Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Mawrth 2023.

Cyfnod ymgynghori:
5 Ionawr 2023 i 17 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Gan bod hwn yn newid technegol i arwyddion, dim ond gyda'r awdurdodau priffyrdd a'r gwasanaethau brys yr ymgynghorwyd â hwy.

Manylion am y canlyniad

Ymgynghoriad gwreiddiol

Casglodd yr ymgynghoriad hwn adborth am y newidiadau a arfaethedig sydd eu hangen i arwyddion traffig a marciau ffordd o ganlyniad i ostwng y terfyn cyflymder diofyn i 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig (rhai sydd yn gyffredinol â goleuadau stryd) ar 17 Medi 2023.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid a holl awdurdodau lleol Cymru, Is-adran Rhwydwaith Ffyrdd Strategol fel awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd Cymru a’r gwasanaethau brys.

Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 (pdf, ar senedd.cymru).