr yng Nghymru barhau i gyfathrebu yn y ddwy iaith ynghylch eu materion treth.
D. Asesiad o'r Effaith ar Fioamrywiaeth
Ni ddisgwylir i'r rheol newydd arfaethedig gael effaith wahaniaethol ar fioamrywiaeth.
E. Asesiad o'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Ni ddisgwylir i'r rheolau newydd arfaethedig gael unrhyw effaith economaidd-gymdeithasol anfanteisiol. Bydd Rheol Cydraddoli MDR yn cynyddu tegwch y driniaeth dreth drwy sicrhau bod atebolrwydd treth fesul annedd ar drafodiadau anheddau lluosog yn hafal i'r atebolrwydd fesul annedd yn y trafodiadau anheddau unigol cyfatebol. Felly, mae'n bosibl y gall y rheol newydd hon gael gwerth uwch i'r rhai sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.
Bydd y rheolau newydd arfaethedig yn gymwys yn yr un modd i bob trethdalwr cymwys, waeth beth fo'i amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.
F. Asesiad o’r effaith ar gyfiawnder
1. Ystyrir y gallai'r rheolau newydd gael effaith fach ar y system gyfiawnder, ond mae hynny'n annhebygol.
2. O bryd i'w gilydd, mae Gweinidogion Cymru a'r Senedd yn gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig ym maes trethi tir. Yr awdurdod perthnasol ar gyfer trethi tir datganoledig yng Nghymru yw Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Ledled y DU, caniateir i drethdalwyr sy'n anghytuno â phenderfyniadau a wneir gan yr awdurdodau treth perthnasol apelio i'r Tribiwnlys (Trethi) Haen Gyntaf, sy'n cael ei weinyddu gan Weinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU. Felly, rhaid i Lywodraeth Cymru, wrth gyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig ym maes trethi, roi gwybod i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ei hasesiad o effaith debygol unrhyw newidiadau arfaethedig ar Dribiwnlysoedd.
3. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ei hasesiad, h.y. na fydd y newid arfaethedig yn cael fawr ddim effaith ar y Tribiwnlys (Trethi) Haen Gyntaf, os o gwbl, o ran nifer yr apeliadau a allai gyrraedd, a hynny am y rhesymau canlynol:
- bydd y diwygiad arfaethedig i DTTT yn rhoi lefel uchel o eglurder ynghylch y newid i'r rheolau
- bydd ACC yn diweddaru'r canllawiau presennol i drethdalwyr, gan gynnwys ar hawliau i apelio, ac yn cysylltu'n uniongyrchol ag asiantau cofrestredig i dynnu sylw at y newid i DTTT
- bydd ACC yn parhau i roi mesurau sefydledig ar waith i ddatrys anghytundebau ac anghydfodau trethdalwyr, gan gynnwys yr hawl i adolygiad cychwynnol gan ACC, a chyfeirio at brosesau amgen o ddatrys anghydfod, lle y bo'n briodol
- rhagwelir y bydd nifer y trafodiadau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig yn isel, o ystyried bod nifer cyfartalog yr hawliadau MDR hyd yn hyn wedi bod tua 400 y flwyddyn o gyfanswm o tua 55,000 o drafodiadau TTT, a bod y trafodiadau hynny yr effeithir arnynt gan y newidiadau yn debygol o fod yn lleiafrif bach o'r rhain, gyda nifer yr achosion sy'n cyrraedd y Tribiwnlys Trethi, os o gwbl, yn llai fyth.
